CYNLLUN IAITH GYMRAEG
DATGANIAD
Paratowyd y cynllun hwn yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a derbyniodd gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn unol ag adran 14(1) y Ddeddf ar 17 Gorffennaf 1998.
CYNNWYS
- CYFLWYNIAD
- CYNLLUNIO GWASANAETH
- CYFLWYNO GWASANAETHAU A SAFONAU ANSAWDD
- DELIO Â'R CYHOEDD SY'N SIARAD CYMRAEG
- WYNEB CYHOEDDUS COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
- GWEITHREDU AC AROLYGU'R CYNLLUN
- Staffio
- Hysbysiadau Recriwtio
- Recriwtio
- Hyfforddiant Iaith
- Trefniadau Gweinyddol i Hwyluso'r Cynllun
- Gwasanaethau a Gyflwynir Gan Eraill ar Ran y Comisiwn
- Arolygu
- Cyhoeddusrwydd i Wasanaethau Cymraeg y Comisiwn
- AWGRYMIADAU AR GYFER GWELLIANNAU/CWYNION
ATODIAD A - AMSERLEN A THARGEDAU
Paratowyd yn unol ag Adran 12 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
1. CYFLWYNIAD
Rydym ni, y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) yn gorff cyhoeddus a sefydlwyd ym 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972). Nodir swyddogaethau statudol y Comisiwn yn adrannau 53 i 78 Deddf 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (Deddf 1994). Gellir crynhoi ein prif dasg fel a ganlyn:
arolgyu ardaloedd llywodraeth leol a threfniadau etholiadol yng Nghymru, gyda'r bwriad o ystyried p'un ai i gyflwyno cynigion i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ai peidio er mwyn gweithredu newidiadau sy'n ymddangos i'r Comisiwn fel rhai sy'n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a hwylus.
Ar hyn o bryd, mae'r Comisiwn yn cynnwys cadeirydd, is-gadeirydd ac aelod, a benodwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae Deddf 1972 yn nodi bod yn rhaid i un o aelodau'r Comisiwn o leiaf allu siarad Cymraeg, ac fe gaiff y gofyniad hwn ei gwrdd. Ar hyn o bryd mae gennym ddeg o staff cynnal wedi'u lleoli yn swyddfeydd y Comisiwn yng Nghaerdydd.
Rydym wedi mabwysiadu'r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Comisiwn yn gweithredu'r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae wedi'i gymeradwyo gennym ni ac rydym yn rhoi cefnogaeth lwyr iddo.
2. CYNLLUNIO GWASANAETH
Mae'r Comisiwn yn paratoi Cynllun Gweithredu Blynyddol, sy'n nodi, o fewn y cyd-destun statudol, raglen waith, targedau blynyddol, dangosyddion perfformiad, safonau ac adnoddau ar gyfer pob blwyddyn. Wrth gynllunio'r ddarpariaeth o wasanaethau, rydym yn ymrwymedig i:
- Cynnal y mesurau hynny sy'n hyrwyddo a hwyluso'r egwyddor o gydraddoldeb wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn unol â'r cynllun hwn.
- Ehangu'r egwyddor i unrhyw bolisi, gweithgaredd a phryniant newydd, gan sicrhau y datblygir mesurau ychwanegol sy'n gyson â'r cynllun hwn.
- Cael cytundeb Bwrdd yr Iaith Gymraeg parthed unrhyw newidiadau yn y cynllun.
- Arolygu effeithiolrwydd gweithredu'r mesurau a nodir yn y cynllun hwn.
3. CYFLWYNO GWASANAETHAU A SAFONAU ANSAWDD
Ein prif ddyletswydd yw cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar faterion sy'n effeithio ar gynghorau sir a chynghorau cymunedol ledled Cymru. Rydym felly yn ymgynghori, ac mae dyletswydd arnom i ystyried sylwadau yr awdurdodau hynny yn ogystal â chyrff eraill sydd â diddordeb ac unigolion. Ymgymerir â chyhoeddusrwydd eang i sicrhau bod ein gwaith arolygu a'r cynigion dilynol yn cael cyhoeddusrwydd eang. Golyga natur ein gwaith bod pwyslais ar adroddiadau ysgrifenedig a llythyrau. Rydym yn croesawu ymatebion i'n prosesau ymgynghori yn yr iaith Gymraeg.
Er mwyn gweithredu ein polisi iaith Gymraeg, mae pob llythyr cychwynnol, cyhoeddiad a chyhoeddusrwydd yn ddwyieithog. Rydym yn defnyddio cyfarwyddiadau desg, templedi sylfaenol a meddalwedd TG sy'n gydnaws â ffontiau Cymraeg ac mae gennym gontract ar gyfer darparu gwasanaeth cyfieithu cynhwysfawr.
Rydym wedi cymryd camau i ddarparu gwasanaeth cyfartal yn y ddwy iaith. Mynegir y camau hyn fel mesurau yn yr adrannau dilynol. Mewn dwy ffordd: wrth ateb galwadau ffôn ac wrth ddelio ag ymwelwyr heb apwyntiad, mae'r gallu i ymateb yn Gymraeg yn amrywio o bryd i'w gilydd yn ôl sgiliau ieithyddol y staff a gyflogir ar y pryd. Nodir y mesurau a gymerwyd i ymdrin â'r amgylchiadau hyn yn yr adrannau perthnasol sy'n delio â chyfathrebu a recriwtio.
Mae'r safonau perfformiad, yn cynnwys y rheiny sy'n deillio o Siarter y Dinesydd yr un fath ar gyfer y ddwy iaith.
4. DELIO Â'R CYHOEDD SY'N SIARAD CYMRAEG
Gohebiaeth
Rydym yn dechrau pob arolwg drwy ysgrifennu at y cyngor sir, cynghorau cymuned, Aelodau Seneddol perthnasol a chyrff eraill sydd â diddordeb. Ysgrifennir at y rhain eto pan gyhoeddir cynigion drafft a chynigion terfynol.
Mesurau:
- Bydd llythyrau cychwynnol a llythyrau eglurhaol i'r cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog, yn ogystal â llythyrau eraill a anfonir at y rheiny na wyddys pa un yw eu dewis iaith.
- Paratoir templedi ein llythyrau yn y ddwy iaith.
Mae'r Comisiwn yn croesawu'r llu o sylwadau a llythyrau eraill a dderbynnir yn Gymraeg.
Mesurau:
- Os byddwch yn ysgrifennu atom yn Gymraeg byddwn yn ateb yn Gymraeg.
- Mae ein hamser targed ar gyfer ateb i lythyrau yn Gymraeg yr union yr un fath â'r un ar gyfer ateb llythyrau yn Saesneg.
- Pan fyddwn yn ysgrifennu llythyr at unigolyn, grŵp neu sefydliad y gwyddom eu bod yn gweithio yn bennaf yn Gymraeg, neu y gwyddys bod yn well ganddynt dderbyn llythyrau yn Gymraeg, byddwn yn ysgrifennu yn Gymraeg.
- Yn dilyn cyfarfod wyneb yn wyneb neu sgwrs ffôn yn Gymraeg, bydd unrhyw ohebiaeth ddilynol yn Gymraeg, oni wneir cais i ni wneud fel arall.
- Er mwyn gallu gweithredu'r mesurau hyn, cysylltwn â'n gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn, y ffacs a'r E-bost. Rydym yn cadw cronfa ddata o'r rheiny sy'n dymuno delio â ni yn Gymraeg.
Ffonio
Croesewir ymholiadau dros y ffôn yn Gymraeg. Mae argaeledd staff sy'n gallu siarad Cymraeg yn amrywio o bryd i'w gilydd gyda throsiant staff ond byddwn bob amser yn ceisio dod o hyd i rywun sy'n siarad Cymraeg i ateb eich ymholiad.
Mesurau:
- Os byddwch yn ffonio'r Comisiwn ac yn dymuno siarad Cymraeg, ond nad yw'r person sy'n cymryd yr alwad yn gallu siarad Cymraeg, cewch eich trosglwyddo i aelod o'r staff sy'n siarad Cymraeg os bydd ar gael. Os na fydd siaradwr Cymraeg ar gael i ddelio â'ch ymholiad, cynigir dewis i chi, naill ai bod siaradwr Cymraeg, a allai fod yn gyfieithydd allanol, yn eich ffonio yn ôl, neu eich bod yn parhau â'r alwad yn Saesneg.
- Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan na fydd unrhyw un ar gael a all ateb eich ymholiad yn llawn - yn arbennig os bydd hyn yn arbenigol. (Gall yr un broblem godi gydag ymholiadau ffôn yn Saesneg). Yn yr achosion hyn bydd rhywun yn gofyn i chi am fanylion eich ymholiad, neu gallant eich cynghori i anfon eich ymholiad atom yn ysgrifenedig. Yna byddwch yn derbyn ateb yn Gymraeg drwy'r post.
- Mae gennym beiriant ateb dwyieithog.
Cyfarfodydd Cyhoeddus
Byddwn o dro i dro yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru a chroesewir pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg.
Mesurau:
- Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i gyfarfodydd yn ddwyieithog, gan wneud ein polisi iaith yn glir.
- Byddwn yn sicrhau y bydd aelod o'r Comisiwn neu'r Ysgrifenyddiaeth sy'n siarad Cymraeg yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus.
- Byddwn yn darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd fel mater o arfer mewn cyfarfodydd cyhoeddus.
Cyfarfodydd Eraill Gyda'r Cyhoedd
Yn ogystal â chyfarfodydd cyhoeddus, bydd achlysuron pan gynhelir cyfarfodydd eraill gydag unigolion a sefydliadau.
Mesurau:
- Pan fyddwn yn trefnu cyfarfod ymlaen llaw gydag unigolyn neu sefydliad, byddwn yn gofyn iddynt pa un yw eu dewis iaith. Os bydd yn well ganddynt ddefnyddio'r Gymraeg, byddwn yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg os yn bosibl neu'n cynnig darparu cyfieithiad.
- Bydd ymwelwyr heb apwyntiad sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn cael cynnig gwasanaeth ein cyfieithydd allanol dros y ffôn os na fydd aelod o'r staff sy'n siarad Cymraeg ar gael.
5. WYNEB CYHOEDDUS COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
Hunaniaeth Gorfforaethol
Mae gan y Comisiwn hunaniaeth ddwyieithog ac rydym wedi mabwysiadu mesur i gadarnhau hyn.
Mesurau:
- Mae enw, cyfeiriad a gwybodaeth gysylltiedig am y Comisiwn yn ddwyieithog ar arwyddion ein swyddfa, cloriau cyhoeddiadau a phob ffurf arall ar arddangosiad cyhoeddus.
- Mae gwybodaeth print ar bapur pennawd, slipiau cyfarch, papur ffacs, cardiau busnes staff a deunyddiau ysgrifennu corfforaethol eraill y Comisiwn i gyd yn dilyn yr un fformat dwyieithog.
- Rhoddir amlygrwydd cydradd i'r ddwy iaith.
Cyhoeddiadau
Ar gyfer pob arolwg rydym yn cyhoeddi adroddiadau drafft ac adroddiadau terfynol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Rydym hefyd yn cynhyrchu nodiadau canllaw a chyhoeddiadau eraill o bryd i'w gilydd.
Mesurau:
- Byddwn yn cynhyrchu pob cyhoeddiad yn Gymraeg a Saesneg.
- Wrth ystyried enwau rhanbarthau etholiadol, caiff enwau eu haseinio iddynt yn y ddwy iaith lle ceir fersiynau Cymraeg a Saesneg.
- Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg fel arfer gyda'i gilydd mewn un cyhoeddiad dwyieithog a bydd o'r un ansawdd, fformat ac amlygrwydd.
- Os cyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant ar gael ar yr un pryd a bydd yr un modd hawdd cael gafael ar y ddau.
Hysbysiadau Cyhoeddus
Defnyddir hysbysebion papurau newydd i roi cyhoeddusrwydd i gamau cychwynnol, drafft a therfynol arolygiadau.
Mesurau:
- Bydd hysbysiadau cyhoeddus mewn papurau newydd yng Nghymru yn ddwyieithog. (Weithiau, mewn ardaloedd Cymraeg yn bennaf, bydd yn fwy ymarferol i roi hysbysiad yn Gymraeg mewn papur newydd Cymraeg).
- Rhoddir cydraddoldeb i'r ddwy iaith o ran fformat, maint ac amlygrwydd.
Hysbysiadau i'r Wasg
Rydym yn cyhoeddi hysbysiadau i olygyddion y wasg, radio a theledu, yn eu hysbysu am y cynigion drafft a therfynol.
Mesur:
- Rydym yn paratoi hysbysiadau i'r wasg yn ddwyieithog. Mae'r hysbysiadau hyn fel arfer mewn un ddogfen. Fodd bynnag, gellir paratoi hysbysiadau hir ar wahân yn Gymraeg a Saesneg a'u cyhoeddi gyda'i gilydd.
Arolygon Cyhoeddus
Mae weithiau'n angenrheidiol cynnal arolygon cyhoeddus, er enghraifft i gasglu gwybodaeth ystadegol neu i geisio barn y cyhoedd. Gellir contractio sefydliad allanol i wneud y gwaith hwn.
- Byddwn yn cynnal arolygon cyhoeddus yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
6. GWEITHREDU AC AROLYGU'R CYNLLUN
Staffio
Nod y Comisiwn yw cael digon o staff sydd â'r sgiliau siarad Cymraeg priodol er mwyn ein galluogi i gyflwyno gwasanaeth llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ein strategaeth tuag at gyflawni'r nod yn cynnwys arolwg o fanylebau timau a swyddi, gan fanteisio ar gyfleoedd i ddenu siaradwyr Cymraeg yn ystod recriwtio a hyfforddiant.
Mesur:
- Byddwn yn edrych ar swyddi i ystyried p'un a fyddai'n hanfodol neu'n ddymunol cael siaradwyr Cymraeg, a nodi hyn yn y disgrifiadau swydd.
Hysbysiadau Recriwtio
Caiff y rhan fwyaf o'r staff eu secondio o'r Swyddfa Gymreig neu Adrannau eraill o'r Llywodraeth a chyhoeddir swyddi gwag mewn bwletinau mewnol. Defnyddir hysbysebion papur newydd allanol i recriwtio'r staff a gyflogir yn uniongyrchol fel yr Ysgrifennydd a'r Cartograffydd.
Mesurau:
- Bydd recriwtio staff drwy hysbysiadau papur newydd yn ddwyieithog.
- Nodir ein polisi iaith a bydd y sgiliau ieithyddol a ddisgwylir o ddeiliad y swydd yn cael ei nodi mewn gwybodaeth recriwtio.
Recriwtio
Ymgymerir ag asesiad o alluoedd yr ymgeiswyr drwy ddefnyddio meini prawf gwrthrychol i sicrhau y gwneir apwyntiadau ymhob achos ar sail deg a chyson.
Mesur:
- Gallu ieithyddol fydd un o nifer o sgiliau y dylid eu cadw mewn cof wrth benodi staff a chaiff ei asesu yn erbyn y lefel o sgiliau sydd ei hangen ar gyfer y swydd a nodwyd yn flaenorol.
Hyfforddiant Iaith
Mae hyfforddiant iaith yn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu'r nifer o staff sy'n gallu gweithio yn Gymraeg.
Mesurau:
- Rydym yn annog, ac mewn rhai amgylchiadau arbennig bydd yn ofynnol i'r staff ymgymryd â hyfforddiant iaith addas. Byddwn yn ystyried rhoi cymorth ariannol mewn achosion priodol.
- Byddwn yn asesu'r angen am hyfforddiant galwedigaethol penodol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Trefniadau Gweinyddol i Hwyluso'r Cynllun
Cynlluniwyd y mesurau a nodir yn y cynllun hwn i weithredu polisi iaith Gymraeg y Comisiwn. Rydym wedi mabwysiadu'r mesurau gweinyddol ychwanegol canlynol i ategu'r ffordd y caiff y cynllun ei weithredu fel rhan annatod o'n gwaith.
Mesurau:
- Mae'r Ysgrifennydd a'r arweinwyr tîm wedi derbyn cyfrifoldeb penodol i sicrhau y gweithredir y cynllun yn gyson.
- Mae pob aelod o'r staff wedi derbyn canllaw ysgrifenedig manwl ar ffurf cyfarwyddiadau desg sy'n cynnwys defnyddio'r Gymraeg yng ngwaith y Comisiwn, ac maent wedi derbyn copïau o'r cynllun hwn.
- Byddwn yn sicrhau bod manyleb systemau TG newydd neu rai a gaiff eu newid yn cwrdd ag anghenion y cynllun hwn.
- Bydd tendrau ar gyfer gwasanaethau cyfieithu yn parhau i gael eu hasesu ar gyfer medr ac ansawdd gwasanaeth yn ogystal â phris.
Gwasanaethau a Gyflwynir Gan Eraill ar Ran y Comisiwn
Rydym yn cydnabod y dylai'r un safonau fod yn berthnasol pan wneir gwaith ar ein rhan a phan y'i gwneir gan ein staff ein hunain.
Mesurau:
- Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wneir gan drydydd parrti sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru yn gyston â thelerau'r cynllun.
- Bydd y Comisiwn yn darparu drwy drefniadau contractio bod y contractwr yn gweithredu unrhyw elfennau perthnasol o'r cynllun wrth ddelio â'r cyhoedd.
- Bydd y Comisiwn yn nodi'r gofynion o ran defnyddio'r Gymraeg mewn dogfennau tendro a chontractau.
Arolygu
Byddwn yn arolygu pa mor llwyddiannus rydym yn cwrdd â'n hymroddiad i'r egwyddor o drin yr iaith Gymraeg yn gydradd drwy'r cynllun hwn.
Mesurau:
- Bob blwyddyn bydd yr Ysgrifennydd yn paratoi adroddiad ar gyfer y
Comisiwn yn dangos perfformiad wrth gwrdd â gweithredu'r mesurau penodol a fabwysiadwyd
gennym o ran:
- Y Cynllun Gweithredu Blynyddol
- Cyflwyno gwasanaethau
- Delio â'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg
- Hunaniaeth gorfforaethol
- Recriwtio a hyfforddi staff
- Gwasanaethau a gyflwynir gan eraill
- Yr amserlen ar gyfer gweithredu
- Awgrymiadau a chwynion
- Asesir perfformiad yn erbyn targedau yn yr amserlen sy'n atodol i'r cynllun hwn, wedi ei ategu gan gofnodion o eitemau mesuradwy. Bydd yr adroddiad yn rhoi rhesymau dros unrhyw dargedau a fethwyd a nodi'r camau adfer arfaethedig.
- Cyflwynir yr adroddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd yr adroddiad ar gael am ddim i'r cyhoedd.
- Byddwn yn cynnwys crynodeb o'r adroddiad yn Adroddiad Blynyddol y Comisiwn. Cyflwynir yr Adroddiad Blynyddol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei roi gerbron y Senedd, ei ddosbarthu i Aelodau Seneddol, awdurdodau lleol a chyrff eraill a chaiff ei hysbysebu drwy gyfrwng hysbysiad i'r wasg.
Cyhoeddusrwydd i Wasanaethau Cymraeg y Comisiwn
Un unol â chanllawiau'r Comisiwn, hysbysebwyd y cynllun hwn yn y wasg a'i ddosbarthu'n eang. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i'r cyhoedd barhau i fod yn ymwybodol o'r ffyrdd y gallant ddewis cyfathrebu â ni.
Mesurau:
- Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i'n mesurau ar gyfer gwasanaethu siaradwyr Cymraeg yn ein Hadroddiad Blynyddol.
- Bydd pob cyhoeddiad a chyhoeddusrwydd sy'n gysylltiedig ag arolygon y Comisiwn - ein prif gyswllt â'r cyhoedd - yn egluro y gall y cyhoedd ddelio â'r Comisiwn yn Gymraeg.
7. AWGRYMIADAU AR GYFER GWELLIANNAU/CWYNION
Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer gwella ein mesurau ar gyfer delio â siaradwyr Cymraeg. Os byddwn yn methu o ran yr ymrwymiadau a wnaethom yn y cynllun hwn, rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn dweud wrthym. Os bydd gennych awgrym ar gyfer gwelliannau neu os bydd cŵyn gennych ynglŷn â gwasanaethau'r Comisiwn yn Gymraeg ysgrifennwch at:
Yr Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas St Andrews CAERDYDD CF1 3BE
Gweler hefyd CYSYLLTU Â'R COMISIWN
Atodiad A
AMSERLEN A THARGEDAU
Mesur |
Targed Amserlen |
| Cynnal mesur sy'n hyrwyddo a hwyluso'r egwyddor o gydraddoldeb wrth ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn unol â'r cynllun hwn. | Parhaus |
| Sicrhau bod mesurau ychwanegol yn cael eu datblygu i ehangu'r egwyddor i unrhyw bolisi, gweithgaredd neu bryniant newydd. | Parhaus |
| Cael cytundeb Bwrdd yr Iaith Gymraeg parthed unrhyw newidiadau. | Fel y bo'r angen |
| Arolygu effeithiolrwydd gweithredu'r mesurau a nodir yn y cynllun hwn. | Parhaus |
| Bydd llythyrau cychwynnol a llythyrau eglurhaol i'r cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog. | Cyflawnwyd eisoes |
| Paratoir templedi llythyrau yn y ddwy iaith. | Cyflawnwyd eisoes |
| Atebion i ohebiaeth yn Gymraeg yn Gymraeg. | Cyflawnwyd eisoes |
| Yr un amser targed ar gyfer ateb llythyrau yn Gymraeg ag ar gyfer ateb llythyrau yn Saesneg. | Cyflawnwyd eisoes |
| Ysgrifennu yn Gymraeg at unigolyn, grŵp neu sefydliad y gwyddom eu bod yn gweithio yn bennaf yn Gymraeg neu y gwyddys bod yn well ganddynt dderbyn llythyrau yn Gymraeg. | Cyflawnwyd eisoes |
| Bydd gohebiaeth ddilynol, yn dilyn cyfarfod wyneb yn wyneb neu sgwrs dros y ffôn yn Gymraeg, yn Gymraeg, oni wneir cais i ni wneud fel arall. | Cyflawnwyd eisoes |
| Cedwir cronfa ddata o'r rhai sy'n dymuno delio â ni yn Gymraeg. | Cyflawnwyd eisoes |
| Trosglwyddir galwyr sy'n dymuno siarad Cymraeg i aelod o staff sy'n siarad Cymraeg neu bydd cyfieithydd allanol yn eu ffonio'n ôl, neu gallant barhau â'r alwad yn Saesneg. | Cyflawnwyd eisoes |
| Mewn achosion lle na fydd unrhyw un ar gael sy'n gallu ateb yr ymholiad yn llawn, gofynnir i'r galwyr am fanylion am yr ymholiad, neu cânt eu cynghori i gyflwyno'r ymholiad yn ysgrifenedig. Yna, anfonir ateb yn Gymraeg drwy'r post. | Cyflawnwyd eisoes |
| Caiff neges ddwyieithog ei recordio ar y peiriant ateb. | Cyflawnwyd eisoes |
| Rhoddir cyhoeddusrwydd i gyfarfodydd yn ddwyieithog. | Fel y bo'r angen |
| Bydd aelod o'r Comisiwn neu'r Ysgrifenyddiaeth sy'n siarad Cymraeg yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus. | Fel y bo'r angen |
| Darperir cyfleusterau cyfieithu mewn cyfarfodydd pan fydd yr angen wedi'i nodi. | Fel y bo'r angen |
| Cynhelir cyfarfodydd a drefnir ymlaen llaw yn Gymraeg os bydd angen. | Fel y bo'r angen |
| Cynigir gwasanaeth cyfieithydd allanol dros y ffôn i ymwelwyr di-rybudd sy'n dymuno cyfathrebu yn Gymraeg os na fydd aelod o'r staff sy'n siarad Cymraeg ar gael. | Fel y bo'r angen |
| Bydd enw, cyfeiriad a gwybodaeth gysylltiedig am y Comisiwn yn ddwyieithog ar arwyddion swyddfa, cloriau cyhoeddiadau a phob ffurf arall ar arddangosiad cyhoeddus. | Cyflawnwyd eisoes |
| Bydd gwybodaeth print ar bapur pennawd, slipiau cyfarch, papur ffacs, cardiau busnes staff a deunyddiau ysgrifennu corfforaethol eraill y Comisiwn yn ddwyieithog. | Cyflawnwyd eisoes |
| Rhoddir amlygrwydd cydradd i'r ddwy iaith. | Cyflawnwyd eisoes |
| Cynhyrchir pob cyhoeddiad yn Gymraeg a Saesneg. | Cyflawnwyd eisoes |
| Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg fel arfer gyda'i gilydd mewn un cyhoeddiad dwyieithog a bydd o'r un ansawdd, fformat ac amlygrwydd. | Cyflawnwyd eisoes |
| Os cyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant ar gael ar yr un pryd a bydd yr un mor hawdd cael gafael ar y ddau. | Cyflawnwyd eisoes |
| Bydd hysbysiadau cyhoeddus mewn papurau newydd yng Nghymru yn ddwyieithog (neu yn Gymraeg yn unig os yn briodol). | Cyflawnwyd eisoes |
| Rhoddir cydraddoldeb i'r ddwy iaith o ran fformat, maint ac amlygrwydd. | Cyflawnwyd eisoes |
| Bydd hysbysiadau i'r wasg yn ddwyieithog ac mewn un ddogfen fel arfer. Fodd bynnag, gellir paratoi hysbysiadau hir ar wahân yn Gymraeg a Saesneg a'u cyhoeddi gyda'i gilydd. | Cyflawnwyd eisoes |
| Cynhelir arolygon cyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg. | Fel y bo'r angen |
| Edrych ar swyddi i ystyried a fyddai'n hanfodol neu'n ddymunol cael siaradwyr Cymraeg, a nodir hyn yn y disgrifiadau swyddi. | Cyflawnwyd eisoes |
| Bydd recriwtio staff drwy hysbysiadau papur newydd yn ddwyieithog. | Cyflawnwyd eisoes |
| Caiff ein polisi iaith a'r sgiliau ieithyddol a ddisgwylir o ddeiliad y swydd eu nodi mewn gwybodaeth recriwtio. | Cyflawnwyd eisoes |
| Gallu ieithyddol fydd un o nifer o sgiliau y dylid eu cadw mewn cof wrth benodi staff a chaiff ei asesu yn erbyn y lefel o sgiliau sydd ei hangen ar gyfer y swydd a nodwyd yn flaenorol. | Cyflawnwyd eisoes |
| Rydym yn annog, ac mewn rhai amgylchiadau bydd yn ofynnol i'r staff ymgymryd â hyfforddiant iaith addas. Byddwn yn ystyried rhoi cymorth ariannol mewn achosion priodol. | Fel y bo'r angen |
| Byddwn yn asesu'r angen am hyfforddiant galwedigaethol penodol drwy gyfrwng y Gymraeg. | Parhaus |
| Bydd yr Ysgrifennydd a'r arweinwyr tîm yn sicrhau y gweithredir y cynllun yn gyson. | Parhaus |
| Bydd pob aelod o'r staff yn derbyn canllaw ysgrifenedig manwl ar ffurf cyfarwyddiadau desg sy'n cynnwys defnyddio'r Gymraeg yng ngwaith y Comisiwn, a byddant yn derbyn copïau o'r cynllun hwn. | Parhaus |
| Byddwn yn sicrhau bod manyleb systemau TG newydd neu rai a gaiff eu newid yn cwrdd ag anghenion y cynllun hwn. | Parhaus |
| Bydd tendrau ar gyfer gwasanaethau cyfieithu yn parhau i gael eu hasesu ar gyfer medr ac ansawdd gwasanaeth yn ogystal â phris. | Parhaus |
| Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wneir gan drydydd parti sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru yn gyson â thelerau'r cynllun. | Parhaus |
| Bydd y Comisiwn yn sicrhau trwy drefniadau contractio bod y contractwr yn gweithredu unrhyw elfennau perthnasol o'r cynllun wrth ddelio â'r cyhoedd. | Parhaus |
| Bydd y Comisiwn yn nodi'r gofynion o ran defnyddio'r Gymraeg mewn dogfennau tendro a chontractau. | Fel y bo'r angen |
| Bob blwyddyn bydd yr Ysgrifennydd yn paratoi adroddiad ar gyfer y Comisiwn yn dangos perfformiad wrth gwrdd â gweithredu'r mesurau penodol a fabwysiadwyd. | Rhan o'r flwyddyn Hyd Blwyddyn lawn Ebrill |
| Darperir yr adroddiad hwn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd yr adroddiad ar gael am ddim i'r cyhoedd. | Rhan o'r flwyddyn Tach Blwyddyn lawn Mai |
| Caiff crynodeb o'r adroddiad ei gynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Comisiwn. | Blynyddol Mehefin |
| Bydd Adroddiad Blynyddol y Comisiwn yn cyhoeddi ein mesurau ar gyfer gwasanaethu'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg. | Blynyddol Mehefin |
| Bydd pob cyhoeddiad a chyhoeddusrwydd sy'n gysylltiedig ag arolygon y Comisiwn - ein prif gyswllt â'r cyhoedd - yn egluro y gall y cyhoedd ddelio â'r Comisiwn yn Gymraeg. | Parhaus |
