Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

CYNLLUN CYHOEDDI

Fersiwn 2, Gorffennaf 2005

1. Cyflwyniad

Dyma’r Cynllun Cyhoeddi ar gyfer Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, a luniwyd o dan Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ym Mehefin 1974 o dan delerau Adran 53 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972). Dynodir swyddogaethau statudol y Comisiwn yn Adrannau 54 i 78 Deddf 1972 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (Deddf 1994). Mae atodlen 8 i Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad a gweithrediadau’r Comisiwn.

Nod y Comisiwn yw:

Cynnal arolygon o ardaloedd llywodraeth leol a threfniadau etholiadol yng Nghymru, gyda’r bwriad o ystyried a ddylid gwneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu newidiadau sy’n ymddangos i’r Comisiwn yn rhai sy’n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Aelodau

Ceir tri Aelod o’r Comisiwn a phenodir un yn Gadeirydd. Caiff unigolion eu penodi i’r Comisiwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gael o leiaf un Aelod sy’n siarad Cymraeg yn ôl y ddeddfwriaeth.

Gwybodaeth bellach

Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â’n Cynllun Cyhoeddi a’n polisi Rhyddid Gwybodaeth ar gael gan y Comisiwn yn y cyfeiriad isod.

Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â Rhyddid Gwybodaeth a Chynlluniau Cyhoeddi yn gyffredinol ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Dangosir manylion yn yr adran Pwyntiau Cyswllt ar ddiwedd y Cynllun.

Cyfrifoldebau

Mae Mr Edward Lewis, Ysgrifennydd y Comisiwn, yn gyfrifol am y cynllun ar ran y Comisiwn.

Mae Mr Steve Halsall yn gyfrifol am gynnal y cynllun o ddydd i ddydd.

Gellir cysylltu â Mr Lewis a Mr Halsall yn y cyfeiriad isod.

Diben a Strwythur y Cynllun Cyhoeddi

Diben y Cynllun Cyhoeddi hwn yw amlinellu:

  1. Y wybodaeth yr ydym yn ymrwymo i’w gyhoeddi yn ôl yr arfer.
  2. Sut y caiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi.
  3. A yw’r wybodaeth ar gael am ddim neu a godir tâl amdani.

Dangosir y categorïau o wybodaeth y mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn ymrwymo i’w cyhoeddi o dan benawdau a restrir yn nhrefn yr wyddor ac fe’u dilynir gan ddisgrifiad byr o’r wybodaeth.

Gwybodaeth eithriedig

Ym mhob achos, nid yw’r cyhoeddiadau yn cynnwys unrhyw wybodaeth sydd wedi ei diogelu o dan yr eithriadau a nodwyd yng Nghod Ymarfer y Comisiwn ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth. Lle y bydd categorïau unigol yn amodol ar eithriadau, y prif resymau dros hyn yw rhesymau o ran gwybodaeth bersonol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a diogelu buddiannau masnachol.

Copïau a fformatau ychwanegol

Mae copïau o’r Cynllun hwn hefyd ar gael mewn print bras. Caiff y Cynllun ei gyhoeddi ar ffurf Braille a/neu fformatau tâp sain hefyd os bydd angen. Cyhoeddir y Cynllun yn Gymraeg a Saesneg a bydd y Comisiwn yn ystyried ceisiadau i gynhyrchu’r Cynllun mewn ieithoedd eraill. Mae copïau o’r Cynllun ar gael am ddim gan y Comisiwn (cyfeiriad isod).

2. Cael a dod o hyd i gyhoeddiadau

Mae’r wybodaeth yn y categorïau yr ydym yn ymrwymo i’w cyhoeddi o dan y Cynllun hwn ar gael mewn sawl fformat. Mae pob dogfen ar gael ar ffurf copi caled a chyhoeddir y mwyafrif ohonynt yn electronig (fel tudalennau gwe HTML, a/neu ffeiliau PDF Adobe Acrobat a/neu ddogfennau Word). Lle na chaiff gwybodaeth ei chyhoeddi’n electronig nodir hyn yn glir o dan y categori perthnasol.

Dylid anfon ceisiadau am gopïau o gyhoeddiadau Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru i’n Canolfan Cyhoeddiadau fel y dangosir isod. Os nad oes gennych fanylion llawn am yr hyn sydd ei angen arnoch, dylech gysylltu â’r Comisiwn.

Mae manylion cyswllt y Comisiwn fel a ganlyn:

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru
Tŷ Caradog
1-6 Plas Sant Andreas
Caerdydd
CF10 3BE
Ffôn: 029 20395031
Ffacs: 029 20395250
E-bost: cflll.cymru@wales.gsi.gov.uk

Ar gyfer y rheini sydd â mynediad i’r Rhyngrwyd

Gellir cael mynediad i’r dogfennau electronig diweddaraf yn uniongyrchol o wefan Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Y cyfeiriad yw: www.cflll-cymru.gov.uk

Er mwyn darllen dogfennau PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch; mae hwn ar gael am ddim o wefan Adobe: www.adobe.com/products/acrobat/reastep.html

Gellir nodi cyhoeddiadau copi caled a dogfennau electronig llai diweddar trwy gyfrwng y Catalog Cyhoeddiadau a gellir eu cael drwy archebu copïau oddi wrth y Comisiwn yn y cyfeiriad uchod.

3.Hawlfraint

Mae pob un o gyhoeddiadau’r Comisiwn yn amodol ar Hawlfraint y Goron. Gellir atgynhyrchu deunydd ar gyfer defnydd personol neu fewnol heb ganiatâd ffurfiol na thâl. Ni chaniateir atgynhyrchu deunydd i’w werthu neu at ddibenion masnachol eraill. Ar gyfer defnydd arall neu os oes unrhyw amheuaeth gennych, gallwch gael gwybodaeth a nodiadau canllaw pellach ar gyhoeddi a hawlfraint oddi wrth

Office of Public Sector Information, Information Policy Division,
St. Clements House,
2-16 Colegate,
Norwich
NR3 1BQ
Ffôn: 01603 621000
Gwefan: www.opsi.gov.uk/about/team-information/information-policy.htm|
www.opsi.gov.uk/guides.htm

Cynhyrchir y mapiau amlinellol a gyhoeddir gan y Comisiwn o dan drwydded o ddata Arolwg Ordnans ac maent yn amodol ar Hawlfraint y Goron hefyd. Ceir manylion pellach am y trefniadau trwyddedu oddi wrth

Copyright Office
Ordnance Survey
Romsey Road
SOUTHAMPTON
SO16 4GU
Ffôn: 023 8079 2929
e-bost: centgov@ordsvy.gov.uk

4. Polisi Codi Tâl

O dan God Ymarfer y Comisiwn ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth mae gennym bolisi dim ffi, neu isafswm ffi, ar gyfer darparu gwybodaeth. Felly, mae copïau unigol o gyhoeddiadau a gyhoeddwyd yn uniongyrchol gan Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ar gael am ddim. Efallai y bydd y Comisiwn yn dymuno adennill costau copïo, cludo a phecynnu lle y gwneir ceisiadau am nifer o gopïau neu am nifer o gyhoeddiadau.

5. Y categorïau o wybodaeth yr ydym yn ymrwymo i’w cyhoeddi

Ni chyhoeddwyd yr eitemau a amlygwyd o’r blaen.

Codau Ymarfer

Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r Codau Ymarfer canlynol

Comisiynwyr

Rydym yn bwriadu cyhoeddi cofrestr o fuddiannau Comisiynwyr.

Arweiniad

Rydym yn bwriadu cyhoeddi arweiniad yn ôl y galw.

Cofnodion

Rydym yn bwriadu cyhoeddi cofnodion o gyfarfodydd y Comisiwn.

Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi cofnodion o gyfarfodydd  a gynhaliwyd cyn y penderfyniad i gyhoeddi (5 Mehefin 2000).

Rydym yn ymgrymyd i gyhoeddi cofnodion y Pwyllgor Archwilio.

Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi cofnodion o gyfarfodydd a gynhaliwyd cyn y penderfyniad i gyhoeddi (21 Mehefin 2005).

Datganiadau i’r Wasg a Newyddion

Rydym yn bwriadu cyhoeddi datganiadau i’r wasg yn ôl y galw.

Rydym yn bwriadu diweddaru adran Newyddion y wefan yn ôl y galw.

Catalog Cyhoeddiadau

Rydym yn bwriadu cyhoeddi rhestr o wybodaeth a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ar ffurf catalog cyhoeddiadau. Caiff y catalog ei ddiweddaru a’i gyhoeddi yn ôl y galw.

Adroddiadau

Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r Adroddiadau canlynol:

Ceisiadau am Wybodaeth

Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein gweithdrefnau ar gyfer delio â cheisiadau am wybodaeth, o dan God Ymarfer y Comisiwn ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, a’r cymorth a’r cyngor y gallwn ei roi i lunio ceisiadau.

Rydym yn bwriadu ystyried y wybodaeth a ryddhawyd mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth, o dan God Ymarfer y Comisiwn ar Ganiatáu i’r Cyhoedd weld Gwybodaeth, er mwyn sicrhau ei bod ar gael yn gyhoeddus.

6. Pwyntiau cyswllt

Cyhoeddiadau

Dylid anfon ceisiadau am gopïau o gyhoeddiadau Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru at:

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru,
Tŷ Caradog,
1-6 Plas Sant Andreas
Caerdydd
CF10 3BE
Ffôn: 029 20395031
Ffacs: 029 20395250
E-Bost: cflll.cymru@wales.gsi.gov.uk

Adborth, cwestiynau a gwybodaeth bellach

Cynllun Cyhoeddi

Rydym am sicrhau bod ein Cynllun Cyhoeddi yn diwallu eich anghenion. Rydym yn croesawu awgrymiadau am gategorïau ychwanegol o wybodaeth y gellid eu cynnwys yn y dyfodol – a hefyd awgrymiadau ynghylch sut y gellid sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir yn fwy hygyrch i chi.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion ynglŷn â’r Cynllun hwn at:

Mr Edward Lewis
Ysgrifennydd
Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru,
Tŷ Caradog,
1-6 Plas Sant Andreas
Caerdydd
CF10 3BE
Ffôn: 029 20395031
Ffacs: 029 20395250
E-bost: cflll.cymru@wales.gsi.gov.uk

Ceisiadau am Wybodaeth

Gellir gofyn am wybodaeth sydd gan y Comisiwn ond nad yw wedi ei chyhoeddi. Ymdrinnir â cheisiadau am wybodaeth yn unol â Chod Ymarfer y Comisiwn ar ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth (2002).

Dylid anfon ceisiadau i’r cyfeiriad uchod.

Cwynion ynglŷn â’r Comisiwn

Yn unol â Chod Ymarfer y Comisiwn ar Gwynion, dylid cyflwyno cwynion, yn y lle cyntaf, i Ysgrifennydd y Comisiwn yn y cyfeiriad uchod.

Y Comisiynydd Gwybodaeth

Gellir cael mwy o wybodaeth ar Ryddid Gwybodaeth, Diogelu Data, a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol oddiwrth:

Information Commissioner,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745
Ffacs: 01625 524 510
E-bost: mail@ico.gsi.gov.uk|
www.informationcommissioner.gov.uk

6/9/05