Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

Cod Ymarfer ar Fynediad i Wybodaeth i'r Cyhoedd

2il Argraffiad 2005

CYNNWYS

  1. Cod Ymarfer ar Fynediad i Wybodaeth i'r Cyhoedd
    1. Diben
    2. Cwmpas
    3. Egwyddorion Ein Hymagwedd at fod yn Agored
    4. Statws
    5. Adolygu'r Cod Hwn
  2. Ceisiadau Am Wybodaeth
    1. Darparu Cyngor a Chymorth
    2. Gwneud Cais
    3. Pa Gyfraith sy'n Gymwys?
  3. Esbonio'r Egwyddorion
  4. Cysylltiadau
    1. Gwneud ceisiadau
    2. Cynllun Cyhoeddi
    3. Cwynion
    4. Ein gwefan

Annexes

  1. Rhestr o Eithriadau
  2. Sut byddwn ni'n cymhwyso prawf budd y cyhoedd a'r prawf niwed sylweddol i eithriadau

1 Cod Ymarfer ar Fynediad i Wybodaeth i'r Cyhoedd

1.1 Diben

Mae'r Cod Ymarfer hwn yn amlinellu:

Mae hefyd yn dweud wrthych ble i chwilio am gyngor ynglyn â gwneud cais am wybodaeth ac yn atgyfnerthu:

1.2 Cwmpas

Mae'r Cod Ymarfer hwn yn pennu'r egwyddorion y byddwn yn eu dilyn i fodloni ein hymrwymiadau a'n rhwymedigaethau o dan:

Nid yw'r Cod hwn yn creu hawliau i weld dogfennau.

1.3 Egwyddorion ein Hymagwedd at fod yn Agored

Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddorion dilynol. Manylir arnynt yn Rhan 3:

1.4 Statws

Nid yw'r Cod hwn yn gwrthwneud unrhyw ddarpariaethau cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol datgelu gwybodaeth neu'n atal hynny.

Mae'r Cod hwn yn gymwys i wybodaeth a gedwir gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Lleol i Gymru. Seilir yr ymagwedd at fod yn agored a ddatgenir yn y Cod hwn ar yr un a gynhyrchwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y mae'n ofynnol i Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad ei ddilyn lle bo'n bosibl.

Mae contractau rydym ni'n eu sefydlu â thrydydd partïon yn cynnwys yr un telerau sy'n llywodraethu datgelu gwybodaeth. Ystyrir datgelu gwybodaeth a ddarperir gan drydydd partïon os gofynnir amdani.

1.5 Adolygu'r Cod hwn

Byddwn yn adolygu'r Cod hwn i sicrhau ein bod yn parhau i fodloni'r gofynion cyfreithiol sy'n llywodraethu mynediad i wybodaeth.

2 Ceisiadau am Wybodaeth

2.1 Darparu Cyngor a Chymorth

Cyhyd ag y bo'n rhesymol ac yn bosibl, byddwn yn darparu cyngor a chymorth ynglyn â gwneud cais am wybodaeth. Rhoddir manylion cyswllt yn Rhan 4.

Mae gwybodaeth am y mathau gwahanol o wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi ar gael ar ein gwefan ( www.cflll-cymru.gov.uk).

2.2 Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am wybodaeth:

Os nad yw eich cais yn ysgrifenedig, mae'n bosibl ysgrifennwn atoch i gadarnhau pa wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Wrth wneud cais am wybodaeth, rhaid i chi:

Gallwch ddweud wrthym sut byddai'n well gennych dderbyn y wybodaeth. Er enghraifft:

Pryd bynnag y bo'n rhesymol, byddwn yn darparu gwybodaeth ar y ffurf sydd orau gennych. Os na allwn wneud hyn, byddwn yn esbonio pam.

2.3 Pa Gyfraith sy'n Gymwys?

Nid oes angen i chi sôn am ba gyfraith sydd yn eich barn chi'n gymwys i'ch cais am wybodaeth. Byddwn yn casglu'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani ac yn ei harchwilio i weld pa gyfreithiau sy'n gymwys ac yna yn eu cymhwyso. Efallai y bydd hyn yn golygu ein bod yn cymhwyso mwy nag un gyfraith i'ch cais.

Fe'ch anogir i fod mor fanwl gywir â phosibl yn eich cais; os nad ydych chi'n siwr beth i'w ddweud yn eich cais, gallwch ofyn i ni am gymorth. Os ydych chi'n dymuno, gallwch gyfyngu ar y wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani.

3 Esbonio'r Egwyddorion

Egwyddor 1: Uchafu bod yn Agored

Byddwn ni mor agored ag y bo modd

Egwyddor 2: Defnyddio Iaith Glir

Byddwn yn cyflwyno ein busnes mewn iaith glir, yn unol â'n polisïau dwyieithog a chan ystyried anghenion gwahanol

Egwyddor 3: Cynnal Cynllun Cyhoeddi

Byddwn yn cynnal Cynllun Cyhoeddi

Egwyddor 4: Cyhoeddi ar y Rhyngrwyd

Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ar y Rhyngrwyd

Egwyddor 5: Parchu Preifatrwydd, Cyfrinachedd a'r Gyfraith

Byddwn yn parchu preifatrwydd personol, dyletswydd cyfrinachedd, a'r holl gyfreithiau sy'n llywodraethu rhyddhau gwybodaeth

Egwyddor 6: Ymatebion Cyflym a Chynhwysfawr

Byddwn yn darparu ymatebion cyflym a chynhwysfawr i geisiadau am wybodaeth

Egwyddor 7: Hawl i Gwyno

Byddwn yn darparu hawl i gwyno lle na fydd aelod o'r cyhoedd yn fodlon â'r ymateb a dderbyniwyd

Egwyddor 8: Darparu Gwybodaeth yn Rhad ac am Ddim

Byddwn yn darparu gwybodaeth yn rhad ac am ddim lle bo'n bosibl

4 Cysylltiadau

4.1 Gwneud ceisiadau

Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth, cyhoeddiadau, cyngor neu gymorth yn ysgrifenedig i'n swyddfa, sef:

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Lleol i Gymru
Tŷ Caradog
1-6 Plas Sant Andreas
Caerdydd
CF10 3BE

Gallwch ddefnyddio'r ffôn: 02920395031, y ffacs: 02920 395250 neu'r e-bost: cflll.cymru@wales.gsi.gov.uk

4.2 Cynllun Cyhoeddi

Gellir cael ein Cynllun Cyhoeddi o'n swyddfa, ac mae ar gael ar ein gwefan hefyd ar:

  www.cflll-cymru.go.uk/publications/publication_scheme_e.htm

Mae'r fersiwn diweddaraf o'n Catalog o Gyhoeddiadau ar gael o'n swyddfa hefyd, ac ar ein gwefan ar:

  www.cflll.cymru.gov.uk/publications/publication_catalogue.pdf

4.3 Cwynion

Gallwch gael cyngor am ein gweithdrefnau cwyno oddi wrth y Swyddog Cwynion (manylion cyswllt fel uchod).

4.4 Ein gwefan

Ein gwefan yw www.cflll.cymru.gov.uk 

6/9/2005