Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O’R SIROEDD CADWEDIG YNG NGHYMRU

NODYN ARWEINIAD

2002

CYNNWYS

  1. Cyflwyniad

  2. Cyfarwyddiadau i’r Comiswn

  3. Siroedd Cadwedig

  4. Gweithdrefn

  5. Defnyddio’r Iaith Gymraeg

1. CYFLWYNIAD

1.1 Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ym 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Ei rôl yw cynnal arolygon parhaus o bob ardal llywodraeth leol yng Nghymru, a’r trefniadau etholiadol ar gyfer y prif ardaloedd, a gwneud cynigion i Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru erbyn hyn) sy’n ymddangos yn ddymunol iddynt er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

1.2 Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) system dwy haen o lywodraeth leol yng Nghymru. Diddymodd Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 y cynghorau sir a dosbarth a sefydlwyd o dan Ddeddf 1972 gan eu disodli â 22 o awdurdodau unedol newydd. Daeth y strwythur newydd i rym o 1 Ebrill 1996. O 1 Gorffennaf 1999 trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru (mewn perthynas â’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

1.3 O dan Adran 56(1)(c) o‘r Ddeddf, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn gynnal arolwg o unrhyw un neu fwy o’r siroedd a gedwir neu rannau o siroedd o’r fath. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd lunio rheoliadau i bennu’r weithdrefn a ddefnyddir gan y Comisiwn i gynnal arolygon (Adran 60(6)). O ganlyniad i arolwg o’r fath, gall y Comisiwn yn unol ag Adran 54 (1A) o Ddeddf 1972 wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau yn ardal sir a gedwir sy’n ymddangos yn ddymunol i’r Comisiwn, o ystyried, yn benodol, dibenion cadw siroedd a gedwir.

1.4 Ar 11 Mawrth 2002, rhoddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddyd i’r Comisiwn gynnal arolwg o’r wyth siroedd cadwedig yng Nghymru. Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu cwmpas yr arolwg ac yn egluro’r gweithdrefnau y bydd y Comisiwn yn eu dilyn.

2. CYFARWYDDIADAU I’R COMISIWN

2.1 Ceir copi o’r cyfarwyddiadau a gyflwynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Atodiad 1.

3. SIROEDD CADWEDIG

3.1 Diffinnir “sir gadwedig“ gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 fel a ganlyn:

ystyr “sir gadwedig” yw unrhyw sir a grëir gan y Ddeddf hon fel sir yng Nghymru, fel y safodd yn union cyn i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 gael ei phasio ond yn amodol ar unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 1994, neu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan y Ddeddf hon, gan ail-lunio ei ffiniau.

3.2 Ceir manylion am yr ardaloedd a gwmpesir gan y siroedd a gedwir yn Atodiad 2 a cheir map o Gymru yn dangos y siroedd cadwedig yn Atodiad 4.

3.3 Cadwyd y “siroedd cadwedig” gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 er mwyn diffinio ardaloedd sirol at ddibenion rhai darpariaethau statudol penodol a restrir yn Atodlen 2 Deddf 1994. Canfuwyd y darpariaethau perthnasol yn y statudau canlynol:

Ceir disgrifiad pellach o ddarpariaethau perthnasol y Deddfau hyn ar ffurf crynodeb yn Atodiad 3.

4.GWEITHDREFN

4.1 Noda Adran 60 y Ddeddf y gweithdrefnau i’w mabwysiadu gan y Comisiwn wrth gynnal arolygon. Ceir crynodeb o’r gweithdrefnau isod:

  1. bydd y Comisiwn yn rhoi rhybudd o’u bwriad i gynnal arolwg ac yn ymgynghori â phob person sydd â diddordeb, gan gynnwys yr awdurdodau lleol ac awdurdodau’r heddlu perthnasol, cyrff cyhoeddus eraill a’r cyhoedd, gyda’r bwriad y byddant yn gwneud cynrychioliadau. Mae hefyd yn ofynnol i’r Comisiwn roi cyhoeddusrwydd i unrhyw gyfarwyddyd perthnasol a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mwyn cydymffurfio â’r rhan hon o’r Ddeddf, mae’r Comisiwn, yn ogystal ag ysgrifennu at y cyrff a grybwyllir uchod, yn gosod hysbysebion yng ngholofnau Hysbysiadau Cyhoeddus papurau newydd lleol yn cyhoeddi dechrau’r arolwg. Rhoddir copïau o’r hysbysiadau hyn i’r awdurdodau lleol a gofynnir iddynt eu gosod mewn mannau cyhoeddus fel llyfrgelloedd, neuaddau cymunedol ac ati er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i ddechrau’r arolwg ac i’w dynnu at sylw’r trigolion. Mae’r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi dechrau arolwg ar wefan y Comisiwn yn www.cflll-cymru.gov.uk;

  2. bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl wybodaeth a’r cynigion a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol hwn ac yn cyhoeddi eu cynigion drafft, ac yn gwahodd sylwadau ar eu hargymhellion. Caniateir cyfnod rhesymol ar gyfer cyflwyno sylwadau ar y cynigion drafft neu ar gyfer cyflwyno cynigion amgen;

  3. anfonir copi o’u hadroddiad ar y cynigion drafft at bob un o’r rheini a dderbyniodd gopi o’r llythyr yn eu hysbysu am ddechrau’r arolwg, ac at y rheini a wnaeth gynrychioliadau cychwynnol. Cyhoeddir argaeledd cynigion drafft y Comisiwn yn y wasg leol a gofynnir i’r awdurdodau lleol osod copïau ar gadw i’w harchwilio gan y cyhoedd. Cyhoeddir copi o’r adroddiad ar y cynigion drafft hefyd ar wefan y Comisiwn;

  4. mewn amgylchiadau eithriadol, gallai’r Comisiwn deimlo ei bod yn briodol cynnal cyfarfod cyhoeddus neu ymchwiliad cyhoeddus anffurfiol i drafod eu cynigion drafft, ond ni wneir hyn fel mater o reol. Gall y Comisiwn hefyd ei gwneud yn ofynnol cynnal ymchwiliad lleol mewn perthynas â’r arolwg;

  5. bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl wybodaeth a’r cynrychioliadau a wneir mewn ymateb i’w cynigion drafft cyn cyhoeddi eu cynigion terfynol. Fel o’r blaen, gofynnir i’r awdurdod lleol osod copïau ar gadw i’r cyhoedd eu harchwilio, a gosodir hysbysebion mewn papurau newydd lleol. Anfonir copïau at yr ymgynghoreion a’r ymatebwyr ac fe’u cyhoeddir ar wefan y Comisiwn; ac

  6. anfonir cynigion terfynol y Comisiwn at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a all wneud gorchymyn, o dan Adran 58 y Ddeddf, yn gweithredu cynigion y Comisiwn naill ai fel y’u cyflwynwyd neu gydag addasiadau. Bydd cyfnod o chwe wythnos o leiaf lle y gellir cyflwyno cynrychioliadau ar gynigion terfynol y Comisiwn yn uniongyrchol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

5. DEFNYDDIO’R IAITH GYMRAEG

5.1 Wrth gynnal eu harolygon bydd y Comisiwn yn cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Gorffennaf 1998. Gellir cael copïau o’r cynllun o swyddfeydd y Comisiwn neu gellir ei weld ar wefan y Comisiwn yn www.cflll-cymru.gov.uk.

5.2 Mae’n ofynnol yn ôl Deddf 1972 i o leiaf un aelod o’r Comisiwn allu siarad Cymraeg.

Atodiad 1

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 RHAN IV

ADOLYGIAD O FFINIAU SIROEDD CADWEDIG

CYFARWYDDYD I GOMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

1. Yn y Cyfarwyddyd hwn –

ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

ystyr “y Comisiwn” yw Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru;

ystyr “y Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

ystyr “sir gadwedig” yw’r ystyr a roddir i “preserved county” yn adran 270(1) o’r Ddeddf.

2. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) mae’r pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 54 a 56 o’r Ddeddf bellach wedi’u breinio yn y Cynulliad cyn belled â’u bod yn arferadwy yng Nghymru.

3. Yn unol ag adran 56(1) o’r Ddeddf mae’r Cynulliad yn cyfarwyddo’r Comisiwn I gynnal adolygiad o’r ffiniau o’r siroedd cadwedig hynny yng Nghymru sydd wedi’u rhestru yn yr Atodlen gysylltiedig.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

11 Mawrth 2002

ATODLEN

Y SIROEDD CADWEDIG A’U HARDALOEDD

Clwyd

Sir Clwyd ac eithrio cymunedau

Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn

Dyfed

Sir Dyfed

Gwent

Sir Gwent

Gwynedd

Sir Gwynedd

Morgannwg Ganol

Sir Morgannwg Ganol ac eithrio cymunedau Y Wîg, Saint-y-brid, Ewenni a Phen-tyrch

Powys

Sir Powys gan ychwanegu Chymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn o sir Clwyd

De Morgannwg

Sir De Morgannwg gan ychwanegu chymunedau’r Wîg, Saint-y-brid, Ewenni a Phen-tyrch o sir Morgannwg Ganol

Gorllewin Morgannwg

Sir Gorllewin Morgannwg

Atodiad 2

Y Siroedd a Gedwir a’u Hardaloedd

Diffiniodd Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ardaloedd y siroedd a gedwir fel a ganlyn:

Enw

Ardal

Clwyd

Sir Clwyd ond heb gynnwys Cymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn.

Dyfed

Sir Dyfed.

Gwent

Sir Gwent.

Gwynedd

Sir Gwynedd.

Mid Glamorgan* Morgannwg Ganol

Sir Morgannwg Ganol ond heb gynnwys cymunedau’r Wîg, Saint-y-brid, Ewenni a Phentyrch.

Powys

Sir Powys yn ogystal â chymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn o sir Clwyd.

South Glamorgan*

De Morgannwg

Sir De Morgannwg yn ogystal â chymunedau’r Wîg, Saint-y-brid, Ewenni a Phentyrch o sir Morgannwg Ganol.

West Glamorgan Gorllewin Morgannwg.

Sir Gorllewin Morgannwg.

* Diwygiwyd y ffin rhwng siroedd a gedwir Morgannwg Ganol a De Morgannwg gan Orchymyn (Ardaloedd) Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg 1996.

Atodiad 3

DARPARIAETHAU SY’N BERTHNASOL I SIROEDD A GEDWIR

1. Deddf Is-Gapteiniaid 1997

Penodir Arglwydd-Is-Gapten gan y Goron ar gyfer pob sir yng Nghymru, pob sir yn Lloegr, a phob ardal yn yr Alban. At ddibenion Deddf 1997 ystyrir y siroedd yng Nghymru fel y siroedd a gedwir. Mae’r Arglwydd-Is-Gapten yn gweithredu fel cynrychiolydd y Frenhines sy’n rheoli materion dinesig y Frenhines ac yn trefnu ymweliadau brenhinol.

2. Deddf y Siryfion 1887

Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer penodi Siryfion (a’u hadwaenir wrth gael eu penodi ar gyfer sir fel Uwch Siryfion) i gyflawni rhai swyddogaethau sy’n ymwneud â gweinyddu cyfiawnder, yn ogystal â swyddogaethau seremonïol. At ddibenion penodi Siryf yn flynyddol ystyrir y siroedd yng Nghymru fel y siroedd a gedwir.

3. Deddf Amddiffyn 1842

Yn Adran 19 Deddf Amddiffyn 1842 (prisio eiddo lle na cheir cytundeb) ac yn Adrannau 23 a 24, ystyr “sir” mewn perthynas â Chymru yw sir a gedwir.

4. Deddf Trwyddedu 1964

Yn Adran 85 (partïon a drefnir er budd), 188 (cau eiddo trwyddedig lle ceir terfysg) a 193 (datgymhwyso ynadon) Deddf Trwyddedu 1964, ystyr “sir” mewn perthynas â Chymru yw sir a gedwir.

5. Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967

Yn Adran 10 Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (awdurdodaeth mewn perthynas â physgodfeydd) mewn perthynas â Chymru, mae’r cyfeiriad at sir yn cynnwys cyfeiriad at sir a gedwir.

6. Deddf Dehongli 1978

Yn Atodlen 1 Deddf Dehongli 1978 (diffiniad o eiriau ac ymadroddion), diffinnir “Cymru” fel ‘ardal gyfun y siroedd a grëwyd gan Adran 20 Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i gweithredwyd yn wreiddiol, ond yn amodol ar unrhyw newid a wnaed o dan Adran 73 y Ddeddf honno (newid dilynol i ffin yn dilyn newid cwrs dŵr).’

7. Deddf Ynadon Heddwch 1979

Yn Adran 1 Deddf Ynadon Heddwch 1979 (ardaloedd comisiwn), Adran 4 y Ddeddf honno (ardaloedd sesiynau bach) ac Adran 19 y Ddeddf honno (darpariaethau cyffredinol o ran pwyllgorau llysoedd yr ynadon), mae cyfeiriadau at siroedd mewn perthynas â Chymru yn gyfeiriadau at siroedd a gedwir.

8. Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980

Yn Adran 1 (cyhoeddi gwŷs i’r sawl a gyhuddwyd neu warant i’w arestio), Adran 2 (awdurdodaeth i ymdrin â chyhuddiadau) ac Adran 3 (troseddau a gyflawnir ar ffiniau ac ati) Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980, mae cyfeiriadau at siroedd mewn perthynas â Chymru yn gyfeiriadau at siroedd a gedwir.

9. Deddf Cynrychioli’r Bobl 1973

Yn narpariaethau adran 177 Deddf Cynrychioli’r Bobl 1973 (trosedd etholiad lleol y gellir gosod cosb ddiannod arni), ystyr “sir” mewn perthynas â Chymru yw sir a gedwir. Yn Atodlen 1 y Ddeddf honno (rheolau etholiad seneddol), yn yr Atodiad, yn y rhan sy’n sôn am ffurflen y dystysgrif i’w hardystio ar yr writ, mewn perthynas ag unrhyw etholaeth yng Nghymru mae “sir” yn y ffurflen hon yn cyfeirio at sir a gedwir.

10. Deddf Etholaethau Seneddol 1986

Ym mharagraff 4 is-baragraff (1)(a) Atodlen 2 Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (rheolau ar gyfer ailddosbarthu seddau), ystyr “sir” mewn perthynas â Chymru yw sir a gedwir.

11. Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999)

Mae is-adran (1A) Adran 54 y Ddeddf hon (cynigion ar gyfer newidiadau o fewn ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru) yn datgan “Gall y Comisiwn i Gymru, o ganlyniad i arolwg a gynhaliwyd ganddynt o dan y Rhan hon o’r Ddeddf hon, wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau yn ardal sir a gedwir yr ymddengys i’r Comisiwn eu bod yn ddymunol o ystyried, yn benodol, y dibenion y cedwir y siroedd a gedwir ar eu cyfer.”

Mae Adran 56(1) y Ddeddf hon (pðer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddyd i gynnal arolygon) yn datgan:

“(1) Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn i Gymru gynnal arolwg o –

  1. Cymru gyfan,
  2. unrhyw un ardal llywodraeth leol neu fwy neu rannau o ardaloedd o’r fath yng Nghymru, neu
  3. unrhyw un sir a gedwir neu fwy neu rannau o siroedd o’r fath,

at ddiben ystyried p’un a ddylid gwneud cynigion o’r fath mewn perthynas â’r ardal y cynhelir arolwg ohoni fel y’u hawdurdodir gan adran 54 uchod a pha gynigion, os o gwbl, i’w gwneud; a bydd y Comisiwn, os cred bod hynny’n addas, yn llunio cynigion o’r fath yn unol â hynny.”

Yn Adran 224 y Ddeddf hon (trefniadau gan brif gynghorau ar gyfer cadw dogfennau) ystyr “sir”, mewn perthynas â Chymru, yw sir a gedwir.

Yn Adran 269 y Ddeddf hon (ystyr “Cymru” a “Lloegr”), ystyr “Cymru” yw ardal gyfun y siroedd a gedwir ac nid yw “Lloegr” yn cynnwys unrhyw ardal a gynhwysir o fewn unrhyw un o’r siroedd a gedwir.