Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

ARWEINIAD AR AROLYGON CYMUNEDOL(1)

1. Arolygon Cymunedol

Gall Arolygon Cymunedol fod:

(A) i weithredu newid i ffin y gymuned yn ôl Adran 55 (2) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Y prif gyngor sydd i gynnal arolwg felly. Os yw'r prif gyngor, ar ôl cwblhau'i arolwg, yn penderfynu gwneud cynigion ar gyfer newid, dylai gyflwyno'i adroddiad sy'n cynnwys ei gynigion, i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn"). Os gwêl y Comisiwn yn dda (os yw'r Comisiwn, hynny yw, o'r farn bod y cynigion yn briodol ar gyfer sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn yr ardal dan arolwg), bydd y Comisiwn yn gwneud y cynigion ar gyfer newid i'r Cynulliad, gydag addasiadau neu heb addasiadau.

NEU

(B) i weithredu newid i drefniadau etholiadol cymunedau (nifer y cynghorwyr cymuned a, lle mae ganddynt wardiau, y ffiniau a nifer y cynghorwyr ym mhob ward) yn ôl Adran 57 (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Yma eto y prif gyngor sydd i gynnal yr arolwg, ond heb gyfeiriad i'r Comisiwn. Os yw'r prif gyngor yn penderfynu y dylid gwneud newidiadau i'r trefniadau etholiadol, mae'r prif gyngor ei hun yn gwneud y Gorchymyn sy'n gweithredu'r newidiadau hynny (2).

HEFYD

(C) Gall newidiadau gael eu gwneud yn ogystal (yn ôl adran 54 (1) (e) Deddf 1972) i drefniadau etholiadol cymuned o ganlyniad i newid a wnaed i'r ffin gymunedol yn ôl arolwg Adran 55(2) o dan (A) uchod. Yn yr amgylchiadau hyn bydd newidiadau i'r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned yn cael eu cynnwys mewn unrhyw Orchymyn gan y Cynulliad i newid y ffin gymunedol.

Mae Adrannau 54(1) a 55 (3) Deddf 1972 yn pennu gofyniad bod newidiadau arfaethedig yn ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn a'r prif gyngor er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

2. Nodi Newidiadau Posibl

Mae gan y prif gyngor ddyletswydd yn ôl adran 55 (3) Deddf 1972 i arolygu pob un o'r cymunedau yn ei ardal yn barhaus. Er mwyn cyflawni'r ddyletswydd hon, dylai'r prif gyngor gynnal mecanwaith i nodi newidiadau posibl. Gellir cyflawni hyn drwy gyfuniad o ymgynghori cyfnodol â'r cynghorau cymuned ac ystyriaeth barhaus o ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol wrth ystyried materion fel cynllunio (gan gynnwys paratoi Cynlluniau Datblygu Unedol) a gweinyddiaeth etholiadol.

3. Gweithdrefnau / Amserlen Arolygu

Mae'n rhaid i arolygon, pa un a'u cynhelir gan y Comisiwn, neu gan y prif gyngor, gydymffurfio â'r Weithdrefn ar gyfer arolygon fel y'i nodir yn fras yn Adran 60 Deddf 1972. Prif egwyddor Adran 60 yw rhoi i bawb o'r rheiny a all fod â diddordeb yn yr arolwg y cyfle i gyfleu eu barn drwy ymgynghori.

Yn unol ag arfer a ddatblygwyd gan y Comisiwn i sicrhau cydymffurfio â gofyniad ymgynghori adran 60, mae arolygon yn cael eu cynnal yn gyffredinol mewn tri phrif gam: Rhagarweiniol, Cynigion Drafft a Chynigion Terfynol.

Rhagarweiniol

Bydd y prif gyngor yn penderfynu lansio arolwg cyffredinol o gymunedau yn ei ardal a gall ymlaen llaw ystyried mabwysiadu polisïau ar gyfer ymgymryd â'r arolwg. Gall y rhain ymwneud â materion sylweddol fel nifer y cynghorwyr, a materion gweithdrefnol fel hyd cyfnodau ymgynghori, ffurf dogfennau ymgynghori, etc. Mae gwaith rhagarweiniol arall y gellir ei wneud cyn cychwyn yr arolwg yn cynnwys paratoi rhestr o ymgynghoreion, gwaith mapio, casglu ystadegau etholiadol a data arall, llythyrau a hysbysiadau (gan gynnwys cyfieithu) etc.

Bydd y prif gyngor yn ysgrifennu at gynghorau cymuned, a phartïon eraill a all fod â diddordeb, gyda golwg ar nodi newidiadau posibl i'r ffiniau Cymunedol a threfniadau etholiadol. Gallai hysbysiad cyhoeddus yn cyhoeddi'r arolwg fod yn ddefnyddiol. Byddai'n briodol caniatáu cyfnod digonol ar gyfer yr ymgynghoriad cychwynnol hwn, ac awgrymir y byddai rhyw 9 wythnos yn ddigonol ar gyfer y broses ymgynghori ac i gynnal cyfarfodydd cyngor. Gellir coladu'r wybodaeth ganlyniadol wedyn a'i dadansoddi, a llunio Cynigion Drafft a'u mabwysiadu gan y prif gyngor drwy'r mecanwaith priodol.

Cynigion Drafft

Cyhoeddir y Cynigion Drafft er mwyn sicrhau digon o ymgynghori yn unol ag adran 60. Golyga hyn y gellir hysbysu yn eu cylch drwy bapurau newydd lleol, gwefan y prif gyngor a hysbysiadau'n cael eu rhoi ar hysbysfyrddau'r prif gyngor a'r cynghorau cymuned, a thrwy unrhyw ddull arall yr ystyria'r prif gyngor y bo'n briodol. Byddai'r hysbysiad yn cynnwys manylion y Cynigion Drafft a mapiau (neu fanylion am y modd i gael gafael ar fapiau, ac ymhle) a byddai'n gofyn i gynghorau cymuned a phob parti â diddordeb, gan gynnwys y cyhoedd, gynnig sylwadau ar y Cynigion Drafft. Caniateir cyfnod o ryw 9 wythnos fel arfer ar gyfer ymgynghori (eto i ganiatáu ar gyfer y cylch o gyfarfodydd cyngor).

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, caiff y sylwadau ar y Cynigion Drafft eu hystyried a llunnir Cynigion Terfynol. Mae'r Cynigion Terfynol yn cael ei mabwysiadu gan y prif gyngor wedyn drwy'r mecanwaith priodol.

Cynigion Terfynol

Dylai'r prif gyngor gyhoeddi'r Cynigion Terfynol yn yr un modd â'r Cynigion Drafft. Fodd bynnag, lle bo'r Cynigion Terfynol yn golygu newidiadau i ffiniau cymunedol (hynny yw, o dan 1 A uchod) bydd y prif gyngor yn cyflwyno adroddiad yn eu cynnwys i'r Comisiwn. Dylai'r adroddiad cyhoeddedig felly esbonio'n glir y dylid cyfeirio sylwadau'n ymwneud â'r Cynigion Terfynol i'r Comisiwn. Efallai y dymuna'r prif gyngor ymgynghori ar y Cynigion Terfynol eto cyn eu mabwysiadu'n derfynol a'u cyflwyno i'r Comisiwn. Os felly, byddai'r prif gyngor yn caniatáu ysbaid priodol eto ar gyfer derbyn sylwadau. Byddai'r prif gyngor yn rhoi ystyriaeth bellach wedyn i unrhyw sylwadau a dderbynnir cyn mabwysiadu'r Cynigion Terfynol a'u cyflwyno i'r Comisiwn.

4. Camau Terfynol (Arolygon Ffiniau Cymunedol)

Lle bo'r prif gyngor wedi cynnal arolwg o ffin gymunedol ac wedi cyflwyno'i adroddiad yn cynnwys ei Gynigion Terfynol (gan gynnwys newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol) i'r Comisiwn, bydd y Comisiwn yn ystyried y cynigion ac yn cyhoeddi ei adroddiad ei hun a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad.

Mae'r Cynulliad wedyn, os gwêl yn dda, yn derbyn (gydag addasiadau neu heb addasiadau) neu'n gwrthod cynnig y Comisiwn, a lle bo'n briodol, yn gwneud y gorchymyn yn unol ag adran 58 (2) Deddf 1972 gan ddilyn y camau canlynol:

Y rhain yw'r camau sylfaenol y bydd swyddogion y Cynulliad yn eu cymryd wrth wneud gorchymyn, bob un ohonynt yn amodol ar ystyriaeth a chytundeb Gweinidogion.

Dylai cyswllt agos rhwng swyddogion y Cynulliad a'r prif gyngor gael ei gadw er mwyn cytuno dyddiad priodol i roi'r gorchymyn mewn grym.

5. Camau Terfynol (Arolygon o Drefniadau Etholiadol Cymunedol)

Lle bo'r prif gyngor wedi cynnig newidiadau sylweddol i drefniadau etholiadol cymunedol (h.y. ffiniau wardiau cymunedol a/neu nifer y cynghorwyr) (fel ag yn 1 B uchod) yna yng ngham olaf yr arolwg gwneir adroddiad i'r prif gyngor sy'n gwneud y gorchymyn yn unol ag adran 57 (4) Deddf 1972.

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol I Gymru
Tŷ Caradog
1-6 Plas Sant Andreas
CAERDYDD
CF10 3BE
Ffôn: 02920 395031
Ffacs: 02920395250
E-bost: cflll.cymru@cymru.gsi.gov.uk
Y We: www.cflll-cymru.gov.uk

Nodidau

(1) Gall Arolygon Cymunedol gael eu cynnal yn ogystal gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn unol â Chyfarwyddyd gan y Cynulliad yn ôl adran 56 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'r Arweiniad hwn fodd bynnag yn ymdrin yn unig ag Arolygon Cymunedol sy'n cael eu cynnal gan brif gynghorau yn ôl adran 55 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

(2) Mae newidiadau felly i drefniadau etholiadol yn cael eu dosbarthu fel "newidiadau sylweddol", a chânt eu gwahaniaethu oddi wrth "newidiadau canlyniadol" a wneir o "ganlyniad" i newid ffin.

(3) Mae'r Rheolau Sefydlog yn www.wales.gov.uk/keypubstandingorders/content/standingorders-untracked-e.pdf.

19/5/2006