AROLWG O ARDALOEDD LLYWODRAETH LEOL YNG NGHYMRU
NODYN ARWEINIAD
CYNNWYS
1. CYFLWYNIAD
1.1 Sefydlwyd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ym 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Ei rôl yw cynnal arolwg parhaus o bob ardal llywodraeth leol yng Nghymru, ynghyd â’r trefniadau etholiadol ar gyfer y prif ardaloedd, a gwneud y cyfryw gynigion i Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach) ag yr ymddengys eu bod yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
1.2 Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) system lywodraeth leol yng Nghymru a chanddi ddwy haen. Diddymwyd y cynghorau sir a dosbarth a sefydlwyd o dan Ddeddf 1972 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ac fe’u disodlwyd gan 22 awdurdod unedol newydd. Daeth y strwythur newydd yn weithredol o 1 Ebrill 1996. O 1 Gorffennaf 1999 trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru (mewn perthynas â Chomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.3 O dan Adran 55(1) o’r Ddeddf, mae dyletswydd statudol ar y Comisiwn i arolygu pob un o’r prif ardaloedd yn barhaus at ddiben ystyried gwneud cynigion am newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg o dan Adran 56. Mae Adran 55(2) yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor arolygu ei ardal gyfan yn barhaus at ddiben ystyried a ddylid gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas â sefydlu cymunedau newydd, diddymu cymunedau neu newid cymunedau yn ei ardal.
1.4 Yn ogystal, mae Adran 55(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ystyried unrhyw adroddiad a gyflwynir o dan Adran 55(2) ac os gwêl yn dda wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel y’u cyflwynwyd neu gyda diwygiadau.
1.5 O ganlyniad i’r cyfryw arolygon, caiff y Comisiwn wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu newidiadau yr ymddengys i’r Comisiwn eu bod yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae’r arweiniad hwn yn nodi cwmpas y cyfryw arolygon gan esbonio’r gweithdrefnau y bydd y Comisiwn yn eu dilyn. Y bwriad hefyd yw rhoi cyngor ymarferol i gynorthwyo awdurdodau lleol wrth gynnal eu harolygon eu hunain.
1.6 Noder nad yw’r nodyn arweiniad hwn yn cwmpasu arolygon at ddiben gwneud cynigion am newid cadarnhaol i drefniadau etholiadol mewn prif ardal neu gymuned. Mae nodyn arweiniad o’r enw "Review of Electoral Arrangements for Welsh Principal Areas" ar gael gan y Comisiwn ar gyfer arolygon etholiadau prif ardaloedd. Lluniwyd y nodyn hwn ar gyfer y rhaglen o arolygon cychwynnol o bob prif ardal yng Nghymru a ddechreuwyd ym mis Tachwedd 1995. Mae’r gweithdrefnau a’r egwyddorion a amlinellwyd yn y nodyn yn gymwys o hyd.
2. CWMPAS YR AROLWG
2.1 Mae Adran 54(1) o’r Ddeddf yn darparu y caiff y Comisiwn o ganlyniad i arolwg a gynhaliwyd ganddo wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu newidiadau yr ymddengys i’r Comisiwn eu bod yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Dim ond o ganlyniad i arolwg a gynhaliwyd gan y Comisiwn (neu gan brif gyngor mewn perthynas ag arolwg o gymuned a gynhaliwyd o dan Adran 55(2)) y gellir gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau. O dan Adran 54(1) caiff y Comisiwn argymell newidiadau drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol neu unrhyw gyfuniad o’r ffyrdd hyn:
(a). newid ardal llywodraeth leol, hynny yw ardal prif gyngor neu gymuned;
(b). sefydlu ardal llywodraeth leol newydd trwy:
- uno dwy neu fwy o’r prif ardaloedd neu ddwy neu fwy o’r cymunedau;
- cyfuno rhannau o’r prif ardaloedd neu rannau o’r cymunedau; neu
- gwahanu rhan o brif ardal neu ran o gymuned.
(c). diddymu prif ardal a’i rhannu ymhlith y prif ardaloedd eraill; neu
(cc). diddymu cymuned a’i rhannu ymhlith ardaloedd eraill o’r un disgrifiad;
(d). sefydlu cymuned newydd trwy:
- sefydlu fel cymuned unrhyw ardal nad yw’n gymuned neu’n rhan o gymuned; neu
- cyfuno’r cyfryw ardal neu unrhyw ran ohoni ag un neu fwy o gymunedau neu rannau o gymunedau;
(e). newid trefniadau etholiadol sy’n ôl-ddilynol ar gynigion am unrhyw newid i ardal llywodraeth leol (ee o ganlyniad i newid arfaethedig i’r ffin rhwng prif ardaloedd neu gymunedau); neu’n gadarnhaol, hynny yw newid sy’n ddymunol am ei rinweddau ei hun, waeth a yw’n cael ei weithredu ar yr un pryd â’r newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol; neu
(f). newid ardaloedd yr heddlu (gan gynnwys newid o ganlyniad i ostyngiad neu gynnydd yn nifer ardaloedd yr heddlu) mewn cysylltiad â newid i ardal llywodraeth leol.
2.2 Caiff y Comisiwn hefyd, o ganlyniad i arolwg a gynhaliwyd o dan Ran IV o’r Ddeddf, wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu newidiadau i ardal mewn sir a gadwyd yr ymddengys i’r Comiswn eu bod yn ddymunol gan roi sylw, yn benodol, i ba ddibenion y cadwyd y siroedd ee ffiniau etholaethau Seneddol, llysoedd yr ynadon, yr Arglwyddiaeth Rhaglaw a’r Siryddiaeth (Adran 54(1A)).
2.3 Pan fydd y Comisiwn yn gwneud cynigion i sefydlu prif ardal newydd trwy unrhyw un o’r moddau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.1 (ii) uchod, mae’n ofynnol iddo hefyd bennu a ddylai’r ardal newydd fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol (Adran 54(1B)).
2.4 Bydd y Comisiwn yn gwneud unrhyw gynigion am newidiadau o dan unrhyw un o’r dulliau uchod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gaiff, os gwêl yn dda, weithredu drwy orchymyn unrhyw gynigion a wnaed, naill ai fel y’u cyflwynwyd neu gyda diwygiadau (Adran 58(2)). Fodd bynnag dim ond mewn achosion lle mae’r Comisiwn a’r prif gyngor lle y lleolir y gymuned yn dadlau yn eu cylch (Adran 54(2) a 57(7)) y gwneir cynigion am newidiadau cadarnhaol i drefniadau etholiadol cymuned i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. CYFRIFOLDEBAU
3.1 Mae’r cyfrifoldeb dros arolygu ardal llywodraeth leol yn dibynnu ar y math o ardal a arolygir a’r newidiadau ôl-ddilynol a nodir.
Arolygu Ardaloedd Prif Gynghorau
3.2 Mae dyletswydd barhaol ar y Comisiwn (Adran 55(1)) i arolygu pob un o’r prif ardaloedd yng Nghymru’n barhaus gyda’r bwriad o wneud y cyfryw gynigion am newidiadau ag yr awdurdodwyd gan Adran 54. Fodd bynnag caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i arolygu Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni ar unrhyw adeg (Adran 56(1)).
3.3 Mae Adran 55(1)) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ystyried unrhyw gais gan awdurdod lleol yr ymddengys iddo fod ganddo ddiddordeb mewn ardal benodol, y dylai’r Comisiwn wneud cynigion am y cyfryw newidiadau ag yr awdurdodwyd yn Adran 54. Os bydd y Comisiwn o’r farn y byddai ystyried y cyfryw gais yn ei rwystro rhag cyflawni ei swyddogaethau’n briodol nid yw’n ofynnol iddo weithredu arno; fel arall, bydd y Comisiwn, os gwêl yn dda, yn llunio’r cyfryw gynigion.
Cymunedau
3.4 Dyletswydd y prif gynghorau o dan Adran 55(2) yw arolygu eu hardaloedd yn barhaus ac argymell i’r Comisiwn y cyfryw gynigion, ar gyfer sefydlu cymunedau newydd, diddymu cymunedau neu newid cymunedau, ag yr awdurdodwyd o dan Adran 54. Mae’n ofynnol hefyd i’r prif gynghorau ystyried unrhyw gais a wnaed gan unrhyw gyngor cymuned neu gyfarfod cymuned mewn perthynas ag unrhyw un o’r materion hyn yr ymddengys i’r prif gyngor fod ganddo ddiddordeb, er bod y prif gynghorau hefyd wedi eu hesgusodi rhag gweithredu ar gais o’r fath os ydynt o’r farn y byddai’n eu rhwystro rhag cyflawni eu swyddogaethau yn iawn.
3.5 Mae Adran 55(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ystyried unrhyw adroddiad a gyflwynir iddo gan brif gyngor o dan Adran 55(2) ac os gwêl yn dda i wneud y cynigion hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, naill ai fel y’u cyflwynwyd iddo neu gyda diwygiadau. Fodd bynnag os yw’r Comisiwn o’r farn bod argymhellion y prif gyngor yn anaddas ac na ellid eu haddasu’n foddhaol i sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, caiff arolygu’r brif ardal gyfan honno neu ran ohoni ei hun. Yn yr un modd, os yw’r prif gyngor wedi cyflwyno adroddiad nad oes angen cyflwyno unrhyw gynigion, caiff y Comisiwn ei hun gynnal arolwg. Ar ôl cynnal arolwg, caiff y Comisiwn wneud y cyfryw gynigion ag yr awdurdodwyd gan Adran 54.
3.6 Dylid nodi mai’r prif gyngor o dan sylw sy’n gyfrifol am unrhyw newid i enw gymuned o dan sylw o dan Adran 76. Hysbysir unrhyw newid i enw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, at Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Arolwg Ordnans ac at y Cofrestrydd Cyffredinol. Bydd y prif gyngor hefyd yn cyhoeddi’r newid yn y gymuned ac mewn mannau eraill fel y bo’n briodol.
Newidiadau ôl-ddilynol
3.7 Os bydd y Comisiwn neu brif gyngor, wrth gynnal arolwg o dan Adran 55 o’r Ddeddf, yn cynnig newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol, mae’n rhaid iddo ystyried hefyd a ddylid gwneud unrhyw gynigion ôl-ddilynol ar gyfer y cynghorau cymuned neu’r siroedd a gadwyd. Mae Adran 55(5) yn darparu bod yn rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor sy’n bwriadu gwneud cynigion neu argymhellion ar gyfer newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol ystyried hefyd a ddylai, o ganlyniad i’r newidiadau gynnig:
-
sefydlu cyngor cymuned (naill ai ar gyfer un gymuned neu grŵp o gymunedau);
- diddymu cyngor cymuned;
-
gwahanu cymuned oddi wrth grŵp o gymunedau ac iddo gyngor cymuned cyffredin;
-
ychwanegu cymuned i grŵp o gymunedau ac iddo gyngor cymuned cyffredin;
-
gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau etholiadol i gymuned neu grŵp o gymunedau yn ôl-ddilynol ar unrhyw un o’r newidiadau uchod; a
- newid ffiniau unrhyw sir a gadwyd.
3.8 Os bydd y Comisiwn, wrth gynnal arolwg o dan adran 55 neu 56, yn bwriadu gwneud, neu argymell gwneud cynigion am unrhyw newid i ardaloedd llywodraeth leol mae’n rhaid iddo ystyried unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i ranbarthau etholiadol y prif gynghorau neu’r wardiau cymuned. (Adran 54(1)(e)).
4. CYFARWYDDIADAU
4.1 Mae Deddf 1972 yn awdurdodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyhoeddi cyfarwyddiadau:
- i’r Comisiwn (o dan Adran 56(1)) gynnal arolwg o:
- Cymru gyfan,
- unrhyw un neu fwy o ardaloedd llywodraeth leol neu rannau o’r cyfryw ardaloedd yng Nghymru, neu
- unrhyw un neu fwy o’r siroedd a gadwyd neu rannau o’r cyfryw siroedd.
-
i’r Comisiwn gynnal arolwg pellach o ardal neu ei threfniadau etholiadol os yw wedi penderfynu gwneud gorchymyn sy’n gweithredu cynigion a wnaed gan y Comisiwn gyda diwygiadau (Adran 58(3));
-
i’r Comisiwn neu’r prif gynghorau er arweiniad wrth arolygu ardaloedd llywodraeth leol neu drefniadau etholiadau (Adran 59(1));
-
i’r Comisiwn ynghylch ym mha drefn y dylid cynnal arolygon o ardaloedd llywodraeth leol neu’r trefniadau etholiadau o dan Adran 55 neu 56 (ond nid arolygon at ddiben gwneud cynigion am newidiadau cadarnhaol i drefniadau etholiadau o dan Adran 57) – (Adran 59(3));
-
i’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol iddo ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer rhanbarthau etholiadau aml-aelod ar gyfer prif ardal gyfan neu ran ohoni (Atodlen 11, paragraff 1A(3)); a
-
i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad ar unrhyw un o’i arolygon cychwynnol o drefniadau etholiadol o unrhyw brif ardal cyn dyddiad penodedig (Adran 64(3)(a));
4.2 Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wneud rheoliadau i bennu’r weithdrefn a ddefnyddir gan y Comisiwn neu brif gyngor i gynnal arolygon (Adran 60(6)).
5. GWEITHDREFN
5.1 Mae Adran 60 o’r Ddeddf yn gosod y gweithdrefnau a fabwysiedir gan y Comisiwn (neu brif gyngor) wrth gynnal arolygon. Crynhoir y gweithdrefnau isod:
- bydd y Comisiwn (neu brif gyngor) yn rhoi rhybudd ei fod yn bwriadu cynnal arolwg gan ac ymgyngori â phob parti â diddordeb, gan gynnwys yr awdurdod(au) lleol ac awdurdod(au) yr heddlu o dan sylw, cyrff cyhoeddus eraill a’r cyhoedd, gyda’r bwriad o wneud cynrychioliadau mewn perthynas â’r arolwg. Mae’n ofynnol hefyd i’r Comiswn (neu brif gyngor) roi cyhoeddusrwydd i unrhyw gyfarwyddyd perthnasol a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mwyn cydymffurfio â’r rhan hon o’r Ddeddf, bydd y Comisiwn, yn ogystal ag ysgrifennu i’r cyrff y soniwyd amdanynt uchod, yn rhoi hysbysebion yng ngholofnau Hysbysiadau Cyhoeddus mewn papurau newydd lleol sy’n cyhoeddi dyddiad cychwyn yr arolwg. Darperir copïau o’r hysbysiadau hyn i’r awdurdodau lleol a gofynnir iddynt eu rhoi mewn mannau cyhoeddus megis llyfrgelloedd, neuaddau cymuned ac ati, er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i ddechreuad yr arolwg a thynnu sylw trigolion ato. Mae’r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi dechreuad arolwg ar wefan y Comisiwn ar www.cflll-cymru.gov.uk;
- bydd y Comisiwn (neu’r prif gyngor) yn ystyried pob darn o wybodaeth a phob cynnig a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol hwn a chyhoeddi ei gynigion drafft, a gofyn am sylwadau ar ei argymhellion. Caniateir cyfnod rhesymol i gyflwyno sylwadau ar y cynigion drafft neu i gyflwyno cynigion eraill;
-
anfonir copi o’r adroddiad ar y cynigion drafft i bob un a gafodd gopi o’r llythyr dechrau arolwg, ac i’r rheiny a wnaeth gynrychioliadau cychwynnol. Cyhoeddir yn y wasg leol ble a phryd y bydd cynigion drafft y Comisiwn (neu’r prif gynghorau) ar gael a gofynnir i’r awdurdodau lleol roi copïau ar gadw i’r cyhoedd eu harchwilio. Cyhoeddir copi o’r adroddiad ar y cynigion drafft ar wefan y Comisiwn hefyd;
- mewn achosion eithriadol, hwyrach y bydd y Comisiwn (neu brif gyngor) o’r farn ei bod yn briodol trefnu cyfarfod cyhoeddus neu ymchwiliad cyhoeddus anffurfiol er mwyn trafod ei gynigion drafft, ond ni fydd yn gwneud hyn fel mater o drefn. Mae gan y Comisiwn (neu’r prif gyngor) y neu pŵer hefyd i beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn perthynas â’r arolwg;
- bydd y Comisiwn (neu’r prif gyngor) yn ystyried yr holl wybodaeth a’r cynrychioliadau a wnaed mewn ymateb i’w gynigion drafft cyn cyhoeddi ei gynigion terfynol. Fel uchod, gofynnir i’r awdurdod lleol roi copïau ar gadw i’r cyhoedd eu harchwilio, a rhoddir hysbysebion mewn papurau lleol. Anfonir copïau i’r rhai yr ymgynghorwyd â hwy a’r rhai a atebodd ac fe’u cyhoeddir ar wefan y Comisiwn; a
- anfonir cynigion terfynol y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gaiff wneud gorchymyn o dan Adran 58 o’r Ddeddf, sy’n gweithredu cynigion y Comisiwn naill ai fel y’u cyflwynwyd neu gyda diwygiadau. Bydd cyfnod o chwe wythnos o leiaf pryd y gellir gwneud cynrychioliadau ar gynigion terfynol y Comisiwn yn uniongyrchol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyflwynir cynigion terfynol y prif gyngor i’r Comisiwn a gaiff eu haddasu, eu gwrthod neu eu cyflwyno fel y maent i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
6. DEFNYDDIO’R IAITH GYMRAEG
6.1 Wrth gynnal ei arolygon bydd y Comisiwn yn cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Gorffennaf 1998. Gellir cael copi ohono o swyddfeydd y Comisiwn neu ei ddarllen ar wefan y Comisiwn ar www.cflll-cymru.gov.uk.
6.2 Mae Deddf 1972 yn ei gwneud yn ofynnol bod un aelod o leiaf o’r Comisiwn yn gallu siarad Cymraeg.
7. GWYBODAETH BELLACH
7.1 Am ragor o wybodaeth am waith y Comisiwn ac am arolygon penodol, cysylltwch â:
Yr Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas St Andrews CAERDYDD CF10 3BEFfôn: 029 20395031
Ffacs: 029 20395250
E-bost: cflll.cymru@cymru.gsi.gov.uk
Gwefan: www.cflll-cymru.gov.uk
