ADRODDIAD BLYNYDDOL 2006/07
Rhagair y Cadeirydd
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, parhaodd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn i ddarparu swyddogaethau Ysgrifenyddol i Gomisiwn Ffiniau Cymru a bydd yn parhau i wneud hynny am y dyfodol agos.
Rydym wedi ymgymryd ag ystod o waith o fewn y pwerau statudol sy'n llywodraethu ein gweithgarwch. Arolygon cymunedol oedd y rhan fwyaf o waith y Comisiwn yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal â chwblhau arolwg a gychwynnwyd yn y flwyddyn flaenorol, dechreuodd y Comisiwn ar waith paratoi ar gyfer yr arolwg nesaf o drefniadau etholiadol prif awdurdodau, ac fel rhan o'r broses hon, fe'u cynorthwyodd i nodi anomaleddau mewn ardaloedd cymunedol. Mae hyn wedi golygu'n bennaf gwneud gwaith ar eu rhan o dan gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r gofyniad am gyfarwyddiadau ffurfiol ym mhob achos lle gofynnir am ein cymorth mewn arolygon cymunedol yn un beichus sy'n cymryd llawer o amser, ond mae'n ofyniad dan y ddeddfwriaeth gyfredol. Byddem yn gobeithio y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'i bwerau newydd i newid y ddeddfwriaeth er mwyn ei gwneud yn haws i'r Comisiwn gynorthwyo prif awdurdodau yn y maes hwn o'u gwaith.
Caiff manylion yr arolygon eu cynnwys yn yr adroddiad hwn, ond rhaid i mi bwysleisio unwaith eto mai cyflwyno cynigion er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus mewn modd annibynnol a gwrthrychol yw ein prif amcan. Rhan hanfodol o'n holl waith yw'n gweithdrefnau ymgynghori yr ydym yn ceisio eu gwneud mor gynhwysfawr â phosibl ac mor briodol â phosibl i raddfa'r arolwg. Rydym yn ddiolchgar am yr holl gynrychiolaethau sy'n dod i law. Rhoddir ystyriaeth ofalus iawn i bob un wrth i ni asesu tystiolaeth cyn dod i'n casgliadau, er y bydd rhai pobl yn anochel yn cael eu siomi weithiau gan ein casgliadau.
Hwn fydd yr Adroddiad Blynyddol olaf a fydd yn cael ei gynhyrchu o dan nawdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. O fis Mai 2007, byddwn yn gweld y rhaniad ffurfiol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd yn noddwyr y Comisiwn wedyn ac edrychwn ymlaen at weithio o fewn y trefniadau newydd.
I gloi, hoffwn ddiolch unwaith eto i'm cyd Gomisiynwyr a phob aelod o'n Hysgrifenyddiaeth fach am eu cymorth parhaus drwy gydol y flwyddyn.
Mrs. SUSAN
SMITH LLB
Cadeirydd
CYNNWYS
1. CYFLWYNIAD
2. AMCANION
3. GWEITHGARWCH YN YSTOD Y FLWYDDYN FLAENOROL 2005-06
4 GWAITH Y COMISIWN YN YSTOD 2006/07
5. RHEOLAETH GORFFORAETHOL: POLISÏAU AC ARFER
- Datganiad Rheoli, Memorandwm Ariannol a Chodau
- Cyllideb ac Archwiliad
- Cynllun Iaith Gymraeg
- Hyfforddiant a Thechnoleg Gwybodaeth
- Gweithdrefn Gwyno
1. CYFLWYNIAD
Y Comisiwn
1.1 Sefydlwyd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) ym mis Mehefin 1974 o dan delerau Adran 53 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972). Dynodir swyddogaethau statudol y Comisiwn yn Adrannau 54 i 78 Deddf 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (Deddf 1994). Darpara Atodlen 8 i Ddeddf 1972 ar gyfer cyfansoddiad a threfniadau'r Comisiwn.
1.2 Diben y Comisiwn yw:
Cynnal arolygon o ardaloedd llywodraeth leol a threfniadau etholiadol yng Nghymru, gyda'r bwriad o ystyried a ddylid cyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu newidiadau sy'n ymddangos i'r Comisiwn yn rhai sy'n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Aelodaeth
1.3 Mis Ebrill i fis Rhagfyr 2006
Mrs S G Smith LLB (Cadeirydd)
Mr J E Davies ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)
Mr D H Roberts BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)
Mis Ionawr i fis Mawrth 2007
Mrs S G Smith LLB (Cadeirydd)
Mr D H Roberts BSc DMS MBCS MCMI (Dirprwy Gadeirydd)
Y Parch. Hywel Meredydd Davies BD (Aelod)
Gwneir apwyntiadau i'r Comisiwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ar 1 Ionawr 2005 adnewyddwyd apwyntiadau'r Comisiynwyr cyfredol bryd hynny. Mae penodiad y Cadeirydd am dymor o 4 blynedd ac mae'n rhedeg tan 31 Rhagfyr 2008. Roedd penodiad y Dirprwy Gadeirydd am dymor o 2 flynedd a rhedodd tan 31 Rhagfyr 2006. Ar 1 Ionawr 2007 penodwyd Mr D H Roberts, a oedd yn Aelod o'r Comisiwn yn flaenorol, yn Ddirprwy Gadeirydd a bydd yn gwasanaethu yn y cymhwyster hwnnw nes y bydd ei benodiad fel Comisiynydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2007. Cafodd y Parch Hywel Meredydd Davies ei benodi yn Aelod o'r Comisiwn ar 1 Ionawr 2007 am dymor o 3 blynedd hyd at 31 Rhagfyr 2009. Mr. John Davies oedd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio nes i'w benodiad ddod i ben, a chymerodd Mr Dennis Roberts y swydd hon o 1 Ionawr 2007 ymlaen. Mae'n rhaid i'r Comisiwn gael o leiaf un siaradwr Cymraeg ac roedd Mr. Davies, Mr. Roberts a'r Parch Davies yn bodloni'r gofyniad hwn yn ystod 2006-07.
Ar hyn o bryd, mae'r Comisiynwyr yn aelodau o gyrff cyhoeddus eraill. Mae Mrs. Smith yn aelod o'r Comisiwn Ffiniau i Gymru, yn Gadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Penfro, yn Ddyfarnwr Annibynnol dros Awdurdodau Lleol yng Nghymru (dan Ddeddf Llywodraeth Lleol a Thai 1989). Roedd yn Gyfarwyddwr Bwrdd Cyllid Esgobaeth Llandaf (Yr Eglwys yng Nghymru) ac yn Gadeirydd eu Bwrdd Persondy hyd at fis Hydref 2006. Mae Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Mae Mr J E Davies yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-Orllewin Cymru. Mae'r Parch H M Davies yn Gadeirydd Tearfund yng Nghymru a Menter Môn, ac yn Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru, Bwrdd Llysoedd Gogledd Cymru, Pwyllgor Lleyg Golwg ar Ynni Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Cynhelir cyfarfodydd y Comisiwn mor aml ag y bydd y rhaglen waith yn mynnu. Mae'n arferol gan y Comisiwn i ymweld â lleoliad arolygon, yn enwedig mewn perthynas ag arolygon ardaloedd (ffiniau). Er budd effeithlonrwydd, caiff archwiliadau safle eu cyfuno â chyfarfodydd y Comisiwn lle bynnag y bo'n bosibl. Cynhaliwyd naw o gyfarfodydd yn ystod 2006-07.
Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol y Comisiwn, ac mae contractau'n bodoli i ddarparu gwasanaethau archwiliad mewnol, cyfreithiol, cyfrifo, cyfieithu ac argraffu.
Yr Ysgrifenyddiaeth
1.4 Lleolir ysgrifenyddiaeth y Comisiwn yn Nhy Caradog, 1-6 Plas St Andreas, Caerdydd. Ar ddechrau'r flwyddyn roedd 5 aelod o staff. Llenwir swyddi'r Ysgrifennydd, Dirprwy Ysgrifennydd a Rheolwr Cyllid gan gyflogeion uniongyrchol y Comisiwn. Roedd swydd yr Ysgrifennydd yn un rhan-amser o fis Ebrill i fis Rhagfyr 2006, a daeth yn swydd amser llawn gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol o 1 Ionawr 2007 ymlaen. Mae swyddi'r Dirprwy Ysgrifennydd a'r Rheolwr Cyllid yn rhai amser llawn. Mae'r ddau aelod arall yn weision sifil ar secondiad o Lywodraeth Cynulliad Cymru: 1 yn gweithio'n amser llawn ac 1 yn gweithio'n rhan-amser.
1.5 O 1 Ionawr 2002, ymgymerodd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn â chyfrifoldeb i ddarparu Ysgrifenyddiaeth i'r Comisiwn Ffiniau i Gymru ar gyfer ei Bumed Arolwg Cyffredinol o etholaethau Seneddol yng Nghymru dan Femorandwm Cytundeb rhwng y Comisiwn, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a'r Rhanbarthau a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cychwynnodd Pumed Arolwg Cyffredinol Comisiwn Ffiniau i Gymru ym mis Rhagfyr 2002 ac fe'i cwblhawyd ar 31 Ionawr 2005. Bydd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn yn parhau i ddarparu'r swyddogaeth hon hyd y gellir rhagweld. Yr Adran Nawdd ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cafodd Memorandwm Cytundeb newydd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei ddrafftio yn ystod 2006-07.
Dyletswyddau Statudol
1.6 Prif ddyletswyddau'r Comisiwn yw:
Ardaloedd Llywodraeth Leol
- Cynnal arolygon o'r holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddiben ystyried a ddylid cynnig newidiadau i Lywodraeth Cynulliad Cymru sy'n ymddangos yn rhai sy'n ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus;
- Ystyried ceisiadau am arolygon gan awdurdodau lleol;
- Ystyried adroddiadau a wneir gan brif gynghorau mewn perthynas ag arolygon ardaloedd cymunedol a gynhaliwyd ganddynt a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Trefniadau Etholiadol
- O dan ddarpariaethau'r adran 64 newydd a ychwanegwyd at Ddeddf 1972 gan Adran 6 Deddf 1994, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl etholiad cyffredin cynghorwyr ar gyfer unrhyw un o'r prif ardaloedd yng Nghymru a gynhaliwyd ym 1995 roedd yn ofynnol i'r Comisiwn:
- Cynnal adolygiad o'r trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal honno gyda'r bwriad o ystyried y trefniadau etholiadol yn y dyfodol; a
- Llunio cynigion ar gyfer y trefniadau hynny; a
- Heb fod yn llai na deg nac yn fwy na phymtheng mlynedd ar ôl cwblhau'r adolygiad cychwynnol ac wedi hynny, ar gyfnodau tebyg, cynnal adolygiad o'r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal yng Nghymru.
Cyfarwyddiadau
- Gall Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal adolygiad o Gymru gyfan, neu o unrhyw un neu fwy o ardaloedd llywodraeth leol neu rannau o ardaloedd o'r fath yng Nghymru
Gweithdrefn yr Arolwg
1.7 Mae Adran 60 Deddf 1972 yn diffinio'r canllawiau gweithdrefnol sydd i'w dilyn wrth ymgymryd â phob arolwg. Camau sylfaenol arolwg yw:
- Cyhoeddi dyddiad dechrau'r arolwg pan wahoddir awgrymiadau a sylwadau cychwynnol erbyn dyddiad penodol;
- Cyhoeddi cynigion drafft y Comisiwn pan wahoddir sylwadau arnynt yn yr un modd erbyn dyddiad penodol; a
- Cyhoeddi cynigion terfynol pan ddylai unrhyw sylwadau pellach gael eu cyfeirio ar ôl hyn at Lywodraeth Cynulliad Cymru.
2. AMCANION
2.1 Noddir y Comisiwn gan Isadran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r Comisiwn yn destun Arolygon Polisi cyfnodol sy'n darparu canllawiau strategol a pholisi tymor canolig ar gyfer cynlluniau blynyddol y Comisiwn. Dechreuodd y cyfnod cynllunio strategol diwethaf gydag Arolwg Polisi o'r Comisiwn a gynhaliwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2001.
Targedau
2.2 Mae'r cyfarwyddiadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i'r Comisiwn i gynnal arolygon ardal yn cynnwys terfynau amser penodedig, a bennir ar ôl ystyried cymhlethdod pob arolwg. Nod y Comisiwn yw cwblhau arolygon ardal a gynhelir ar gais awdurdodau lleol o fewn deuddeg mis.
2.3 Caiff y gweithdrefnau i'w dilyn wrth gynnal arolwg eu diffinio yn ôl statud, gan ei wneud yn ofynnol i'r Comisiwn hysbysu ac ymgynghori'n eang ac ystyried cynrychiolaethau cyn gwneud unrhyw gynigion terfynol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
2.4 Nid oes unrhyw gyfnodau amser statudol ar gyfer yr ymgynghoriad nac unrhyw un o gamau eraill y gweithdrefnau, y cânt eu gweithredu yn ôl disgresiwn y Comisiwn. Mae'r Comisiwn wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r angen i ddarparu amser digonol i awdurdodau lleol a phobl eraill sydd â diddordeb gyflwyno eu safbwyntiau. Gosodir targedau o fewn deuddeg mis i arolwg ar gyfer y camau cyhoeddusrwydd ac ymgynghori, cynhyrchu adroddiadau drafft a therfynol a'r amser sydd ei angen i asesu'r materion dan sylw. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Comisiwn ystyried amgylchiadau penodol weithiau ac, oni bai bod terfynau amser penodedig yn bodoli, maent yn hyblyg o ran cadw at dargedau.
3. GWEITHGARWCH YN YSTOD Y FLWYDDYN FLAENOROL 2005-06
Arolygon o Brif Ardaloedd
3.1 Cwblhaodd y Comisiwn eu harolwg o'r ffin rhwng Siroedd Ceredigion a Phenfro yng nghyffiniau Cilgerran, gan gyhoeddi eu Hadroddiad a'u Cynigion ym mis Mai 2005.
Arolygon Cymunedol
3.2 Cwblhaodd y Comisiwn eu harolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gyhoeddi eu Cynigion Drafft ym mis Ebrill 2005 a'u Hadroddiad a'u Cynigion ym mis Awst 2005.
3.3 Ym mis Mai 2005 dechreuodd y Comisiwn arolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Cafodd Cynigion Drafft ar gyfer yr arolwg hwn eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2005.
3.4 Daeth y Comisiwn yn ymwybodol mai cymharol ychydig o arolygon y mae'r prif gynghorau wedi'u cynnal ers yr arolygon Cymunedau Arbennig yn y 1980au. Ysgrifennodd y Comisiwn ar bob un o'r Prif Weithredwyr i'w hatgoffa am y gofyniad deddfwriaethol hwn. Bydd yr arolwg llawn nesaf o drefniadau etholiadol sydd i'w gynnal gan y Comisiwn yn un gwell os bydd pob un o'r awdurdodau wedi rhoi sylw i anomaleddau lleol cyn cychwyn y gwaith hwn. O ganlyniad i drafodaethau gyda'r Isadran Polisi Llywodraeth Leol, gwnaethpwyd cynnig i gynorthwyo prif gynghorau gyda'r gwaith hwn gan ddefnyddio arbenigedd y Comisiwn.
Prosiect Ffiniau Wardiau Cymunedol
3.5 Parhaodd y Comisiwn â'r prosiect i gofnodi ffiniau Wardiau Cymunedol yng Nghymru yn ddigidol yn ystod 2005-06. Yn dilyn cam un, sef sganio mapiau Trefn Cymunedau, a gwblhawyd yn 2004-05, cafodd y mapiau a sganiwyd eu gwirio, a chwblhawyd y gwaith hwn ym mis Mehefin 2005. Cychwynnwyd ail gam y prosiect, sef trosi'r ffiniau cymunedol wedi'u sganio yn ddata mapio, 'yn fewnol' yn ystod 2005-06.
4. GWAITH Y COMISIWN YN YSTOD 2006/2007
Arolygon Cymunedol
4.1 Cwblhaodd y Comisiwn eu harolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Blaenhonddan a Dyffryn Clydach ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, gan gyhoeddi eu Hadroddiad a'u Cynigion ym mis Ebrill 2006.
4.2 Cafodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal arolwg o gymunedau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ym mis Mehefin 2006. Cychwynnodd y Comisiwn yr arolwg hwn ym mis Gorffennaf 2006 a chyhoeddwyd Cynigion Drafft ym mis Mawrth 2007.
4.3 Cafodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal arolwg o gymunedau yn Sir Ynys Môn ym mis Medi 2006. Cychwynnodd y Comisiwn yr arolwg hwn ym mis Tachwedd 2006.
4.4 Cafodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal arolwg o gymunedau ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym mis Medi 2006. Cychwynnodd y Comisiwn yr arolwg hwn ym mis Ionawr 2007.
4.5 Ym mis Rhagfyr 2006 cyflwynodd y Comisiwn eu Hadroddiad a'u Cynigion i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn dilyn arolwg y Cyngor o Gymunedau yn eu hardal.
4.6 Cychwynnodd y Comisiwn arolwg hefyd o'r argymhellion a wnaed gan Gyngor Sir Powys yn dilyn arolwg y Cyngor o Gymunedau yn eu hardal.
Prosiect Ffiniau Wardiau Cymunedol
4.7 Parhaodd y Comisiwn i drosi'r ffiniau cymunedol wedi'u sganio yn ddata mapio 'yn fewnol' yn ystod 2006-07 a disgwylir y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau yn ystod 2007-08.
5. RHEOLAETH GORFFORAETHOL: POLISÏAU AC ARFER
Datganiad Rheoli, Memorandwm Ariannol a Chodau
5.1 Mae Datganiad Rheoli a Memorandwm Ariannol cysylltiol yn disgrifio'r berthynas rhwng y Comisiwn a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno Cynlluniau Gweithredol Blynyddol ac Adroddiadau Blynyddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru at ddibenion cynllunio, cyllidebu ac asesu perfformiad. Cynhelir cyfarfodydd cyswllt chwarterol a chyfarfod arolwg blynyddol gydag isadran nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gwahoddwyd y Comisiwn i gyflwyno eu Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Tachwedd 2006.
5.2 Mabwysiadwyd Cod Arfer Gorau ar gyfer Comisiynwyr ac mae Cofrestr o fuddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol y Comisiynwyr ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio. Gellir trefnu i'w gweld drwy gysylltu â'r Ysgrifennydd yn swyddfeydd y Comisiwn. Mae yna god tebyg mewn perthynas â staff.
5.3 Mae'r Comisiwn yn cwrdd fel Pwyllgor Archwilio, wedi'i gadeirio gan Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn. Yn ystod y flwyddyn cyfarfu'r Pwyllgor Archwilio dair gwaith.
5.4 Mabwysiadwyd arferion gwaith sy'n cydsynio ag egwyddorion gonestrwydd, ymgynghori a chymwynasgarwch. Er enghraifft, mae'r Comisiwn yn rhoi cyhoeddusrwydd eang i'w bwriad i gynnal pob arolwg ac ysgrifennu at yr awdurdod lleol dan sylw, ac ymweld ag ef, i drafod yr arolwg a gwahodd eu sylwadau cychwynnol. Ar gyfer pob arolwg mae'r Comisiwn yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg ar eu cynigion drafft a'u cynigion terfynol a darperir digon o gopïau o'r adroddiadau i alluogi iddynt gael eu dosbarthu am ddim i bob aelod o'r prif gynghorau a chynghorau cymuned sy'n cael eu heffeithio gan y cynigion a llyfrgelloedd lleol. Mae nifer o gopïau ar gael hefyd i drigolion lleol ar gais. Mae gwefan y Comisiwn: www.lgbc-wales.gov.uk yn rhoi gwybodaeth am y Comisiwn, cynnydd yr arolygon a chyfle i weld adroddiadau blaenorol. Yn ystod y flwyddyn mabwysiadodd y Comisiwn Gynllun Parhad Busnes a Pholisi Chwythu'r Chwiban.
5.5 Ym mis Hydref 2006, cynhaliodd y Comisiwn eu nawfed Cyfarfod Agored Blynyddol, yn Siambr y Cyngor yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn y Trallwng y tro hwn. Y siaradwyr gwadd yn y cyfarfod oedd Simon White (Prif Weithredwr, Un Llais i Gymru), Andrew Rix a Faye Joshua (CRG Research Ltd,) a Mark Kerr (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Powys).
Cyllideb ac Archwiliad
5.6 £339,852 oedd cyfanswm y gost weithredol net am y flwyddyn, a swm y cymorth grant a gafwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd £334,626 a oedd o fewn y dyraniad cymorth grant am y flwyddyn, sef £366,000. Mae'r Comisiwn yn ymroddedig i gyflawni gwerth am arian wrth brynu nwyddau a gwasanaethau.
5.7 Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a gwerth am arian mae cyfres gynhwysfawr o gyfarwyddiadau desg sy'n ymwneud â systemau a gweithdrefnau mewn grym. Archwilwyr mewnol y Comisiwn oedd Gwasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal yr archwiliad allanol o gyllid y Comisiwn.
Cynllun Iaith Gymraeg
5.8 Dymuna'r Comisiwn gadarnhau y gall y cyhoedd ddelio â hwy yn Gymraeg. Ym mis Gorffennaf 1998, mabwysiadodd y Comisiwn eu Cynllun Iaith Gymraeg yn unol â darpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996. Mae'r Comisiwn bellach wedi cyhoeddi eu wythfed adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar weithrediad y cynllun. Yn gryno, mae'r adroddiad yn cadarnhau bod y Comisiwn yn cydymffurfio â'r mesurau, yr amserlen a'r targedau a nodir yn eu cynllun. Cynhwysir tystiolaeth o'r ymrwymiad i'r egwyddor y bydd y Comisiwn, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal yn y ffaith bod yr holl adroddiadau a'r cyhoeddusrwydd y cyfeirir atynt yn yr Adroddiad Blynyddol hwn wedi cael eu cyhoeddi yn ddwyieithog. Fodd bynnag mae'r cynllun hefyd yn cynnwys llawer o fesurau manwl eraill i ategu'r egwyddor a gellir darparu copi o'r adroddiad llawn ar gais neu gellir cael gafael arno ar wefan y Comisiwn.
Hyfforddiant a Thechnoleg Gwybodaeth
5.9 Mae'r Comisiwn yn rhan o bartneriaeth MERLIN y Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi parhau i ddarparu mwyafrif gofynion TG y Comisiwn, yn galedwedd ac yn feddalwedd. Mae hyn wedi cynyddu effeithlonrwydd TG y Comisiwn ac wedi lleihau amlygiad y Comisiwn ei hun i risg y system ym methu.
5.10 Mynychwyd cyrsiau hyfforddiant datblygu staff yn ystod y flwyddyn.
Gweithdrefn Gwyno
5.11 Mae gan y Comisiwn Weithdrefn Gwyno a gellir gwneud cwynion (trwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn) trwy gysylltu â'r Comisiwn. Gellir cael gwybodaeth am y modd yr ymdrinnir â chwynion yn nogfen Gweithdrefn Gwyno'r Comisiwn sydd ar wefan y Comisiwn ( www.cflll-cymru.gov.uk) neu gellir cael copi o'r ddogfen gan y Comisiwn yn y cyfeiriad isod:
Yr Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1 - 6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BEFfôn: 029 20395031
Ffacs: 029 20395250
E-bost:
cflll.cymru@cymru.gsi.gov.uk
Gwefan:
www.cflll-cymru.gov.uk
6. ADRODDIAD ARIANNOL CRYNO
ADRODDIAD ARIANNOL CRYNO
Mae'r Datganiad Ariannol hwn yn rhoi crynodeb o gyfrifon Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2007. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth ddigonol i ganiatáu ar gyfer dealltwriaeth lawn o'r canlyniadau a sefyllfa ariannol y Comisiwn. I gael mwy o wybodaeth, dylid edrych ar y cyfrifon blynyddol llawn ac adroddiad yr archwilydd ar y cyfrifon hynny. Mae copi o'r cyfrifon archwiliedig, sy'n cynnwys y wybodaeth fanwl sy'n ofynnol o dan y gyfraith ac o dan ganllawiau arfer gorau, ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth y Rheolwr Cyllid, Tŷ Caradog, 1-6 Plas St Andreas, Caerdydd CF10 3BE.
Cefndir Statudol
Sefydlwyd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) o dan Adran 53 Deddf Llywodraeth Leol 1972 at ddibenion adolygu ardaloedd a threfniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru yn gyson.
O 1 Ebrill 1995 daeth y Comisiwn yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol ymgynghorol yn cael ei ariannu gan Gymorth Grant gan y Swyddfa Gymreig gynt, ac ar ôl 1 Gorffennaf 1999, yn Gorff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (CCNC). Pan ddaeth Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i rym ar 25 Mai 2007, daeth y Comisiwn yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad (CNLC).
Arolwg o'r Flwyddyn a Datblygiadau yn y Dyfodol
Arolygon o Gymunedau oedd y rhan fwyaf o waith y Comisiwn yn ystod y flwyddyn. Fel ag y manylir yn yr Adroddiad Blynyddol, cwblhaodd y Comisiwn eu harolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Blaenhonddan a Dyffryn Clydach ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, gan gyhoeddi eu Hadroddiad a'u Cynigion ym mis Ebrill 2006. Cafodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynt (fel y pennwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998) i gynnal arolwg o gymunedau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ym mis Mehefin 2006. Cychwynnodd y Comisiwn yr arolwg hwn ym mis Gorffennaf 2006 a chyhoeddwyd Cynigion Drafft ym mis Mawrth 2007. Cafodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynt i gynnal arolwg o gymunedau yn Sir Ynys Môn ym mis Medi 2006. Cychwynnodd y Comisiwn yr arolwg hwn ym mis Tachwedd 2006. Cafodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynt i gynnal arolwg o gymunedau ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym mis Medi 2006. Cychwynnodd y Comisiwn yr arolwg hwn ym mis Ionawr 2007.
Mae prif gynghorau yn gyfrifol am gynnal arolygon o ardaloedd cymunedol a threfniadau etholiadol cymunedol. Ym mis Rhagfyr 2006, cyflwynodd y Comisiwn eu Hadroddiad a'u Cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynt mewn perthynas â'u harolwg o'r argymhellion a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn dilyn arolwg y Cyngor o gymunedau yn eu hardal. Hefyd, cychwynnodd y Comisiwn arolwg o'r argymhellion a wnaed gan Gyngor Sir Powys yn dilyn arolwg y Cyngor o gymunedau yn eu hardal.
Bydd arolygon pellach o drefniadau etholiadol yn dibynnu ar unrhyw gyfarwyddiadau, y gellir eu rhoi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu geisiadau gan brif gynghorau. Disgwylir y bydd y Comisiwn yn cychwyn ei arolwg nesaf o drefniadau etholiadol ar gyfer prif gynghorau Cymru gyfan erbyn 2008. Bydd y cynnydd yn llwyth gwaith y Comisiwn yn sgil yr arolwg hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gynyddu staff yr Ysgrifenyddiaeth.
Mae rhwymedigaeth barhaus gan y Comisiwn i gadw dan adolygiad ardaloedd y prif gynghorau'n gyson ac i roi ystyriaeth i unrhyw argymhellion a gyflwynir gan brif gynghorau mewn perthynas ag arolygon o ardaloedd cymunedau a gynhelir ganddynt. Yn ystod 2007-08 bydd y Comisiwn yn cwblhau'r arolygon cymunedau hynny a gychwynnodd yn 2006-07, a disgwylir hefyd y bydd y Comisiwn yn gwneud gwaith pellach mewn perthynas ag arolygon cymunedol ar gyfer prif gynghorau eraill.
Aelodaeth y Comisiwn
Aelodau'r Comisiwn gydol 2006-07 oedd:
Mis Ebrill i fis Rhagfyr 2006
Mrs S G Smith LLB (Cadeirydd)
Mr J E Davies ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)
Mr D H Roberts BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)
Mis Ionawr i fis Mawrth 2007
Mrs S G Smith LLB (Cadeirydd)
Mr D H Roberts BSc DMS MBCS MCMI (Dirprwy Gadeirydd)
Y Parch. Hywel Meredydd Davies BD (Aelod)
DATGANIAD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU I AELODAU CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
Rwyf wedi archwilio'r datganiad ariannol cryno ar dudalennau 12 i 16, a baratowyd ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn nodyn 1 ar dudalen 15.
Priod gyfrifoldebau'r Comisiwn, yr Ysgrifennydd a'r Archwilydd Cyffredinol Cymru
Cyfrifoldeb y Comisiwn a'r Ysgrifennydd yw'r datganiad ariannol cryno. Fy nghyfrifoldeb i yw adrodd fy marn i chi am ei baratoi ac a yw'n gyson â'r datganiadau ariannol llawn. Rwyf wedi darllen y wybodaeth arall a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol hefyd ac yn ystyried y goblygiadau i'm hadroddiad os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiad amlwg neu anghysondebau perthnasol â'r datganiadau ariannol cryno.
Sail y Farn Archwilio
Cynheliais f'archwiliad yn unol â Bwletin 1999/6 - 'Datganiad yr archwilwyr ar y datganiad ariannol cryno' a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio i'w defnyddio yn y Deyrnas Unedig.
Barn Archwilio
Yn fy marn i, mae'r datganiad ariannol cryno yn gyson â'r datganiadau ariannol llawn ac Adroddiad Blynyddol Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2007 ac wedi ei baratoi'n briodol ar y sail a nodir yn nodyn 1 i'r datganiad ariannol cryno.
Jeremy Colman
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Swyddfa Archwilio Genedlaethol 2-4 Park Grove Caerdydd CF10 3PA19 Mehefin 2007
DATGANIAD COSTAU GWEITHREDOL
ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2007
|
|
2007 |
|
2006 |
|---|---|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
£ |
|
£ |
|
|
|
|
|
|
GWARIANT |
|
|
|
|
Costau staff |
173,813 |
|
152,453 |
|
Dibrisiant |
11,139 |
|
11,835 |
|
Cost dybiannol y tâl cyfalaf |
378 |
|
648 |
|
Costau gweithredol eraill |
154,934 |
|
174,471 |
|
|
340,264 |
|
339,407 |
|
|
|
|
|
|
Llog a dderbyniwyd |
(151) |
|
(300) |
|
|
|
|
|
|
Colled wrth waredu asedau sefydlog |
- |
|
734 |
|
|
|
|
|
|
Gwrthdroi cost dybiannol y tâl cyfalaf |
(378) |
|
(648) |
|
|
|
|
|
|
Swm a ildiwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru |
117 |
|
336 |
|
|
|
|
|
|
Costau Gweithredol Net a drosglwyddwyd i'r Gronfa wrth Gefn Gyffredinol |
339,852 |
|
339,529 |
|
|
|
|
|
|
Sylwer: Mae ffigurau 2005-06 wedi'u hailddatgan yn sgil newid yn y polisi cyfrifo ar gyfer Cymorth Grant (gweler Nodyn 4) |
|||
|
DATGANIAD O ENILLION A CHOLLEDION CYDNABYDDEDIG
|
|||
|
|
|
|
|
|
Ailbrisiad o Asedau Sefydlog |
- |
|
- |
|
|
|
|
|
|
Cyfanswm colledion cydnabyddedig am y flwyddyn |
- |
|
- |
|
|
|
|
|
Sylwer: Nid oes gan y Comisiwn unrhyw enillion na cholledion ac eithrio'r gost gweithredu net. Mae ffigurau 2005-06 wedi'u hailddatgan yn sgil newid yn y polisi cyfrifo ar gyfer Cymorth Grant (gweler Nodyn 4)
MANTOLEN
ar 31 Mawrth 2007
|
|
2007 |
2006 |
||
|---|---|---|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
£ |
£ |
£ |
£ |
|
|
|
|
|
|
|
ASEDAU SEFYDLOG |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Asedau Sefydlog Diriaethol |
|
14,576 |
|
21,454 |
|
|
|
|
|
|
|
ASEDAU CYFREDOL |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dyledwyr a rhagdaliadau |
1,612 |
|
1,223 |
|
|
Arian parod yn y banc ac mewn llaw |
14,397 |
|
9,818 |
|
|
|
16,009 |
|
11,041 |
|
|
CREDYDWYR |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Symiau'n ddyledus o fewn blwyddyn |
(22,413) |
|
(19,097) |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL NET |
|
(6,404) |
|
(8,056) |
|
|
|
|
|
|
|
CYFANSWM YR ASEDAU NET |
|
8,172 |
|
13,398 |
|
|
|
|
|
|
|
ARIANNWYD GAN: |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cronfa wrth Gefn Gyffredinol |
|
8,172 |
|
13,398 |
|
Cronfa Wrth Gefn Grantiau'r Llywodraeth |
|
- |
|
- |
|
|
|
|
|
|
|
CRONFEYDD Y LLYWODRAETH |
|
8,172 |
|
13,398 |
Sylwer: Mae ffigurau 2005-06 wedi'u hailddatgan yn sgil newid yn y polisi cyfrifo ar gyfer Cymorth Grant (gweler Nodyn 4)
DATGANIAD LLIF ARIAN
ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2007
|
|
2007 |
|
2006 |
|---|---|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
£ |
|
£ |
|
|
|
|
|
|
All-lif arian parod net o weithgareddau gweithredol |
(325,820) |
|
(339,126) |
|
Enillion ar fuddsoddiad |
151 |
|
300 |
|
Ildio llog y banc i Lywodraeth Cynulliad Cymru |
(117) |
|
(336) |
|
Gwariant cyfalaf |
(4,261) |
|
(18,444) |
|
|
|
|
|
|
Ariannu |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu Cymorth Grant |
334,626 |
|
331,982 |
|
|
|
|
|
|
CYNNYDD / (GOSTYNGIAD) MEWN ARIAN PAROD |
4,579 |
|
(25,624) |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cronfeydd net ar 1 Ebrill |
|
|
35,442 |
|
|
|
|
|
|
Cronfeydd net ar 31 Mawrth |
14,397 |
|
9,818 |
|
|
|
|
|
Sylwer: Mae ffigurau 2005-06 wedi'u hailddatgan yn sgil newid yn y polisi cyfrifo ar gyfer Cymorth Grant (gweler Nodyn 4)
NODIADAU I'R DATGANIAD ARIANNOL CRYNO
1. Confensiynau Cyfrifo
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol 2006-07 y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Mae'r polisïau cyfrifyddu a gaiff eu cynnwys yn y Llawlyfr yn dilyn arfer cyfrifo a dderbynnir yn gyffredinol yn y DU ar gyfer cwmnïau (UK GAAP) i'r graddau y mae'n ystyrlon a phriodol i'r sector cyhoeddus. Paratowyd y cyfrifon o dan y confensiwn cost hanesyddol.
2. Canlyniadau Ariannol
Cyfanswm y costau gweithredol net am y flwyddyn oedd £339,852 (2005-06; £339,529) ac mae hwn wedi'i drosglwyddo i'r gronfa wrth gefn gyffredinol. Cyfanswm y cymorth grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd £334,626 (2005-06; £331,982) ac mae hwn wedi'i gredydu'n uniongyrchol i'r gronfa wrth gefn gyffredinol.
3. Costau Staff ac Aelodau
|
|
2007 |
|
2006 |
|---|---|---|---|
|
|
£ |
|
£ |
|
|
|
|
|
|
Tâl Aelodau'r Comisiwn |
15,587 |
|
11,802 |
|
Cyflogau |
|
|
|
| Cyflogi'n uniongyrchol | 94,055 |
45,727 |
|
|
|
|
|
|
|
Yswiriant Gwladol Cyflogwyr |
|
|
|
| Cyflogi'n uniongyrchol (gan gynnwys Aelodau'r Comisiwn) | 10,634 |
5,564 |
|
| Secondiad o'r tu allan | 1,302 | 4,378 | |
|
|
|
|
|
| Costau Pensiwn eraill | |||
| Cyflogi'n uniongyrchol | 19,524 | 9,350 | |
|
Secondiad o'r tu allan |
4,785 |
|
11,099 |
|
|
|
|
|
|
Cyfanswm |
173,813 |
|
152,453 |
|
Nifer |
Nifer | ||
| Nifer y staff a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ar gyfartaledd | |||
| Cyflogi'n uniongyrchol |
3 |
1 | |
|
|
|
|
|
Cyflog Cadeirydd y Comisiwn oedd £4,840 (2005-06: £3,765). Cyflog yr Aelod o'r Comisiwn Mr D Roberts oedd £5,694 (2005-06: £4,055). Talwyd llai na £5,000 yr un i'r ddau Aelod arall. Gellir cael mwy o fanylion am gostau cyflogau a phensiwn ar gyfer uwch aelodau staff ac Aelodau'r Comisiwn yn yr Adroddiad Cyflogau i'r cyfrifon blynyddol llawn.
4. Newid mewn Polisi Cyfrifo - Cymorth Grant
Mae Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ar gyfer 2006-07 wedi cyflwyno newid yn y modd y dylid cyfrif am gymorth grant. O dan y newidiadau hyn mae'n ofynnol i'r cyfryw daliadau gan barti rheoli gael eu hystyried fel cyllid a'u credydu i'r Gronfa wrth Gefn Gyffredinol yn hytrach nag fel incwm gweithredol am y flwyddyn, neu fel symudiad i Gronfa wrth Gefn Grantiau'r Llywodraeth. Bydd y newid hwn yn cael effaith hefyd ar gyflwyno'r cyllid hwn yn y Datganiad Llif Arian. At y dibenion hyn ystyrir Llywodraeth Cynulliad Cymru fel parti rheoli.
Mae addasiadau blwyddyn flaenorol wedi'u gwneud felly i ffigurau cymharol 2005-06 fel a ganlyn:-
- credydu Cymorth Grant o £331,982 i'r Gronfa wrth Gefn Gyffredinol yn hytrach na'r Datganiad Costau Gweithredol (cyfrif Incwm a Gwariant yn flaenorol). Mae newidiadau cyfatebol wedi'u gwneud hefyd i'r datganiad llif arian.
- trosglwyddo £15,579 o'r balans agoriadol ar Gronfa wrth Gefn Grantiau'r Llywodraeth i'r Gronfa wrth Gefn Gyffredinol
Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar lefel gyffredinol ecwiti trethdalwyr fel y'u cyflwynir gan gyfalaf a chronfeydd wrth gefn.
Hefyd, er mwyn adlewyrchu'n well ailddosbarthiad y cyllid hwn fel ariannu, mae'r Datganiad o Gyfanswm Enillion a Cholledion Cydnabyddedig wedi'i ddisodli â Datganiad o Enillion a Cholledion Cydnabyddedig (nad yw'n cynnwys canlyniadau gweithredol am y flwyddyn) ac mae'r cyfrif Incwm a Gwariant wedi'i ail-ddynodi yn Ddatganiad Costau Gweithredol.
5. Digwyddiadau Ôl-Fantolen
Nid oedd digwyddiadau ôl-fantolen i'w cofnodi ar ddyddiad llofnodi'r cyfrifon hyn.
Edward Lewis
Ysgrifennydd a Swyddog Cyfrifo
14 Mehefin 2007
28/8/2007
