ADRODDIAD BLYNYDDOL 2005/06
Rhagair y Cadeirydd
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, parhaodd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn i ddarparu swyddogaethau Ysgrifenyddol i Gomisiwn Ffiniau Cymru a bydd yn parhau i wneud hynny am cyhyd ag y gellir ei ragweld.
Rydym wedi ymgymryd ag ystod o waith o fewn y pwerau statudol sy'n llywodraethu'n gweithgarwch. Cwblhaodd y Comisiwn ei arolwg o'r ffin rhwng Siroedd Ceredigion a Phenfro yng nghyffiniau Cilgerran, gan gyhoeddi eu Hadroddiad a'u Cynigion ym mis Mai 2005. Yn ogystal, cwblhaodd y Comisiwn eu harolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gyhoeddi eu Cynigion Drafft ym mis Ebrill 2005 a'u Hadroddiad a Chynigion ym mis Awst 2005. Ym mis Mai 2005, dechreuodd y Comisiwn ar arolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Cyhoeddwyd Cynigion Drafft ar gyfer yr arolwg hwn ym mis Tachwedd 2005. Cynhaliodd y Comisiwn waith paratoi hefyd ar gyfer yr arolwg nesaf o drefniadau etholiadol y prif gynghorau yng Nghymru trwy ofyn i'r prif gynghorau nodi unrhyw anghysonderau yn y cymunedau yn eu hardal ac yn cynnig cynorthwyo yng ngwaith y cyngor i fynd i'r afael ag anghysonderau felly. Bu'r ymateb gan y prif gynghorau yn galonogol dros ben ac edrychwn ymlaen at barhau â'r cydweithio hwn yn ystod y prif arolwg y disgwylir iddo ddechrau yn 2008.
Caiff manylion yr arolygon eu cynnwys yn yr adroddiad, ond rhaid i mi bwysleisio unwaith eto mai cyflwyno cynigion er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus mewn modd annibynnol a gwrthrychol yw ein prif amcan. Rhan hanfodol o'n holl waith yw'n gweithdrefnau ymgynghori, yr ydym yn ceisio eu gwneud mor gynhwysfawr â phosibl ac mor briodol â phosibl i raddfa'r adolygiad. Rydym yn ddiolchgar am yr holl gynrychiolaethau sy'n dod i law. Rhoddir ystyriaeth ofalus iawn i bob un wrth i ni asesu tystiolaeth cyn dod i'n casgliadau, er y bydd rhai pobl yn anochel yn cael eu siomi weithiau gan ein casgliadau.
I gloi, hoffwn ddiolch unwaith eto i'm cyd Gomisiynwyr a phob aelod o'n Hysgrifenyddiaeth fach am eu cymorth parhaus drwy gydol y flwyddyn.
Mrs. SUSAN
SMITH LLB
Cadeirydd
CYNNWYS
1. CYFLWYNIAD
2. AMCANION
3. GWEITHGAREDD YN YSTOD Y FLWYDDYN FLAENOROL
4 GWAITH Y COMISIWN YN YSTOD 2005/06
5. RHEOLAETH GORFFORAETHOL: POLISÏAU AC ARFER
- Datganiad Rheoli, Memorandwm Ariannol a Chodau
- Cyllideb ac Archwiliad
- Cynllun Iaith Gymraeg
- Hyfforddiant a Thechnoleg Gwybodaeth
1. CYFLWYNIAD
Y Comisiwn
1.1 Sefydlwyd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) ym mis Mehefin 1974 o dan delerau Adran 53 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972). Dynodir swyddogaethau statudol y Comisiwn yn Adrannau 54 i 78 Deddf 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (Deddf 1994). Darpara Atodlen 8 i Ddeddf 1972 ar gyfer cyfansoddiad a threfniadau'r Comisiwn.
1.2 Diben y Comisiwn yw:
Cynnal arolygon o ardaloedd llywodraeth leol a threfniadau etholiadol yng Nghymru, gyda'r bwriad o ystyried a ddylid cyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu newidiadau sy'n ymddangos i'r Comisiwn yn rhai sy'n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Aelodaeth
1.3
Cadeirydd: Mrs S. G. Smith LLB
Dirprwy Gadeirydd: Mr J. E. Davies ICSA IPFA
Aelod: Mr. D. H. Roberts BSc DMS MBCS MIMgt
Gwneir apwyntiadau i'r Comisiwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ailbenodwyd Mrs. Susan Smith yn Gadeirydd o 1 Ionawr 2005. Ailbenodwyd Mr. John E. Davies a Mr. Dennis H. Roberts fel aelodau o'r dyddiad hwnnw hefyd. Mr. John Davies, Dirprwy Gadeirydd, oedd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Mae'n rhaid i'r Comisiwn gael o leiaf un siaradwr Cymraeg ac mae Mr. Davies a Mr. Roberts yn bodloni'r gofyniad hwn.
Mae'r Comisiynwyr ar hyn o bryd yn aelodau o gyrff cyhoeddus eraill. Mae Mrs. Smith yn aelod o'r Comisiwn Ffiniau i Gymru, yn Gadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Penfro, yn Ddyfarnwr Annibynnol dros Awdurdodau Lleol yng Nghymru (dan Ddeddf Llywodraeth Lleol a Thai 1989). Mae'n Gyfarwyddwr Bwrdd Cyllid Esgobaeth Llandaf (Yr Eglwys yng Nghymru) ac yn Gadeirydd eu Bwrdd Persondy. Mae Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Mae Mr Davies yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-Orllewin Cymru.
Cynhelir cyfarfodydd y Comisiwn mor aml ag y bydd y rhaglen waith yn mynnu. Mae'n arferol gan y Comisiwn ymweld â lleoliad arolygon, yn enwedig mewn perthynas ag arolygon ardaloedd (ffiniau). Er budd effeithlonrwydd, caiff archwiliadau safle eu cyfuno â chyfarfodydd y Comisiwn lle bynnag y bo'n bosibl. Cynhaliwyd wyth o gyfarfodydd yn ystod 2005-06.
Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol y Comisiwn, tra bod contractau'n bodoli i ddarparu gwasanaethau archwiliad mewnol, cyfreithiol, cyfrifo, cyfieithu ac argraffu.
Yr Ysgrifenyddiaeth
1.4 Lleolir ysgrifenyddiaeth y Comisiwn yn Nhy Caradog, 1-6 Plas St Andreas, Caerdydd. Ar ddechrau'r flwyddyn roedd 5 aelod o staff. Llenwir swydd yr Ysgrifennydd gan un o gyflogeion uniongyrchol y Comisiwn yn rhan amser, tra roedd y 4 aelod arall yn weision sifil ar secondiad o Gynulliad Cenedlaethol Cymru: 3 yn gweithio'n amser llawn ac 1 yn gweithio'n rhan-amser. O 1 Ionawr 2006, llenwyd y swydd Rheolwr Cyllid ar sail cyflogaeth uniongyrchol, gan gynyddu nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y Comisiwn i 2.
1.5 O 1 Ionawr 2002, ymgymerodd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn â chyfrifoldeb i ddarparu Ysgrifenyddiaeth i'r Comisiwn Ffiniau i Gymru ar gyfer ei Bumed Arolwg Cyffredinol o etholaethau Seneddol yng Nghymru dan Femorandwm Cytundeb rhwng y Comisiwn, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a'r Rhanbarthau a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cychwynnodd Pumed Arolwg Cyffredinol Comisiwn Ffiniau i Gymru ym mis Rhagfyr 2002 ac fe'i cwblhawyd ar 31 Ionawr 2005. Bydd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn yn parhau i ddarparu'r swyddogaeth hon cyhyd ag y gellir rhagweld. O fis Mehefin 2005, newidiodd yr Is-adran Nawdd ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru o Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog i'r Adran Materion Cyfansoddiadol. Mae Memorandwm Cytundeb newydd rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Adran Materion Cyfansoddiadol yn cael ei ddrafftio.
Dyletswyddau Statudol
1.6 Prif ddyletswyddau'r Comisiwn yw:
Ardaloedd Llywodraeth Leol
- Cynnal arolygon o'r holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddiben ystyried a ddylid cynnig newidiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ymddangos yn rhai sy'n ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus;
- Ystyried ceisiadau am arolygon gan awdurdodau lleol;
- Ystyried adroddiadau a wneir gan brif gynghorau mewn perthynas ag arolygon ardaloedd cymunedol a gynhaliwyd ganddynt a gwneud argymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Trefniadau Etholiadol
- O dan ddarpariaethau'r adran 64 newydd a ychwanegwyd at Ddeddf 1972 gan Adran 6 Deddf 1994, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl etholiad cyffredin cynghorwyr ar gyfer unrhyw un o'r prif ardaloedd yng Nghymru a gynhaliwyd ym 1995 roedd yn ofynnol i'r Comisiwn:
- Cynnal adolygiad o'r trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal honno gyda'r bwriad o ystyried y trefniadau etholiadol yn y dyfodol; a
- Llunio cynigion ar gyfer y trefniadau hynny; a
- Heb fod yn llai na deg nac yn fwy na phymtheng mlynedd ar ôl cwblhau'r adolygiad cychwynnol ac wedi hynny, ar gyfnodau tebyg, cynnal adolygiad o'r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal yng Nghymru.
Cyfarwyddiadau
- Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal adolygiad o Gymru gyfan, neu o unrhyw un neu fwy o ardaloedd llywodraeth leol neu rannau o ardaloedd o'r fath yng Nghymru
Gweithdrefn yr Arolwg
1.7 Mae Adran 60 Deddf 1972 yn diffinio'r canllawiau gweithdrefnol sydd i'w dilyn wrth ymgymryd â phob arolwg. Camau sylfaenol arolwg yw:
- Cyhoeddi dyddiad dechrau'r arolwg pan wahoddir awgrymiadau a sylwadau cychwynnol erbyn dyddiad penodol;
- Cyhoeddi cynigion drafft y Comisiwn pan wahoddir sylwadau arnynt yn yr un modd erbyn dyddiad penodol; a
- Cyhoeddi cynigion terfynol pan ddylai unrhyw sylwadau pellach gael eu cyfeirio ar ôl hyn at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2. AMCANION
2.1 Noddir y Comisiwn gan Isadran Polisi Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Comisiwn yn destun Arolygon Polisi cyfnodol sy'n darparu canllawiau strategol a pholisi tymor canolig ar gyfer cynlluniau blynyddol y Comisiwn. Dechreuodd y cyfnod cynllunio strategol diwethaf gydag Arolwg Polisi o'r Comisiwn a gynhaliwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2001.
Targedau
2.2 Mae'r cyfarwyddiadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'r Comisiwn gynnal arolygon ardal yn cynnwys terfynau amser penodedig, a bennir ar ôl ystyried cymhlethdod pob arolwg. Nod y Comisiwn yw cwblhau arolygon ardal a gynhelir ar gais awdurdodau lleol o fewn deuddeg mis.
2.3 Caiff y gweithdrefnau i'w dilyn wrth gynnal arolwg eu diffinio yn ôl statud, gan ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn hysbysu ac ymgynghori'n eang ac ystyried cynrychiolaethau cyn gwneud unrhyw gynigion terfynol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2.4 Nid oes unrhyw gyfnodau amser statudol ar gyfer yr ymgynghoriad nac unrhyw un o gamau eraill y gweithdrefnau, ac fe'u gweithredir yn ôl disgresiwn y Comisiwn. Mae'r Comisiwn wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r angen i ddarparu amser digonol i awdurdodau lleol a phobl eraill sydd â diddordeb gyflwyno eu safbwyntiau. Gosodir targedau o fewn deuddeg mis i arolwg ar gyfer y camau cyhoeddusrwydd ac ymgynghori, cynhyrchu adroddiadau drafft a therfynol a'r amser sydd ei angen i asesu'r materion dan sylw. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Comisiwn ystyried amgylchiadau penodol weithiau ac, oni bai bod terfynau amser penodedig yn bodoli, maent yn hyblyg wrth gadw at dargedau.
3. GWEITHGAREDD YN YSTOD Y FLWYDDYN FLAENOROL
Arolygon o Brif Ardaloedd
3.1 Roedd y Comisiwn wedi dechrau arolwg o'r ffin rhwng Siroedd Ceredigion a Phenfro yng nghyffiniau Cilgerran, gan gyhoeddi eu Cynigion Drafft ym mis Rhagfyr 2004.
Arolygon Cymunedol
3.2 Ar ôl cael Gorchymyn gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar 31 Gorffennaf 2004, dechreuodd y Comisiwn arolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2004.
Prosiect Ffiniau Wardiau Cymunedol
3.3 Dechreuodd y Comisiwn brosiect i gofnodi ffiniau Wardiau Cymunedol yng Nghymru yn ddigidol. Gosodwyd y tendr ar gyfer cam un, sef sganio mapiau Trefn Cymunedau, ym mis Hydref 2004.
4. GWAITH Y COMISIWN YN YSTOD 2005/2006
Arolygon o Brif Ardaloedd
4.1 Cwblhaodd y Comisiwn eu harolwg o'r ffin rhwng Siroedd Ceredigion a Phenfro yng nghyffiniau Cilgerran, gan gyhoeddi eu Hadroddiad a'u Cynigion ym mis Mai 2005.
Arolygon Cymunedol
4.2 Cwblhaodd y Comisiwn eu harolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gyhoeddi eu Cynigion Drafft ym mis Ebrill 2005 a'u Hadroddiad a Chynigion ym mis Awst 2005.
4.3 Ym mis Mai 2005, dechreuodd y Comisiwn arolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Cyhoeddwyd Cynigion Drafft ar gyfer yr arolwg hwn ym mis Tachwedd 2005.
4.4 Mae'r Comisiwn wedi dod yn ymwybodol mai nifer gymharol fach o arolygon sydd wedi'u cynnal gan y prif gynghorau ers arolygon Cymunedau Arbennig y 1980au. Ysgrifennodd y Comisiwn at yr holl Brif Weithredwyr i'w hatgoffa nhw o'r gofyniad deddfwriaethol hwn. Bydd modd gwella'r arolwg llawn nesaf o drefniadau etholiadol a gynhelir gan y Comisiwn os bydd yr holl awdurdodau wedi mynd i'r afael ag anghysonderau lleol cyn dechrau'r gwaith hwn. O ganlyniad i drafodaethau ag Isadran Polisi'r Llywodraeth Leol, gwnaed cynnig i gynorthwyo'r prif gynghorau gyda'r gwaith hwn trwy ddefnyddio arbenigedd y Comisiwn.
Prosiect Ffiniau Wardiau Cymunedol
4.5 Parhaodd y Comisiwn â'u prosiect i gofnodi ffiniau Wardiau Cymunedol yng Nghymru yn ddigidol yn ystod 2005-06. Yn dilyn cam un, sef sganio'r mapiau Trefn Cymunedol a gwblhawyd yn 2004-05, aeth y map wedi'i sganio drwy broses wirio a gwblhawyd ym mis Mehefin 2005. Ymgymerwyd yn rhannol ag ail gyfnod y prosiect, sef trosi'r ffiniau cymunedol a sganiwyd yn ddata mapio, yn fewnol yn ystod 2005/06 a bydd yn parhau yn ystod 2006/07.
5. RHEOLAETH GORFFORAETHOL: POLISÏAU AC ARFER
Datganiad Rheoli, Memorandwm Ariannol a Chodau
5.1 Mae Datganiad Rheoli a Memorandwm Ariannol cysylltiol yn disgrifio'r berthynas rhwng y Comisiwn a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno Cynlluniau Gweithredol Blynyddol ac Adroddiadau Blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion cynllunio, cyllidebu ac asesu perfformiad. Cynhelir cyfarfodydd cyswllt chwarterol a chyfarfod arolwg blynyddol gydag isadran nawdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwahoddwyd y Comisiwn i gyflwyno eu Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Ebrill 2005.
5.2 Mabwysiadwyd Cod Arfer Gorau ar gyfer Comisiynwyr ac mae cofrestr o fuddiannau ariannol uniongyrchol ac anuniongyrchol y Comisiynwyr ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio. Gellir trefnu i'w gweld drwy gysylltu â'r Ysgrifennydd yn swyddfeydd y Comisiwn. Mae yna god tebyg mewn perthynas â staff.
5.3 Mae'r Comisiwn yn cwrdd fel Pwyllgor Archwilio, wedi'i gadeirio gan Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn. Yn ystod y flwyddyn cyfarfu'r Pwyllgor Archwilio dair gwaith.
5.4 Mabwysiadwyd arferion gwaith sy'n cydsynio ag egwyddorion gonestrwydd, ymgynghori a chymwynasgarwch. Er enghraifft, rhydd y Comisiwn gyhoeddusrwydd eang i'w bwriad i gynnal pob arolwg ac ysgrifennu at yr awdurdod lleol dan sylw, ac ymweld a hwy, i drafod yr arolwg a gwahodd eu sylwadau cychwynnol. Ar gyfer pob arolwg mae'r Comisiwn yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg ar eu cynigion drafft a'u cynigion terfynol a darperir digon o gopïau o'r adroddiadau i alluogi iddynt gael eu dosbarthu am ddim i bob aelod o'r prif gynghorau, cynghorau cymuned sy'n cael eu heffeithio gan y cynigion a llyfrgelloedd lleol. Mae nifer o gopïau ar gael hefyd i drigolion lleol ar gais. Rhydd gwefan y Comisiwn: www.lgbc-wales.gov.uk wybodaeth am y Comisiwn, cynnydd yr arolygon a chyfle i weld adroddiadau blaenorol. Yn ystod y flwyddyn mabwysiadodd y Comisiwn Gynllun Parhad Busnes a Pholisi Chwythu'r Chwiban.
5.5 Ym mis Hydref 2005, cynhaliodd y Comisiwn eu hwythfed Cyfarfod Agored Blynyddol, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth y tro hwn. Y siaradwyr gwadd yn y cyfarfod oedd Owen Watkins (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ceredigion), Huw Thomas (Llyfrgellydd Cynorthwyol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Melvin Humphreys (Uwch Swyddog Etholiadau, Cyngor Sir Powys).
Cyllideb ac Archwiliad
5.6 Roedd gwariant y Comisiwn ar gostau staff, taliadau gweithredol eraill a chaffaeliadau o asedion sefydlog yn ystod 2005-2006 o £331,982 ar sail ariannol o fewn y dyraniad cymorth grant ar gyfer y flwyddyn sef £356,000. Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i gyflawni gwerth am arian wrth brynu nwyddau a gwasanaethau.
5.7 Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a gwerth am arian mae cyfres gynhwysfawr o gyfarwyddiadau desg sy'n ymwneud â systemau a gweithdrefnau mewn grym. Archwilwyr mewnol y Comisiwn oedd Gwasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal yr archwiliad allanol o gyllid y Comisiwn.
Cynllun Iaith Gymraeg
5.8 Dymuna'r Comisiwn gadarnhau y gall y cyhoedd ddelio â hwy yn Gymraeg. Ym mis Gorffennaf 1998, mabwysiadodd y Comisiwn eu Cynllun Iaith Gymraeg yn unol â darpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996. Mae'r Comisiwn bellach wedi cyhoeddi eu wythfed adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar weithrediad y cynllun. Yn gryno, mae'r adroddiad yn cadarnhau bod y Comisiwn yn cydymffurfio â'r mesurau, yr amserlen a'r targedau a nodir yn eu cynllun. Cynhwysir tystiolaeth o'r ymrwymiad i'r egwyddor y bydd y Comisiwn, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal yn y ffaith bod yr holl adroddiadau a'r cyhoeddusrwydd y cyfeirir atynt yn yr Adroddiad Blynyddol hwn wedi cael eu cyhoeddi yn ddwyieithog. Fodd bynnag mae'r cynllun hefyd yn cynnwys llawer o fesurau manwl eraill i ategu'r egwyddor a gellir darparu copi o'r adroddiad llawn ar gais neu gellir cael gafael arno ar wefan y Comisiwn.
Hyfforddiant a Thechnoleg Gwybodaeth
5.9 Mae'r Comisiwn yn rhan o bartneriaeth MERLIN y Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi parhau i ddarparu mwyafrif gofynion TG y Comisiwn, yn galedwedd ac yn feddalwedd. Mae hyn wedi cynyddu effeithlonrwydd TG y Comisiwn ac wedi lleihau'n fawr y risgiau sy'n gysylltiedig â methiant TG a'i hadnewyddu.
5.10 Mynychwyd cyrsiau hyfforddiant datblygu staff yn ystod y flwyddyn.
6. ADRODDIAD ARIANNOL CRYNO
Mae'r Datganiad Ariannol hwn yn rhoi crynodeb o gyfrifon Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2006. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth ddigonol i ganiatáu ar gyfer dealltwriaeth lawn o'r canlyniadau a sefyllfa ariannol y Comisiwn. I gael mwy o wybodaeth, dylid ymgynghori â'r cyfrifon blynyddol llawn ac adroddiad yr archwilydd ar y cyfrifon hynny. Mae copi o'r cyfrifon archwiliedig, sy'n cynnwys y wybodaeth fanwl sy'n ofynnol o dan y gyfraith ac o dan ganllawiau arfer gorau, ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth y Swyddog Cyllid, Ty Caradog, 1-6 Plas St Andreas, Caerdydd CF10 3BE.
Cefndir Statudol
Sefydlwyd y Comisiwn o dan Adran 53 Deddf Llywodraeth Leol 1972 at ddibenion adolygu ardaloedd a threfniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru yn gyson. Swyddogaeth gyffredinol y Comisiwn, fel y'i nodwyd yn Neddf 1972, yw "cyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu newidiadau sy'n ymddangos i'r Comisiwn yn rhai sy'n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus". Caiff ei gyllido drwy gymorth grant blynyddol oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Adolygiad o'r flwyddyn a Datblygiadau yn y Dyfodol
Arolygon o Ffiniau a Chymunedau oedd y rhan fwyaf o waith y Comisiwn yn ystod y flwyddyn. Fel ag y manylir yn yr Adroddiad Blynyddol, cwblhaodd y Comisiwn arolwg o'r ffin rhwng Sir Benfro a Cheredigion a hefyd cwblhau arolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal, dechreuodd y Comisiwn arolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Ymgymerodd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn â chyfrifoldeb darparu Ysgrifenyddiaeth i'r Comisiwn Ffiniau i Gymru ar gyfer ei Bumed Arolwg Cyffredinol o'r etholaethau Seneddol yng Nghymru. Dechreuodd Pumed Arolwg Cyffredinol y Comisiwn Ffiniau i Gymru ym mis Rhagfyr 2002 ac fe'i cwblhawyd ar 31 Ionawr 2005. Bydd arolygon pellach o drefniadau etholiadol yn dibynnu ar unrhyw gyfarwyddiadau, a all gael eu rhoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu geisiadau oddi wrth brif gynghorau.
Mae rhwymedigaeth barhaus gan y Comisiwn i adolygu ardaloedd y prif gynghorau'n gyson ac i roi ystyriaeth i unrhyw argymhellion a gyflwynir gan brif gynghorau mewn perthynas ag arolygon o ardaloedd cymunedau a gynhelir ganddynt. Ym mis Mai 2005, ysgrifennodd y Comisiwn at yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn gofyn iddynt ystyried mynd i'r afael ag unrhyw faterion a allai fod ganddynt mewn perthynas â ffiniau cymunedau neu drefniadau etholiadol cymunedau yn eu hawdurdod. Cynigiodd y Comisiwn hefyd gynorthwyo awdurdodau lleol wrth ymgymryd â'r arolygon hyn. Hyd yma, mae dau awdurdod lleol yn ymgymryd ag arolygon o gymunedau yn eu hardaloedd, mae tri awdurdod lleol yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiwn ymgymryd ag arolygon o gymunedau yn eu hardaloedd ac mae 10 awdurdod lleol yn y broses o edrych ar gymunedau yn eu hardaloedd i asesu a oes angen arolygon.
Aelodaeth y Comisiwn
Aelodau'r Comisiwn yn ystod 2005/06 oedd Mrs S G Smith LLB (Cadeirydd), Mr J E Davies ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd) a Mr D H Roberts BSc DMS MBCS MCMI (Aelod).
DATGANIAD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU I AELODAU CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
Rwyf wedi archwilio'r datganiad ariannol cryno ar dudalennau 11 - 12, a baratowyd ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn nodyn 1 ar dudalen 13.
Priod gyfrifoldebau'r Comisiwn, yr Ysgrifennydd a'r Archwilydd
Cyfrifoldeb y Comisiwn a'r Ysgrifennydd yw'r datganiad ariannol cryno. Fy nghyfrifoldeb i yw adrodd fy marn i chi am ei baratoi ac a yw'n gyson â'r datganiadau ariannol llawn a'r rhagair. Rwyf wedi darllen y wybodaeth arall a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol hefyd ac yn ystyried y goblygiadau i'm hadroddiad os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiad amlwg neu anghysondebau perthnasol â'r datganiadau ariannol cryno.
Sail y Farn Archwilio
Cynheliais f'archwiliad yn unol â Safonau Archwilio y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio.
Barn Archwilio
Yn fy marn i, mae'r datganiad ariannol cryno yn gyson â'r datganiadau ariannol llawn a rhagair Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2006 ac wedi ei baratoi'n briodol ar y sail a nodir yn nodyn 1 i'r datganiad ariannol cryno.
Jeremy Colman
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Swyddfa Archwilio Genedlaethol 3-4 Park Grove Caerdydd CF10 3PA7 Mehefin 2006
CYFRIF INCWM A GWARIANT
ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2006
|
|
2006 |
|
2005 |
|---|---|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
£ |
|
£ |
|
INCWM GROS |
|
|
|
|
Cymorth grant |
314,272 |
|
288,365 |
|
Trosglwyddo o Gronfa Wrth Gefn Grantiau’r Llywodraeth |
11,835 |
|
8,329 |
|
|
326,107 |
|
296,694 |
|
|
|
|
|
|
GWARIANT |
|
|
|
|
Costau staff |
152,453 |
|
133,725 |
|
Dibrisiant |
11,835 |
|
8,329 |
|
Cost dybiannol y tâl cyfalaf |
648 |
|
675 |
|
Costau gweithredu eraill |
174,471 |
|
154,384 |
|
|
339,407 |
|
297,113 |
|
|
|
|
|
|
Diffyg gweithredu |
(13,300) |
|
(419) |
|
|
|
|
|
|
Llog a dderbyniwyd |
300 |
|
221 |
|
|
|
|
|
|
(Colled)/elw wrth waredu asedau sefydlog |
(734) |
|
278 |
|
|
|
|
|
|
Gwrthdroi cost dybiannol y tâl cyfalaf |
648 |
|
675 |
|
|
|
|
|
|
Swm a ildiwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru |
(336) |
|
(186) |
|
|
|
|
|
|
(Diffyg)/gwarged ar gyfer y flwyddyn a drosglwyddwyd i’r cronfeydd wrth gefn |
(13,422) |
|
569 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
DATGANIAD CRONFEYDD CADW |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gwarged wedi’i gadw a ddygwyd ymlaen |
5,366 |
|
4,797 |
|
(Diffyg)/gwarged ar gyfer y flwyddyn |
(13,422) |
|
569 |
|
|
|
|
|
|
(Diffyg)/gwarged wedi'i gadw a gariwyd ymlaen |
(8,056) |
|
5,366 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ystyrir pob gweithgaredd yn weithgaredd parhaus |
|
|
|
MANTOLEN
ar 31 Mawrth 2006
|
|
2006 |
2005 |
||
|---|---|---|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
£ |
£ |
£ |
£ |
|
|
|
|
|
|
|
ASEDAU SEFYDLOG |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Asedau Sefydlog Diriaethol |
|
21,454 |
|
15,579 |
|
|
|
|
|
|
|
ASEDAU CYFREDOL |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhagdaliadau |
1,223 |
|
1,882 |
|
|
Arian parod yn y banc ac mewn llaw |
9,818 |
|
35,442 |
|
|
|
11,041 |
|
37,324 |
|
|
CREDYDWYR |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Symiau’n ddyledus o fewn blwyddyn |
(19,097) |
|
(31,958) |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
ASEDAU/(RHWYMEDIGAETHAU) CYFREDOL NET |
|
(8,056) |
|
5,366 |
|
|
|
|
|
|
|
CYFANSWM YR ASEDAU NET |
|
13,398 |
|
20,945 |
|
|
|
|
|
|
|
ARIANNWYD GAN |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cronfa Wrth Gefn Grantiau’r Llywodraeth |
|
21,454 |
|
15,579 |
|
|
|
|
|
|
|
Cyfrif Incwm a Gwariant |
|
(8,056) |
|
5,366 |
|
|
|
|
|
|
|
CRONFEYDD Y LLYWODRAETH |
|
13,398 |
|
20,945 |
NODIADAU I'R DATGANIAD ARIANNOL CRYNO
1. Confensiynau Cyfrifo
Paratoir y cyfrifon o dan y confensiwn cost hanesyddol. Heb gyfyngu ar y wybodaeth a roddir, mae'r cyfrifon yn bodloni gofynion cyfrifo a datgelu Deddf Cwmnïau 1985 a'r safonau cyfrifo a gyhoeddwyd neu a fabwysiadwyd gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo i'r graddau bod y gofynion hynny'n gymwys. Mae'r Comisiwn wedi'i eithrio rhag y gofyniad i gynhyrchu nodyn o enillion a cholledion cost hanesyddol o dan Safon Cofnodi Ariannol Rhif 3
2. Canlyniadau ac arian a neilltuwyd
Corff cyhoeddus a noddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r Comisiwn. Cyfanswm ei gymorth grant a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2006 oedd £331,982. O'r swm hwn roedd £17,710 ar gyfer gwariant cyfalaf. Y diffyg am y cyfnod oedd £13,422 ac ariannwyd hwn gan y cronfeydd wrth gefn.
3. Costau Staff ac Aelodau
|
|
2006 |
|
2005 |
|---|---|---|---|
|
|
£ |
|
£ |
|
|
|
|
|
|
Tâl Aelodau’r Comisiwn |
11,802 |
|
12,049 |
|
|
|
|
|
|
Cyflogau |
110,260 |
|
99,775 |
|
|
|
|
|
|
Yswiriant Gwladol Cyflogwyr |
9,942 |
|
8,217 |
|
|
|
|
|
|
Costau Pensiwn Eraill |
20,449 |
|
13,684 |
|
|
|
|
|
|
Cyfanswm |
152,453 |
|
133,725 |
|
Nifer y staff a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ar gyfartaledd |
5 |
|
5 |
|
|
|
|
|
Cyflog Cadeirydd y Comisiwn oedd £3,765 (2004-05: £3,227). Talwyd llai na £5,000 yr un i aelodau eraill y Comisiwn.
Mae uwch staff y Comisiwn wedi llofnodi contractau cyflogaeth safonol y Cynulliad, nad ydynt yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth breifat am eu tâl etc. Yn ogystal, mae gan bob aelod o'r Comisiwn hawliau statudol i breifatrwydd o dan ddeddfwriaeth y Deddfau Diogelu Data ac Iawnderau Dynol. O ganlyniad, mae'r uwch staff wedi gwrthod eu caniatâd i'w manylion preifat gael eu cyhoeddi, fel a ganiateir gan gyfarwyddyd Trysorlys Ei Mawrhydi DAO (GEN) 12/00.
4. Digwyddiadau Ôl-Fantolen
Nid oedd digwyddiadau ôl-fantolen i'w cofnodi ar ddyddiad llofnodi'r cyfrifon hyn.
Edward Lewis
Ysgrifennydd a Swyddog Cyfrifo
2 Mehefin 2006
12/10/2006
