Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O FFINIAU’R SIROEDD A GEDWIR

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD

  2. CRYNODEB GWEITHREDOL

  3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

  4. CYNIGION DRAFFT

  5. SYLWADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

  6. ASESIAD

  7. CYNIGION

  8. DIOLCHIADAU

  9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

Atodiad 1 - Y Siroedd a Gedwir a’u Hardaloedd

Atodiad 2 - Darpariaethau Sy’n Berthnasol i Siroedd a Gedwir

Atodiad 3 - Cymdeithas Siroedd Prydain

Atodiad 4 - Map o’r Siroedd a Gedwir (PDF)

Atodiad 5 - Map o gwelliant ffinau Rhondda Cynon Taf/Bro Morgannwg (PDF)

Edwina Hart AC MBE

Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) wedi cwblhau’r arolwg o ffiniau’r siroedd cadwedig yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mawrth 2002.

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Cynigiwn fân newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a De Morgannwg i adlewyrchu’r newidiadau diweddar i’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Hefyd cynigiwn newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd a chynigiwn newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Mae Adran 54(1A) Deddf Llywodraeth leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gallai’r Comisiwn o ganlyniad i arolwg a gynhaliwyd ganddynt wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwneud newidiadau sy’n ymddangos yn ddymunol i’r Comisiwn gan ystyried, yn arbennig, ddibenion cadw'r cyfryw siroedd.

Cyfarwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3.2 Yn unol ag Adran 56(1c) y Ddeddf mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i’r Comisiwn gynnal arolwg o ffiniau’r siroedd cadwedig yng Nghymru.

Siroedd Cadwedig

3.3 Diffinnir ‘sir gadwedig’ gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 fel a ganlyn:

ystyr "sir gadwedig" yw unrhyw sir a grëir gan Ddeddf 1972 fel sir yng Nghymru, fel y safai’r sir honno yn union cyn i’r Ddeddf hon gael ei phasio ond yn amodol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan Ddeddf 1972, gan ail-lunio ei ffiniau.

3.4 Ceir manylion am yr ardaloedd a gwmpesir gan y siroedd cadwedig yn Atodiad 1 a cheir map o Gymru yn dangos y siroedd cadwedig yn Atodiad 4.

3.5 Cadwyd y "siroedd cadwedig" gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 er mwyn diffinio ardaloedd sirol at ddibenion rhai darpariaethau statudol penodol a restrir yn Atodlen 2 Deddf 1994. Canfuwyd y darpariaethau perthnasol yn y statudau canlynol:

Ceir disgrifiad pellach o ddarpariaethau perthnasol y Deddfau hyn ar ffurf crynodeb yn Atodiad 2.

Llawlyfr Canllaw

3.6 Er mwyn esbonio’r term ‘sir gadwedig’ ac amlinellu cwmpas yr arolwg ac esbonio’r gweithdrefnau y bydd y Comisiwn yn eu dilyn, lluniwyd llyfryn canllaw ac mae copïau ohono ar gael o’r Comisiwn ac o wefan y Comisiwn yn www.cflll-cymru.gov.uk. Fel y nodwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd gan Gymdeithas Siroedd Prydain (nodwyd yn llawn yn Atodiad 3) mae’r llyfryn Canllaw yn nodi’n anghywir ym mharagraff 1.3 ‘In consequence of such a review, the Commission may make proposals to the National Assembly for Wales for effecting changes appearing to the Commission desirable in the interests of effective and convenient local government’. Fodd bynnag nodwyd Cwmpas ac Amcan yr arolwg hwn yn gywir ym mharagraff 3.1 y Cynigion Drafft, ac mae’r Comisiwn yn cadarnhau ei fod, wrth gynnal yr arolwg hwn o’r siroedd cadwedig, wedi ystyried yn benodol y rhesymau pam y cadwyd y Siroedd Cadwedig.

Gweithdrefn

3.7 Noda Adran 60 y Ddeddf y canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r canllaw hwnnw ysgrifenasom ar 18 Mawrth 2002 at yr Awdurdodau Unedol, yr Arglwydd Raglawiaid, yr Aelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad, y cymdeithasau awdurdodau lleol, awdurdodau’r heddlu, y pleidiau gwleidyddol a chyrff eraill â diddordeb i’w hysbysu o’n bwriad i gynnal yr arolwg, i ofyn am eu sylwadau cychwynnol ac i roi copi o lyfryn canllaw’r Comisiwn iddynt yn cynnwys cyfarwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Comisiwn. Hefyd cyhoeddwyd ein bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd a gofynnwyd i’r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Derbyniwyd sylwadau gan Arglwydd Raglawiaid Gwent, Morgannwg Ganol a Gorllewin Morgannwg, Peter Hain AS, Paul Murphy AS, Gareth Thomas AS, Don Touhig AS, William Graham AC, Carwyn Jones AC, Gwenda Thomas AC, y Cynghorydd Jeffrey James, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Plaid Geidwadol Cymru, Cymdeithas Ceidwadwyr Conwy, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy, Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Mynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cynghorau Tref Gogledd Cymru, Cyngor Tref Llandudno, Awdurdod Heddlu Gwent, a nifer o gyrff eraill â diddordeb. Ystyriwyd y sylwadau hyn ac fe’u crynhowyd yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 2002.

4.2 Wedi ystyried y sylwadau a wnaed i ni, cynigiwyd tri newid i ffiniau presennol y siroedd cadwedig. Cynigiwyd mân newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a De Morgannwg i adlewyrchu’r newidiadau diweddar yn y ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Cynigiwyd newid sylweddol i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd a hefyd cynigir newid sylweddol i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

4.3 Anfonwyd y Cynigion Drafft at yr holl gynghorau, cyrff ac unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.7 i ofyn am eu barn. Hefyd anfonwyd copi at unrhyw un a gyflwynodd sylwadau rhagarweiniol. Drwy hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu berson arall â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu sylwadau. Mae copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd y 22 awdurdod unedol yng Nghymru ac yn swyddfeydd y Comisiwn.

5. SYLWADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Derbyniwyd sylwadau gan Arglwydd Raglawiaid Gwynedd, Morgannwg Ganol a De Morgannwg, Paul Murphy AS, Don Touhig AS, David Davies AC, Plaid Geidwadol Cymru, Mrs J Smith, Cadeirydd Ceidwadwyr Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Tref Bae Colwyn, Cyngor Tref Llandudno, Cyngor Cymuned Rhydri a nifer o gyrff a thrigolion eraill â diddordeb. Ystyriwyd yr holl sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.

5.2 Dywedodd yr Athro Eric Sutherland, Arglwydd Raglaw Gwynedd fod cynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd yn annoeth ac nad oedd yn ddigon argyhoeddiadol. Ystyriai na roddwyd unrhyw ddadl dros newid y ffin rhwng Gwynedd a Chlwyd yn y dull a gynigiwyd. Wedi cynnal llawer o swyddogaethau swyddogol yng Nghonwy heb anhawster na sylwadau croes ystyriai fod y system bresennol yn gweithio’n foddhaol ac y byddai’r sefyllfa bresennol yn cael ei derbyn yn gyffredinol. Fodd bynnag pe na byddai’r Comisiwn yn parhau â’r sefyllfa bresennol yna roedd yn credu’n gryf y dylai Conwy ddod yn rhan o Sir Gadwedig Gwynedd gan ei fod yn ystyried bod y rhan fwyaf o Gonwy, os nad Conwy i gyd, wedi bod yn rhan o Wynedd, neu’n gysylltiedig â Gwynedd erioed. Ni wyddai am unrhyw gysylltiad ystyrlon naill ai’n hanesyddol nac yn gyfoes rhwng arfordir Conwy, yn cynnwys Llandudno, a Chlwyd.

5.3 Dywedodd Mary Squire, Clerc Rhaglawiaeth Morgannwg Ganol ei bod wedi ymgynghori â’r Arglwydd Raglaw ac nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau pellach i ychwanegu at eu sylwadau cychwynnol o safbwynt Rhaglawiaeth Morgannwg Ganol nad oedd rhaniad Bwrdeistref Sirol Caerffili rhwng dwy ardal Raglawiaeth yn ymarferol wedi achosi unrhyw broblemau arbennig.

5.4 Dywedodd y Capten N Lloyd-Edwards, Arglwydd Raglaw De Morgannwg nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i gynnig y Comisiwn.

5.5 Roedd Paul Murphy AS yn cefnogi cynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

5.6 Roedd Don Touhig AS yn cefnogi cynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

5.7 Dywedodd David Davies AC ei fod yn cefnogi sylwadau’r Blaid Geidwadol y dylid cynnwys Bwrdeistref Sirol gyfan Caerffili ym Morgannwg Ganol yn hytrach nag yng Ngwent am y rhesymau canlynol:

  1. Mae’r ardal fwyaf a’r nifer fwyaf o etholwyr yng Nghaerffili ar hyn o bryd yn sir gadwedig Morgannwg Ganol. Felly yr hyn a fyddai’n achosi’r amhariad lleiaf fyddai cynnwys Caerffili gyfan o fewn Morgannwg Ganol;
  2. Ar hyn o bryd Morgannwg Ganol sydd â’r boblogaeth mwyaf ymysg y siroedd cadwedig. Fodd bynnag pe byddai Caerffili gyfan yn cael ei chynnwys yng Ngwent yna honno fyddai’r sir gadwedig fwyaf o ran poblogaeth. Byddai hefyd yn fwy o lawer na siroedd cadwedig eraill De Cymru;
  3. Ardal Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent yw ardal annibynnol Islwyn, sy’n cyd-ffinio ag etholaeth seneddol Islwyn, tra bod ardal Caerffili yn sir gadwedig Morgannwg Ganol yn cynnwys nid yn unig etholaeth ardal Caerffili ond hefyd rhan o etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni. Mae hyn yn arddangos y cysylltiadau sydd gan Caerffili â’r ardaloedd hyn; ac
  4. Mae gan Gaerffili lawer mwy yn gyffredin â Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf na chyda Sir Fynwy a Gwent. Mae Caerffili, ychydig i’r gogledd o Gaerdydd, wedi bod yn rhan o Forgannwg erioed fel Bargoed, y prif ganolfan boblogaeth arall o fewn Awdurdod Unedol Caerffili.
5.8 Dywedodd Plaid Ceidwadwyr Cymru nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r mân newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a De Morgannwg. Roeddent hefyd yn gwbl gefnogol i gynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd am y rhesymau a amlinellwyd yn eu sylwadau cychwynnol. Nodwyd ganddynt fod y Comisiwn Archwilio’n cefnogi’r cynnig hwn, yn arbennig y ddadl bod Ymddiriedolaeth Conwy a Sir Ddinbych yn goruchwylio ardal ddaearyddol sy’n alinio ardal awdurdod unedol Conwy ag ardal awdurdod unedol Sir Ddinbych. Ystyrid bod y cysylltiad agos hwn, ynghyd â’r berthynas sydd gan y rhan o Gonwy sydd o fewn Gwynedd ar hyn o bryd â Chlwyd, yn rhesymau dilys dros y cynnig.

Nid oeddent yn cefnogi cynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn y sir gadwedig Gwent. Yn eu barn hwy byddai’r niwed yn achosi mwy o amhariad oherwydd newid o’r fath oherwydd y byddai dros 60% o’r etholwyr yn cael eu trosglwyddo. Byddai hefyd yn achosi anghyfleustra ac yn torri cysylltiadau lleol o fewn yr etholaethau seneddol presennol. Mae Etholaeth Seneddol Islwyn yn hollol annibynnol o fewn Gwent tra bod Etholaeth Seneddol Merthyr Tudful a Rhymni wedi’i rhannu rhwng awdurdodau unedol Caerffili a Merthyr Tudful. Felly byddai cynnwys Caerffili gyfan o fewn Gwent yn rhannu Etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a Gwent. Gan na all etholaethau groesi ffiniau siroedd cadwedig, ac eithrio i leihau anghyfartaledd mawr, byddai hyn yn golygu gorfod addasu Etholaeth Seneddol bresennol Merthyr Tudful a Rhymni yn sylweddol.

5.9 Dywedodd Mrs J Smith, Cadeirydd Ceidwadwyr Gogledd Cymru ei bod yn cefnogi’r sylw a wnaeth y Blaid Geidwadol i’r Comisiwn y dylid cynnwys Awdurdod Unedol cyfan Conwy yn y sir gadwedig Clwyd.

5.10 Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cefnogi cynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent, a fyddai, yn eu barn hwy, yn sicrhau cysondeb wrth ystyried ffiniau ac osgoi dyblygu swyddogaethau gweinyddol, barnwriaethol a seremonïol sy’n codi fel arall. Fodd bynnag, nodwyd hefyd y byddai newid o’r fath yn cael yr effaith ddilynol o rannu Etholaeth Seneddol Merthyr Tudful a Rhymni rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a Gwent. Nodwyd bod hyn yn groes i Reol 4 Atodlen 2 Deddf Etholaethau Seneddol 1983 sy’n ei gwneud yn ofynnol, cyn belled ag y bo’n ymarferol, na chaiff unrhyw sir gadwedig neu unrhyw ran o sir gadwedig, eu cynnwys mewn etholaeth sy’n cynnwys sir gadwedig gyfan arall neu ran o sir gadwedig. Ymholwyd i weld a fyddai cyfleustra cynnwys Caerffili gyfan o fewn sir gadwedig Gwent yn bodloni’r amod ‘cyn belled ag y bo’n ymarferol’ a gaiff ei gynnwys yn Atodlen 2 y Ddeddf.

5.11 Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi cynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd. Hefyd ailadroddwyd eu sylw blaenorol eu bod yn ystyried y dylid moderneiddio’r system o siroedd cadwedig.

5.12 Dywedodd Cyngor Sir Dinbych eu bod yn teimlo nad oedd unrhyw faterion sylweddol a oedd yn gwarantu newid ffiniau siroedd cadwedig. Fodd bynnag, roeddent hefyd yn teimlo pe byddai newid yn cael ei weithredu rhwng siroedd cadwedig Gwynedd a Chlwyd, byddai’n well cynnwys Conwy yng Nghlwyd yn hytrach nag yng Ngwynedd. Ystyrid bod gan Gonwy gysylltiadau cryfach â Sir Ddinbych na Gwynedd o ran gwasanaethau fel Ymddiriedolaeth y GIG, Adran Ganolog Heddlu Gogledd Cymru a Menter Iaith Conwy-Dinbych.

5.13 Roedd Cyngor Sir Gwynedd yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy yn sir gadwedig Clwyd. Roeddent yn ystyried nad oedd ffin bresennol sir gadwedig Gwynedd yn achosi unrhyw anawsterau o ran y swyddogaethau sy’n gysylltiedig â’r sir gadwedig ac felly nad oedd unrhyw reswm dros ei newid. Nodwyd y byddai cynnwys Conwy gyfan o fewn Clwyd yn arwain at rannu etholaethau seneddol presennol Conwy a Meirionnydd Nant Conwy rhwng siroedd cadwedig. Yn eu barn hwy, pe câi’r ffin ei symud, dylid cynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy yng Ngwynedd a fyddai’n osgoi anawsterau wrth adolygu seddi seneddol a seddi’r Cynulliad ac a fyddai hefyd yn sicrhau cydbwysedd gwell o’r boblogaeth rhwng y ddwy sir gadwedig yng Ngogledd Cymru.

5.14 Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd yn cefnogi cynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

5.15 Roedd Cyngor Sir Penfro yn dymuno pwyso am adfer y Rhaglawiaeth a’r Siryfiaeth yn seiliedig ar yr ardal ddaearyddol a gwmpesir gan Sir Penfro.

5.16 Roedd Cyngor Sir Powys yn cefnogi barn y Comisiwn y dylid gadael ffin sir gadwedig Powys heb ei newid.

5.17 Nododd Cyngor Dinas a Sir Abertawe gynigion y Comisiwn ond nid oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud.

5.18 Nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg gynigion y Comisiwn ond nid oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud.

5.19 Nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gynigion y Comisiwn ond nid oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud.

5.20 Roedd Cyngor Tref Bae Colwyn yn cefnogi cynnig y Comisiwn o ran Awdurdod Unedol Conwy, h.y. "Newid y ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd".

5.21 Cefnogodd Cyngor Tref Llandudno gynnig y Comisiwn i gynnwys awdurdod unedol cyfan Colwyn o fewn sir gadwedig Clwyd gan eu bod yn ystyried bod hyn yn gam cyntaf tuag at greu Arglwydd Raglaw ardal.

5.22 Roedd Cyngor Cymuned Rhydri o’r farn y dylid cynnwys eu cymuned yn sir gadwedig Gwent gan sicrhau felly ei bod yn cysylltu rhannau eraill o Fwrdeistref Caerffili â’i gilydd i wneud endid dilys. Wrth wneud hyn byddai mân agweddau eraill ar weinyddiaeth leol, arglwydd raglawiaid ac ati, yn aros yn y fwrdeistref gan osgoi dyblygu drud o ganlyniad i hynny.

5.23 Roedd Cymdeithas Siroedd Prydain yn anghytuno â dull y Comisiwn o gysoni ffiniau’r siroedd cadwedig ag ardaloedd llywodraeth leol gan nad yw llywodraeth leol yn un o swyddogaethau siroedd cadwedig. Yn hytrach, roeddent o’r farn y dylai’r Comisiwn bennu’r ffiniau mwyaf addas at ddibenion bodolaeth y siroedd cadwedig, a nodwyd camgymeriad yn llyfryn Canllaw’r Comisiwn. Yn eu barn hwy dylid adlinio’r siroedd cadwedig gydag 13 sir hanesyddol Cymru a fyddai wedyn yn sail ar gyfer ardaloedd Rhaglawiaeth a Siryfiaeth Cymru ynghyd â swyddogaethau eraill sy’n perthyn i’r siroedd cadwedig ar hyn o bryd. Un o fanteision hyn fyddai’r ffaith ei fod yn seiliedig ar ardaloedd y gallai pobl Cymru eu hadnabod a’u deall yn hawdd tra byddai eu pwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol yn codi proffil a pharch swyddi Arglwydd Raglawiaid ac Uwch Siryfion. Atgynhrychir sylw’r Gymdeithas yn llawn yn Atodiad 3 yr adroddiad hwn.

5.24 Cefnogodd y Comisiwn Archwilio gynigion y Comisiwn i gynnwys ardal gyfan awdurdod unedol Caerffili o fewn siroedd cadwedig Gwent ac ardal gyfan awdurdod unedol Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd.

5.25 Dywedodd Cofrestrfa Dir EM nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud ar gynigion y Comisiwn.

5.26 Nododd yr Arolwg Ordnans gynigion y Comisiwn ond nid oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud.

5.27 Dywedodd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i gynigion y Comisiwn a nodwyd y byddai rhai o’r newidiadau a gynigiwyd yn cydymffurfio ag ardaloedd gweithredol presennol yr heddlu.

5.28 Ysgrifennodd Mark Isherwood, darpar Ymgeisydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Delyn i gefnogi cynnig y Comisiwn y dylid cynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd. Ystyriai fod gan Gonwy fwy o gysylltiad â Chlwyd na Gwynedd.

5.29 Ystyriai un o drigolion y Fenni y dylid cynnwys ardal Caerffili yn sir gadwedig Morgannwg Ganol am y rhesymau canlynol:

  1. Mae cyfran fwyaf yr etholwyr yng Nghaerffili ym Morgannwg Ganol ac felly byddai’r gost amharu yn llai pe câi Caerffili gyfan ei chynnwys ym Morgannwg Ganol yn hytrach nag yng Ngwent;
  2. Pe byddai Caerffili gyfan o fewn Gwent byddai’r sir gadwedig honno’n anghyfartal o fawr. Felly byddai cynnwys Caerffili o fewn sir gadwedig Morgannwg Ganol yn ateb mwy synhwyrol; ac
  3. Mae gan Gaerffili gysylltiad hanesyddol â Chymoedd De Cymru, gan wasanaethu diwydiant y cymoedd â chysylltiadau agos â Merthyr Tudful, Bargoed a Rhondda Cynon Taf.

5.30 Ym marn un o drigolion Casnewydd dylid bod wedi ymestyn arolwg y Comisiwn i ystyried adfer y 13 sir wreiddiol yng Nghymru y gellid eu defnyddio wedyn ar gyfer y swyddogaethau statudol a gyflawnir gan y siroedd cadwedig ar hyn o bryd.

5.31 Derbyniwyd y llythyr pro forma canlynol gan chwech o drigolion Caerffili:

Cynnig i symud Caerffili o Forgannwg i Went

Fel un o’r trigolion lleol rwyf o’r farn y dylai Caerffili aros yn Sir hanesyddol Morgannwg ac nid wyf yn cytuno â’ch cynnig i’w symud i Went.

Fe’ch anogaf i ailystyried eich cynnig

6. ASESIAD

6.1 Yn ystod cam cychwynnol yr arolwg hwn derbyniwyd sylwadau a oedd naill ai’n cwestiynu’r pwrpas a’r angen parhaus am siroedd cadwedig neu’n awgrymu trefniadau amgen yn lle’r rhai hynny sy’n bodoli eisoes. Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft nodwyd, o dan delerau’r arolwg hwn, nad oedd hwn yn gwestiwn y gallai’r Comisiwn ei ystyried. Fodd bynnag rydym yn cydnabod y gallai fod yn briodol i’r mater hwn gael ei drafod a phenderfynwyd hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o’r sylwadau a wnaed er mwyn iddynt eu hystyried.

6.2 Wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft derbyniwyd sylwadau pellach sy’n cyfeirio at y mater hwn. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (5.11), Cyngor Sir Penfro (5.15), Cyngor Tref Llandudno (5.21), Cymdeithas Siroedd Prydain (5.23) ac un o drigolion Casnewydd (5.30) i gyd wedi nodi y byddent yn dymuno gweld newidiadau i ardaloedd neu swyddogaethau’r siroedd cadwedig. Mae’r Comisiwn (a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) wedi’u cyfyngu gan y Ddeddf i wneud newidiadau i ffiniau’r siroedd cadwedig. Mater i’r Senedd yw diwygio neu ddiddymu’r siroedd cadwedig. Felly rydym yn tynnu sylw Cynulliad Cenedlaethol Cymru at y galwadau a dderbyniwyd gan y Comisiwn yn ystod y broses derbyn sylwadau ar gyfer arolwg sylfaenol o’r Siroedd Cadwedig yng Nghymru.

6.3 Mae Adran 54(1A) y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud cynigion ‘for effecting changes in the area of a preserved county which appear to the Commission to be desirable having regard, in particular, to the purposes for which preserved counties are retained’. Caiff y dibenion hyn eu diffinio gan y darpariaethau statudol a restrir yn Atodlen 2 Deddf 1994 (Atodiad 2). Fel y nodwyd yn y sylwadau gan Gymdeithas Siroedd Prydain (Atodiad 3), mae nifer o’r darpariaethau hyn naill ai wedi cael eu disodli gan ddeddfwriaeth ddilynol neu nid ydynt o bwys wrth bennu ardaloedd siroedd cadwedig. Y dibenion hynny sydd yn berthnasol o hyd yw ardaloedd yr Arglwydd Raglawiaid yng Nghymru, ardaloedd yr Uwch Siryfion yng Nghymru ac Atodlen 2 (Rheolau ar gyfer Ailddosbarthu Seddi) yn Neddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994).

6.4 Ystyriwyd y sylwadau a wnaed gan yr Arglwydd Raglawiaid (neu eu cynrychiolwyr ar eu rhan) Gwynedd a Morgannwg Ganol ac, yn ystod cam cynharach o’r arolwg, Gorllewin Morgannwg sydd o’r farn bod y trefniadau presennol yn gweithio’n foddhaol. Ystyriwyd hefyd y sylwadau gan Arglwydd Raglawiaid Gwent a dderbyniwyd yn ystod cam cychwynnol yr arolwg a oedd o’r farn y dylid manteisio ar y cyfle i ddileu’r anghysondeb rhwng ffiniau awdurdodau unedol a siroedd cadwedig yn ardal Caerffili.

6.5 Er nad ydym wedi derbyn unrhyw sylwadau sy’n cyfeirio’n benodol at swydd yr Uwch Siryf, rydym o’r farn bod y pwyntiau a wnaed o ran swydd yr Arglwydd Raglaw yr un mor berthnasol i’r gwaith o weinyddu swyddi Uwch Siryfion yng Nghymru.

6.6 Drwy gydol yr arolwg hwn fe’n gwnaed yn ymwybodol o’r diffyg ymwybyddiaeth gyhoeddus gyffredinol o ran natur y siroedd cadwedig ac o'r ardaloedd a gwmpesir ganddynt. Canfuom mai dim ond drwy gyfeirio at ardaloedd y prif gynghorau y daethpwyd i rywfaint o ddealltwriaeth ynghylch ffiniau’r siroedd cadwedig. Rydym o’r farn, er mai dim ond ers 1996 y bu patrwm presennol trefniadau gweinyddu llywodraeth leol ar waith, bod y defnydd eang o fapio dangosol gan y cynghorau a’r cyfryngau wedi arwain at ymwybyddiaeth gyffredinol o brif ardaloedd y cynghorau. Rydym o’r farn, os gellir nodi’r sir gadwedig yn hawdd yna bydd hyn o fudd wrth weinyddu’r siroedd cadwedig. Ystyriwn mai’r ffordd orau o wneud hyn yw drwy gysylltu ardaloedd y siroedd cadwedig ag ardaloedd ‘hysbys’ y prif gynghorau.

6.7 Ystyriwyd y sylwadau a oedd yn cyfeirio at effaith newidiadau i ffiniau’r siroedd cadwedig ar yr etholaethau seneddol. Wrth gynnal arolwg o’r etholaethau seneddol yng Nghymru, gofynnir i’r Comisiwn Ffiniau dros Gymru effeithio’r rheolau a nodwyd yn Atodlen 2 Deddf Etholaethau Seneddol 1986. Mae Rheol 4(1)(a)(i) yn nodi ‘no county or any part of a county shall be included in a constituency which includes the whole or part of any other county…..’. Diwygiwyd y rheol hon gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 i ddisodli’r term preserved county gan county yng Nghymru. Mae’r rheol hon yn golygu na ddylai etholaethau groesi ffiniau siroedd cadwedig. Wrth ystyried y rhesymau pam y cadwyd y siroedd cadwedig at y diben hwn yng Nghymru, yn hytrach na defnyddio siroedd fel yn Lloegr, mae angen ystyried y ffaith bod nifer yr etholwyr yn siroedd Lloegr, yn gyffredinol yn llawer uwch nag yn siroedd Cymru. Mae hyn yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i’r Comisiwn Ffiniau i Gymru na’r hyn a fyddai’n bosibl gan ddefnyddio’r unedau sirol llai, gan greu etholaethau sy’n agos at y cwota etholaethol.

6.8 Mae’r tabl isod yn dangos, ar gyfer siroedd cadwedig Clwyd, Gwynedd, Gwent a Morgannwg Ganol, nifer presennol yr etholaethau seneddol a’r hawliau damcaniaethol (yn seiliedig ar ffigurau etholiadol 2002). Mae’r tabl hefyd yn dangos yr hawl ddamcaniaethol ar gyfer y siroedd cadwedig hynny pe byddai ein Cynigion Drafft yn cael eu gweithredu.

 

Trefniadau Presennol

Cynigiwyd

 

Seddi

Hawl Ddamcaniaethol

Hawl Ddamcaniaethol

Clwyd

6

5.80

6.59

Gwynedd

4

3.37

2.58

Gwent

6

6.17

7.61

Morgannwg Ganol

7

7.01

5.57

6.9 Mae’n amlwg o’r tabl, o dan ein Cynigion Drafft, y byddai cymhwyso Rheol 4(1)(a)(i) gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn llym yn eu harolwg nesaf yn arwain at ad-drefnu’r etholaethau yn sylweddol o fewn yr ardaloedd hyn a’r tebygolrwydd y byddai etholaethau’n cael eu creu sy’n bellach oddi wrth y cwota etholiadol na’r trefniadau presennol. Fodd bynnag dylid nodi bod rhan (1) Rheol 4 yn nodi ‘So far as is practicable having regard to rules 1 to 3A’, felly ymddengys fod gan y Comisiwn Ffiniau rywfaint o hyblygrwydd yma. Mae’r Comisiwn Ffiniau i Loegr wedi defnyddio’r hyblygrwydd hwn (fel y mae’n gymwys i Reol 4(1)(a)(ii)) drwy ‘baru’ Bwrdeistrefi Llundain lle byddai anghydbwysedd sylweddol rhwng nifer etholwyr yr etholaethau fel arall. Bydd yn rhaid i’r Comisiwn Ffiniau i Gymru benderfynu ar yr ymagwedd i’w mabwysiadu tuag at y mater hwn yn ystod yr arolwg cyffredinol nesaf o etholaethau seneddol.

6.10 O ran y rheswm penodol hwn dros gadw’r ffiniau cadwedig, mae ein Cynigion Drafft yn hollol gydnaws â’r penderfyniad ar etholaethau seneddol gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.

6.11 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft ac yn 6.6 uchod, rydym wedi ystyried y berthynas rhwng ffiniau siroedd cadwedig a ffiniau awdurdodau unedol ac wedi nodi’r sylwadau a wnaed o ran y berthynas hon yn y sylwadau a dderbyniwyd. Am y rhesymau a roddwyd yn 6.6 uchod, rydym o’r farn o hyd, lle bynnag y bo’n bosibl, y dylid alinio ffiniau siroedd cadwedig gyda ffiniau awdurdodau unedol gan fod i hyn fanteision o ran nodi a gweinyddu siroedd cadwedig.

6.12 Mae ffiniau’r siroedd cadwedig yn dilyn ffiniau’r awdurdodau unedol gyda dau eithriad mawr a dau eithriad bach. Mae’r ddau eithriad mawr yng Ngogledd Cymru lle mae’r ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd yn rhannu awdurdod unedol Conwy ac yn Ne Cymru lle mae’r ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol yn rhannu awdurdod unedol Caerffili. Gwnaed mân newid i’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ardal Ystâd Ddiwydiannol Tafarnaubach gan Orchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002 Rhif 651 (W.68) a ddaeth i rym ar 6ed Ebrill 2002. Ni wnaeth y Gorchymyn hwn unrhyw newid dilyniannol i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol ac felly mae anghysondeb. Gwnaed mân newid i’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ardal Llanharri a Phenllyn gan Orchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanharri, Pont-y-clun, Penllyn, Sain Dunwyd a Phendeulwyn) 2002 Rhif 654 (W.70). Ni wnaeth y Gorchymyn hwn, a ddaeth i rym ar 6ed Ebrill 2002, unrhyw newid dilyniannol i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a De Morgannwg gan greu mân anghysondeb rhwng ffiniau’r siroedd cadwedig a ffiniau’r awdurdodau unedol.

6.13 Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau o ran anghysondebau oherwydd ffiniau sir gadwedig Dyfed.

6.14 Ac eithrio’r mân anghysondeb a nodwyd yn 6.12 uchod, ni nodwyd unrhyw anawsterau sy’n codi o’r ffin rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a De Morgannwg. Felly cynigiwn newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a De Morgannwg i’w cysoni â’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn dilyn y Gorchymyn a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2002 (gwelir map yn dangos y diwygiad yn Atodiad 5).

6.15 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft ystyriwyd y sylwadau gan y Grŵp Ceidwadol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a awgrymodd y dylid trosglwyddo Cymuned Ystradgynlais o sir gadwedig Powys i sir gadwedig Gorllewin Morgannwg. Nodwyd bod eraill y mae ganddynt ddiddordeb yn yr ardal hon yn ystyried bod y ffiniau presennol yn gweithio’n foddhaol ac nid oeddem yn ymwybodol o unrhyw resymau pendant dros gyfiawnhau’r newid a gynigiwyd. Yn ein barn ni, ni ddylai fod unrhyw newid i ffiniau siroedd cadwedig Powys a Gorllewin Morgannwg a chan nad ydym wedi derbyn unrhyw sylwadau pellach o ran yr ardal hon, rydym yn arddel y farn hon o hyd.

6.16 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft nodwyd bod nifer o’r sylwadau a dderbyniwyd yn cyfeirio at yr anghysondeb lle mae’r ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd yn rhannu awdurdod unedol Conwy. Yn eu sylwadau cychwynnol a grynhowyd yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nododd Cyngor Sir Dinbych (paragraff 4.21), Cyngor Sir Gwynedd (paragraff 4.22) a Chyngor Sir Ynys Môn (paragraff 4.15) nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw anawsterau a oedd yn codi o’r ffiniau presennol. Nid oedd Cyngor Sir Gwynedd yn cefnogi newid ond, pe bai newid yn cael ei ystyried, byddai’n well ganddynt pe bai’r rhan o Gonwy sydd o fewn sir gadwedig Clwyd ar hyn o bryd yn cael ei chynnwys o fewn sir gadwedig Gwynedd. Roedd y sylwadau cychwynnol gan William Graham AS (paragraff 4.10), Plaid Geidwadol Cymru (paragraff 4.14), Cymdeithas Geidwadol Conwy (paragraff 4.15) a’r Comisiwn Archwilio (paragraff 4.29) a grynhowyd yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, yn cefnogi’r farn y dylid newid y ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd er mwyn cynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd.

6.17 Wrth ystyried ein Cynigion Drafft, roeddem o’r farn, lle bynnag y bo’n bosibl, y dylid alinio ffiniau siroedd cadwedig gyda ffiniau awdurdodau lleol. Felly ystyriwyd newid y ffin rhwng Clwyd a Gwynedd i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn un o’r siroedd cadwedig. Ystyriwyd awgrym Cyngor Sir Gwynedd i gynnwys Conwy o fewn sir gadwedig Gwynedd ond nid oedd gennym unrhyw dystiolaeth y byddai hyn yn ddymunol o ystyried, yn arbennig, y rheswm dros gadw’r siroedd cadwedig. Roedd y sylwadau o blaid cynnwys Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd yn nodi’r cysylltiad sydd gan y rhan o Gonwy sydd o fewn sir gadwedig Gwynedd ar hyn o bryd ag ardaloedd Clwyd. Nodwyd gennym fod Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych yn cwmpasu holl ardal y ddau awdurdod unedol ac ystyriwyd bod hyn yn dangos y cysylltiad agos rhwng y ddau. Felly, ystyriwyd y byddai o fudd o ran nodi a gweinyddu’r ddwy sir gadwedig i awdurdod unedol cyfan Conwy gael ei gynnwys o fewn y sir gadwedig Clwyd.

6.18 Rydym wedi ystyried y gwrthwynebiadau i’r cynnig hwn gan Arglwydd Raglaw Gwynedd, Cyngor Sir Gwynedd a Chymdeithas Cynghorau Prydain a chefnogaeth i’r cynnig gan Blaid Geidwadol Cymru, Ceidwadwyr Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Bae Colwyn, Cyngor Tref Llandudno, y Comisiwn Archwilio a darpar ymgeisydd Ceidwadol Cymru yn y Cynulliad dros Ddelyn. Nodwyd hefyd nad oedd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yn gwrthwynebu’r cynnig. Ym marn y gwrthwynebwyr roedd gan Gonwy gysylltiadau hanesyddol a chyfoes â Gwynedd yn hytrach na chysylltiadau ag ardaloedd o fewn sir gadwedig Clwyd, a chyfeiriwyd at yr anghydbwysedd yn y boblogaeth o ganlyniad a’r goblygiadau ar gyfer seddi seneddol. Roedd y rhai hynny a oedd yn cefnogi’r cynnig o’r farn bod gan y rhan o Gonwy sydd o fewn sir gadwedig Gwynedd ar hyn o bryd gysylltiad â gweddill sir gadwedig Clwyd. Mewn perthynas â’r ardaloedd a weinyddir gan swyddi’r Arglwydd Raglaw a’r Uwch Siryf, am y rhesymau a roddir yn 6.6 uchod, rydym yn ystyried y byddai’n fuddiol newid y ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd er mwyn cynnwys holl ardal prif gyngor Conwy yn gyfan gwbl o fewn ardal un sir gadwedig. Wedi ystyried y sylwadau pellach a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft rydym o’r farn o hyd bod y gymuned sydd â’r diddordeb mwyaf wedi ei lleoli rhwng Conwy a sir gadwedig Clwyd. O ran y goblygiadau i’r etholaethau seneddol ystyriwyd y mater hwn gennym yn gynharach (yn 6.10) a daethom i’r casgliad nad oes rhaid i’r newid a gynigiwyd effeithio ar yr etholaethau seneddol. Felly cadarnhawn ein barn gynharach, y byddai o fudd o ran nodi a gweinyddu’r ddwy sir gadwedig pe bai awdurdod unedol cyfan Conwy yn cael ei chynnwys o fewn sir gadwedig Clwyd.

6.19 Roedd nifer o’r sylwadau a dderbyniwyd yn cyfeirio at yr anghysondeb lle mae’r ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol yn rhannu awdurdod unedol Caerffili. Yn ystod cam cychwynnol yr arolwg, ystyriai Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful nad oedd y ffiniau presennol wedi peri unrhyw broblemau penodol. Awgrymodd William Graham AC a Phlaid Geidwadol Cymru y dylid cynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Morgannwg Ganol. Fodd bynnag, roedd y sylwadau gan Paul Murphy AS, Don Touhig AS, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Mynwy, y Comisiwn Archwilio ac Awdurdod Heddlu Gwent yn awgrymu y dylid cynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

6.20 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft ystyriwyd y cynnig i newid y ffin rhwng Gwent a Morgannwg Ganol i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn un o’r siroedd cadwedig. Nodwyd y ddadl gan Blaid Geidwadol Cymru y byddai cynnwys Caerffili o fewn sir gadwedig Morgannwg Ganol yn achosi llai o amhariad gan fod 61% o etholwyr Caerffili ym Morgannwg Ganol a dim ond 39% yng Ngwent. Roeddent yn dadlau y byddai cynnwys Caerffili o fewn Gwent yn golygu y byddai gan Went y boblogaeth fwyaf o’r holl siroedd cadwedig ac y byddai’n cwmpasu ardal lawer mwy na’r pedair sir arall gadwedig yn Ne Cymru. Nodwyd hefyd y ddadl, gan bod rhan o awdurdod unedol Caerffili o fewn etholaeth seneddol Merthyr Tudful a Rhymni, bod hyn yn dangos y cysylltiadau sydd gan Gaerffili ag ardal Merthyr. Er ein bod yn derbyn efallai bod gan ardal Rhymni gysylltiad â Merthyr Tudful, ystyriwyd fodd bynnag, bod gan ardal Rhymni gysylltiad yr un mor gryf ag ardaloedd Tredegar a Glynebwy sydd o fewn sir gadwedig Gwent.

6.21 Roedd y sylwadau cychwynnol o blaid cynnwys Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent yn dangos bod ffiniau awdurdodau heddlu ac iechyd Gwent wedi newid i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn eu hawdurdodaeth. Ystyriwyd bod hyn, a’r ffaith bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cefnogi ei chynnwys o fewn Gwent, yn dangos bod cysylltiadau cryf iawn yn bodoli ar hyn o bryd rhwng yr ardal a gwmpesir gan awdurdod unedol Caerffili a’r ardaloedd hynny o fewn sir gadwedig Gwent. Felly yn ein barn ni, o gofio’r rhesymau dros gadw’r siroedd cadwedig, byddai’n fuddiol newid y ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol er mwyn cynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

6.22 Ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft derbyniwyd nifer o sylwadau o ran y cynnig i gynnwys Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent. Yn ogystal â’r rhai hynny sy’n gwneud sylwadau yn ychwanegol at eu sylwadau cychwynnol derbyniwyd sylwadau gan David Davies AC, Cymdeithas Siroedd Prydain, un o drigolion y Fenni, un o drigolion Casnewydd a chwech o drigolion Caerffili a oedd yn erbyn y cynnig a Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Chyngor Cymuned Rhydri a oedd o blaid y cynnig a Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr nad oeddent yn gwrthwynebu’r cynnig. Roedd y gwrthwynebwyr o’r farn y byddai’r cynnig yn creu sir gadwedig Gwent a fyddai’n anghyfartal iawn o ran arwynebedd a phoblogaeth, y byddai’n effeithio ar yr etholaethau seneddol a bod cysylltiadau sydd gan Gaerffili ag ardaloedd eraill o Forgannwg Ganol yn agosach na’r rhai sydd ganddi â Gwent. Rydym wedi nodi’r gwahaniaethau o ran nifer y boblogaeth ac arwynebedd y siroedd cadwedig presennol ac ni dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y rhain yn ffactorau sylweddol wrth ystyried trefniadau gweinyddol ar gyfer swyddi’r Arglwydd Raglaw a’r Uwch Siryf. Fodd bynnag gallai newid yn nifer yr etholwyr effeithio ar yr etholaethau seneddol, ond fel yr esboniwyd (yn 6.10), mae hwn yn fater i’w ystyried gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru. O ran y cysylltiadau sydd gan Gaerffili gydag ardaloedd eraill Gwent neu Forgannwg Ganol, rydym wedi ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd ar y mater hwn yn ystod yr arolwg ac wedi dod i’r casgliad bod y dystiolaeth fwy cymhellol yn awgrymu bod y cysylltiadau cryfach gyda’r ardaloedd o fewn sir gadwedig bresennol Gwent. Wrth ddod i’n casgliad nodwyd yn benodol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o blaid ein cynnig. Felly cadarnhawn ein datganiad ar y Cynigion Drafft, sef, o ystyried y rhesymau dros gadw’r siroedd cadwedig, y byddai’n fuddiol newid y ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol fel y gellir cynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

6.23 Mae ein cynnig ar gyfer cynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent yn golygu na fyddai angen ystyried yr anghysondeb rhwng ffiniau siroedd cadwedig ac awdurdodau unedol a achoswyd gan y mân newid i’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ardal Ystâd Ddiwydiannol Tafarnaubach a drafodwyd yn 6.12 uchod.

7. CYNIGION

7.1 Fel yr ystyriwyd yn 6.12 uchod, cynigiwn fân newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a De Morgannwg i adlewyrchu’r newid diweddar i’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

7.2 Oherwydd y rhesymau a roddwyd yn 6.18 uchod, cynigiwn newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd i gynnwys awdurdod unedol cyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd.

7.3 Oherwydd y rhesymau a roddwyd yn 6.22 uchod, cynigiwn newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol i gynnwys awdurdod unedol cyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.

8. DIOLCHIADAU

8.1 Dymunwn ddiolch yn fawr i bob person a chorff a anfonodd sylwadau atom.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Wedi cwblhau ein harolwg o ffiniau’r siroedd cadwedig a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cwblhau ein rhwymedigaeth statudol o dan y cyfarwyddiadau a ddosbarthwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

9.2 Penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os cred y bydd hynny’n briodol, fydd eu rhoi ar waith gyda neu heb addasiadau ar ffurf Gorchymyn neu roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o’r fath nes i gyfnod o chwe wythnos fynd heibio o’r dyddiad y cyflwynwyd argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau i:

Is-Adran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

J E DAVIES ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Tachwedd 2002

Atodiad 1

Y Siroedd a Gedwir a’u Hardaloedd

Diffiniodd Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ardaloedd y siroedd a gedwir fel a ganlyn:

Enw Ardal
Clwyd Sir Clwyd ond heb gynnwys cymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn.
Dyfed Sir Dyfed.
Gwent Sir Gwent.
Gwynedd Sir Gwynedd.
Morgannwg Ganol* Sir Morgannwg Ganol ond heb gynnwys cymunedau’r Wîg, Saint-y-brid, Ewenni a Phentyrch.
Powys Sir Powys yn ogystal â chymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn o sir Clwyd.
De Morgannwg* Sir De Morgannwg yn ogystal â chymunedau’r Wîg, Saint-y-brid, Ewenni a Phentyrch o sir Morgannwg Ganol.
Gorllewin Morgannwg Sir Gorllewin Morgannwg.

* Diwygiwyd y ffin rhwng siroedd a gedwir Morgannwg Ganol a De Morgannwg gan Orchymyn (Ardaloedd) Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg 1996.

Atodiad 2

DARPARIAETHAU SY’N BERTHNASOL I SIROEDD A GEDWIR

1. Deddf Rhaglawiaethau 1997

Penodir Arglwydd-Raglaw gan y Goron ar gyfer pob sir yng Nghymru, pob sir yn Lloegr, a phob ardal yn yr Alban. At ddibenion Deddf 1997 ystyrir y siroedd yng Nghymru fel y siroedd a gedwir. Mae’r Arglwydd-Is-Gapten yn gweithredu fel cynrychiolydd y Frenhines sy’n rheoli materion dinesig y Frenhines ac yn trefnu ymweliadau brenhinol.

2. Deddf y Siryfion 1887

Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer penodi Siryfion (y’u hadwaenir wrth gael eu penodi ar gyfer sir fel Uwch Siryfion) i gyflawni rhai swyddogaethau sy’n ymwneud â gweinyddu cyfiawnder, yn ogystal â swyddogaethau seremonïol. At ddibenion penodi Siryf yn flynyddol ystyrir y siroedd yng Nghymru fel y siroedd a gedwir.

3. Deddf Amddiffyn 1842

Yn Adran 19 Deddf Amddiffyn 1842 (prisio eiddo lle na cheir cytundeb) ac yn Adrannau 23 a 24, ystyr “sir” mewn perthynas â Chymru yw sir a gedwir.

4. Deddf Trwyddedu 1964

Yn Adran 85 (partïon a drefnir er budd), 188 (cau eiddo trwyddedig rhag terfysg) a 193 (datgymhwyso ynadon) Deddf Trwyddedu 1964, ystyr “sir” mewn perthynas â Chymru yw sir a gedwir.

5. Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967

Yn Adran 10 Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (awdurdodaeth mewn perthynas â physgodfeydd) mewn perthynas â Chymru, mae’r cyfeiriad at sir yn cynnwys cyfeiriad at sir a gedwir.

6. Deddf Dehongli 1978

Yn Atodlen 1 Deddf Dehongli 1978 (diffiniad o eiriau ac ymadroddion), diffinnir “Cymru” fel ‘ardal gyfun y siroedd a grëwyd gan Adran 20 Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i gweithredwyd yn wreiddiol, ond yn amodol ar unrhyw newid a wnaed o dan Adran 73 y Ddeddf honno (newid dilynol i ffin yn dilyn newid cwrs dŵr).’

7. Deddf Ynadon Heddwch 1979

Yn Adran 1 Deddf Ynadon Heddwch 1979 (ardaloedd comisiwn), Adran 4 y Ddeddf honno (ardaloedd sesiynau bach) ac Adran 19 y Ddeddf honno (darpariaethau cyffredinol o ran pwyllgorau llysoedd yr ynadon), mae cyfeiriadau at siroedd mewn perthynas â Chymru yn gyfeiriadau at siroedd a gedwir.

8. Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980

Yn Adran 1 (cyhoeddi gwŷs i’r sawl a gyhuddwyd neu warant i’w arestio), Adran 2 (awdurdodaeth i ymdrin â chyhuddiadau) ac Adran 3 (troseddau a gyflawnir ar ffiniau ac ati) Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980, mae cyfeiriadau at siroedd mewn perthynas â Chymru yn gyfeiriadau at siroedd a gedwir.

9. Deddf Cynrychioli’r Bobl 1983

Yn narpariaethau adran 177 Deddf Cynrychioli’r Bobl 1983 (trosedd etholiad lleol y gellir gosod cosb ddiannod arni), ystyr “sir” mewn perthynas â Chymru yw sir a gedwir. Yn Atodlen 1 y Ddeddf honno (rheolau etholiad seneddol), yn yr Atodiad, yn y rhan sy’n sôn am ffurflen y dystysgrif i’w hardystio ar yr writ, mewn perthynas ag unrhyw etholaeth yng Nghymru mae “sir” yn y ffurflen hon yn cyfeirio at sir a gedwir.

10. Deddf Etholaethau Seneddol 1986

Ym mharagraff 4 is-baragraff (1)(a) Atodlen 2 Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (rheolau ar gyfer ailddosbarthu seddau), ystyr “sir” mewn perthynas â Chymru yw sir a gedwir.

11. Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999)

Mae is-adran (1A) Adran 54 y Ddeddf hon (cynigion ar gyfer newidiadau o fewn ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru) yn datgan “Gall y Comisiwn i Gymru, o ganlyniad i arolwg a gynhaliwyd ganddynt o dan y Rhan hon o’r Ddeddf hon, wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau yn ardal sir a gedwir yr ymddengys i’r Comisiwn eu bod yn ddymunol o ystyried, yn benodol, y dibenion y cedwir y siroedd a gedwir ar eu cyfer.”

Mae Adran 56(1) y Ddeddf hon (pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddyd i gynnal arolygon) yn datgan:

“(1) Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn i Gymru gynnal arolwg o –

  1. Cymru gyfan,

  2. unrhyw un ardal llywodraeth leol neu fwy neu rannau o ardaloedd o’r fath yng Nghymru, neu

  3. unrhyw un sir a gedwir neu fwy neu rannau o siroedd o’r fath,

at ddiben ystyried p’un a ddylid gwneud cynigion o’r fath mewn perthynas â’r ardal y cynhelir arolwg ohoni fel y’u hawdurdodir gan adran 54 uchod a pha gynigion, os o gwbl, i’w gwneud; a bydd y Comisiwn, os cred fod hynny’n addas, yn llunio cynigion o’r fath yn unol â hynny.”

Yn Adran 224 y Ddeddf hon (trefniadau gan brif gynghorau ar gyfer cadw dogfennau) ystyr “sir”, mewn perthynas â Chymru, yw sir a gedwir.

Yn Adran 269 y Ddeddf hon (ystyr “Cymru” a “Lloegr”), ystyr “Cymru” yw ardal gyfun y siroedd a gedwir ac nid yw “Lloegr” yn cynnwys unrhyw ardal a gynhwysir o fewn unrhyw un o’r siroedd a gedwir.

15/11/02