AROLWG O FFINIAU’R SIROEDD A GEDWIR
ATODIAD 3
Cymdeithas Siroedd Prydain
0. Crynodeb Gweithredol
0.1 Ar 11 Mawrth 2002, cyfarwyddwyd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal arolwg o ffiniau’r siroedd cadwedig yng Nghymru. Ym mis Gorffennaf 2002, cyhoeddodd y Comisiwn ei Gynigion Drafft. Mae’r rhain yn cynnig y dylid diwygio ffiniau’r siroedd cadwedig gyda’r nod o’u halinio â rhai llywodraeth leol, er mwyn i gyfansoddiad y siroedd cadwedig adlewyrchu, i bob pwrpas, gyfuniadau o ardaloedd awdurdodau unedol. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno ymateb Cymdeithas Siroedd Prydain (y Gymdeithas) i Gynigion Drafft y Comisiwn.
0.2 Mae’r Gymdeithas yn anghytuno â Chynigion Drafft y Comisiwn ac ymagwedd gyffredinol y Comisiwn tuag at geisio alinio ffiniau’r siroedd cadwedig â rhai llywodraeth leol. Nid yw llywodraeth leol yn un o swyddogaethau ffiniau’r siroedd cadwedig. Nid yw’r Gymdeithas yn derbyn bod unrhyw fuddiannau sylweddol (o ran adnabod a gweinyddu siroedd cadwedig) yn gysylltiedig ag alinio ffiniau’r siroedd cadwedig â rhai llywodraeth leol. Prif ddiben y siroedd cadwedig yw eu bod yn sail i’r ardaloedd Rhaglawiaeth ac ardaloedd Siryfion yng Nghymru. Y mater canolog y dylai’r arolwg ymdrin ag ef yw pa ardaloedd fyddai’r rhai mwyaf addas ar gyfer y swyddi hyn.
0.3 Mae’r Gymdeithas o’r farn fod 13 Sir hanesyddol Cymru yn rhan bwysig o hanes, daearyddiaeth a bywyd diwylliannol y genedl. Mae’r Gymdeithas yn hyrwyddo eu defnydd fel sail ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, cymdeithasol a diwylliannol ac fel daearyddiaeth gyffredinol sefydlog i Gymru. Mae’r Gymdeithas o’r farn bod agweddau penodol ar ddeddfwriaeth llywodraeth leol 1972 a 1994 wedi tanseilio hunaniaeth y 13 Sir hanesyddol. Y brif agwedd ymhlith y rhain oedd cael gwared ar swyddi seremonïol y Siryf a’r Arglwydd Raglaw o’r Siroedd hanesyddol (y cawsant eu seilio arnynt ers canrifoedd) a’u seilio ar yr ardaloedd llywodraeth leol newydd a grëwyd ym 1974.
0.4 Felly, mae’r Gymdeithas yn cynnig y dylid adlinio ardaloedd y siroedd cadwedig ag ardaloedd y 13 Sir hanesyddol yng Nghymru. Byddai sawl mantais yn gysylltiedig â hyn:
- Ceir manteision ymarferol o ran adnabod a gweinyddu swyddi’r Arglwydd Raglaw a’r Siryf drwy eu seilio ar ddaearyddiaeth sy’n sefydlog ac a ddeallir yn gyffredinol gan bobl Cymru. Mae blaenoriaeth hanesyddol a safleoedd cyfansoddiadol pwysig yr Arglwydd Raglawiaid a’r Siryfion yn gorchymyn y dylid eu penodi i ardaloedd o bwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol. Byddai eu seilio ar y Siroedd hanesyddol yn codi proffil y swyddogion hyn a’r parch tuag atynt.
- Byddai dychwelyd swyddi’r Arglwydd Raglawiaid a’r Siryfion i’r Siroedd hanesyddol yn gydnabyddiaeth swyddogol briodol o bwysigrwydd y Siroedd hanesyddol fel un o elfennau hanfodol bywyd y genedl.
- Gan fod ardaloedd yr Arglwydd Raglaw a’r Siryf wedi cymryd rôl fwy cyffredinol o ran daearyddiaeth boblogaidd, byddai dychwelyd y swyddogion hyn i’r Siroedd hanesyddol yn annog defnyddio’r Siroedd hanesyddol fel daearyddiaeth gyffredinol sefydlog i Gymru.
0.5 Gellid cael rhai o’r manteision sy’n gysylltiedig â chynnig y Gymdeithas drwy adlinio’r 8 sir gadwedig bresennol â grwpiau o Siroedd hanesyddol. Byddai system o’r fath yn seiliedig i ryw raddau ar y Siroedd hanesyddol a gallai barhau i fod yn sefydlog drwy newidiadau i lywodraeth leol yn y dyfodol. Gellid penodi Dirprwy Raglaw i gwmpasu pob Sir hanesyddol o fewn sir gadwedig.
0.6 Nid yw ardaloedd Rhaglawiaeth yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gysylltiedig ag ardaloedd llywodraeth leol. Caiff llawer ohonynt eu seilio’n agos ar Sir hanesyddol. Mae hyn yn rhoi bri ac urddas i’r swydd ac mae’n gydnabyddiaeth deilwng o bwysigrwydd parhaus y Siroedd hanesyddol i bobl y gwledydd hyn. Rydym yn annog y Comisiwn i argymell system debyg ar gyfer Cymru.
1. Cyflwyniad
1.1 Ar 11 Mawrth 2002, cyfarwyddwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal arolwg o ffiniau’r siroedd cadwedig yng Nghymru. Ym mis Gorffennaf 2002, cynhyrchodd y Comisiwn adroddiad yn cyflwyno ei Gynigion Drafft. Ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn ceisio sylwadau mewn ymateb i’w adroddiad ar y Cynigion Drafft.
1.2 Mae’r ddogfen hon yn cynrychioli ymateb Cymdeithas Siroedd Prydain (y Gymdeithas) i’r adroddiad ar y Cynigion Drafft.
1.3 Rydym yn anghytuno ag ymagwedd y Comisiwn tuag at geisio sicrhau bod ffiniau’r siroedd cadwedig yn unol â ffiniau ffurfiau arall ar weinyddiaeth (h.y. llywodraeth leol, gwasanaeth yr heddlu, y gwasanaeth iechyd). Yn hytrach, credwn y dylai ymagwedd y Comisiwn ganolbwyntio ar bennu’r ffiniau mwyaf addas ar gyfer y dibenion gweinyddol hynny y mae siroedd cadwedig yn bodoli ar eu cyfer. Prif ddiben y siroedd cadwedig yw ffurfio’r ardaloedd y penodir Arglwydd Raglawiaid a Siryfion iddynt. Ystyriwn y dylid defnyddio 13 Sir hanesyddol (neu draddodiadol) Cymru fel fframwaith daearyddol ar gyfer y ffurfiau penodol hyn ar weinyddiaeth, fel yr oeddent ymron i 500 mlynedd hyd at 1974. Felly, rydym yn cynnig y dylid alinio’r siroedd cadwedig â’r 13 Sir hanesyddol.
1.4 Yn Adran 2 o’r adroddiad hwn, darparwn rywfaint o wybodaeth gefndirol sydd ei hangen i ddarparu cyd-destun i’n sylwadau ar adroddiad y Cynigion Drafft: trafodwn hanes y Siroedd traddodiadol a’u rôl bwysig ym mywyd y genedl; rhoddwn hanes byr o lywodraeth leol yng Nghymru o 1888 hyd heddiw; yna trafodwn natur a diben y siroedd cadwedig; trafodwn hefyd y broblem bresennol o "ddryswch daearyddol" fel y bo’n berthnasol i Gymru. Yn Adran 3, trafodwn gylch gorchwyl yr arolwg. Yn Adran 4, cyflwynwn ein sylwadau ar Gynigion Drafft y Comisiwn. Yn Adran 5, trafodwn fanteision ein cynnig amgen ar gyfer y siroedd cadwedig. Mae Adran 6 yn cyflwyno rhai sylwadau terfynol.

Map 1. 13 Sir hanesyddol (neu draddodiadol) Cymru.
2. Cefndir
13 Sir hanesyddol (neu draddodiadol) Cymru
2.1 Mae Map 1 yn dangos 13 Sir hanesyddol (neu draddodiadol) Cymru. Yn y bôn, ardaloedd y Siroedd yw’r rhai a sefydlwyd gan Ddeddf Cyfreithiau Cymru 1535. Diddymodd y Ddeddf hon bwerau arglwyddi’r Gororau a sefydlodd y Siroedd canlynol: Sir Ddinbych, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, Brycheiniog a Sir Fynwy o ardaloedd yr arglwyddi gynt. Erbyn hynny, roedd yr 8 Sir arall wedi bodoli ers o leiaf y 13eg ganrif, er bod Deddf 1535 wedi ychwanegu tiroedd pellach i sawl un o’r rhain. Er nad yw Siroedd Cymru (yn wahanol i nifer o siroedd Lloegr) yn ardaloedd gwerin go iawn, roeddent yn cynnwys yn gyffredinol o deyrnasoedd hŷn Cymru neu ranbarthau traddodiadol y teyrnasoedd hyn (y cantrefi a’r cymydau). Fel y dywed yr hanesydd enwog William Rees yn ei "Historical Atlas of Wales":
" ... the boundaries of the modern shires lave largely been determined by the ancient divisions of the country The survival of these ancient local divisions within the pattern of historical change constitutes a vital element in the framework of the national life and helps to preserve its continuity. "
2.2 Mae eu tarddiad yn rhanbarthau hŷn Cymru a’u hirhoedledd wedi gwneud y Siroedd hanesyddol yn rhan annileadwy o hanes, daearyddiaeth a bywyd diwylliannol y genedl. Mae pwysigrwydd y Siroedd yn perthyn i feysydd y tu allan i lywodraeth leol. Defnyddir eu henwau a’u hardaloedd yn eang ym maes twristiaeth, chwaraeon, busnes, cadw cofnodion, hanes lleol a theuluol, llenyddiaeth a’r celfyddydau. Maent yn ffynhonnell hunaniaeth ac yn annwyl i lawer o bobl. Mae nifer helaeth o sefydliadau – clybiau chwaraeon, busnesau, cymdeithasau, cymdeithasau amaethyddol, undebau ffermwyr ac ati – yn seiliedig arnynt. Uwchlaw popeth arall, mae Siroedd hanesyddol yn lleoedd – lleoedd y mae pobl yn byw ynddynt ac yn falch i "hanu ohonynt", lle maent yn "perthyn".
2.3 Ond mae’r Siroedd hanesyddol hefyd yn rhoi rhywbeth arall i ni. Fel pob gwlad mae angen daearyddiaeth sefydlog ar Gymru – cyfres o enwau ac ardaloedd a dderbynnir yn gyffredinol er mwyn i bobl o bob haen o gymdeithas gyfathrebu â’i gilydd: busnes, addysg, twristiaeth, y cyfryngau ac ati. Mae’r Siroedd wedi darparu’r ddaearyddiaeth hon am ymron i 500 o flynyddoedd. Mae gwybod i ba Sir y mae pentref, tref neu ddinas benodol yn perthyn yn golygu eich bod yn ymwybodol o’u lleoliad yn llythrennol. Mae’r Siroedd hanesyddol yn parhau i ffurfio fframwaith daearyddol poblogaidd a gydnabyddir yn ehangach na’r un a ddarperir gan lywodraeth leol fodern. Mae Encyclopaedia Britannica, Gazetteer of British Place Names a’r Rhestr o Enwau Lleoedd yng Nghymru yn rhestru pob lle yng Nghymru drwy gyfeirio at ei Sir hanesyddol yn ogystal â’i ardal llywodraeth leol bresennol. Cyfeirir at y Siroedd dro ar ôl tro mewn sgyrsiau bob dydd ledled Cymru. Mae’r cyfryngau’n cyfeirio’n helaeth at y Siroedd hanesyddol mewn adroddiadau newyddion, adroddiadau tywydd, sylwebaeth chwaraeon, dramâu, rhaglenni dogfen ac ati. Mae Siroedd hanesyddol Cymru yn rhan dderbyniol o bob cyfeiriad post yn y DU a chânt eu cynnwys yn Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol.
Hanes byr o lywodraeth leol yng Nghymru
2.4 Cyn 1888, nid oedd unrhyw ddryswch ynghylch beth oedd Sir nac i ba Sir yr oedd tref neu bentref penodol yn perthyn. Cafodd ffiniau penodol Siroedd Cymru eu pennu a’u mapio gan yr Arolwg Ordnans (AO) rhwng 1860 ac 1888, yn ystod ei arolwg llawn cyntaf o Gymru a Lloegr. Mae’r mapiau "argraffiad cyntaf" 1:2500 a 1:10560 a ddeilliodd o’r arolwg hwn yn darparu’r cofnod penodol o ffiniau’r 13 Sir yng Nghymru. Defnyddiwyd y Siroedd gan nifer o Ddeddfau Seneddol fel fframwaith daearyddol ar gyfer swyddogaethau gweinyddol amrywiol (e.e. arglwydd raglawiaid, siryfion, seddi seneddol ac ati).
2.5 Dechreuodd oes llywodraeth leol fodern gyda Deddf Llywodraeth Leol 1888 (Deddf 1888). Tra’r oedd Deddfau blaenorol wedi defnyddio’r Siroedd hanesyddol yn uniongyrchol at ddibenion gweinyddol, creodd y Ddeddf hon gyfres newydd o ardaloedd gweinyddol a ddiffiniwyd yn statudol yng Nghymru a Lloegr, gan eu galw’n "siroedd gweinyddol" a "bwrdeistrefi sirol". Byddai pob sir weinyddol yn cael "cyngor sir" etholedig a oedd yn gyfrifol am ddyletswyddau gweinyddol penodol. Creodd Deddf Llywodraeth Leol 1896 gyfres o gynghorau bro a thref o fewn pob sir weinyddol, a thrwy hynny, crëwyd y system dwy haen adnabyddus o lywodraeth leol etholedig.
2.6 Crëwyd tair sir weinyddol ar ddeg yng Nghymru, gyda phob un ag enw un o’r 13 Sir hanesyddol. Ystyriodd Deddf 1888 fod gan bob sir weinyddol yr un ffiniau â’r Sir hanesyddol a roddodd ei henw iddi, heblaw:
- ystyriwyd bod bwrdeistrefi Caerdydd ac Abertawe yn "fwrdeistrefi sirol" ac nad oeddent yn perthyn i unrhyw sir weinyddol. Y cyngor bwrdeistref sirol oedd i fod yn gyfrifol am yr holl swyddogaethau llywodraeth leol yn yr ardaloedd hyn.
- ni chaniatawyd i ardaloedd dosbarth iechydaeth trefol groesi ffiniau siroedd gweinyddol. Ystyriwyd bod Dosbarth Iechydaeth Trefol Glynebwy, a leolwyd yn rhannol yn Sir hanesyddol Sir Fynwy ac yn rhannol ym Mrycheiniog, wedi’i leoli’n gyfan gwbl yn sir weinyddol Sir Fynwy (Rassau, Dukestown, Beaufort, Brynmawr, Clydach a Gilwern oedd y treflannau yr effeithiwyd arnynt).
2.7 Daeth yr ardaloedd gweinyddol newydd hefyd yn sail ar gyfer diffinio ardaloedd swyddi seremonïol yr Arglwydd Raglawiaid a’r Siryfion. Penododd Deddf 1888 y swyddi hyn i ardal gyfunol sir weinyddol gyda bwrdeistrefi sirol cysylltiedig. Felly, roedd gan arglwydd raglaw Morgannwg awdurdod dros ardal gyfunol sir weinyddol Morgannwg a bwrdeistrefi sirol Caerdydd ac Abertawe.
2.8 Ni chafodd y Siroedd hanesyddol eu hunain eu diddymu na’u newid gan Ddeddf 1888. Nododd Adroddiad Cyfrifiad Swyddfa’r Gofrestr Gyffredinol ym 1891 y gwahaniaethau rhwng yr hyn a enwyd ganddo yn "Siroedd Hynafol neu Ddaearyddol" a’r "siroedd gweinyddol" newydd. Nododd yn glir eu bod yn ddau endid gwahanol a bod y blaenorol yn bodoli o hyd. Nid yw unrhyw Ddeddf ddilynol erioed wedi ceisio newid neu ddymchwel y Siroedd hanesyddol; mae’r Llywodraeth wedi ailddatgan parhad eu bodolaeth yn gyson.
2.9 Yn dilyn Deddf 1888, dechreuodd yr AO ddynodi ardaloedd yr Arglwydd Raglawiaid a’r Siryfion o dan y label "sir" ar ei fapiau "ail argraffiad". Ar ôl 1945, mabwysiadodd yr AO ei derm ei hun, "sir ddaearyddol", i ddynodi’r ardaloedd rhaglawiaeth. Wrth gwrs, roedd "siroedd daearyddol" yr AO yn cyfateb yn agos iawn i’r Siroedd hanesyddol (yr unig wahaniaeth mawr yng Nghymru oedd ardal Brynmawr-Gilwern).
2.10 Daeth Deddf Llywodraeth Leol 1972 â newidiadau mawr yn ei sgîl i lywodraeth leol ledled Cymru. Diddymodd Deddf 1972 holl siroedd gweinyddol a bwrdeistrefi sirol Cymru a grëwyd gan Ddeddf 1888 a chreodd gyfres newydd o ardaloedd lywodraeth leol. Gan ddyfynnu o Ddeddf 1972:
"20(1) Ar gyfer gweinyddu llywodraeth leol ar neu ar ôl 1af Ebrill 1974, rhennir Cymru yn ardaloedd llywodraeth leol a enwir yn siroedd ac yn y siroedd hynny bydd ardaloedd llywodraeth leol a adwaenir yn ardaloedd dosbarth."
2.11 Diffyg mawr y Ddeddf hon oedd y defnydd anaddas o’r gair "sir" (yn hytrach na "sir weinyddol" Deddf 1888) i ddisgrifio’r ardaloedd llywodraeth leol haen uchaf. Mae’r defnydd anaddas o’r gair hwn wedi cyfrannu’n fawr at y camsyniad nad oedd yr ardaloedd hyn ar gyfer gweinyddiaeth yn unig ond y bwriadwyd iddynt ddisodli’r Siroedd hanesyddol yn yr ystyr ddiwylliannol a daearyddol ehangach hefyd. Mewn gwirionedd, er i Ddeddf 1972 ddiddymu’r holl siroedd gweinyddol, ni ddywedodd unrhyw beth am y Siroedd hanesyddol. Cadarnhaodd y Llywodraeth mai’r rheswm dros hyn oedd nad oedd y Ddeddf yn effeithio arnynt:
"Unig ddiben y ffiniau sir newydd yw diffinio ardaloedd …llywodraeth leol. Maent yn ardaloedd gweinyddol, ac ni fyddant yn newid ffiniau traddodiadol siroedd, ac ni fwriedir i deyrngarwch y bobl sy’n byw yno newid chwaith." Datganiad DoE 1af Ebrill 1974
2.12 Agwedd fwyaf arwyddocaol Deddf 1972 ar gyfer y Siroedd hanesyddol oedd y ffaith bod y Ddeddf yn clymu ardaloedd swyddi seremonïol y Siryfion a’r Arglwydd Raglawiaid i’r "siroedd" llywodraeth leol newydd. Fel y nodwyd uchod, ers iddynt gael eu creu, seiliwyd y swyddi hyn naill ai’n uniongyrchol ar y Siroedd hanesyddol neu (o 1889-1974) ar ardaloedd sy’n agos iawn i rai’r Siroedd hanesyddol.
2.13 Er na chafodd Deddf 1972 effaith uniongyrchol ar y Siroedd hanesyddol, yn anuniongyrchol, cafodd effaith niweidiol ar eu hunaniaeth a’u rôl ym mywyd y genedl. Seiliwyd y siroedd gweinyddol ac, yn fwy penodol, ardaloedd seremonïol Deddf 1888 yn agos ar y Siroedd hanesyddol. Mewn cyferbyniad â hyn, roedd "siroedd" Deddf 1972 yng Nghymru (h.y. Clwyd, Dyfed, Gwent, Morgannwg Ganol, De Morgannwg, Gorllewin Morgannwg, Powys, Gwynedd) yn wahanol iawn i’r Siroedd hanesyddol (gweler Map 2). Dechreuodd yr AO nodi’r ardaloedd newydd gyda’r label anaddas "sir" ar ei fapiau. Gwnaeth sefydliadau eraill a oedd yn cyhoeddi mapiau a thywyslyfrau yr un peth. Cododd y cynghorau newydd arwyddion ffordd yn nodi ffiniau eu hardaloedd a chymerwyd i lawr y rhan fwyaf o’r arwyddion ffordd yn dangos ffiniau’r Siroedd hanesyddol. Diwygiodd Swyddfa’r Post ei "siroedd post" i adlewyrchu’r ardaloedd llywodraeth leol newydd (rhoddwyd y gorau i’r polisi hwn bellach).
2.14 Er i gyhoeddwyr, y cyfryngau ac ati, fabwysiadu "siroedd" Deddf 1972, roedd llawer o bobl yn anfodlon â’r ardaloedd newydd. Deilliodd eu hanfodlonrwydd o’r gred bod yr ardaloedd newydd hyn wedi disodli eu hoff Sir hanesyddol. Er bod y Siroedd hanesyddol yn parhau i fodoli yn dechnegol, mae’r fodolaeth hon wedi’i thaflu i’r cysgod gan amlygrwydd y "siroedd" llywodraeth leol newydd. Yn rhannol o ganlyniad i hyn, nid yw’r cynghorau sir newydd erioed wedi llwyddo i ennyn y lefel o gefnogaeth gan y cyhoedd yr oedd ei hangen i sicrhau eu goroesiad tymor hir.

Map 2. "Siroedd" Deddf 1972 fel y’u deddfwyd yn wreiddiol (atgynhyrchwyd gan ddata map yr Arolwg Ordnans drwy ganiatâd yr Arolwg Ordnans).
2.15 Strwythur presennol llywodraeth leol Cymru yw’r un a gynhyrchwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ("Deddf 1994" o hyn allan). Gan mai rhan o’r symbyliad ar gyfer diwygio llywodraeth leol oedd anfodlonrwydd y cyhoedd â "siroedd" Deddf 1972, awgrymodd y Gymdeithas y dylai’r ymagwedd hon ddarparu ffordd o roi cydnabyddiaeth briodol i’r 13 Sir hanesyddol. Y ffordd amlwg i wneud hyn fyddai adfer swyddi seremonïol y Siryfion a’r Arglwydd Raglawiaid i’r Siroedd hanesyddol. Oherwydd bod y Llywodraeth yn bendant ynghylch creu cyfres o awdurdodau lleol unedol yng Nghymru, gallai’r ardaloedd llywodraeth leol hyn fod wedi’u labelu’n ardaloedd "dosbarth" neu’n "fwrdeistrefi". Drwy wneud hyn, gallai’r Siroedd hanesyddol a llywodraeth leol fodern fod wedi cyd-fw’n hapus, gyda phob un yn cyflawni ei rôl bwysig ei hun yng Nghymru fodern. Yn lle hyn, llwyddodd Deddf 1994 i wneud pethau’n fwy dryslyd nag erioed.

Map 3. "Prif ardaloedd" llywodraeth leol presennol Cymru (atgynhyrchwyd gan ddata map yr Arolwg Ordnans drwy ganiatâd yr Arolwg Ordnans).
2.16 Diddymodd Deddf 1994 yr holl "siroedd" ac ardaloedd "dosbarth" a grëwyd gan Ddeddf 1972 (fel y’u deddfwyd yn wreiddiol) a thrwy ddiwygio Deddf 1972, creodd gyfres newydd o ardaloedd llywodraeth leol a ddisgrifir gan Adran 20(1) o Ddeddf ddiwygiedig 1972 fel y "prif ardaloedd newydd". "Prif gyngor" sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau o fewn pob "prif ardal". Mae’r rhan hon o’r ddeddfwriaeth yn glir ac yn synhwyrol. Fodd bynnag, mae’r rhannau dilynol wedi creu dryswch mawr mewn tair prif ffordd:
- Mae Adran 20(4) o Ddeddf ddiwygiedig 1972 yn disgrifio 11 o’r "prif ardaloedd" fel "siroedd" ac 11 fel "bwrdeistrefi sirol", er bod pob un o’r 22 o siroedd yn union yr un fath ym mhob agwedd ymarferol o’r Ddeddf.
- Mae Adran 21 o Ddeddf ddiwygiedig 1972 yn galluogi rhai o’r cynghorau i fabwysiadu arddull "cyngor sir" ac eraill i fabwysiadu arddull "cyngor bwrdeistref sirol". Fel arall, gellir galw pob prif gyngor yn "gyngor". Felly, gellir dod ar draws amrywiaeth o derminoleg ar gyfer cyrff cyfatebol (e.e. "Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili", "Cyngor Gwynedd", Cyngor Sir Ddinbych" ac, yn fwyaf rhyfeddol, "Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd").
- Cafodd, neu mabwysiadodd, sawl un o’r prif gynghorau enw un o 13 Sir hanesyddol Cymru. Mae prif ardaloedd "Sir Benfro", "Sir Gaerfyrddin", "Ynys Môn" a "Ceredigion" bron yn union yr un fath â’r Siroedd hanesyddol sy’n meddu ar yr enwau hyn. Fodd bynnag, nid yw’r prif ardaloedd a elwir yn "Sir y Fflint" a "Sir Fynwy" ar hyn o bryd yn cwmpasu ond rhan o’r Siroedd hanesyddol sy’n meddu ar yr enwau hyn. Nid yw’r brif ardal sy’n dwyn yr enw "Sir Ddinbych" yn cwmpasu ond tua hanner Sir hanesyddol Sir Ddinbych, ond maer hefyd yn cwmpasu rhan sylweddol o Sir hanesyddol Sir y Fflint (gan gynnwys Prestatyn, y Rhyl a Llanelwy) a rhan o Sir hanesyddol Meirionydd (gan gynnwys Corwen).
2.17 Er gwaethaf y mesurau dryslyd hyn, rhoddodd y Llywodraeth sicrwydd eto bod y newidiadau yn gyfyngedig i lywodraeth leol: nid oedd unrhyw newidiadau i’r Siroedd hanesyddol: "Cynlluniwyd y newidiadau i lywodraeth leol ym 1996 i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau llywodraeth leol i bobl leol, ac ni fyddant yn newid nac yn tanseilio teyrngarwch pobl i’r siroedd traddodiadol y maent yn byw ynddynt."
Datganiad gan y Swyddfa Gymreig 27 Tachwedd 1995
Natur a diben y siroedd cadwedig
2.18 Yn anffodus, ni ddaeth y dryswch a grëwyd gan Ddeddf 1994 i ben gyda’i therminoleg anffodus ar gyfer yr ardaloedd llywodraeth leol. Fel yr awgrymodd y Gymdeithas, creodd y Ddeddf system lle y caiff swyddi seremonïol yr Arglwydd Raglaw a’r Siryf eu gwahanu oddi wrth ardaloedd llywodraeth leol. Fodd bynnag, er syndod y Gymdeithas, yn hytrach na dychwelyd y swyddi hyn i’r Siroedd hanesyddol, parhaodd y Ddeddf i’w hatodi i ardaloedd 8 "sir" Deddf 1972 fel y’u deddfwyd yn wreiddiol. Gwnaeth hyn drwy greu’r cysyniad o’r "sir gadwedig". Diffinnir y term "sir gadwedig" gan Adran 207(1) o Ddeddf ddiwygiedig 1972:
"mae "sir gadwedig" yn golygu unrhyw sir a grëwyd gan y Ddeddf hon fel sir yng Nghymru, fel y bodolai’r sir honno yn union cyn pasio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1994, neu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan y Ddeddf hon, a fydd yn ail-lunio ei ffiniau."
2.19 Nodir ardaloedd y siroedd cadwedig yn Rhan III o Atodlen 4 i Ddeddf ddiwygiedig 1972. Mae’r siroedd gadwedig Dyfed, Gwent, Gwynedd a Gorllewin Morgannwg yn union yr un fath â "siroedd" Deddf 1972 fel yr oeddent yn bodoli yn union cyn pasio Deddf 1994. Mae’r siroedd cadwedig Clwyd, Powys, De Morgannwg a Morgannwg Ganol ychydig yn wahanol i ardaloedd "siroedd" Deddf 1972 fel yr oeddent yn bodoli yn union cyn pasio Deddf 1994: mae sawl cymuned yn perthyn i sir gadwedig Clwyd a fu gynt yn perthyn i "sir" Powys yn flaenorol; ac mae sawl cymuned yn perthyn i sir gadwedig De Morgannwg a fu gynt yn perthyn i "sir" Morgannwg Ganol yn flaenorol.
2.20 Yn ogystal, sefydlodd Deddf 1994 y dibenion yr oedd y siroedd cadwedig i fod yn ardaloedd perthnasol iddynt. Sefydlodd Adran 61 hwy fel y sail i Raglawiaethau Cymru. Sefydlodd Adran 62 hwy fel y sail i ardaloedd y Siryf. Darparodd Atodlen 2 ar gyfer cymhwyso rhai deddfau amrywiol eraill mewn perthynas â’r siroedd cadwedig. Mae deddfwriaeth bellach wedi disodli rhai o’r darpariaethau a wnaed gan Ddeddf 1994. Yn Atodiad A, rydym yn adolygu’r ardaloedd hynny o ddeddfwriaeth a oedd yn berthnasol ar adeg pasio Deddf 1994 ac yn amlygu’r mathau hynny o weinyddiaeth y mae’r siroedd cadwedig yn berthnasol iddynt o hyd. Deuwn i’r casgliad mai’r unig brif ffurfiau ar weinyddiaeth gyhoeddus y mae’r siroedd cadwedig yn parhau i fod yn berthnasol iddynt yw swyddi’r Arglwydd Raglaw a’r Siryf.
2.21 Crëwyd swydd yr Arglwydd Raglaw ym 1547 i gymryd rheolaeth dros luoedd milwrol y Goron yn y Sir. Yn ystod teyrnasiad William a Mary cyfunwyd swydd yr Arglwydd Raglaw â’r swydd hŷn Custos Rotulorum (Ceidwad y Rholiau). Y Custos Rotulorum oedd yr Ynad Heddwch a ddewiswyd i wasanaethu fel Pennaeth Mainc y Sir. O ganlyniad i gyfuno’r swyddi hyn, gwnaed yr Arglwydd Raglaw yn uwch sedd ar Fainc Ynadon y Sir. Er nad oedd gan yr Arglwydd Raglaw unrhyw ddyletswyddau milwrol ymarferol bellach, gwnaeth Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ym 1908 swydd yr Arglwydd Raglaw yn brif Swydd o dan y Goron fel cynrychiolydd personol y Sofran ym mhob Sir. Felly, yr Arglwydd Raglaw yw’r uwch ffigur cyfansoddiadol ym mhob sir gadwedig ac, wrth weithredu yn y swydd swyddogol hon, caiff flaenoriaeth dros bawb arall. Penodir yr Arglwydd Raglawiaid gan Ei Mawrhydi am gyfnod amhenodol (er bod yn rhaid iddynt ymddeol yn 75 oed). Ni chânt gyflog am y swydd. Er mwyn ei gynorthwyo/chynorthwyo gyda’r dyletswyddau hyn, mae’r Arglwydd Raglaw yn penodi nifer o Ddirprwy Raglawiaid. Penodir Is-raglaw o blith y Dirprwy Raglawiaid. Ymhlith prif ddyletswyddau presennol Arglwydd Raglawiaid Cymru mae:
- Trefnu ymweliadau gan aelodau o’r Teulu Brenhinol a hebrwng ymwelwyr Brenhinol fel y bo’n briodol.
- Cyflwyno Gwobrau a Medalau ar ran Ei Mawrhydi ac, fel y bo’n briodol, dilysu a chyflwyno enwebeion ar gyfer Gwobrau o’r fath drwy gydweithio â Swyddfa Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
- Arwain yr Ynadaeth leol fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ynadon Heddwch (a’u penodi) drwy gydweithio ag Adran yr Arglwydd Ganghellor.
- Dyletswyddau "Ceidwad y Rholiau" (Custos Rotulorum) ar gyfer y sir gadwedig.
- Cydweithio ag unedau tiriogaethol lleol rheolaidd ac afreolaidd y Lluoedd Arfog o fewn y sir gadwedig, a’u cynnal.
- Annog amrywiaeth eang o weithgareddau gwasanaeth dinesig a gwirfoddol o fewn y sir gadwedig.
2.22 Y Siryf yw cynrychiolydd y Sofran yn y sir gadwedig ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â’r Farnwriaeth a chynnal cyfraith a threfn. Y Siryfiaeth yw’r swydd secwlar hynaf ar ôl y Goron. Y Siryf sy’n cael blaenoriaeth yn y sir gadwedig yn union ar ôl yr Arglwydd Raglaw. Nid yw union darddiad y swydd yn hysbys ond roedd y Siryf yn swydd bwysig yn Lloegr cyn concwest y Normaniaid. Cyflwynwyd swydd y Siryf i rannau o Gymru am y tro cyntaf yn y drydedd ganrif ar ddeg yn dilyn creu siroedd Meirionydd, Caernarfon ac Ynys Môn. Fe’i sefydlwyd yn llawn ledled Siroedd Cymru gan Ddeddf Cyfreithiau Cymru 1535. Roedd dyletswyddau’r Siryf yn cwmpasu pob agwedd ar lywodraeth leol o gasglu tollau brenhinol i gadw’r heddwch yn y sir a gweithredu penderfyniadau’r llysoedd. Bellach, mae’r Siryf wedi ildio llawer o’r cyfrifoldebau hyn i amrywiaeth o gyrff eraill: Arglwydd Raglawiaid, Barnwyr Uchel Lys, ynadon, awdurdodau lleol a Chyllid y Wlad. Penodir Siryf pob sir gadwedig gan Ei Mawrhydi ym mis Ebrill am dymor o flwyddyn. Ymhlith dyletswyddau presennol y Siryfion mae:
- Mynychu ymweliadau Brenhinol â’r sir gadwedig.
- Lles a diogelwch Barnwyr Uchel Lys Ei Mawrhydi pan fyddant yn cylchdeithio yn y sir gadwedig a’u gwasanaethu yn y Llys yn ystod y cyfnodau cyfreithiol.
- Gweithredu Gwritiau a Gorchmynion yr Uchel Lys.
- Cyfrifoldeb dros gyhoeddi esgyniad Sofran newydd.
- Cynnal teyrngarwch y deiliaid i’r Goron.
2.23 Dirprwyir y cyfrifoldeb cyffredinol dros gynnal cyfraith a threfn a’r cyfrifoldeb penodol dros ddiogelu barnwyr Uchel Lys i’r heddlu. Noder nad oes angen i ardal Siryf gyfateb ag ardal yr heddlu. Gan fod pob Siryf yng Nghymru a Lloegr yn dirprwyo’r dyletswyddau hyn i’r heddlu, mae’r heddluoedd yn ymgymryd â’r cyfrifoldebau hyn ar gyfer eu hardaloedd cyfan.
2.24 Y brif ddyletswydd gyfreithiol ymarferol y mae’r Siryf yn dal i fod yn rhan ohoni yw cyhoeddi Gwritiau a Gorchmynion. Er mwyn ymgymryd â’r dasg hon mae’n rhaid i’r Siryf benodi Is-siryf. Gelwir yr ardaloedd a gwmpesir gan yr Is-siryfion yn Feiliaethau. Nid yw’r ardaloedd hyn yn gyffiniol â’r siroedd cadwedig. Mae 14 o feiliaethau yng Nghymru. Maent yn seiliedig ar yr 13 sir hanesyddol (gyda’r feilïaeth ar gyfer Abertawe wedi’i gwahanu oddi wrth weddill Morgannwg).
2.25 Mae’r Siryf hefyd yn mynychu Llys y Goron pa bryd bynnag y bydd Barnwr Uchel Lys yn bresennol ac mae’n darparu lletygarwch cyffredinol i Farnwyr o’r fath. Fel arfer bydd Siryfion hefyd yn cymryd rhan mewn llawer o waith cymunedol o fewn eu hardal.
2.26 Gan ystyried y swyddogaethau hyn, nid oes angen i ardaloedd yr Arglwydd Raglawiaid a’r Siryfion gyfateb ag ardaloedd llywodraeth leol. Y Siroedd traddodiadol, naill ai’n unigol neu mewn grwpiau, yw’r dewis amlwg ar gyfer sail y swyddi hyn.
Daearyddiaeth gyffredinol i Gymru?
2.27 Mae effeithlonrwydd ac atebolrwydd cyhoeddus yn golygu bod angen i’r cyhoedd ddeall trefn ddaearyddol y prif ffurfiau ar weinyddiaeth gyhoeddus (h.y. llywodraeth leol, yr heddlu, gwasanaethau tân ac iechyd a’r system farnwrol). Fodd bynnag, nid yw daearyddiaeth weinyddol o’r fath yn tueddu i fod yn addas at ddibenion mwy cyffredinol. Yn arbennig, mae llawer o anfanteision yn gysylltiedig â’r duedd fodern i geisio defnyddio ardaloedd llywodraeth leol fel sail i ddaearyddiaeth gyffredinol. Mae enwau ac ardaloedd llywodraeth leol yn newid yn barhaus. Ni ellir disgwyl i ni ailddysgu ein syniad o "leoliad lleoedd" bob ugain mlynedd. Mae ardaloedd llywodraeth leol presennol Cymru yn arbennig o anaddas ar gyfer y diben hwn gan fod cymaint ohonynt yn benthyg enw tref neu ddinas o fewn iddynt.
2.28 Ar hyn o bryd rydym yn byw mewn cyflwr o "ddryswch daearyddol" yng Nghymru. Mae tri math gwahanol o ddaearyddiaeth yn cystadlu i gael eu defnyddio gan wneuthurwyr mapiau, cyhoeddwyr, y cyfryngau ac ati. Defnyddir y prif ardaloedd llywodraeth leol presennol gan rai fel fframwaith daearyddol cyffredinol er nad ydynt yn addas ar gyfer y diben hwn. Parheir i ddefnyddio’r siroedd cadwedig yn eang hefyd. Fodd bynnag, fel y nododd y cyflwyniad gan Gymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru, mae pobl Cymru yn dueddol o barhau i uniaethu â’r 13 Sir hanesyddol.
2.29 Yn amlwg, mae angen daearyddiaeth sefydlog ar Gymru at ddibenion cyffredinol: un sydd wedi’i gwahanu oddi wrth enwau ac ardaloedd newidiol llywodraeth leol ond, yn lle hynny, un sydd wedi’i gwreiddio mewn hanes, traddodiad a syniadau cyffredin o gymuned a hunaniaeth. Yr 13 Sir hanesyddol yw’r unig ddewis ar gyfer daearyddiaeth o’r fath. Nodwn nad oes gan 6 Sir Gogledd Iwerddon unrhyw rôl o fewn llywodraeth leol ond fe’u defnyddir gan bawb fel sail i’w daearyddiaeth.
3. Cylch Gorchwyl yr Arolwg o’r Siroedd Cadwedig
3.1 Gwelir y cylch gorchwyl ar gyfer yr arolwg yn Adran 54(1A) o Ddeddf 1972:
"Gall Comisiwn Cymru o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt o dan y Rhan hon o’r Ddeddf hon wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau mewn ardal sir gadwedig yr ymddengys eu bod yn ddymunol i’r Comisiwn gan ystyried, yn arbennig, y dibenion y cedwir y siroedd cadwedig ar eu cyfer."
3.2 Nodwn â rhywfaint o bryder fod brawddeg olaf Adran 1.3 o Nodyn Arweiniad y
Comisiwn i’r Arolwg o’r Siroedd Cadwedig yn dweud mewn perthynas â’r arolwg:
"O ganlyniad i arolwg o’r fath, gall y Comisiwn wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy’n ymddangos yn ddymunol i’r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus."
3.3 Nid yw’r geiriad hwn yn cyd-fynd â diben arolwg o siroedd cadwedig fel y’u nodwyd yn Adran 54(1A) o Ddeddf 1972. Nid yw’r siroedd cadwedig yn cael eu cadw at ddibenion llywodraeth leol. Yn yr arolwg hwn, ni ddylai’r Comisiwn ystyried yn bennaf fudd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Prif ddiben y siroedd cadwedig yw darparu sail i ardaloedd Rhaglawiaeth a Siryfion Cymru. Felly, gan ystyried dibenion y siroedd cadwedig, y prif fater y dylid ymdrin ag ef yw pa un a allai diwygiadau i’r siroedd cadwedig gynhyrchu ardaloedd sy’n fwy addas ar gyfer y dibenion hyn. Er mwyn pennu hyn, mae angen ystyried tair agwedd gyffredinol:
- A fyddai unrhyw ddiwygiadau i’r siroedd cadwedig yn galluogi’r Arglwydd Raglawiaid a’r Siryfion i gyflawni eu dyletswyddau yn fwy effeithiol? Mae llawer o ffactorau i’w hystyried yma. A yw’r cyhoedd yn deall trefn ddaearyddol bresennol y swyddi? A yw’r trefniadau presennol yn rhoi statws digonol i’r swyddi cyfansoddiadol pwysig hyn? A yw’r trefniadau presennol yn galluogi’r swyddogion i gael proffil a safle digon uchel o fewn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu? A yw’r ardaloedd presennol yn addas ar gyfer anghenion pob un o swyddogaethau’r swyddi? A yw’r ardaloedd presennol yn cynnal hanes a threftadaeth y swyddi hyn?
- Pa effaith fyddai unrhyw ddiwygiadau i’r siroedd cadwedig yn ei chael ar hunaniaeth y Siroedd hanesyddol a’u rôl ym mywyd y genedl? Mae cysylltiad hir swyddi’r Arglwydd Raglaw a’r Siryf â’r Siroedd hanesyddol yn golygu bod y swyddi hyn wedi’u cysylltu’n agos ym meddwl y cyhoedd gyda’r syniad o’r hyn yw "sir". Er nad yw’n gywir yn dechnegol, mae llawer yn ystyried ardal Raglawiaeth neu Siryfion fel diffiniad de-facto o’r hyn yw "sir". Mae dileu swyddi’r Arglwydd Raglaw a’r Siryf o’r Siroedd hanesyddol ym 1974 wedi tanseilio i raddau helaeth hunaniaeth y Siroedd hanesyddol. Bydd unrhyw newidiadau pellach i ardaloedd y siroedd cadwedig yn effeithio (yn ffafriol neu’n anffafriol) ar ddirnadaeth y cyhoedd o’r hyn yw "sir" ac felly ar rôl y Siroedd hanesyddol ym mywyd y genedl. Dylai hyn fod yn ystyriaeth bwysig ar gyfer yr arolwg.
- Pa effaith fyddai unrhyw ddiwygiadau i’r siroedd cadwedig yn ei chael ar gyflwr presennol y "dryswch daearyddol" yng Nghymru? Fel y nodwyd yn Adran 1, nid yw daearyddiaeth weinyddol amrywiol Cymru yn ffurfio daearyddiaeth gyffredinol ddefnyddiol i Gymru. Mae’r ffaith bod rhai adrannau o fyd y cyfryngau a’r byd cyhoeddi yn parhau i ddefnyddio’r siroedd cadwedig ar gyfer daearyddiaeth gyffredinol yn golygu y dylai’r effaith a gaiff unrhyw newid yn y siroedd cadwedig ar gyflwr cyffredinol daearyddiaeth boblogaidd Cymru fod yn ystyriaeth bwysig i’r Arolwg.
4. Sylwadau’r Gymdeithas ar Gynigion Drafft y Comisiwn
4.1 Mae’r Comisiwn wedi gwneud 3 Chynnig Drafft:
- newid bach i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Morgannwg Ganol a De Morgannwg i adlewyrchu’r newid diweddar i’r ffin rhwng prif ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.
- newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Clwyd a Gwynedd er mwyn cynnwys prif ardal gyfan Conwy o fewn sir gadwedig Clwyd.
- newid i’r ffin rhwng siroedd cadwedig Gwent a Morgannwg Ganol er mwyn cynnwys prif ardal gyfan Caerffili o fewn sir gadwedig Gwent.
4.2 Mae’r Gymdeithas yn anghytuno â phob un o’r tri Chynnig Drafft.
4.3 Dylai’r arolwg ystyried yn bennaf pa un a yw unrhyw un o’r newidiadau yn ardaloedd y siroedd cadwedig yn ddymunol er mwyn cynhyrchu ardaloedd mwy priodol ar gyfer swyddi’r Arglwydd Raglawiaid a’r Siryfion. Yn lle hynny, ymddengys mai athroniaeth arweiniol y Comisiwn yw’r un a fynegir yn Adran 5.2 o adroddiad y Cynigion Drafft:
"Rydym wedi ystyried y berthynas rhwng ffiniau siroedd cadwedig a ffiniau awdurdodau unedol ac wedi nodi’r sylwadau a wnaed o ran y berthynas hon yn y sylwadau a dderbyniwyd. Rydym o’r farn y dylid alinio ffiniau siroedd cadwedig â ffiniau awdurdodau unedol, lle bynnag y bo’n bosibl, gan fod hyn yn cyflwyno manteision o ran adnabod a gweinyddu siroedd cadwedig."
4.4 Nid yw’r Gymdeithas yn cytuno â’r ymagwedd hon. Nid yw’r siroedd cadwedig yn cael eu cadw ar gyfer swyddogaethau llywodraeth leol. Felly eilbeth, ar y mwyafd dylai ffiniau’r prif ardaloedd fod yn llai o ystyriaeth yn y broses arolygu. Fodd bynnag, ymddengys mai prif nod y Comisiwn yw alinio holl ffiniau’r siroedd cadwedig â rhai’r prif ardaloedd. Nid yw’n ymdrechu i gyfiawnhau ei honiad y bydd hyn yn cyflwyno manteision o ran adnabod a gweinyddu siroedd cadwedig. Nid yw’n nodi’n glir y manteision honedig hyn.
4.5 Nid yw’r Gymdeithas yn derbyn bod unrhyw fanteision sylweddol (o ran adnabod a gweinyddu siroedd cadwedig) yn gysylltiedig ag alinio ffiniau’r siroedd cadwedig â rhai’r prif ardaloedd. Nodwn fod ardaloedd Rhaglawiaeth yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu gwahanu bron yn llwyr oddi wrth ardaloedd llywodraeth leol. Nodwn hefyd fod y gynrychiolaeth o’r Clerc i Raglawiaeth Morgannwg Ganol yn amlygu nad oedd rhannu prif ardal Caerffili rhwng dwy ardal Raglawiaeth wedi peri unrhyw broblemau arbennig yn ymarferol o safbwynt Rhaglawiaeth Morgannwg Ganol. Ni chyflwynodd Arglwydd Raglaw Gwynedd nac Arglwydd Raglaw Clwyd sylwadau i gyfleu dymuniad i roi terfyn ar rannu prif ardal Conwy rhwng eu Rhaglawiaethau.
4.6 Mae achos y Comisiwn dros geisio cynnwys prif ardal gyfan Caerffili yn sir gadwedig Gwent (paragraff 5.10 o’r adroddiad ar y Cynigion Drafft) yn ceisio cyfiawnhau hyn drwy gyfeirio at ardaloedd llywodraeth leol, yr heddlu ac awdurdodau iechyd. Nid yw siroedd cadwedig yn bodoli ar gyfer swyddogaethau sy’n gysylltiedig â llywodraeth leol, gwasanaeth yr heddlu a’r gwasanaeth iechyd. Mae’n gwbl anghywir ceisio cyfiawnhau newid mewn ffiniau siroedd cadwedig drwy apelio i ardaloedd presennol y swyddogaethau gweinyddol penodol hyn. Mae rhesymeg y Comisiwn ar gyfer cynnig cynnwys prif ardal gyfan Conwy yn sir gadwedig Clwyd (Adran 5.7 o’r adroddiad ar y Cynigion Drafft) yn wannach fyth. Yma, mae’r Comisiwn yn ceisio dadlau bod seilio Ymddiriedolaeth GIG ar ardal gyfunol o brif ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych yn rheswm dros ddiwygio ardaloedd y siroedd cadwedig!
5. Cynnig y Gymdeithas ar gyfer y Siroedd Cadwedig
5.1 Fel dewis amgen i Gynigion Drafft y Comisiwn, mae’r Gymdeithas yn cynnig y dylid diwygio ardaloedd y siroedd cadwedig er mwyn seilio sir gadwedig ar bob un o’r 13 Sir hanesyddol yng Nghymru.
5.2 Disgrifiwn fanteision ein cynigion o’u cymharu â Chynigion Drafft y Comisiwn o ran y ffactorau sy’n berthnasol i’r arolwg fel y’i disgrifiwyd yn Adran 3.
Manteision cynnig y Gymdeithas i swydd yr Arglwydd Raglaw
5.3 Mae’r siroedd hanesyddol yn ffurfio fframwaith daearyddol sefydlog a ddeallir yn gyffredinol gan bobl Cymru.
Mae angen seilio unrhyw ffurf ar weinyddiaeth gyhoeddus ar fframwaith daearyddol sy’n hawdd i’r bobl y mae’n ceisio eu gweinyddu ei ddeall. Ni fydd y ddaearyddiaeth a gynigir gan y Comisiwn ar gyfer y Rhaglawiaethau yn bodloni’r gofyniad hwn. Gellir dadlau ynghylch pa un a yw pobl Cymru yn deall daearyddiaeth prif ardaloedd llywodraeth leol Cymru yn dda. Ymagwedd y Comisiwn yw ceisio datblygu’r Rhaglawiaethau o grwpiau o’r prif ardaloedd hyn. Yna, bydd y Rhaglawiaethau hyn yn cymryd enw un o’r "siroedd" llywodraeth leol a oedd yn bodoli o 1974-1996. Mae’r enwau hyn eisoes yn diflannu o gof y cyhoedd, ac nid yw hyn yn syndod o gofio nad oedd ganddynt unrhyw arwyddocâd hanesyddol na diwylliannol ar y cyfan. Bydd hyd yn oed y rhai sydd â rhywfaint o ddealltwriaeth o ddaearyddiaeth llywodraeth leol 1972-1996 yn teimlo mai defnydd cyfyngedig sydd iddi am na fydd gan y Rhaglawiaethau yr un ardaloedd o reidrwydd, er y byddant yn parhau i gymryd yr enwau hyn.
5.4 Mewn cyferbyniad â hyn, mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn deall daearyddiaeth 13 Sir hanesyddol Cymru yn dda ac mae llawer ohonynt yn teimlo’n hoff o’r Siroedd hyn. Byddai seilio’r Rhaglawiaethau ar y Siroedd hanesyddol yn gwneud sail ddaearyddol y swyddi hyn yn glir i bawb. Ar ben hynny, byddai dychwelyd y rhaglawiaethau i’r Siroedd traddodiadol yn golygu y gall ardaloedd y Rhaglawiaethau barhau i fod yn sefydlog drwy gydol newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol yn y dyfodol. Y wers o’r 30 mlynedd ddiwethaf yw bod llywodraeth leol yn cael ei newid yn rheolaidd ac yn aml mae’r newidiadau yn rhai mawr. Os caiff y Rhaglawiaethau eu clymu i ardaloedd llywodraeth leol, fel y cynigir gan y Comisiwn, yna bydd yn rhaid i’r ardaloedd Rhaglawiaeth ddilyn y patrwm hwn o newidiadau mynych. Nid yw hyn yn angenrheidiol nac yn ddymunol chwaith. Mae cael ardal sefydlog yn cyflwyno manteision amlwg i swydd yr Arglwydd Raglaw o ran gweinyddu ac adnabod.
5.5 Bydd proffil yr Arglwydd Raglaw a’r bri a roddir i’r swydd gan y cyhoedd yn gwella drwy ei seilio ar y Siroedd hanesyddol.
Hyd yn oed wrth dybio y gallai’r cyhoedd ddeall y fframwaith daearyddol y mae’r Comisiwn yn cynnig y dylid seilio’r Rhaglawiaethau arno, ni fyddai gan yr ardaloedd hyn lawer o arwyddocâd hanesyddol neu ddiwylliannol, os o gwbl. Caiff hyn effaith niweidiol ar broffil cyhoeddus yr Arglwydd Raglaw a’r bri a roddir iddo ef/iddi hi gan y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mewn cyferbyniad â hyn, mae Siroedd hanesyddol Cymru yn parhau i fod yn endidau hanesyddol, daearyddol a diwylliannol. Bydd cysylltu Swydd yr Arglwydd Raglaw â Sir hanesyddol yn cynyddu’n sylweddol broffil y swyddog a fyddai’n cael ei ystyried wedyn fel rhywun sy’n gwasanaethu cymuned wirioneddol yn hytrach nag ardal fympwyol, gyfnewidiol a gweinyddol. Bydd hyn yn cynorthwyo gwaith yr Arglwydd Raglaw heb os.
5.6 Mae pwysigrwydd cyfansoddiadol yr Arglwydd Raglawiaid yn mynnu y dylid eu penodi i ardaloedd o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol.
Wrth gwrs, mae’n rhyfedd y byddai’r fath uwch ffigur cyfansoddiadol â’r Arglwydd Raglaw yn gwasanaethu ardal heb unrhyw arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol, a ffurfiwyd o gyfuniad mympwyol o brif ardaloedd llywodraeth leol. Cyflwynwn fod penodi’r uwch ffigurau cyfansoddiadol hyn i ardaloedd sy’n ffurfio "elfen hanfodol o fywyd y genedl" yn fwy priodol o lawer.
5.7 Bydd y Siroedd hanesyddol yn ardaloedd mwy addas ar gyfer dyletswyddau penodol yr Arglwydd Raglawiaid
Ystyriwn y gellid cyflawni dyletswyddau penodol Arglwydd Raglawiaid Cymru (Gweler Adran 1) cystal, os nad yn well mewn rhai achosion, pe byddai’r ardaloedd Rhaglawiaeth yn cael eu hadlinio â’r Siroedd hanesyddol. Yn arbennig, yn eu rôl fel Custos Rotulorum mae’r Arglwydd Raglawiaid yn gyfrifol am gofnodion Llysoedd y Sesiwn Chwarter. Cofnodion busnes o gyfarfodydd chwarter yr Ynadon Heddwch ar gyfer pob Sir (hanesyddol) o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd at 1971 yw’r rhain. Maent yn gasgliadau mawr o ddogfennau hanesyddol. Maent yn seiliedig ar y Siroedd hanesyddol ac felly dylai’r swydd sy’n gyfrifol amdanynt fod wedi’i seilio arnynt hefyd. Nodwn fod rôl yr Arglwydd Raglaw fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ynadon Heddwch eisoes yn gofyn am drefniadau ar y cyd am nad yw ardaloedd pwyllgorau llysoedd ynadon ac ardaloedd comisiwn bellach yn seiliedig ar y siroedd cadwedig.
5.8 Yn gyffredinol, nid yw ardaloedd rhaglawiaeth yr Alban yn gysylltiedig ag ardaloedd llywodraeth leol, seilir llawer ohonynt ar Sir hanesyddol.
O dan Orchymyn Arglwydd Raglawiaid (yr Alban) 1996 (OS1996/731) nid oes llawer o gyfatebiaeth rhwng ardaloedd Rhaglawiaeth yr Alban a rhai’r ardaloedd llywodraeth leol presennol. Yn wir, caiff llawer o’r ardaloedd Rhaglawiaeth presennol eu seilio’n agos ar Sir hanesyddol (e.e. Sir Aberdeen, Sir Banff, Sir Berwick, Caithness, Clackmannan, Fife, Sir Kincardine, Moray, Ynysoedd Erch, Ross a Cromarty, Shetland, Sutherland, Sir Kircudbright, Sir Wigtown). Gan ystyried ei bod yn bosibl gwahanu ardaloedd Rhaglawiaeth yn yr Alban yn y fath fodd, yna dylai fod yn bosibl gwneud hynny yng Nghymru.
Manteision cynnig y Gymdeithas i swydd y Siryf
5.9 Mae’r rhan fwyaf o’r dadleuon a wnaed uchod ar gyfer seilio’r Rhaglawiaethau ar y Siroedd hanesyddol yr un mor berthnasol i ardaloedd y Siryfion. Er lles gweinyddu ac adnabod, mae angen seilio’r rhain hefyd ar fframwaith cyfeirio sefydlog o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol. Mae blaenoriaeth hanesyddol a safle cyfansoddiadol pwysig y Siryf hefyd yn mynnu y dylid defnyddio’r Siroedd hanesyddol.
5.10 Yn ogystal, fodd bynnag, mae rhesymau ymarferol cryf dros seilio ardaloedd y Siryfion ar y Siroedd hanesyddol. Nodwyd gennym yn Adran 2.22 fod y Siryf yn penodi Is-siryf er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o ran cyhoeddi Gwritiau a Gorchmynion yr Uchel Lys. Seilir beiliaethau’r Is-siryfion ar y 13 Sir hanesyddol. Mae seilio’r Siryfion ar yr un ardaloedd â’r Is-siryfion yn gwneud synnwyr gweinyddol.
Manteision cynnig y Gymdeithas i rôl y Siroedd hanesyddol ym mywyd y genedl
5.11 Fel y nodwyd yn Adran 1, mae agweddau ar ddiwygiadau llywodraeth leol 1974 a 1996 wedi tanseilio teyrngarwch a hunaniaeth siroedd traddodiadol i ryw raddau. Y brif agwedd ymhlith y rhain oedd dileu ardaloedd y Rhaglawiaethau a’r Siryfion o’r Siroedd hanesyddol a’u penodi i 8 "sir" Deddf 1888. Byddai dychwelyd ardaloedd y Rhaglawiaethau a’r Siryfion i’r Siroedd hanesyddol yn unioni canlyniadau anffafriol Deddf 1972 ar hunaniaeth y Siroedd hanesyddol a byddai’n ffordd briodol o roi cydnabyddiaeth swyddogol i’r rôl y mae’r Siroedd yn ei chwarae ym mywyd y genedl.
Manteision cynnig y Gymdeithas i ddaearyddiaeth Cymru
5.12 Byddai alinio’r siroedd cadwedig â rhai’r Siroedd hanesyddol yn lleihau’r tair daearyddiaeth sy’n gyffredin i Gymru ar hyn o bryd i ddwy, a byddai o gymorth mawr wrth leddfu’r "dryswch daearyddol" a ddisgrifiwyd yn Adran 1. Y confensiwn a ddilynwyd gan AO ers 1889 oedd bod ardal yr Arglwydd Raglaw yn cael ei ddynodi fel "sir" ar ei fapiau. Byddai dychwelyd y swydd hon yn helpu i hyrwyddo’r defnydd o’r Siroedd hanesyddol fel daearyddiaeth gyffredinol safonol i Gymru.
Cynnig cyfyngedig gyda sawl mantais o’i gymharu â Chynigion Drafft y Comisiwn
5.13 Gellid cael rhai (er nad pob un) o’r manteision sy’n gysylltiedig â dychwelyd i ddefnyddio’r Siroedd hanesyddol fel sail i ardaloedd y Rhaglawiaethau a’r Siryfion drwy ddilyn diwygiadau mwy cyfyngedig i’r siroedd cadwedig:
- dylid diwygio ffiniau sir gadwedig Gwent er mwyn eu halinio â ffiniau Sir hanesyddol Sir Fynwy (h.y. NID y brif ardal llywodraeth leol â’r enw hwn).
- dylid diwygio ffiniau siroedd cadwedig De Morgannwg a Morgannwg Ganol ychydig er mwyn i ardal gyfunol Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg gyfateb â Sir hanesyddol Morgannwg.
- dylid diwygio ffiniau sir gadwedig Powys er mwyn i’r sir gadwedig gyfateb ag ardal gyfunol Siroedd hanesyddol Brycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn.
- dylid diwygio ffiniau sir gadwedig Gwynedd er mwyn i’r sir gadwedig gyfateb ag ardal gyfunol Siroedd hanesyddol Meirionydd, Sir Gaernarfon ac Ynys Môn.
- dylid diwygio ffiniau sir gadwedig Clwyd er mwyn i’r sir gadwedig gyfateb ag ardal gyfunol Siroedd hanesyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint (h.y. NID y prif ardaloedd llywodraeth leol â’r enwau hyn).
5.14 Mantais y cynllun hwn fyddai’r ffaith y byddai’r siroedd cadwedig yn cael eu cysylltu â’r Siroedd hanesyddol (yn hytrach nag ardaloedd llywodraeth leol, fel yr awgrymir gan Gynigion Drafft y Comisiwn). Byddai gan y system ganlyniadol yr un faint o Arglwydd Raglawiaid a Siryfion â’r system bresennol a byddai’n golygu bod ardal lai o dir yn cael ei chyfnewid rhwng y siroedd cadwedig nag yr awgrymir gan Gynigion Drafft y Comisiwn. Yn ogystal, mae gan y cynllun hwn fantais fawr o’i gymharu â’r Cynnig Drafft oherwydd gallai ei ardaloedd barhau i fod yn sefydlog drwy gydol newidiadau i lywodraeth leol yn y dyfodol.
5.15 Gellid cael rhai o’r manteision i swyddi’r Arglwydd Raglaw a’r Siryf a fyddai’n deillio o’u cysylltu â Sir hanesyddol yn sgîl y syniad hwn. Byddai sir gadwedig Gwent yn union yr un fath o ran ardal â sir hanesyddol Sir Fynwy. Byddai tri Arglwydd Raglaw yn gwasanaethu Sir hanesyddol Morgannwg. Yn y siroedd cadwedig eraill, byddai pob un o’r Siroedd hanesyddol yn cael eu cydnabod drwy benodi Dirprwy Raglawiaid ar sail Sir hanesyddol. Gan ystyried sir gadwedig bresennol Powys, nodwn fod Dirprwy Raglawiaid eisoes wedi’u penodi i bob un o 3 Sir hanesyddol Brycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn (a dweud y gwir, nid yw Brycheiniog gyfan yn perthyn i sir gadwedig bresennol Powys ac mae rhan fach o Feirionydd o dan awdurdodaeth Dirprwy Raglawiaid Sir Drefaldwyn). Gellid mabwysiadu’r system hon yn hawdd yn y Siroedd cadwedig eraill, ond dim ond os caiff eu ffiniau eu halinio â ffiniau Siroedd hanesyddol.
5.16 Problem sy’n gysylltiedig â’r syniad hwn yw y byddai’n cadw enwau "siroedd" llywodraeth leol 1974-1996 ac yn rhoi’r argraff bod y rhain wedi’u creu o ddarnau o siroedd hanesyddol. Byddai enwau llai dryslyd sy’n ddaearyddol ddisgrifiadol yn ddewis gwell (h.y. "De-Orllewin Cymru" yn hytrach na "Dyfed", "Canolbarth Cymru" yn hytrach na "Phowys", "Gogledd-Orllewin Cymru" yn hytrach na "Gwynedd", "Gogledd-Ddwyrain Cymru" yn hytrach na "Chlwyd", dylid ailenwi Gwent yn Sir Fynwy). Nodwn fod gan y Cynulliad y pŵer i newid enw unrhyw Sir gadwedig (Adran 20(9) o Ddeddf 1972).
6. Casgliadau
6.1 Byddai ein cynnig y dylid alinio’r siroedd cadwedig â rhai 13 Sir hanesyddol (neu draddodiadol) Cymru yn unioni un o ddau brif ddiffyg Deddf 1972, h.y. dileu’r swyddi seremonïol o ardaloedd 13 Sir hanesyddol Cymru a’u halinio â’r 8 "sir" llywodraeth leol a grëwyd gan y Ddeddf honno. Mae’r ddwy swydd gyfansoddiadol a hanesyddol bwysig hyn yn haeddu cael eu seilio ar ardaloedd o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol ac nid ar gyfuniadau o ardaloedd llywodraeth leol sy’n ddibwys yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol. Yn yr un modd, byddai seilio’r swyddi hyn ar y Siroedd hanesyddol yn gydnabyddiaeth swyddogol briodol o’r rhan bwysig y mae’r Siroedd yn ei chwarae ym mywyd ein cenedl.
6.2 Prif ddiffyg arall o ran Deddf 1972 oedd enwi ei ardaloedd haen uchaf yn "siroedd". Mae’r ffolineb hwn gan Ddeddf 1972 bellach wedi’i ddwysáu gan derminoleg llywodraeth leol gymhleth a ganiatawyd o dan Ddeddf 1972 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf 1994. Cydnabyddwn nad oes gan y Comisiwn y pŵer i unioni’r sefyllfa hon. Serch hynny, er mwyn sicrhau cyflawnder, rhestrwn isod y mesurau gweddol syml y mae angen eu cymryd er mwyn rhoi trefn ar yr anrhefn bresennol.
- Dylid dileu’r gair "sir" a’r ymadrodd "bwrdeistref sirol" o derminoleg llywodraeth leol yng Nghymru. Nid oes angen rhannu "prif ardaloedd" Deddf 1972 yn "siroedd" ac yn "fwrdeistrefi sirol", mae’n peri dryswch. Dylid disgrifio pob un o’r ardaloedd hyn fel ardaloedd "dosbarth".
- Dylid galw’r prif gynghorau yn "gynghorau Dosbarth" neu’n "gynghorau". Dylai prif gynghorau Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd allu defnyddio’r arddull "cyngor dinas".
- Dylid disodli’r ymadrodd "sir gadwedig" gyda’r term mwy priodol "sir seremonïol".
- Dylid cyfarwyddo’r Arolwg Ordnans i farcio ffiniau’r siroedd seremonïol a’u cyflwyno o dan y label "sir (seremonïol)" ar ei fapiau graddfa fwy.
- Dylid defnyddio un math o arwydd ffordd ledled Cymru i nodi ffiniau’r y 13 Sir hanesyddol. Dylid seilio’r rhain ar arwyddion twristiaeth gwyn a brown a dylent gynnwys yr ymadrodd "Sir Hanesyddol" uwchben enw’r Sir er mwyn nodi’n glir y gwahaniaeth rhwng yr arwyddion hyn a’r rhai a godwyd gan awdurdodau lleol.
- Dylid diwygio’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag arwyddion ffiniau sy’n dangos ffiniau llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod enw llawn y cyngor yn ymddangos ar arwyddion o’r fath.
- Dylid annog prif gynghorau prif ardaloedd "Sir y Fflint", "Sir Ddinbych" a "Sir Fynwy" i fabwysiadu enwau mwy priodol ("Y Fflint", "Dinbych" a "Dwyrain Sir Fynwy" yw’r posibiliadau amlwg).
Atodiad A. Y dibenion y mae’r siroedd cadwedig yn berthnasol iddynt
Fel y nodwyd yn Adran 1, sefydlodd Deddf 1994 y dibenion yr oedd y siroedd cadwedig i fod yn ardaloedd perthnasol iddynt. Fodd bynnag, mewn llawer o ardaloedd mae deddfwriaeth bellach wedi disodli’r darpariaethau a wnaed gan Ddeddf 1994. Yn yr atodiad hwn, rydym yn cynnal arolwg bras o’r ardaloedd hynny o ddeddfwriaeth a oedd yn berthnasol ar adeg pasio Deddf 1994. Rydym yn amlygu’r mathau hynny o weinyddiaeth y mae’r siroedd cadwedig yn berthnasol iddynt o hyd ac felly y dylid eu hystyried fel rhan o’r Arolwg o’r Siroedd Cadwedig.
Deddf Rhaglawiaethau 1997
Rheolir ardaloedd a dyletswyddau presennol Arglwydd Raglawiaid Prydain Fawr gan Ddeddf Rhaglawiaethau 1997. Dywed Adran 1(1) o’r Ddeddf:
"Penodir arglwydd raglaw gan Ei Mawrhydi ar gyfer pob sir yng Nghymru, pob sir yn Lloegr a phob ardal yn yr Alban (ac eithrio dinasoedd Aberdeen, Dundee, Caeredin a Glasgow)."
Dywed Adran 6 i Atodlen 1:
"Siroedd Cymru at ddibenion y Ddeddf hon yw’r siroedd cadwedig, hynny yw, y siroedd yng Nghymru fel yr oeddent yn union cyn pasio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (ond yn ddarostyngedig i unrhyw ail-luniad o’u ffiniau gan neu o dan y Ddeddf honno neu Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)."
Felly, bydd unrhyw newid yn ardaloedd y siroedd cadwedig yn achosi newid yn ardaloedd Arglwydd Raglawiaid Cymru.
Deddf Siryfion 1887
Rheolir ardaloedd a dyletswyddau Siryfion Cymru a Lloegr gan Ddeddf Siryfion 1887. Mae Adran 3(1) o’r Ddeddf yn datgan:
"Penodir siryf yn flynyddol i bob sir".
Dywed adran 3(4) o Ddeddf Siryfion 1887:
"Yn y Ddeddf hon, mae "sir", mewn perthynas â Chymru, yn golygu sir gadwedig (fel y’i diffiniwyd gan Adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994)."
Felly, penodir Siryfion Cymru i’r siroedd cadwedig hefyd. Bydd unrhyw newid yn ardaloedd y siroedd cadwedig yn achosi newid yn ardaloedd y Siryfion.
Deddf Amddiffyn 1842
O dan y Ddeddf hon, rhoddir sawl dyletswydd i Arglwydd Raglaw a Dirprwy Raglawiaid sir gadwedig mewn perthynas ag amddiffyn y deyrnas. Y brif ddyletswydd ymhlith y rhain yw’r hawl i gymryd tir er mwyn amddiffyn y deyrnas heb ganiatâd y perchenogion os bydd angen gwneud hynny er budd rheidrwydd a hwylustod. Fel y nodwyd uchod, bydd newidiadau i’r siroedd cadwedig yn newid yr ardaloedd Rhaglawiaeth, er na ddylai effaith hyn ar ddyletswyddau esoterig yr Arglwydd Raglaw fod yn un o brif bryderon yr arolwg.
Deddf Pysgodfeydd y Môr (Pysgod Cregyn) 1967
Mae Adran 10 o’r Ddeddf hon yn dweud yr ystyrir bod y rhan honno o’r lan môr y mae gorchymyn pysgodfeydd y môr yn berthnasol iddi yn perthyn i gyrff yr ardaloedd gweinyddol amrywiol sy’n gyfagos i’r lan môr (gan gynnwys y siroedd cadwedig). Am nad yw’r ardaloedd barnwrol bellach yn gysylltiedig â’r siroedd cadwedig (gweler isod) mae’n anodd meddwl am gyd-destun lle y gallai hyn fod yn berthnasol. Yn sicr, nid yw’n fater a ddylai dylanwadu ar ystyriaeth o’r hyn y dylai ardaloedd y siroedd cadwedig fod.
Deddf Dehongli 1978
Diwygiwyd y Ddeddf hon gan Atodlen 2 i Adran 9 o Ddeddf 1978 er mwyn i’r diffiniad o "Gymru" ymddangos yn Atodlen 1:
"Mae "Cymru" yn golygu ardal gyfunol y siroedd a grëwyd gan Adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 [1972 c.70], fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, ond yn ddarostyngedig i unrhyw newid a wnaed o dan adran 73 o’r Ddeddf honno (newid canlyniadol i ffin yn dilyn newid i ddyfrffos)."
Noder nad yw’r diffiniad hwn mewn gwirionedd yn cynnwys y siroedd cadwedig ond siroedd Deddf 1972 fel y’u crëwyd yn gyntaf. Yr unig fodd y gellid newid yr ardal a ddiffinir fel “Cymru” fyddai drwy newid cwrs dyfrffos Felly, ni fydd unrhyw newidiadau i’r siroedd cadwedig yn effeithio ar y diffiniad hwn. Mae’n werth nodi bod y diffiniad hwn o "Gymru" yn wahanol i’r un o fewn Deddf 1972 (gweler isod).
Deddf Ynadon Heddwch 1979
Ddeddf Llys Ynadon 1980
Deddf Trwyddedu 1964
Disodlwyd y rhannau hynny o Ddeddf Ynadon Heddwch 1979 a Deddf Llys Ynadon 1980 sy’n berthnasol i’r siroedd cadwedig gan Ddeddf Ynadon Heddwch 1997. Roedd y Ddeddf hon, fel y’u deddfwyd yn wreiddiol, yn cyfeirio at y siroedd cadwedig fel sail i "ardaloedd comisiwn", "ardaloedd sesiwn fach" ac "ardaloedd pwyllgorau llysoedd ynadon". Fodd bynnag, mae’r adrannau hyn o Ddeddf 1997 bellach wedi’u diwygio gan Ddeddf Mynediad i Gyfiawnder 1999. Ni chyfeirir at y siroedd cadwedig yn Neddf Ynadon Heddwch 1997 bellach.
Mae Adran 1 o Ddeddf ddiwygiedig Ynadon Heddwch 1997 bellach yn mynnu y bydd ardaloedd comisiwn fel y’u nodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor gan orchymyn a wnaed gan offeryn statudol. Yn yr un modd, mae Adran 4 o Ddeddf ddiwygiedig 1997 bellach yn mynnu y bydd y sesiwn fach fel y’i nodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor gan orchymyn a wnaed gan offeryn statudol. Yn yr un modd, mae Adran 27A o’r Ddeddf ddiwygiedig bellach yn mynnu y bydd ardaloedd pwyllgorau ynadon heddwch fel y’u nodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor gan orchymyn a wnaed gan offeryn statudol.
O dan OS 2001/695, diffinnir ardaloedd pwyllgorau llysoedd ynadon Cymru drwy gyfeirio at brif ardaloedd llywodraeth leol Cymru ac NID y siroedd cadwedig.
Dyfed Powys: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys
Gwent: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Tor-faen
Gogledd Cymru: Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam, Conwy
De Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg
O dan OS 2001/696, diffinnir yr ardaloedd comisiwn drwy gyfeirio at ardaloedd pwyllgorau llysoedd ynadon nac ardaloedd llywodraeth leol:
Dyfed Powys: ardaloedd pwyllgorau llysoedd ynadon Dyfed Powys
Gwent: ardal pwyllgorau llysoedd ynadon Gwent
Gogledd Cymru: ardaloedd pwyllgorau llysoedd ynadon Gogledd Cymru
De Cymru: y rhan honno o ardal pwyllgorau llysoedd ynadon De Cymru sy’n cynnwys ardaloedd llywodraeth leol Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg
Gorllewin Morgannwg: y rhan honno o ardal pwyllgorau llysoedd ynadon De Cymru sy’n cynnwys ardaloedd llywodraeth leol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot
O dan OS 2001/694 rhestrir yr ardaloedd sesiwn fach o fewn pob ardal pwyllgorau llysoedd ynadon. Yn gyffredinol, nid yw’r ardaloedd sesiwn fach yn gysylltiedig â siroedd cadwedig ac ardaloedd llywodraeth leol (ac eithrio’r graddau bod yn rhaid iddynt berthyn i ardal pwyllgorau llysoedd ynadon). Cynhelir map sy’n dangos yr ardaloedd sesiwn fach gan yr Arglwydd Ganghellor.
Felly, nid yw’r ddeddfwriaeth sy’n diffinio ardaloedd ar gyfer pwyllgorau llysoedd ynadon, ardaloedd comisiwn neu ardaloedd sesiwn fach yn cyfeirio at y siroedd cadwedig. Mewn rhai mannau, mae’r ardaloedd hyn eisoes yn croesi ffiniau siroedd cadwedig, Er enghraifft, mae ardal gyfan llywodraeth leol Caerffili eisoes yn ardal pwyllgorau llysoedd ynadon ac ardal comisiwn Gwent. Nid oes angen diwygio’r siroedd cadwedig i hwyluso hyn. Felly, wrth ystyried newidiadau i’r siroedd cadwedig, nid yw’r trefniadau ar gyfer ardaloedd pwyllgorau llysoedd ynadon, ardaloedd comisiwn neu ardaloedd sesiwn fach yn ffactor perthnasol bellach.
Dosbarthau trwyddedu Deddf Trwyddedu 1964 yw’r ardaloedd sesiwn fach. Ni seilir y rhain ar y siroedd cadwedig bellach.
Deddf Cynrychioli Pobl 1983
Deddf Etholaethau Seneddol 1986
Mae’r Deddfau hyn yn ymwneud â rôl y siroedd cadwedig fel sail i etholaethau seneddol yng Nghymru. Mewn egwyddor, dylid lleoli’r rhain o fewn siroedd cadwedig er bod y rheoliadau (Atodlen 2 i Ddeddf 1986) yn rhoi cryn dipyn o ddisgresiwn i’r Comisiynau Ffiniau. Nodir etholaethau seneddol presennol Cymru yng Ngorchymyn Etholaethau Seneddol (Cymru) 1995 (OS 1995/1036). Lleolwyd yr etholaethau hyn o fewn "siroedd" Deddf 1972 fel yr oeddent yn bodoli bryd hynny, er y disgrifir yr etholaethau eu hunain yn nhermau "dosbarthau" llywodraeth leol a’u wardiau fel yr oeddent yn bodoli bryd hynny. Mae’r ddaearyddiaeth y seiliwyd yr etholaethau arni wedi newid yn eithafol. Tra bod y siroedd cadwedig yn parhau i fodoli at ddiben etholaethau seneddol, bu newidiadau eisoes yn ardaloedd y rhain o’u cymharu ag ardaloedd y "siroedd" ar adeg OS 1995/1036. Chwalwyd yr ardaloedd "dosbarth" i gyd. Nid yw’r naill na’r llall o’r rhain wedi golygu bod angen newid etholaethau seneddol. Nid oes angen diwygio daearyddiaeth OS 1995/1036 i gydfynd â newidiadau i siroedd cadwedig neu ardaloedd llywodraeth leol. Felly, ni fydd unrhyw newidiadau a argymhellir gan y Comisiwn yn golygu bod angen newid etholaethau seneddol. Nodwn y cynhelir arolwg cyffredinol o etholaethau seneddol dros y blynyddoedd nesaf. O gofio bod y ffiniau presennol wedi’u diffinio yn nhermau ardaloedd dosbarth llywodraeth leol blaenorol, mae’n sicr y bydd unrhyw ddiffiniadau yn y dyfodol yn nhermau "prif ardaloedd" llywodraeth leol presennol.
Deddf Llywodraeth Leol 1972
Fel y nodwyd uchod, mae Adran 20(6) o Ddeddf 1972 yn darparu ar gyfer cadw’r siroedd cadwedig at ddibenion gweinyddol penodol (a restrir yn Rhan II o Atodlen 4 i’r Ddeddf). Fel y nodwyd uchod hefyd, mae Adran 56(1) yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg o ardaloedd y siroedd cadwedig ac mae adran 54(1A) yn galluogi’r Comisiwn i argymell newidiadau yn y siroedd cadwedig yn dilyn arolwg o’r fath. Ni fydd unrhyw newidiadau yn ardaloedd y siroedd gadwedig yn newid y darpariaethau hyn ac nid ydynt yn ffactorau perthnasol yn yr arolwg.
Dywed Adran 269 o Ddeddf 1972:
"Yn y Ddeddf hon mae "Cymru" yn golygu ardal gyfunol y siroedd cadwedig ac nid yw "Lloegr" yn cynnwys unrhyw ardal a gynhwysir yn unrhyw un o’r siroedd cadwedig."
Noder bod hyn ychydig yn wahanol i’r diffiniad o "Gymru" yn Neddf Dehongli 1978. Dim ond ar gyfer newid yn yr ardal y mae’n ei diffinio fel "Cymru" yn dilyn newid i ddyfrffos y mae’r Ddeddf olaf yn caniatáu (gweler uchod). Gellid newid yr ardal y mae Deddf 1972 yn ei diffinio fel "Cymru" drwy newid ardal un sir gadwedig, neu fwy, pe byddai hyn yn cynnwys ychwanegu ardal at y sir gadwedig honno, neu ddidynnu ardal o’r sir gadwedig honno, a fu eisoes yn rhan o’r ardal a ddiffinnir gan y Ddeddf fel "Lloegr". Fodd bynnag, ni all senario o’r fath ddigwydd o dan yr arolwg presennol. Ni fydd unrhyw newidiadau i’r siroedd gadwedig yn sgîl yr arolwg hwn yn newid y diffiniadau o "Gymru" yn Neddf Dehongli 1978 a Deddf 1972, ac felly, nid yw’r mater hwn yn ffactor perthnasol yn yr arolwg hwn.
Mae Adran 219 o Ddeddf 1972 (siryfion ac is-siryfion) yn cynnwys darpariaethau amrywiol yn ymwneud â siryfion ac is-siryfion. Mae is-adrannau (1), (5) a (9) yn berthnasol i’r siroedd cadwedig.
Atgynhyrchwn y rhain:
"(1) Gelwir siryfion a benodir i sir neu Lundain Fwyaf yn uwch siryfion, a bydd unrhyw gyfeiriad at siryf mewn unrhyw ddeddf neu offeryn yn cael ei ddehongli’n briodol mewn perthynas â siryfion ar gyfer sir neu Lundain Fwyaf"
(5) Pan leolir ardal y mae is-siryf yn gweithredu ar ei chyfer mewn dwy sir neu fwy, bydd uwch siryf y sir sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’r ardal honno yn cyflawni’r ddyletswydd a orfodir gan adran 23 o Ddeddf Siryfion 1887 o ran penodi’r is-siryf ar gyfer yr ardal honno, ar ôl ymgynghori ag unrhyw uwch siryf arall sy’n ymwneud â’r mater, ac os bydd unrhyw gwestiwn yn codi o ran pa sir sy’n hawlio’r rhan fwyaf o ardal is-siryf, bydd yr Arglwydd Ganghellor yn dod i benderfyniad arno.
(9) Yn is-adrannau (1) a (5) uchod, mae "sir" mewn perthynas â Chymru yn golygu sir gadwedig."
Mae Adran 219(9) yn gysylltiedig â’r defnydd o’r siroedd cadwedig ar gyfer Deddf Siryfion 1887. Yn amlwg, bydd newidiadau i’r siroedd cadwedig yn effeithio ar Siryfion Cymru, ac felly, dylai’r rhain fod yn ffactor yn yr arolwg.
Dywed is-adran (1) a (3) o Adran 224 (Trefniadau gan brif gynghorau ar gyfer gwarchod dogfennau) o Ddeddf 1972:
"(1) Heb ragfarn yn erbyn pwerau’r Custos Rotulorum i roi cyfarwyddiadau o ran dogfennau unrhyw sir, bydd prif gyngor yn gwneud trefniadau iawn mewn perthynas ag unrhyw ddogfennau sy’n perthyn i neu sy’n rhan o warchodaeth y cyngor neu unrhyw un o’u swyddogion.
(3) Yn is-adran (1) uchod, mae "sir" mewn perthynas â Chymru yn golygu sir gadwedig."
Nodwyd gennym yn Adran 2 mai’r Arglwydd Raglaw yw’r Custos Rotulorum hefyd ar gyfer pob sir gadwedig yng Nghymru. Prif rôl y Custos Rotulorum yw’r cyfrifoldeb dros gofnodion llysoedd y Sesiwn Chwarter a ddelir o’r unfed ganrif ar bymtheg i 1971. Mae’r dogfennau hanesyddol pwysig hyn yn seiliedig ar y Siroedd hanesyddol. Bydd newidiadau i’r siroedd cadwedig yn effeithio ar ardal y Custos Rotulorum ac felly, ar sail ddaearyddol y cyfrifoldeb dros y cofnodion hyn.
Atodiad B. Ffiniau’r siroedd cadwedig diwygiedig a gynigir gennym
Mae’r ymadrodd "Sir hanesyddol" fel y’i defnyddir yn yr adroddiad hwn yn cyfeirio at un o Siroedd Cymru fel y’i sefydlwyd gan Ddeddf Cyfreithiau Cymru 1535. Yn aml, cyfeirir at y siroedd hefyd fel "siroedd hynafol neu ddaearyddol", er enghraifft, yn Adroddiadau Cyfrifiad Swyddfa’r Gofrestr Gyffredinol o 1891 ymlaen ac yn Nodiadau’r Arolwg Ordnans ar Ffiniau Sir, Plwyf, Bwrdeistref ac Eraill.
Cafodd ffiniau’r siroedd hanesyddol eu marcio gan yr Arolwg Ordnans yn y 19fed ganrif ac fe’u cyflwynwyd yn yr argraffiad cyntaf o fapiau o siroedd 1:2500 a 1:10560. Y mapiau hyn yw’r cofnod swyddogol o ffiniau’r Siroedd hanesyddol.
Yn y ddogfen hon, nid ydym yn cynnig newid neu ddiwygio unrhyw un o ffiniau’r Siroedd hanesyddol. Yr hyn a awgrymwn yw y dylid sicrhau bod yr ardaloedd gweinyddol modern a elwir yn "siroedd cadwedig" yn cyfateb yn agosach â’r Siroedd cadwedig. Gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd.
Y ffordd gyntaf fyddai clymu’r siroedd cadwedig i ardaloedd y Siroedd hanesyddol (gan ddefnyddio’r ffiniau ar y mapiau argraffiad cyntaf). I bob pwrpas, byddai hyn yn dychwelyd i’r drefn cyn 1889.
Yr ail ffordd fyddai diffinio’r siroedd cadwedig yn nhermau’r ardaloedd llywodraeth leol cyn 1974. Fel y nodwyd yn Adran 1, o 1889-1974, ni seiliwyd yr Arglwydd Raglawiaid a’r Siryfion yn uniongyrchol ar y Siroedd hanesyddol ond fe’u diffiniwyd yn nhermau "siroedd gweinyddol" a "bwrdeistrefi sirol" llywodraeth leol. Gweithiodd y system hon gan fod yr ardaloedd llywodraeth leol eu hunain wedi’u seilio’n agos ar y Siroedd hanesyddol.
Efallai y byddai’r ail ffordd yn ddewis gwell yn yr ystyr y byddai’r sir gadwedig newydd a gynigir ar gyfer Sir Fynwy yn cynnwys sir weinyddol cyn 1974 gyfan Sir Fynwy (gan gynnwys Rassau, Gilwern ac ati). Byddai hefyd yn osgoi’r anghyfleuster posibl y gellid ei achosi gan y rhan honno ar wahân o Sir hanesyddol Sir Gaernarfon o fewn Sir hanesyddol Sir Ddinbych o amgylch Hen Golwyn (dilëwyd hon mewn perthynas â’r siroedd gweinyddol ar ddechrau’r 20fed ganrif).
Nodwn fod y dull hwn yn cael ei ddefnyddio o fewn Gorchymyn Arglwydd Raglawiaid (yr Alban) 1996 (OS1996/731) lle y diffinnir y rhan fwyaf o’r ardaloedd rhaglawiaeth presennol yn nhermau ardaloedd llywodraeth leol blaenorol, gan gynnwys y siroedd llywodraeth leol cyn 1975 Sir Banff, Sir Aberdeen, Sir Moray.
15/11/02
