COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
14 MEHEFIN 2007 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod), Y Parch. H M Davies (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough
1. DATGAN BUDDIANNAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.
2. COFNODION Y COMISIWN A GYNHALIWYD A GYNHALIWYD AR 18 EBRILL 2007
2.1 Cytunwyd ar y rhain.
3. MATERION YN CODI
Merlin
3.1 Dywedwyd bod y gwaith gwifro a oedd yn weddill wedi'i gwblhau erbyn hyn.
Adolygiadau Cymunedol
3.2 Dywedodd yr Ysgrifennydd nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dechrau ar ei adolygiad cymunedol o hyd oherwydd diffyg adnoddau. Byddai'r adran noddi a'r Ysgrifenyddiaeth fel ei gilydd yn dal i gysylltu â Swyddog Etholiadol y Cyngor a'r gobaith oedd y byddai adolygiad yn dechrau'n fuan
3.3 Dywedwyd y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru i ofyn iddi orchymyn i'r Comisiwn gynnal adolygiad o'r cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
3.4 Dywedwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth a'r adran noddi'n cyfarfod â swyddogion Bwrdeistref Sirol Caerffili i drafod dechrau adolygiad cymunedol Caerffili.
3.5 Ni chafwyd ymateb pellach gan Fro Morgannwg. Nodwyd y byddai Gwynedd yn cynnal adolygiad o drefniadau etholiadol y gymuned, na fyddai'n gofyn am unrhyw gymorth gan y Comisiwn.
3.6 Disgwylid argraffu a chyhoeddi adroddiad drafft ar gyfer Môn ac adroddiad terfynol ar gyfer Powys ddechrau mis Gorffennaf. Cytunwyd estyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau Môn hyd fis Medi o ystyried mai prin fod cynghorau'n cyfarfod yn ystod mis Awst.
Rhan a Swyddogaeth Aelodau Etholedig
3.7 Dywedwyd nad oedd y llythyr at y Gweinidog dros Lywodraeth Leol y cytunwyd arno yn y cyfarfod diwethaf wedi'i anfon eto gan fod y Cynulliad newydd benodi Gweinidog dros Lywodraeth Leol. Cytunwyd anfon y llythyr at y gweinidog newydd dros Lywodraeth Leol cyn gynted ag y bo modd.
Cynllun Gweithredol
3.8 Nododd yr Ysgrifennydd ei fod wedi ysgrifennu at Bennaeth Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant yn Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran y materion nad oeddent wedi'u datrys ynghylch y Cynllun Gweithredu a'i fod wedi derbyn ymateb cynorthwyol. Fodd bynnag, nodwydd nad oedd cytundeb o hyd ynghylch y Cynllun Gweithredu.
Cyfleusterau
3.9 Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi archwilio'r posibilrwydd o gael cyfleusterau ychwanegol yng ngogledd Cymru. Roedd problemau ar hyn o bryd ynghylch swyddfeydd Cynulliad Cymru yn Llandudno nad oeddent wedi eu cwblhau, fodd bynnag roedd hi'n bosibl y gellid dod o hyd i swyddfeydd addas eraill yn Llanelwy. Ystyriodd y Comisiwn y dylai'r Ysgrifenyddiaeth ledaenu'i hymchwil i gynnwys rhannau eraill o ogledd Cymru. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn ystyried dewisiadau pellach ar gyfer cyfleusterau gogledd Cymru.
Y Pwyllgor ar Safonau mewn bywyd Cyhoeddus (CSPL)
3.10 Dywedwyd y byddai Pwyllgor y Siaradwyr yn cyfarfod ddiwedd mis Mehefin i drafod adroddiad Unfed Ymholiad ar Ddeg y CSPL. Cytunwyd y byddai angen codi mater ymateb y llywodraeth i adroddiad y CSPL a byddai angen ei godi adeg y cyfarfod â'r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a oedd i ddigwydd ar 17 Medi 2007. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn cysylltu ag Ysgrifennydd Dyddiadur y Gweinidog i ad-drefnu amser y cyfarfod, os oedd modd, gan na fyddai Aelodau a oedd yn teithio mewn awyren o ogledd Cymru yn gallu mynychu cyfarfod cynnar yng Nghaerdydd.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Agored
3.11 Dywedwyd y byddai'r gweinidog dros Lywodraeth Leol ar gael i annerch CCBA y Comisiwn ddydd Llun 8 Hydref 2007 am 11 a.m. Byddai'r lleoliad y cytunir arno'n cael ei gadarnhau ar 15 Mehefin 2007.
4. ADOLYGIAD FFINIAU CYMUNEDOL RHONDDA CYNON TAF
4.1 Cytunwyd ar yr adroddiad yn ddarostyngedig i fân newidiadau. Cytunwyd y byddent yn gwneud cais am gyngor cyfreithiol a disgwylid cyhoeddi hyn yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf.
5. CRYNODEB O'R CYFLWYNIADAU A DDERBYNIWYD AR GYFER ADOLYGIAD CYMUNEDOL WRECSAM MEWN YMATEB I GYNIGION DRAFFT
5.1 Nododd y Comisiwn sylwadau gan Gyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam eu bod yn fodlon â'r cynigion a wnaed yn adroddiad y cynigion drafft ac eithrio'r newidiadau arfaethedig yn ffin cymuned Gwersyllt.
Abenbury / Parc Caia
5.2 Nododd y Comisiwn y cyflwyniad a oedd yn gwrthwynebu'r newid arfaethedig yn y ffin rhwng Abenbury a Pharc Caia yn adroddiad y cynigion drafft. Ystyriwyd y byddai angen newid y ffin bresennol gan ei bod yn hollti Ystâd Llwyn Onn ar hyn o bryd. Nodwyd bod y rhan fwyaf o'r ystâd i'w chael oddi mewn i ffiniau Parc Caia. Ym marn y Comisiwn, nid oedd y cyflwyniadau a dderbyniwyd yn cynnig unrhyw farn newydd nac yn rhoi unrhyw resymau newydd pam y dylai'r rhan o Lwyn Onn sydd ar hyn o bryd yn Abenbury aros yn y gymuned honno. Nodwyd i'r cynnig i ad-drefnu'r ffin ar hyd Ffordd Abenbury er mwyn cynnwys holl ystâd Llwyn Onn yng Nghymuned Abenbury gael ei roi gerbron unwaith eto. Fodd bynnag, yn eu barn nhw roedd gan ardal Llwyn Onn a oedd ar hyn o bryd ym Mharc Caia gysylltiad ers amser maith â'r gymuned honno ac ardal Tref Wrecsam. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn cadw at ei gynnig drafft, sef cynnwys holl ystâd Llwyn Onn yng Nghymuned Parc Caia.
5.3 Nododd y Comisiwn gyflwyniad ar ran ystâd Thornleigh, a honnai fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bwriadu cynnal rhagor o waith datblygu yn yr ardal honno. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn cadw at ei gynnig drafft i drosglwyddo ystâd Thornleigh i Gymuned Parc Caia ac y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â Swyddog Etholiadol Cyngor Wrecsam am fwy o eglurhad ar bwnc datblygiad pellach rhag ofn y byddai angen helaethu'r ardal a oedd i'w throsglwyddo.
Gwaunyterfyn/ Parc Caia / Holt
5.4 Nododd y Comisiwn y cyflwyniadau a dderbyniwyd. Er eu bod yn nodi'r gwrthwynebiad wrth Gynghorau Cymunedol Gwaunyterfyn a Holt, teimlent fod tystiolaeth sylweddol wedi'i chyflwyno gan drigolion yr ardal o ran cysylltiad â buddiannau cyffredin rhwng Ystad Fairways a chymuned Gwaunyterfyn, yn enwedig o ystyried y gwasanaethau a'r cyfleusterau yng Ngwaunyterfyn a ddefnyddiwyd gan drigolion Ystâd Fairways. Ystyriont yr achos a gyflwynwyd gan Gyngor Cymunedol Parc Caia a nododd y byddai trosglwyddo Ystâd Fairways i Waunyterfyn trwy wyro'r ffin ar hyd Lôn Bryn Estyn yn arwain at ffin ddryslyd ac afresymol, fodd bynnag nid oeddent o'r un farn ac ni ystyrient y byddai'r fath ad-drefnu o'r ffin yn ddryslyd. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn cadw at eu cynigion drafft i drosglwyddo Ystâd Fairways o Gymuned Holt i Gymuned Gwaunyterfyn ac ad-drefnu ffin Cymuned Parc Caia i ddilyn Lôn Bryn Estyn a throsglwyddo ardal yr Hen Erddi i Waunyterfyn.
Coedpoeth / Mwynglawdd
5.5 Nododd y Comisiwn y cyflwyniadau'n gwrthwynebu'r cynigion drafft a dderbyniwyd gan bron holl drigolion yr ardal a effeithiwyd ym Mwynglawdd. Ym marn y Comisiwn, er bod ardal Mwynglawdd yn ymddangos yn estyniad o Goedpoeth roedd yn amlwg oddi wrth nifer fawr y cyflwyniadau nad oedd y trigolion yn teimlo bod ganddynt lawer o gysylltiad â Chymuned Coedpoeth. Yn ogystal, nodwyd bod y ffin bresennol wedi'i diffinio'n glir ac ni ymddangosai ei fod yn hollti unrhyw ardaloedd cysylltiedig. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn mabwysiadu eu cynnig drafft gan fod eu cynnig terfynol ac eithrio ardal i'r de i Fwynglawdd ger y Smelt, lle nad oedd unrhyw drigolion a'r unig fynediad ato'n mynd trwy Goedpoeth.
Brymbo / Brychdyn
5.6 Nododd y Comisiwn y cyflwyniadau a dderbyniwyd ac yn enwedig y cynnig a gyflwynwyd ar gyfer ad-drefniad amgen o'r ffin rhwng Brymbo a Brychdyn. Ystyriwyd ei bod hi'n ymddangos bod rhywbeth i'w ddweud dros y ffin amgen o'i chymharu â'r cynnig drafft am ei bod yn cwmpasu ardaloedd a oedd â mynediad eglur i gymuned Brymbo ac yn eithrio ardaloedd a oedd yn fwy cysylltiedig â chymuned Brychdyn. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn mabwysiadu'r ffin amgen fel eu cynnig terfynol. Ystyriai'r Comisiwn y dylid cynnwys ardal y Lodge hefyd yn yr ardal i'w throsglwyddo o Frychdyn i Frymbo gan ei bod yn haws mynd ati o Frymbo. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn cynnwys trosglwyddo'r Lodge o Frychdyn i Frymbo yn eu cynigion terfynol.
Gwersyllt / Gresffordd / Rhosddu
5.7 Nododd y Comisiwn y gwrthwynebiadau i'w cynigion drafft gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Cymunedol Gwersyllt a theimlent felly fod modd cyflwyno cynnig arall i drosglwyddo ardaloedd yr ystâd ddiwydiannol o Gymuned Gresffordd i Gymuned Gwersyllt gan mai dim ond trwy Wersyllt roedd modd mynd at yr ystâd. Gan nad oedd etholwyr yn yr ardaloedd arfaethedig i'w trosglwyddo, ystyriwyd nad oedd angen cyflwyno ail gynnig drafft ac awgrymwyd y gellid cynnwys y newidiadau arfaethedig yn y ffiniau yn adroddiad y cynigion terfynol.
Sesswick / Marchwiail
5.8 Nododd y Comisiwn y cyflwyniadau a dderbyniwyd gan gyngor cymunedol Sesswick yn ategu'r newid arfaethedig yn y ffin, a fabwysiadwyd ar gyfer y cynnig drafft. Cytunwyd cadw at y cynnig yn y cynigion terfynol.
Adroddiad
5.9 Cytunwyd ymgynghori ag ymgynghorydd cyfreithiol y Comisiwn ynglyn â chynnig newidiadau ffiniau yn gynigion terfynol (h.y. heb gyflwyno drafft pellach) ac y byddai'r Comisiwn yn glynu wrth y cyngor a roddwyd gan yr ymgynghorydd cyfreithiol.
6. CONTRACTAU AR GYFER GWASANAETHAU CYFREITHIOL
6.1 Nododd y Comisiwn ganlyniad yr ymarferion tendro ar gyfer darparu gwasanaethau cyfreithiol. Derbyniodd y Comisiwn yr argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Tendro i ddyfarnu'r Contract ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol i Gyfreithiwr y Trysorlys am 3 blynedd pellach o 1 Gorffennaf 2007.
7. ADRODDIAD ARIANNOL AR DDIWEDD 2006/07
7.1 Rhoddwyd gwybod bod cyllideb y Comisiwn wedi'i thanwario o £36,717 ar ddiwedd 2006-07, sef £10,000 yn fwy na'r disgwyl. Y rheswm dros hyn oedd bod y gwariant a amcangyfrifwyd wedi cynnwys arian wrth gefn ar gyfer costau, na fu angen amdanynt neu a fu'n is na'r disgwyl.
8. CYNLLUN CYDRADDOLDEB RHYW
8.1 Nododd y comisiwn gynnwys dogfennau'r cynllun. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn disgwyl nes i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi polisi Cydraddoldeb Rhyw cyn ystyried cyhoeddi ei bolisi ei hun er mwyn sicrhau bod y ddau bolisi'n cytuno
9. GLINIADUR Y COMISIWN
9.1 Datganodd Mr D. Roberts ddiddordeb yn yr eitem ar yr agenda ac ymneilltuo oddi wrth y cyfarfod.
9.2 Er bod penodiad Mr Roberts i fod i ddod i ben ym mis Rhagfyr 2007, rhagwelai'r Comisiwn y gellid dal i ddefnyddio'r gliniadur ar ôl y dyddiad hwnnw nail gan Mr Roberts ei hun petai'n cael ei ailbenodi, gan Gomisiynydd arall pe na bai'n cael ei benodi neu hyd yn oed gan yr Ysgrifenyddiaeth, o gofio y byddai niferoedd y staff yn cynyddu yn ystod 2008 er mwyn ymdrin â gwaith a oedd yn codi o'r adolygiad etholiadol. Cytunwyd i fynd ymlaen i brynu'r gliniadur a'r meddalwedd priodol.
10. ADRODDIAD BLYNYDDOL 2006/2007
10.1 Cytunwyd ar yr adroddiad yn amodol ar newidiadau a wnaed gan y Cadeirydd. Cytunwyd trosglwyddo fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad i'r Cadeirydd i'w gymeradwyo.
11. UNRHYW FATER ARALL
Cynllun Iaith Gymraeg
11.1 Cyflwynwyd yr adroddiad draft i'r cyfarfod a'i gymeradwyo yn ddarostyngedig i fân newidiadau.
Rheolaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (RhGCC)
11.2 Dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai RhGCC yn cyhoeddi adroddiad yn yr hydref am ddysgu o Wledydd eraill. Byddai'r adroddiad yn cynnwys dau bapur a gyfrannwyd gan yr Ysgrifennydd.
12. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
12.1 Cytunwyd mai dyddiad y cyfarfod nesaf fyddai 11 Gorffennaf 2007 am 11 a.m.
10/12/2007
