Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

18 EBRILL 2007 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod), Y Parch. H M Davies (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough

1. DATGAN BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.

2. COFNODION Y COMISIWN A GYNHALIWYD A GYNHALIWYD AR 24 IONAWR 2007

2.1 Cytunwyd ar y rhain.

3. MATERION YN CODI

Merlin

3.1 Roedd yr Ysgrifenyddiaeth wedi cael gwybod nad cyfrifoldeb Merlin oedd ymgymryd â'r gwaith o ail-wifrio ym mhrif swyddfa'r Comisiwn fel y tybiwyd yn wreiddiol. Y bwriad, felly, oedd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflogi contractwr i ymgymryd â'r gwaith hwn a byddai'n rhaid talu am y gost o gyllideb y Comisiwn.

Adolygiadau Cymunedol

3.3 Rhoddodd yr Ysgrifennydd wybod bod Swyddog Cofrestru Etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dweud wrtho y byddid bellach yn atal gwaith Adolygiad Cymunedol ar gyfer Conwy tan ar ôl etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai.

3.4 Nodwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn disgwyl penderfyniad gan ei Weithgor a ddylid cynnal Adolygiad Cymunedol. Ni chafwyd unrhyw wybodaeth bellach gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Byddid yn cysylltu â'r ddau awdurdod unwaith eto ar ddechrau mis Mai.

3.5 Roedd Cynigion Drafft ar gyfer Adolygiad Cymunedol Wrecsam wedi'u cyhoeddi a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau wedi'i bennu ar gyfer 10 Mai 2007.

4. ADOLYGIAD O GYMUNEDAU AR YNYS MÔN

4.1 Ystyriodd y comisiwn yr adroddiad drafft o ran Adolygiad Cymunedol Môn. Nodwyd bod datblygiad tai posibl newydd yng Nghymuned Pentraeth yn bendant oddi mewn i ffiniau presennol y gymuned ac felly ni fyddai'n cael effaith ar gynigion y Comisiwn. Rhoddodd y Comisiwn ystyriaeth bellach i'w cynnig i symud wardiau yng Nghymuned Cwm Cadnant ond daeth i'r casgliad y dylai'r cynnig hwn aros. Cytunwyd y dylai'r tablau yn yr adroddiad a oedd yn dangos niferoedd yr etholwyr gael colofn ychwanegol i ddangos nifer yr etholwyr fesul cynghorydd. Cytunwyd, gyda'r ychwanegiad hwn, y gellid cyfieithu Adroddiad y Cynigion Drafft a'u cyhoeddi ar ôl etholiadau'r Cynulliad.

5. ADOLYGIAD O'R CYMUNEDAU YN SIR BOWYS

5.1 Ystyriodd y Comisiwn yr adroddiad terfynol a nodwyd bod Cyngor Sir Powys yn fodlon ar y newidiadau yn eu cynigion o ran ffiniau a awgrymwyd gan y Comisiwn. Nodwyd hefyd na dderbyniwyd ymateb i'r llythyrau a anfonwyd at drigolion yn y ddwy annedd yn Y Drenewydd a Llanllwchaearn. Cytunwyd y dylid anfon llythyr atgoffa at y trigolion gan roi pythefnos ychwanegol iddynt ymateb. Cytunwyd y dylid ychwanegu mapiau at yr adroddiad i egluro'r cynigion ar gyfer Llanrhaeadr ym Mochnant a'r Ystog / Yr Ystog ar wahan). Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ôl etholiadau'r Cynulliad.

6. ADOLYGIAD O GYMUNEDAU YM MWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF

6.1 Pont-y-clun / Llanharan / Llantrisant

6.1.1 Ystyriodd y Comisiwn yr awgrym gan Gyngor Rhondda Cynon Taf y dylid trosglwyddo Ynysddu o Gymuned Llanharan a Phant y Dderwen o Gymuned Llantrisant i Gymuned Pont-y-clun. Dywedwyd bod ymweliad â'r safle wedi cadarnhau bod gan Ynysddu gysylltiad â Phont-y-clun, fel Pant y Dderwen. Nododd y Comisiwn ganlyniadau'r arolwg, a gynhaliwyd gan Glerc Cyngor Cymunedol Llanharan, ac a ddangosodd y byddai 83% o drigolion Ynysddu o blaid trosglwyddo i Gymuned Pont-y-clun. Cytunwyd cynnwys cynnig i ad-drefnu'r ffin rhwng Llanharan, Pont-Y-Clun a Llantrisant, yn unol ag awgrymiadau RhCT, yn y Cynigion Drafft.

6.2 Llanhari / Pont-Y-Clun

6.2.1 Ystyriodd y Comisiwn awgrym gan Gyngor Rhondda Cynon Taf i drosglwyddo Clos Brenin yng Nghymuned Llanhari i Gymuned Pont-y-clun Nododd y Comisiwn gyflwyniad gan Gyngor Cymunedol Pont-y-clun yn dweud bod gan Glos Brenin gysylltiad agos â'u Cymuned nhw, a chadarnhawyd hyn gan ymweliad yr Ysgrifenyddiaeth â'r safle. Cytunwyd cynnwys cynnig i ad-drefnu'r ffin rhwng Llanhari a Phont-y-clun, yn unol ag awgrym Rhondda Cynon Taf, yn y Cynigion draft.

6.3 Llanhari / Pont-y-clun

6.3.1 Ystyriodd y Comisiwn awgrym gan Gyngor Rhondda Cynon Taf y dylid trosglwyddo tir Fferm Elms ac adran o'r ystâd dai cyfagos, sydd ar hyn o bryd yng Nghymuned Pont-y-clun i Gymuned Llanhari. Dywedwyd bod ymweliad â'r safle wedi cadarnhau bod gan y tiroedd gysylltiad eglur â Chymuned Llanhari. Nodwyd hefyd fod yr ystâd dai wedi ei rhannu ar hyn o bryd rhwng y ddwy gymuned gan y ffin bresennol. Cytunwyd cynnwys cynnig i ad-drefnu'r ffin rhwng Llanhari a Phont-y-clun yn y Cynigion Drafft yn unol ag awgrym Rhondda Cynon Taf. Nodwyd, fodd bynnag, y gallai casgliad o dai gerllaw Fferm Elms ymddangos yn fwy ynysig yn sgil y ffin arfaethedig a chytunwyd felly y byddai'r Cynigion Drafft hefyd yn gofyn am sylwadau a ddylid estyn y ffin arfaethedig ymhellach i'w cynnwys.

6.4 Hirwaun / Pen-y-waun

6.4.1 Ystyriodd y Comisiwn yr awgrym gan Gyngor Rhondda Cynon Taf y dylid ad-drefnu'r ffin er mwyn trosglwyddo Trenant, rhan o ffordd Hirwaun, Parc Montana a Threwaun o Gymuned Pen-y-waun i Gymuned Hirwaun. Dywedwyd bod ymweliad â'r safle wedi cadarnhau bod gan yr ardaloedd dan sylw gysylltiad â'r ddwy gymuned. Cytunwyd cynnwys cynnig i ad-drefnu'r ffin rhwng Hirwaun a Phen-y-waun, yn unol ag awgrym RhCT, yn Adroddiad y Cynigion Drafft.

7. ADRODDIAD YR ADOLYGIAD O SWYDDOGAETH A GWAITH AELODAU ETHOLEDIG

7.1 Ystyriodd y Comisiwn adroddiad o'r adolygiad o Swyddogaeth a Gwaith Aelodau Etholedig a mynegi pryder bod yr adroddiad yn canolbwyntio'n bennaf ar archwilio yn hytrach nag ar swyddogaethau etholiadol. Ystyriwyd y byddai angen ysgrifennu at y Gweinidog dros Lywodraeth Leol yn sgil etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai er mwyn rhoi gwybod iddo am farn y Comisiwn ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y Cyfarwyddiadau ar gyfer yr adolygiad ar gyfer trefniadau etholiadol oedd ar ddod. Byddai hyn yn cynnwys ystyriaethau fel rhoi mwy o hyblygrwydd i'r comisiwn o ran creu adrannau etholiadol aml-aelod a chael yr hawl i benderfynu ym mha drefn y cynhelir yr adolygiadau ar gyfer pob un o'r awdurdodau lleol. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn llunio'r llythyr a'i ddosbarthu ymhlith yr aelodau cyn y cyfarfod nesaf.

8. CYNLLUN GWEITHREDU - GOBLYGIADAU'R LLYTHYR GORCHWYL

8.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd wybod bod Adran Noddi Comisiwn y Cynulliad wedi mynegi na fyddai modd cadw at yr amserlen a oedd orau gan y Comisiwn ar gyfer cynnal adolygiad o drefniadau etholiadol. Nid oedd cyllideb 2007-08 yn caniatáu recriwtio rhagor o staff er bod yr Adran Noddi wedi derbyn, fodd bynnag, amcangyfrif gofynion cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2008-09 ymlaen, y byddai angen iddynt geisio adnoddau ar ei gyfer. Golygai hyn er bod modd i'r Comisiwn ddechrau ar y broses o recriwtio am ragor o staff ni fyddai'n bosibl i unrhyw staff newydd ddechrau yn eu swyddi tan ar ôl 1 Ebrill 2008. Mynegwyd pryderon hefyd na fyddai swyddfeydd presennol y Comisiwn yn ddigonol ar gyfer anghenion nifer y staff y byddai galw amdanynt yn awr er mwyn cwblhau'r adolygiad nesaf o fewn yr amserlen (fyrrach) arfaethedig. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn llunio llythyr at Bennaeth Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant y Cynulliad gan amlinellu pob mater a godwyd.

9. YMATEB Y COMISIWN ETHOLIADOL I UNFED ADRODDIAD AR DDEG Y PWYLLGOR AM SAFONAU MEWN BYWYD CYHOEDDUS

9.1 Ystyriodd y Comisiwn ymateb y Comisiwn Etholiadol a nodwyd bod y Comisiwn Etholiadol yn dal i deimlo y dylai gael rhan mewn trefniadau etholiadol. Ystyriodd y Comisiwn na fyddai hyn yn rhywbeth y byddent yn pledio drosto, ac roeddent yn fodlon â'r trefniadau presennol. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn ysgrifennu at y Cynulliad i roi gwybod am bryderon y Comisiwn.

10. UNRHYW FATER ARALL

10.1 Nodwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Ar Safonau Mewn Bywyd Cyhoeddus.

10.2 Cytunwyd ar leoliad yng Nghaerdydd ar gyfer y cyfarfod Agored Blynyddol nesaf. Byddai'r dyddiad yn cael ei benderfynu yn sgil trafod gyda Gweinidog newydd y Cynulliad.

10.3 Cytunwyd, yn y dyfodol, y byddai copi caled o bapurau'r cyfarfod yn cael eu danfon at y Cadeirydd. Gofynnodd y Dirprwy Gadeirydd i'w bapurau ef gael eu hanfon ar ffurf electronig a phapur a dywedodd yr Aelod ei fod yn fodlon derbyn copi electronig o'r papurau. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn archwilio'r posibilrwydd o ddarparu gliniadur i'r Dirprwy Gadeirydd.

11. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

11.1 Pennwyd dyddiad y cyfarfod nesaf fel 14 Mehefin 2007

10/12/2007