Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

1 MAWRTH 2007 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod), Y Parch. H M Davies (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough

1. DATGAN BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.

2. COFNODION Y COMISIWN A GYNHALIWYD A GYNHALIWYD AR 24 IONAWR 2007

2.1 Cytunwyd ar y rhain.

3. MATERION YN CODI

Swyddogaeth Fodern y Cynghorydd

3.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd fod manylion wedi'u derbyn ynghylch seminarau a gynhelir gan y Cynulliad ar Swyddogaeth Fodern y Cynghorydd. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd, y Dirprwy Gadeirydd ac Aelod yn mynychu'r seminar yn Llandudno ar 15 Mawrth 2007 ac y byddai'r Cadeirydd a'r Dirprwy Ysgrifennydd yn mynychu'r seminar a gynhelir yng Nghaerdydd ar 20 Mawrth 2007.

Ystyriaethau Merlin

3.2 Rhoddodd yr Ysgrifennydd wybod ei fod wedi ysgrifennu at y Cynulliad unwaith eto ynglyn â'r gwaith gwifro sy'n weddill a'i fod wedi parhau i ymwneud yn weithredol â'r pwnc hwn.

Adolygiadau Cymunedol

3.3 Rhoddodd yr Ysgrifennydd wybod i Gomisiynwyr ei fod wedi cyfarfod â swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i drafod y dewisiadau ar gyfer adolygiad cymunedol posibl, ac ar hyn o bryd roedd yn disgwyl ymateb pellach ganddynt.

3.4 Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi cyfarfod â Swyddog Cofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy a oedd wedi dweud ei fod am gynnal adolygiad cymunedol. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi anfon llythyr rhagarweiniol hyd yn hyn at gynghorau cymunedol yn gofyn am fanylion unrhyw anghysondebau ffiniol y gallent fod yn ymwybodol ohonynt.

3.5 Dywedodd yr Ysgrifennydd yn ogystal ei fod wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a'i fod wedi tynnu eu sylw at rai anghysondebau o ran eu ffiniau cymunedol a'i fod wedi gofyn iddynt ystyried cynnal adolygiadau.

3.6 Rhoddwyd gwybod i aelodau fod adroddiad cynigion drafft Wrecsam wedi'i gyhoeddi a bod disgwyl ei ddosbarthu ar 2 Mawrth 2007.

Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (CPSL)

3.7 Dywedwyd bod y Comisiwn wedi derbyn copïau o adroddiad Unfed ymholiad ar ddeg CSPL. Derbyniwyd gwahoddiad gan y CSPL i fynychu seminar ar yr adroddiad, ond nid oedd modd i'r Aelodau fynychu, fodd bynnag, oherwydd ymrwymiadau blaenorol.

4. ADOLYGIAD O GYMUNEDAU AR YNYS MÔN

4.1 Rhoddodd y Comisiwn ystyriaeth i'r cyflwyniadau gwreiddiol a dderbyniwyd o ran adolygiad cymunedol Ynys Môn. Adroddwyd bod yr ysgrifenyddiaeth wedi cynnal ymweliad safle ar Ynys Môn hefyd i archwilio'r newidiadau arfaethedig i'r ffiniau cymunedol a awgrymwyd gan y cyflwyniadau gwreiddiol.

Caergybi/Trearddur/Rhoscolyn

4.2 Roedd Cyngor Tref Caergybi wedi cynnig bod eu cymuned yn cael ei chyfuno â chymunedau Trearddur a Rhoscolyn i greu un cyngor cymunedol a fyddai'n cynnwys holl Ynys Gybi. Cafwyd nifer sylweddol o gyflwyniadau yn gwrthwynebu'r awgrym hwn ar y sail nad oedd gan yr ardaloedd dan sylw lawer yn gyffredin gan fod Caergybi at ei gilydd yn drefol a Threarddur a Rhoscolyn yn ardaloedd gweledig/twristaidd. Roedd ymweliad â'r safle wedi cadarnhau bod Rhoscolyn yn wledig a thenau ei boblogaeth a Threarddur hefyd yn wledig ond â phoblogaeth ychydig yn uwch o ganlyniad i'r diwydiant twristaidd yn bennaf. Ar y llaw arall, roedd Caergybi at ei gilydd yn ardal fawr drefol ddwys. Nododd y Comisiwn hefyd nad oedd unrhyw gefnogaeth i gynnig Cyngor Tref Caergybi. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Trefol Caergybi i ail-lunio'r ffin rhwng Trearddur a Rhoscolyn ar gyfer eu Cynigion Drafft.

4.3 Ystyriodd y Comisiwn a fyddai'n ddymunol cyfuno cymunedau Trearddur a Rhoscolyn. Ystyriwyd y gallai hyn esgor ar gymuned fwy, gryfach a allai wella democratiaeth leol ac annog etholiadau lleol. Nodwyd, serch hynny, mai Rhoscolyn oedd y gymuned leiaf ar Ynys Môn ac na dderbyniwyd cyflwyniadau o blaid cefnogi cyfuno. Dywedwyd i gynnig o'r fath gael ei roi gerbron eisoes yn ystod yr Adolygiad Cymunedol Arbennig o Fôn ym 1978. Ar yr adeg honno gwrthodwyd y cynnig gan fod Cyngor Cymunedol Rhoscolyn wedi dadlau'n llwyddiannus y byddai gwahaniaethau rhyngddynt a Threarddur a bod modd iddynt ddarparu gwasanaethau yn annibynnol i'w cymunedau. Ystyriai'r Comisiwn y gallai hyn fod yn rhywbeth i gynghorau cymunedol ei ystyried neu y gallai Cyngor Sir Môn ddymuno rhoi peth ystyriaeth iddo yn y dyfodol.

Caergybi/ Trearddur: Parc Gwerthu Penrhos

4.4 Roedd Cyngor Tref Caergybi wedi cynnig bod Parc Gwerthu Penrhos yn cael ei drosglwyddo o Drearddur i'w cymuned nhw. Nodwyd bod y parc gwerthu yn ffinio ar ardal ddwys ei phoblogaeth o Ward Heol Llundain Caergybi ac mai'r unig ffordd o gyrraedd y parc gwerthu oedd trwy Gaergybi. Cadarnhawyd mai felly ydoedd gan yr ymweliadau â'r safle. Fodd bynnag, roedd hefyd wedi dod i'r amlwg fod diwygiad y ffin a gynigiwyd gan Gyngor Tref Caergybi yn rhedeg trwy'r adeilad newydd nad oedd yn ymddangos ar y map.

4.5 Mewn cyflwyniad arall, roedd Cyngor Tref Caergybi hefyd wedi gofyn i'r ffin bresennol gael ei diwygio i drosglwyddo safle Alwminiwm Môn o Drearddur i'w cymuned nhw. Nododd y Comisiwn agosrwydd Alwminiwm Môn at Barc Gwerthu Penrhos. Pe bai'r parc gwerthu'n cael ei drosglwyddo i Gaergybi, ystyrient y byddai'n ddymunol ac yn unol â natur drefol / diwydiannol Caergybi fod Alwminiwm Môn hefyd yn cael ei drosglwyddo. Ystyriwyd mai'r llinell fwyaf synhwyrol ar gyfer ad-drefnu'r ffin er mwyn cynnwys Parc Gwerthu Penrhos ac Alwminiwm Môn oddi mewn i Gaergybi fyddai ar hyd y rheilffordd yn union i'r de i'r gwaith Alwminiwm. Byddai hyn hefyd yn cynnwys trosglwyddo darn gwledig bychan i Gaergybi gan gynnwys gwarchodfa natur. Fodd bynnag, nodwyd bod Caergybi eisoes yn cynnwys ardal wledig debyg yng ngogledd orllewin y gymuned ac felly nid oedd yn hollol anghydnaws â gweddill y gymuned. Cytunwyd y byddai cynnig i ad-drefnu'r ffin rhwng Caergybi a Threarddur yn dilyn y rheilffordd i'r de o Alwminiwm Môn yn cael ei gynnwys yn y Cynigion Drafft.

Caergybi/ Trearddur: Datblygiad Tŷ Mawr

4.6 Roedd Cyngor Tref Caergybi wedi cynnig y byddai datblygiad arfaethedig Tŷ Mawr yn cael ei gynnwys yng Nghaergybi. Rhannwyd ffin y datblygiad arfaethedig ar hyn o bryd rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur, a nodwyd y byddai'n debygol y byddai'r datblygiad gorffenedig yn barhad o ardaloedd dwys eu poblogaeth a oedd eisoes yn bodoli yng Nghaergybi. Roedd y Cyngor hefyd wedi tynnu sylw at ffin CDU Cyngor Sir Môn gerllaw'r ardal ddatblygu ac awgrymu y byddai'n synhwyrol i bob ad-drefnu o ffin y gymuned gymryd ystyriaeth o ffin y CDU, gan y byddai'n annhebygol y byddai unrhyw ddatblygiad pellach y tu hwnt iddo yn y dyfodol. Ystyriodd y Comisiwn fod sail i'r awgrym i gynnwys datblygiad safle Tŷ Mawr oddi mewn i Gaergybi. Nodwyd bod ffin ardal y CDU'n ymestyn y tu hwnt i'r safle datblygu mewn rhai ardaloedd ac ystyriwyd mai'r ardal a gwmpaswyd gan ffin y CDU yn hytrach na ffin y safle datblygu a ddylai fod yr ardal a drosglwyddwyd. Cytunwyd y byddai'r cynnig i ad-drefnu'r ffin rhwng y ddwy gymuned er mwyn dilyn ffin y CDU lle bo modd (ac eithrio'r mân achos i'r de lle nad oedd ffin y CDU'n dilyn nodwedd bendant) yn cael ei gynnwys yn y Cynigion Drafft.

4.7 Ystyriodd y Comisiwn y cais gan Gyngor Sir Caergybi y dylid lleihau nifer eu Cynghorwyr Cymunedol. Cytunwyd y dylid lleihau aelodaeth Cyngor Tref Caergybi. Cytunwyd y dylid rhoi ystyriaeth i leihau aelodaeth Cyngor Cymunedol Trearddur o ganlyniad i leihau eu hardaloedd.

Pentraeth / Llanfair Mathafarn Eithaf

4.8 Ystyriodd y Comisiwn gynnig gan Gyngor Cymunedol Pentraeth y dylid ymestyn ei ffin i gynnwys Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf yng nghyffiniau Rhos y Gad. Dywedwyd i'r ad-drefnu arfaethedig o'r ffin gael ei harchwilio, a chafwyd ei fod yn dilyn nodweddion pendant yn y tirlun a hefyd yn datrys anghysondeb o ran y ffin a oedd yn bodoli eisoes, a oedd yn rhannu rhai adeiladau fferm. O ran yr ardal ddwys ei phoblogaeth yn Llanfair Mathafarn Eithaf a fyddai'n cael ei drosglwyddo i Bentraeth petai'r ffin arfaethedig yn cael ei mabwysiadu, ystyriodd y Comisiwn ei bod yn ddigon agos at ardaloedd tebyg ym Mhentraeth i gyfiawnhau'i chynnwys. Nodwyd hefyd fod yr ardal hon gryn bellter o brif ganolfan boblog Llanfair Matharn Eithaf ond yn agos at bentref Pentraeth. Cytunwyd y byddai cynnig i ad-drefnu'r ffin rhwng Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf fel yr awgrymwyd gan Gyngor Cymunedol Pentraeth yn cael ei gynnwys yn y Cynigion Drafft.

Pentraeth / Llanddyfnan

4.9 Ystyriodd y Comisiwn y cynnig gan Gyngor Cymunedol Pentraeth y dylid estyn eu ffin i gynnwys rhan o Gymuned Llanddyfnan yng nghyffiniau Tyn y Pwll. Dywedwyd bod ymyl y ffin arfaethedig wedi'i archwilio yn ystod ymweliad â'r safle a chafwyd nad oedd yn welliant ar y ffin a oedd yn bodoli o ran y nodweddion daearyddol canlynol. Nodwyd hefyd nad oedd yn ymdrin ag unrhyw anghysondebau penodol a bod Cyngor Cymunedol Pentraeth wedi'i awgrymu er mwyn sythu ffin eu cymuned. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn mabwysiadu cynnig Cyngor Cymunedol Pentraeth i ad-drefnu'r ffin rhwng Pentraeth a Llanddyfnan ar gyfer eu Cynigion Drafft.

Cwm Cadnant / Pentraeth

4.10 Ystyriodd y Comisiwn y cynnig gan Gyngor Cymunedol Cwm Cadnant y dylid estyn eu ffin i gynnwys rhan o Gymuned Pentraeth yng nghyffiniau Penygarnedd. Dywedwyd bod ymyl y ffin arfaethedig wedi cael ei archwilio yn ystod yr ymweliad â'r safle a chafwyd ei fod yn datrys anghysondeb ynglyn â'r ffin bresennol a oedd yn rhannu dau adeilad cyfagos i'w gilydd. Fodd bynnag, cafwyd bod rhan o'r ffin arfaethedig yn dilyn llinell amhendant ar draws dau gae. Sylwyd bod dewis arall posibl hefyd, sef ffin yn dilyn nodweddion pendant heol a nant ac a fyddai'n datrys yr anghysondeb penodol trwy drosglwyddo rhan fechan o Gwm Cadnant i Bentraeth. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn mabwysiadu cynnig Cyngor Cymunedol Pentraeth i ad-drefnu'r ffin rhwng Cwm Cadnant a Phentraeth er mwyn dilyn llinell arall yr Ysgrifenyddiaeth o linell yr heol a'r nant.

Cwm Cadnant / Penmynydd

4.11 Ystyriodd y Comisiwn y cynnig gan Gyngor Cymunedol Cwm Cadnant y dylid estyn eu ffin i gynnwys rhan o Gymuned Penmynydd. Dywedwyd i linell y ffin arfaethedig gael ei harchwilio yn ystod ymweliad â'r safle ac er ei bod yn dilyn ffordd bendant, nid ymddangosai fod ganddi lawer yn gyffredin â Chwm Cadnant. Gwnaed y cynnig gan Gyngor Cwm Cadnant am fod ceisiadau cynllunio Safle Gwastraff Penhesgyn yn dod o dan eu hawdurdod, a'u bod yn ystyried y byddai'n ddymunol i adeiladau ar y ffordd sy'n arwain at y safle sydd ar hyn o bryd ym Mhenmynydd i gael eu trosglwyddo i'w Cymuned. Ystyriai'r Comisiwn fod gan yr ardal fwy'n gyffredin â Chymuned Penmynydd yn hytrach na Chwm Cadnant a nodwyd mai trwy Gymuned Penmynydd y cafwyd y prif fynediad at y safle gwastraff. Ystyriwyd, o'r herwydd, y byddai'n ddymunol cynnwys y safle gwastraff a'r tir oddi amgylch yng Nghymuned Penmynydd. Cytunwyd cynnig yn y Cynigion Drafft y dylid ad-drefnu'r ffin rhwng Cymuned Cwm Cadnant a Chymuned Penmynydd i drosglwyddo'r tir i'r gorllewin i Ffordd Pentraeth (A%)"%) o Gymuned Cwm Cadnant i Gymuned Penmynydd.

Cwm Cadnant / Porthaethwy

4.12 Ystyriodd y Comisiwn y cynnig gan Gyngor Cymunedol Cwm Cadnant y dylid ad-drefnu eu ffin i'r de i ddilyn ffordd un llwybr a thrwy hynny drosglwyddo rhan o Gymuned Porthaethwy i Gwm Cadnant. Dywedwyd i linell y ffin arfaethedig gael ei harchwilio yn ystod ymweliad â'r safle a chafwyd ei bod yn fwy pendant na'r ffin bresennol er ei bod yn gwahanu nifer o adeiladau yn y de oddi wrth rai i'r gogledd o'r ffordd. Nid oedd y Comisiwn yn argyhoeddedig y byddai'r newid a awgrymwyd o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn mabwysiadu cynnig Cyngor Cymunedol Cwm Cadnant i ad-drefnu'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phorthaethwy yn y Cynigion Drafft.

4.13 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn llunio'r drafft cyntaf o Adroddiad y Cynigion Drafft, gan gynnwys y cynigion yr oedd cytundeb yn eu cylch, ar gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn.

5. ADOLYGIAD O GYMUNEDAU YN SIR BOWYS

5.1 Dywedwyd bod Cyngor Sir Powys wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr iawn o'u meysydd cymuned ac wedi cyflwyno'u hadroddiad i'r Comisiynwyr er mwyn iddynt ei ystyried. Cynhaliodd yr Ysgrifenyddiaeth ymweliad safle â Phowys i archwilio'r newidiadau ffiniau arfaethedig.

Aberhonddu / Glyn Tarell

5.2 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Gwynedd y dylid trosglwyddo'r 'Lime and Spreader Company', sydd yn Gymuned Glyn Tarell, i Gymuned Aberhonddu. Penderfynwyd ar y safle fod gan y cwmni gysylltiad â Chymuned Aberhonddu a bod y newid arfaethedig yn y ffin yn dilyn llinell ffens bendant. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Crughywel/ Dyffryn Grwyne

5.3 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i ad-drefnu'r ffin gymunedol rhwng Cymunedau Dyffryn Grwyney a Chrughywel. Penderfynwyd wrth ymweld â'r safle fod gan safle ffatri 'Elvicta', gwaith carthion y dref a chaeau chwarae'r dref ar hyn o bryd fwy o gysylltiad â Chymuned Crughywel. Dilynai'r ffin arfaethedig linell ffens bendant hefyd. Nododd y Comisiwn i Gyngor Cymunedol Dyffryn Grwyne wrthwynebu'r newid arfaethedig y ffin, a'i fod wedi anfon cyflwyniadau at Gyngor Sir Powys. Ystyriodd Cyngor, fodd bynnag, ar sail cysylltiad yr ardal â Chrughywel a'r ffaith na fyddai unrhyw adeiladau preswyl yn cael eu heffeithio ei bod yn ymddangos bod cynnig Cyngor Sir Powys o fudd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Duhonw / Llanfair-ym-Muallt

5.4 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i ad-drefnu'r ffin gymunedol rhwng Cymunedau Duhonw a Llanfair-ym-Muallt i drosglwyddo eiddo Erwhelm i Gymuned Duhonw. Nododd y Comisiwn fod Erwhelm wedi'i gynnwys eisoes ar y rhestr etholiadol ar gyfer Cymuned Duhonw. Cadarnhaodd yr ymweliad safle fod gan Erwhelm berthynas â Chymuned Duhonw. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Y Gelli / Llanigon

5.5 Ystyriodd y Comisiwn newid yn y ffin gymunedol a gynigiwyd gan Gyngor Sir Powys, sef trosglwyddo rhan o Gymuned Llanigon sy'n ymwthio i ffin orllewinol tref Fferm Gipsy Castle a'r Burlands i Gymuned y Gelli. Cadarnhaodd ymweliad â'r safle fod gan Fferm Gipsy Castle a'r Burlands gysylltiad â'r Gelli ac y byddai'r newid arfaethedig yn y ffin gymunedol, a oedd yn bendant iawn, yn hwyluso i raddau unrhyw gynnydd yn y Gelli yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Glyn Tarell / Llanfrynach

5.6 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i ad-drefnu'r ffin rhwng Cymunedau Glyn Tarell a Llanfrynach i gynnwys fferm o'r enw yr Held yng Nghymuned Llanfrynach. Nododd ymweliad â'r safle mai'r unig fynediad i'r Held oedd trwy Gymuned Llanfrynach. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Tawe Uchaf / Ystradfellte

5.7 Ystyriodd y Comisiwn y newid yn y ffin gymunedol a gynigiwyd gan Gyngor Sir Powys o ad-drefnu ffin ddwyreiniol Cymuned Ystradfellte i drosglwyddo ffermydd Tonyfildre, Cefnwaunynog a Nant-y-fedwen o Gymuned Ystradfellte i Gymuned Tawe Uchaf. Cardarnahodd ymweliad â'r safle fod llinell ddaearyddol y ffyrdd lleol yn awgrymu bod gan y ffermydd gysylltiad â Chymuned Tawe Uchaf. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Castell Caereinion / Llanfair Caereinion

5.8 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo tir o Lôn Fronhaul (Tanycoed, Tynewydd, y Grange, Glynhwdog, Yr Ochr, a Thy'n y Brwydd) sydd ar hyn o bryd yng Nghymuned Llanfair Caereinion i Gymuned Castell Caereinion. Ystyriodd Cyngor Sir Powys fod tir ar Lôn Fronhaul yn dibynnu ar Gymuned Castell Caereinion am wasanaethau lleol a hefyd nad oedd y lôn yn arwain yn syth i Lanfair Caereinion. Nododd y Comisiynwyr fod ymweliad a gynhaliwyd â'r safle wedi cadarnhau hyn. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Ceri / Yr Ystog

5.9 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo Lower House, Sarn o Gymuned Yr Ystog i Gymuned Ceri. Dywedodd Cyngor Sir Powys mai'r unig fynediad uniongyrchol i Lower House oedd trwy Gymuned Ceri. Cadarnhaodd ymweliad â'r safle mai'r unig fynediad i Lower House oedd trwy gymuned Ceri. Cadarnhaodd ymweliad â'r safle mai trwy Gymuned Ceri oedd yr unig fynediad at y tir hwn. Nododd y Comisiynwyr fod staff yr ysgrifenyddiaeth wedi trafod gyda thrigolion Lower House ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad i'r newid arfaethedig. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Llandysul / Y Drenewydd a Llanllwchaearn

5.10 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo pentref bychan Aberbechan, sydd ar hyn o bryd wedi'i rannu rhwng Cymuned Llandysul a Chymuned Y Drenewydd a Lanllwchaearn, i Gymuned Llandysul. Ystyriai Cyngor Sir Powys fod y pentref yn wledig ei gymeriad a bod ganddo gysylltiad ag Aber-miwl yng Nghymuned Llandysul. Byddai'r ad-drefnu arfaethedig yn cynnwys trosglwyddo chwe annedd i Gymuned Llandysul. Cadarnhaodd ymweliad â'r safle fod gan Aberbechan gysylltiad â Llandysul, ond nodwyd hefyd fod dau annedd arall i'r tu cefn i'r chwe annedd a oedd hefyd yn rhan o bentref Aberbechan ond nad oeddent wedi eu cynnwys yng nghynnig Cyngor Sir Powys. Nododd y Comisiynwyr y dylid diwygio'r ffin a awgrymwyd er mwyn cynnwys y ddau annedd ychwanegol hyn. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn ysgrifennu at Gyngor Sir Powys er mwyn cael eu hymateb i'r newid yn y cynnig gwreiddiol a awgrymwyd gan yr Ysgrifenyddiaeth.

Llansantffraid / Llangedwyn

5.11 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo'r rhan honno o annedd Pen-y-bont Llanerchemrys i gymuned Llansantffraid, i Langedwyn. Ystyriai Cyngor Sir Powys fod ambell i annedd (Old New Inn ac 1 a 2 Bythynod Old New Inn) a oedd ar hyn o bryd y tu allan i annedd pentref Pen-y-bont Llanerchemrys yn gysylltiedig iawn â'r pentref. Cynigiodd y Cyngor y dylid ad-drefnu'r ffin gymunedol i ddilyn hen reilffordd er mwyn trosglwyddo'r anheddau i Langedwyn. Cadarnhaodd ymweliad â'r safle fod gan yr anheddau dan sylw gysylltiad agos â phentref Pen-y-bont, ond nad oedd yr ad-drefnu arfaethedig yn y ffin gymunedol yn dilyn nodweddion amlwg a phendant. Nododd y Comisiynwyr ddiwygiad yn y ffin a awgrymwyd gan yr Ysgrifenyddiaeth a oedd yn dilyn y rheilffordd yn rhannol i fan lle'r aeth yn aneglur i'r gorllewin i'r anheddau ac yna fe'i newidiwyd i ddilyn ffordd fwy pendant nes ailymuno â'r ffin bresennol. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn ysgrifennu at Gyngor Sir Powys am eu hymateb i'r newid yn y cynnig gwreiddiol a awgrymwyd gan yr Ysgrifenyddiaeth.

Llanidloes / Llangurig

5.12 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo rhan o safle gwaith cyffredinol Parc Hafren sydd ar hyn o bryd yng Nghymuned Llangurig i Gymuned Llanidloes. Nododd y Comisiwn resymau'r Cyngor, y dylai'r safle sydd wedi'i rannu ar hyn o bryd rhwng y ddwy gymuned fod oddi mewn i ganolfan yr ardal (Llanidloes) yn gyfan gwbl. Roedd ymweliad â'r safle wedi cadarnhau bod gan Barc Hafren gysylltiad pendant â Llanidloes, a bod y ffin arfaethedig yn dilyn llinell bendant ffens. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Llanrhaeadr ym Mochnant

5.13 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys y dylid uno dwy Gymuned Llanrhaeadr ym Mochnant i ffurfio un gymuned. Cadarnhaodd yr ymweliad â'r safle mai un pentref oedd y ddwy gymuned yn wir ac nad oedd rheswm dros barhad y rhaniad presennol. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Trefaldwyn / Yr Ystog

5.14 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo ardal Gorllewin Madog, sydd ar hyn o bryd yn rhan ar wahân o gymyned Yr Ystog, o'r gymuned honno i Gymuned Trefaldwyn. Ystyriai'r Cyngor fod gan Yr Ystog ar wahân fwy o gysylltiad â Chymuned Trefaldwyn. Nododd y Comisiynwyr hefyd er mwyn teithio i'r Ystog (ar wahân) o'r Ystog, ar hyd y ffordd fwyaf uniongyrchol, roedd angen mynd trwy Loegr. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn cynnig Cyngor Sir Powys.

Llanddewi yr Hwytyn / Trefyclo

5.15 Ystyriodd y Comisiwn gynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo annedd ddi-ddosbarth Rhos y Meirch yn ei chyfanrwydd o gymuned Trefyclo i gymuned Llanddewi yr Hwytyn. Nododd y Comisiwn fod annedd ddi-ddosbarth Rhos y Meirch ar hyn o bryd wedi'i rhannu rhwng Cymunedau Llanddewi yr Hwytyn a Threfyclo. Ystyriodd Comisiwn y sylwadau a wnaed wrth ymweld â'r safle nad oedd ffin arfaethedig Clawdd Offa yn nodwedd ddaearyddol bendant ac eglur ac awgrymodd yr Ysgrifenyddiaeth felly ddewis arall a oedd yn dilyn ffordd yn hytrach na llinell amhendant ar draws cae. Cytunwydy byddai'r Comisiwn yn ysgrifennu at Gyngor Sir Powys am eu hymateb i'r newid yn y cynnig gwreiddiol a awgrymwyd gan yr Ysgrifenyddiaeth.

Powys / Merthyr Tudful

5.16 Ystyriodd y Comisiwn gynnig gan Gyngor Sir Powys i gynnal adolygiad o'r ffin rhwng Powys a Merthyr Tudful. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn cynnal adolygiad ar ôl etholiadau Cynulliad Mai 2007.

6. CONTRACTAU - CYFRIFO, ARGRAFFU A CHYFIEITHU

6.1 Nododd y Comisiwn ganlyniad yr ymarferion tendro ar gyfer darparu gwasanaethau Cyfrifo, Argraffu a Chyfieithu. Derbyniodd y Comisiwn yr argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Tendro.

7. CYNLLUN GWEITHREDOL 2007-08

7.1 Dywedwyd bod Cynllun Gweithredol drafft wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad a'i fod wedi ei ddychwelyd â newidiadau pellach. Yn ogystal roedd y Cynulliad wedi rhoi gwybod i'r Ysgrifenyddiaeth y byddent yn rhoi Llythyr Gorchwyl i'r Comisiwn o 2007-08 ymlaen, a byddai hwn yn cynnwys cyllideb flynyddol y Comisiwn. Nododd y Comisiwn fod eu cyfran o'r gyllideb ar gyfer 2007-08 yn is o lawer na'r hyn a ofynnwyd.

7.2 Nodwyd hefyd fod y Llythyr Gorchwyl yn datgan na ddylai'r Comisiwn ddechrau ar rownd nesaf yr Adolygiadau Etholiadol tan ar ôl etholiadau llywodraeth leol Mai 2008. Nid oedd yn sicr ai amcan hyn oedd atal y Comisiwn rhag cynnal unrhyw waith i baratoi ar gyfer cychwyn yr Adolygiadau Etholiadol. Ystyriwyd ei bod yn hanfodol fod y Comisiwn yn gallu cynnal gwaith rhagbaratoadol ar gyfer Adolygiadau Etholiadol cyn mis Mai 2008 er mwyn cyrraedd y dyddiad cau i'w cwblhau mewn pryd i'w gweithredu ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2012. Ystyriodd y Comisiwn hefyd y byddai lleihau'r gyllideb yn cael effaith andwyol ar eu hamserlen wrth gynnal Adolygiadau Etholiadol, am nad oedd yn caniatáu cyflogi'r staff ychwanegol yr oedd ei angen i ymgymryd â'r baich gwaith. Amcangyfrifwyd yn wreiddiol y gallai'r Comisiwn ymgymryd â'r gwaith o adolygu gyda thri thîm. Fodd bynnag, yn sgil y cyfyngiadau amser a osodwyd ar y Comisiwn gan y Llythyr Gorchwyl amcangyfrifwyd y byddai angen pedwar tîm ar hyn o bryd i gwblhau'r un gwaith yn ôl yr amserlen y cyfeiriwyd ati uchod.

7.3 Cytunwyd y dylid drafftio llythyr at y Cynulliad yn amlinellu canlyniadau'r cyfyngiadau a gafwyd yn y Llythyr Gorchwyl ar ofynion cyllidol a'r amserlen ar gyfer yr Adolygiadau Etholiadol sydd ar ddod. Byddai angen trafod y materion canlynol: ni chafodd y llythyr gorchwyl ei roi yn unol â gweithdrefnau'r Cynulliad; roedd wedi newid Cynllun Gweithredu'r Comisiwn ymhellach, ac yn bwysicach, roedd ganddo oblygiadau sylweddol i amserlen y Comisiwn ar gyfer Adolygiadau Etholiadol yn y dyfodol. Byddai angen tynnu sylw hefyd, pe na bai'r Cynulliad yn gallu dechrau ei waith adolygu tan ar ôl Mai 2008 yna y byddai angen Cyfarwyddiadau Adolygiad ar y Comisiwn ymhell cyn y dyddiad hwnnw. Cytunwyd, ar ôl llythyr cychwynnol gan y Cadeirydd at y Gweinidog, y byddid yn paratoi ymateb manylach mewn perthynas â'r agweddau ariannol a dosbarthu hwn i Aelodau ei ddiwygio cyn iddo gael ei anfon.

8. DATGANIAD RHEOLWYR A MEMORANDWM ARIANNOL (DRhMA)

8.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi trafod y materion a oedd dros ben yn y DRhMA gyda'r Adran Noddi, fel y cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf. Derbyniwyd ymateb yn awr gan yr Adran Noddi a nodwyd y rhan gan y Comisiwn a chytuno arnynt.

9. UNRHYW FUSNES ARALL

9.1 Nododd y Comisiynwyr y cyfarwyddyd a roddwyd iddynt ar gyfer etholiadau'r Cynulliad a oedd ar fin digwydd.

9.2 Dywedwyd bod Memorandwm Cytundeb ar gyfer Comisiwn Ffiniau Bwrdeistref Cymru wedi'i gwblhau. Cytunwyd y byddid yn derbyn y Memorandwm Cytundeb ar yr amod y byddai'n cael ei adolygu pan fyddai Adroddiad Unfed Ymholiad ar Ddeg y CSPL yn hysbys.

9.3 Dywedwyd bod disgwyl cyhoeddi Datganiad Polisi Llywodraeth Leol 2007 yn fuan.

10. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

10.1 18 Ebrill 2007

10/12/2007