COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
24 IONAWR 2007 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod), Y Parch. H M Davies (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough
Croesawodd y Cadeirydd y Parch. Davies i'r cyfarfod a'i longyfarch ar ei benodi'n aelod o'r Comisiwn.
Estynnodd y Comisiwn hefyd longyfarchiadau i Mr J E Davies ar dderbyn OBE yn ddiweddar.
1. DATGANIAD BUDDIANNAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd. Cytunwyd y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn anfon ffurflen datganiad at yr aelod newydd.
2. ETHOL DIRPRWY GADEIRYDD
2.1 Enwebodd y Cadeirydd Mr Roberts yn Ddirprwy Gadeirydd newydd, ac eiliwyd hyn gan y Parch. Davies. Cytunwyd mai Mr Roberts fyddai'r Dirprwy Gadeirydd newydd a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio'r Comisiwn.
3. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 11 RHAGFYR 2006
3.1 Cytunwyd â'r rhain yn amodol ar wnaed mân newidiadau. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn cael ffurf ddrafft o'r cofnodion i'w gwirio ar ôl pob cyfarfod.
4. MATERION YN CODI
Materion Merlin
4.1.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd ar wybod ei fod wedi cael cynnig gan y Cynulliad i gynnwys darpariaeth diogelwch TG yn y Datganiad Rheoli Memorandwm Ariannol (DRhMA). Byddai hyn yn cynnwys gwiriadau diogelwch lefel isel o staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y Comisiwn. Roedd yr Ysgrifennydd eisoes wedi cael eglurhad o'r camau y byddai angen i'r Comisiwn eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r ddarpariaeth hon.
4.1.2 Dywedwyd bod mater y ceblau heb ei benderfynu o hyd a hefyd nad oedd y Comisiwn ond yn cael ystadegau gwefan ysbeidiol gan y Cynulliad. Nododd y Comisiwn y sefyllfa.
Rhan Gyfoes y Cynghorwr
4.2.1 Rhoddwyd ar wybod nad oedd yr ymchwil yn debygol o gael ei chyhoeddi tan fis Mawrth 2007.
5. CYNNYDD AROLYGON
5.1 Nododd y Comisiwn gynnydd yr Arolygon hynny a oedd yn digwydd ar hyn o bryd. Nodasant hefyd yr awdurdodau a oedd wedi rhoi gwybod i'r Comisiwn eu bod yn bwriadu cynnal arolygon cymunedol. Mynegodd y Cadeirydd bryder y gallai amseru rhai o'r arolygon a fwriedir effeithio ar waith yr arolwg etholiadol arfaethedig. Roeddent o'r farn y gallai fod angen i'r Comisiwn monitro cynnydd y Cynghorau hynny a oedd yn bwriadu cynnal Arolygon Cymunedol ac addasu amserlen arolygiad etholiadol y Comisiwn i gytuno â hyn. Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol am y sefyllfa, sef na fyddai rhai o'r arolygon cymunedol, o bosibl, yn gyflawn erbyn dechrau'r adolwg etholiadol. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn codi mater cyfarwyddiadau arolygon etholiadol yn eu cyfarfod gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol ym mis Medi.
5.2 Rhoddodd yr Ysgrifennydd wybod i'r Comisiynwyr ei fod wedi ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i godi mater arolygon cymunedol a'i fod yn disgwyl cyfarfod â swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Disgwylid cyhoeddi Cynigion Drafft Wrecsam ym mis Chwefror.
6. ADRODDIAD CYLLID - TRYDYDD CHWARTER 2006/07
6.1 Nododd y Comisiwn yr amcangyfrif o'r gorwario yn y gyllideb ar gyfer 2006/07. Cytunwyd y byddai'n briodol ildio'r swm o £40,000 yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol.
7. DATGANIADAU RHEOLI A MEMORANDWM ARIANNOL (DRhMA)
7.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi codi mater y cyfyngiadau a osodwyd ar drosglwyddo arian rhwng cyllidebau gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, a oedd wedi cytuno na ddylid cynnwys y rhain yn y DRhMA a'i fod wedi dweud wrth swyddog cydymffurfio'r Cynulliad i'w dileu. Serch hynny, roedd rhai materion heb eu datrys o hyd, fel y cyfyngiadau a osodwyd ar gyflogi staff. Bydd angen i'r Cynulliad gytuno i'r DRhMA yn ystod cyfnod y Gweinidog Llywodraeth Leol presennol.
7.2 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn codi'r materion hyn sydd dros ben gyda'r adran noddi ac yn rhoi gwybod iddi y bydd angen mynd i'r afael â hwy cyn i'r Comisiwn lofnodi'r DRhMA. Cytunwyd, pe na byddai'r adran nawdd yn gallu gweithredu gofynion y Comisiwn, y byddai'n angenrheidiol i'r Cadeirydd godi'r mater gyda Gweinidog Llywodraeth Leol y Cynulliad.
8. DARPARU DELWEDD GORFFORAETHOL
8.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd ar wybod nad oedd wedi cael y wybodaeth angenrheidiol, ac o'r herwydd rhoddir yr eitem hon ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn.
8.2 Ystyriodd y Comisiwn y posibilrwydd y gallai fabwysiadu enw newydd am fod enw llawn y Comisiwn yn drwsgl at ddibenion delwedd gorfforaethol. Nodwyd, serch hynny, fod enw'r Comisiwn wedi ei bennu yn y ddeddfwriaeth. Cytunwyd y byddid yn ceisio cyngor cyfreithiol ar y mater hwn.
9. CYNLLUN GWEITHREDOL 2007/2008
9.1 Ystyriodd y Comisiwn ffurf ddrafft y cynllun gweithredol. Cytunwyd â'r cynllun yn amodol ar wneud rhai newidiadau.
10. PWYLLGORAU AR SAFONAU MEWN BYWYD CYHOEDDUS - ADRODDIAD YR UNFED YMHOLIAD AR DDEG
10.1 Nododd y Comisiwn argymhelliad yr adroddiad y dylai'r Comisiynau Ffiniau Seneddol a Llywodraeth Leol gael ysgrifenyddiaethau ar y cyd, ond roedd hyn ar yr amod y byddai'r cynnig yn dderbyniol i'r Llywodraeth. Ymddangosai'n debygol y byddai gofyn yn awr am ffurfioli trefniadau ar gyfer ysgrifenyddiaeth ar y cyd. Cytunwyd y byddai CFfLlLG yn gofyn am i'r mater hwn gael ei gynnwys yn yr agenda ar gyfer y cyfarfod rhwng y comisiynau a oedd i'w gynnal ym mis Mawrth. Cytunwyd y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn dechrau llunio dogfen ddrafft yn amlinellu'r strwythur a ddymunir i'r ysgrifenyddiaeth ar y cyd ar sail profiad blaenorol.
10.2 Credai'r Comisiwn y byddai'n bwysig sicrhau bod cyfrifoldeb dros siroedd a gedwir yng Nghymru yn aros gyda'r Cynulliad. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn anfon ymlaen nodyn briffio ar y siroedd a gedwir at y Parch. Davies.
11. UNRHYW FATER ARALL
11.1 Dywedwyd y byddai'r cyfarfod rhwng y Comisiynau'n digwydd yng Nghaeredin ddechrau mis Mawrth 2007. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn rhoi gwybod i'r aelodau am ddyddiad y cyfarfod cyn gynted ag y bydd yn hysbys.
12. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
12.1 Cytunwyd cynnal y cyfarfod nesaf ar 1 Mawrth 2007, ond roedd modd newid y dyddiad hwn os na fyddai'n cydfynd â dyddiad y cyfarfod rhwng y comisiynau.
6/7/2007
