Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

11 RHAGFYR 2006 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr

1. DATGANIAD BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd. Dywedodd y Cadeirydd iddi ymddiswyddo o'i swydd fel cyfarwyddwr Bwrdd Cyllid Esgobaeth Llandaf. Cytunwyd i gynnwys y newid hwn yn y Gofrestr Buddiannau a gyhoeddwyd pan benodid yr Aelod newydd.

2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 8 TACHWEDD 2006

2.1 Cytunwyd â'r rhain yn amodol ar wnaed mân newidiadau.

3. MATERION YN CODI

3.1 Materion Merlin

3.1.1 Dywedodd yr Ysgrifenyddiaeth y byddai cyfarfod pellach ag adran Datblygu Busnes a TGCh y Cynulliad Cenedlaethol ar 12 Rhagfyr 2006.

3.2 Penodi Comisiynwr

3.2.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd nad oedd y Gweinidog wedi anfon llythyr penodi am ei bod hi'n dal i ddisgwyl cytundeb nifer o Aelodau'r Cynulliad sy'n gyfrifol am archwilio penodiadau. Mynegodd y Comisiwn bryder nad oedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi cadarnhau penodiad yr Aelod newydd eto gan fod y Dirprwy Gadeirydd i fod i ymddiswyddo ar 31 Rhagfyr 2006. Gallai hyn adael y Comisiwn â dau aelod yn unig am gyfnod byr, a gallai hyn beri rhai trafferthion. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn cysylltu â'r Cynulliad Cenedlaethol i edrych ar y posibilrwydd o estyn penodiad y Dirprwy Gadeirydd presennol i gynnwys unrhyw gyfnod yn y Flwyddyn Newydd lle byddai'r Comisiwn, fel arall, â dau aelod yn unig.

3.3 Arolygon Cymunedol

3.3.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd ar wybod fod Un Llais i Gymru (ULlG) wedi gwneud cais i'r Comisiwn wneud cyflwyniad ar gynnal arolygon cymunedol i gyfarfod Pwyllgor Ardal Ynys Môn a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2006. Cytunodd y Comisiwn i fynd, a'r Comisiynydd Dennis Roberts a wnaeth y cyflwyniad. Roedd derbyniad da i'r cyflwyniad, ac roedd wedi symbylu llawer o drafod ymhlith aelodau'r Pwyllgor. Roedd ULlG wedi gofyn hefyd i'r Comisiwn wneud cyflwyniad tebyg o'u Cynigion Drafft ar gyfer arolwg cymunedol Ynys Môn mewn cyfarfod o Bwyllgor Ardal Ynys Môn yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn aros nes iddo gael ac ystyried pob cyflwyniad, cyn penderfynu a fyddai cyflwyniad pellach yn fuddiol. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn cysylltu ag ULlG ac yn awgrymu y gellid gwneud cyflwyniadau tebyg i Bwyllgorau Ardal eraill mewn ardaloedd awdurdod lleol lle'r oedd y Comisiwn yn cynnal arolygon cymunedol.

3.3.2 Dywedodd yr Ysgrifennydd fod arolwg Cymuned Rhondda Cynon Taf wedi dechrau erbyn hyn a bod y llythyrau cychwynnol wedi eu dosbarthu. Bu problem, serch hynny, gyda chwyn oddi wrth Glerc Cyngor Cymunedol Llanharan mewn perthynas ag un peth a amgaewyd gyda'r llythyr gwreiddiol. Credai'r Cyngor ei fod yn gamarweiniol ac y dylid ei ddiwygio, a gofynnodd i'r Comisiwn ail-anfon ei lythyrau dosbarthu gwreiddiol. Roedd yr Ysgrifenyddiaeth wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a oedd wedi dweud nad oedd yr hyn a amgaewyd yn anghywir yn eu golwg hwy, ac yr oeddent wedi cytuno i gysylltu â Chyngor Cymunedol Llanharan ynglyn â hyn.

4. AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

4.1 Ystyriodd y Comisiwn Adroddiad y Cynigion Drafft ar gyfer Arolwg Cymunedol Wrecsam ynghyd â'r tablau diweddaraf ar gyfer ffigurau etholiadol. Cytunwyd ar amryw o fân newidiadau yn yr adroddiad. Cytunwyd i gyflwyno'r adroddiad Cynigion Drafft i ymgynghorydd cyfreithiol y Comisiwn er mwyn cael ei sylwadau. Cytunwyd, petai'r diwygiadau a wnaed yn sgil y cyngor cyfreithiol, yn rhai eilbwys, yna gellid cyfieithu a chyhoeddi'r adroddiad, ond y byddid yn cyfeirio unrhyw newidiadau sylweddol yn sgil y cyngor cyfreithiol yn ôl at yr Aelodau.

4.2 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn ceisio cyngor cyfreithiol hefyd ynglyn â statws y Comisiwn pe byddai dim ond dau Aelod adeg cyhoeddi'r adroddiad.

5. CANLLAWIAU YNGLYN Â GWEITHREDU'R DDYLETSWYDD FIOAMRYWIAETH AR GYRFF CYHOEDDUS

5.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi mynychu gweithdy a drefnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ddatblygu canllawiau ar weithredu dyletswydd bioamrywiaeth ar gyrff cyhoeddus. Cododd y mater yn sgil cyflwyno Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 sy'n gofyn i bob corff cyhoeddus roi sylw i bwrpas diogelu bioamrywiaeth wrth gyflawni eu dyletswyddau. Roedd yr Ysgrifenyddiaeth wedi gofyn barn Ymgynghorydd Cyfreithiol y Comisiwn, a dywedodd ef bod y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i roi sylw i fioamrywiaeth, ei bod yn rhaid i fuddiannau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus gael blaenoriaeth gan y byddai gadael i fioamrywiaeth ddylanwadu yn anghyson â swyddogaethau statudol y Comisiwn. Derbyniodd y Comisiwn y cyngor a gafodd gan ei Ymgynghorydd Cyfreithiol.

6. ADRODDIADAU AM GYNADLEDDAU: CLlLC, ULlG A RHAN GYFOES Y CYNGHORWR

6.1 Dywedodd Mr Roberts i Gyfarfod Blynyddol Un Llais Cymru drafod cyfraith, trefn a diogelwch cymunedol yn bennaf. Roedd Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi trafod amrywiaeth o bynciau gan gynnwys diwygio gwasanaethau cyhoeddus Cymru, arian Strwythuro Ewropeaidd, dyfodol llywodraeth leol a Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Cafwyd llawer o wybodaeth yn y ddau gyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Roberts am fynychu ar ran y Comisiwn.

6.2 Dywedodd yr Ysgrifennydd iddo fynychu'r gynhadledd a gynhaliwyd gan CRG Research Ltd. ar Ran Gyfoes y Cynghorwr, lle rhoddwyd llawer o wybodaeth er nad oedd canlyniadau eu hymchwil wedi eu cyhoeddi eto.

7. DATGANIADAU RHEOLI A MEMORANDWM ARIANNOL (DRhMA)

7.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd nad oedd y DRhMA yn gyflawn eto. Roedd hefyd yn bwriadu codi rhai materion ynglyn â'i ran fel Swyddog Cyfrifon y Comisiwn gydag Ysgrifennydd Parhaol y Cynulliad Cenedlaethol.

8. DATBLYGU DELWEDD GORFFORAETHOL

8.1 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn mynd yn ei blaen i brynu dau fwrdd arddangos i'w defnyddio mewn cyfarfodydd cyhoeddus, a gofyn hefyd i'r cwmni ddatblygu logo newydd i CFfLlLG.

9. YMARFER TENDRO AM GONTRACTAU

9.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd fod yr ymarfer tendro wedi dechrau erbyn hyn.

10. PROSIECT FFINIAU WARDIAU CYMUNEDOL

10.1 Nododd y Comisiwn y sefyllfa ddiweddaraf ynglyn â'r prosiect mewnol i ddal y ffiniau cymunedol a'r dyddiad cwblhau tebygol. Cytunwyd nad oedd angen bellach i drosglwyddo unrhyw ran o'r gwaith hwn i gwmni allanol.

11. UNRHYW FATER ARALL

11.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi ymweld ag Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Gogledd Iwerddon yn Belfast. Roedd hyn wedi cynnwys ymweld ag Arolwg Ordnans Gogledd Iwerddon i edrych ar eu system meddalwedd mapio. Byddai'n trefnu i'r Dirprwy Ysgrifennydd ymweld yn y Flwyddyn nesaf.

11.2 Gan mai dyma'r cyfarfod olaf pan fyddai Mr John E. Davies, Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn, yn bresennol, rhoddodd Mrs Smith, y Cadeirydd, deyrnged i'r cyfraniad a wnaed ganddo yn ystod ei chwe blynedd gyda'r Comisiwn. Ategodd Mr Dennis Roberts hyn, a dymunodd yr Ysgrifennydd yn dda iddo ar ran y staff.

12. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

12.1 Cytunwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ddiwedd mis Ionawr, ac y byddai'r Aelodau'n cadarnhau'r dyddiad trwy anfon neges e-bost.

6/7/2007