Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

8 TACHWEDD 2006 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough

1. DATGANIAD BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.

2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 11 Hydref 2006

2.1 Cytunwyd â'r rhain yn amodol ar wneud mân newidiadau.

3. MATERION YN CODI

3.1 Materion Merlin

3.1.1 Roedd yr Adran Nawdd a oedd wedi codi'r mater gyda'r uwch bersonél yn y Cynulliad Cenedlaethol wrthi'n ceisio cau pen y mwdwl ar faterion heb eu datrys. Aeth yr Ysgrifennydd a'r Dirprwy Ysgrifennydd i gyfarfod ynghylch newidiadau yn Merlin a'r cytundeb lefel gwasanaeth yn y dyfodol.

3.2 Penodi Comisiynydd

3.2.1 Ar hyn o bryd roedd disgwyl i'r Gweinidog wneud penderfyniad ynghylch penodi Gweinidog.

3.3 Cyfarwyddyd Arolygon Cymunedol

3.3.1 Roedd Arolwg Ynys Môn wedi dechrau erbyn hyn a byddai Arolwg Rhondda Cynon Taf yn dechrau cyn gynted ag y byddai'r mapiau angenrheidiol wedi eu llunio.

3.4 Rhagolwg Cyllideb 2007-08 ac wedyn

3.4.1 Roedd rhagolygon cyllideb wrthi'n cael eu llunio ac roedd yr Ysgrifennydd i gyfarfod â'r Adran Noddi yn yr wythnos nesaf i drafod y mater.

3.5 Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus

3.5.1 Cwblhawyd llythyr gan y Cadeirydd, a'i gyflwyno a'i dderbyn gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Byddai copi'n cael ei ddosbarthu i'r Comisiynwyr.

4. AROLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

4.1 Ystyriodd y Comisiwn y map a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Is-y-coed yn dangos eu newid arfaethedig yn y ffin rhwng Cymunedau Is-y-coed a Holt. Cytunwyd bod rhinwedd i'r cynnig ac y dylid ei gynnwys yn yr adroddiad cynnig drafft.

4.2 Cafodd y Comisiwn drafodaethau pellach ar arwyddocâd y Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer Ffiniau Cymunedau a gwnaeth rai newidiadau yn nhestun adroddiad y Cynnig Drafft.

4.3 Mewn perthynas ag Ystâd Fairways, credai'r Comisiwn y dylid diwygio'r dewis o drosglwyddo'r Ystâd i Acton er mwyn cynnwys Old Gardens gydag Ystâd Bryn Estyn yn ffin. Cytunwyd y byddai'r Dirprwy Ysgrifennydd yn llunio mapiau amgen ar gyfer Ystâd Fairways.

4.4 Ystyriodd y Comisiwn y newid arfaethedig yn y ffin rhwng Brymbo a Brychdwn a nododd ganfyddiadau'r ymweliad â'r safle gan Mr Roberts a'r Ysgrifenyddiaeth. Cytunwyd y dylid cynnwys y newid hwn yn adroddiad y Cynnig Drafft.

4.5 Penderfynwyd hefyd y dylid diwygio barn wreiddiol y Comisiwn ynghylch y ffin rhwng Gwersyllt a Llai ar ôl ymgynghori â mapiau manylach o'r ardal. Dangosodd y mapiau fod gan ardaloedd, y bwriadwyd yn wreiddiol eu trosglwyddo i Llai, gysylltiadau cryf â Gwersyllt. Cytunwyd y dylid cadw pethau fel y maent yn y rhan hon o'r ffin rhwng Gwersyllt a Llai.

4.6 Cytunwyd y dylid cyflwyno ffurf ddrafft ddiwygiedig o adroddiad y Cynnig Drafft i'r cyfarfod nesaf.

5. CYFARFOD AGORED BLYNYDDOL 2007

5.1 Nododd y Comisiwn ganlyniadau'r ymarfer adborth a lefel presenoldeb y blynyddoedd blaenorol. Barnwyd y dylid cynnal CBO 2007 yn Ne Ddwyrain Cymru gan fod y Comisiwn yn gobeithio gwahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol newydd i roi cyflwyniad. Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn dechrau gwneud y trefniadau angenrheidiol yn nes at yr amser.

6. DATGANIADAU RHEOLI A MEMORANDWM ARIANNOL (DRhMA)

6.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd nad oedd penderfyniad ar y DRhMA eto oherwydd na ddatryswyd y mater cyfyngiadau a osododd yr Adran Noddi ar drosglwyddo arian yn y gyllideb. Cynigodd yr Adran Noddi rai mân ddiwygiadau ynghylch mynediad TG, ac yr oedd yn rhaid i Swyddfa Cydymffurfio'r Cynulliad ei glirio. Gobeithiwyd cwblhau'r DRhMA erbyn diwedd y flwyddyn galendr.

7. ADRODDIAD CYLLID - AIL CHWARTER 2006-07

7.1 Nododd y Comisiwn yr adroddiad Cyllid ac amcangyfrif y tanwario ar gyfer y flwyddyn. Credai y dylai'r Ysgrifenyddiaeth nodi unrhyw ofynion o'r flwyddyn ariannol flaenorol, nad oeddent wedi eu gweithredu oherwydd prinder arian, a chynnal ymarfer i weld a fyddent o hyd o fudd i'r Comisiwn. Cytunwyd i arolygu sefyllfa'r gyllideb ddiwedd Rhagfyr 2006 pan fyddai'n cael ei gadarnhau a fyddai angen dychwelyd arian i'r Cynulliad Cenedlaethol. Cytunwyd hefyd y dylid dechrau ar y gwaith i ail-loywi byrddau'r ystafell bwyllgor.

8. MEMORANDWM CYD-DDEALLTWRIAETH (BCW)

8.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd i'r Adran Noddi gynnig rhai mân newidiadau hwyr yn y ddogfen. Cytunwyd i ymgorffori'r diwygiadau hyn ac y dylid anfon y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth at Ymgynghorydd Cyfreithiol y Comisiwn er mwyn iddo sylwi arno.

9. YMARFER TENDRO CONTRACTAU

9.1 Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn defnyddio gwefan Buy4wales er mwyn tendro am gontractau sydd ar y gweill i'w hadnewyddu.

10. UNRHYW FATER ARALL

Nid oedd mater arall.

11. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

7.1 Cadarnhawyd mai dyddiad y cyfarfod nesaf fyddai 11 Rhagfyr 2006.

6/7/2007