COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
11 HYDREF 2006 YN FFERM Y MOORS, Y TRALLWNG
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough
1. DATGANIAD BUDDIANNAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.
2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD 27 MEDI 2006
2.1 Cytunwyd ar y rhain yn amodol ar fân ddiwygiadau.
3. MATERION YN CODI
3.1 Materion Merlin
3.1.1 Adroddwyd bod Merlin o hyd heb anfon peiriannydd i swyddfeydd y Comisiwn i wneud y gwaith ail-wifrio a oedd yn dal heb ei wneud yn y brif swyddfa.
3.2 Meddalwedd Cyfrifo
3.2.1 Adroddwyd, gan i'r meddalwedd cyfrifo gael ei osod yn gywir, ei fod yn cael ei weithredu'n gyfochrog â'r hen system gyllid ar gyfer 2006-07 ac y byddai ei berfformiad yn cael ei asesu ar ôl archwilio'r cyfrifon ar ddiwedd y flwyddyn. Y disgwyl oedd y byddai mwy na thebyg yn bosibl amnewid yr hen gronfa ddata gyllid am y meddalwedd cyfrifo newydd ar gyfer 2007-08.
3.3 Penodi Comisiynwyr
3.3.1 Adroddwyd y cyfwelwyd â dau ymgeisydd a bod trydydd ymgeisydd i gael ei gyfweld ar 12 Hydref ar ôl y Cyfarfod Blynyddol Agored Cyffredinol. Roedd y pedwerydd ymgeisydd wedi gwrthod cyfweliad.
3.3.2 Adroddodd y Cadeirydd ei bod wedi diweddaru ffurflenni Asesu'r Comisiynydd y byddai'n rhaid yn awr eu llenwi gan Aelodau a'u dychwelyd i'r is-adran noddi cyn gynted ag y bo modd.
3.4 Cyfarwyddyd i Arolygon Cymunedol
3.4.1 Adroddwyd y gwnaed cais am wybodaeth gefndir am arolygon cymunedol Rhondda Cynon Taf ac Ynys Môn oddi wrth y cynghorau priodol; fodd bynnag, ni dderbyniwyd y naill na'r llall hyd yn hyn.
3.5 Adeiladu Gwasanaethau Cwsmeriaid Gwell
3.5.1 Adroddwyd yr anfonwyd ymateb i'r ymgynghoriad hwn, fel y cytunwyd yn ystod Cyfarfod diwethaf y Comisiwn.
3.6 Rhagolwg Cyllideb 2007-08
3.6.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi codi'r mater hwn gyda'r is-adran noddi yn ystod cyfarfod cysylltu diweddar. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn llunio rhagolwg hirdymor o ofynion cyllideb yr is-adran noddi.
3.7 Ymgynghoriad: Tuag at E-Gymru
3.7.1 Adroddwyd yr anfonwyd ymateb i'r ymgynghoriad hwn, fel y cytunwyd yn ystod Cyfarfod diwethaf y Comisiwn.
4. AROLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL A THREFNIADAU ETHOLIADAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT
4.1.1 Ystyriodd y Comisiwn yr adroddiad drafft ar Arolwg Cymunedol Castell-nedd Port Talbot. Ystyriwyd y dylai'r adroddiad drafft ei wneud yn eglur mai cyfrifoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, nid cyfrifoldeb y Comisiwn, oedd newid trefniadau etholaethol cymunedol. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn edrych eto ar ddiwygiadau eu hymgynghorydd cyfreithiol i'r adroddiad i ganfod a geid gwrthdaro ag unrhyw gyfeiriad at safbwynt y Comisiwn o ran newid y trefniadau etholaethol cymunedol. Yn amodol ar y canlyniad, cytunwyd y dylid cyhoeddi'r adroddiad drafft.
5. AROLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM
5.1 Ystyriodd y Comisiwn yr asesiad o ffiniau cymunedol Wrecsam, ynghyd â'r sylwadau a dderbyniwyd. Ystyriwyd y bu Cynllun Datblygu Unedol (CDU) Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ddefnyddiol i bennu ymhle y codwyd datblygiadau tai newydd ac i nodi anghysondebau posibl â ffiniau cymunedol. Cydnabuwyd hefyd, fodd bynnag, na ddylid newid cymunedau ar sail y CDU yn unig, gan ei fod yn agored i gael ei newid yn y dyfodol. Yn ogystal, roedd yn rhaid i'r Comisiwn fod yn ymwybodol o'r gofyniad am lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Ystyriwyd y dylid cynnig newidiadau lle bo ffiniau cymunedol sy'n bodoli eisoes yn rhannu aneddiadau, ac y dylid defnyddio'r CDU yn y fath achosion yn ganllaw i bennu sut y dylid ail-alinio'r ffin. Ystyriwyd bod rhan fwyaf yr ardaloedd a gynhwysir yn y CDU yn edrych at Dref Wrecsam am y rhan fwyaf o'u gwasanaethau, a bod yr holl ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol, mwy na thebyg, yn edrych at Dref Wrecsam am rai o'u gwasanaethau.
Llwyn Onn
5.2 Ystyriai'r Comisiwn fod y ffin sy'n bodoli eisoes rhwng Cymunedau Abenbury a Pharc Caia yn Llwyn Onn yn amlwg yn afreolaidd, am ei fod yn rhannu ystâd Llwyn Onn. Adroddodd yr Ysgrifennydd fod ymweliad yr Ysgrifenyddiaeth â'r safle wedi cadarnhau bod yr ardal yn ymddangos yn anheddiad parhaus a bod y ffiniau amgen a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Abenbury a Chyngor Cymuned Parc Caia ill dau wedi'u diffinio'n eglur ac yn ddichonadwy. Nodwyd bod Neuadd Gymunedol Pentre Gwyn, a leolir yn rhan Parc Caia yr ardal, yn weithgar ac y gallai, o bosibl, fod yn berchen i Gyngor Cymuned Parc Caia. Nodwyd bod CDU Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn nodi na fyddai unrhyw ddatblygu pellach i'r dwyrain ac i'r de o Lwyn Onn yn y dyfodol rhagweladwy. Cytunwyd y dylid ail-alinio'r ffin i ddilyn ffin yr anheddiad yn y CDU a fyddai'n cynnwys Llwyn Onn yn gyfan oddi mewn i gymuned Parc Caia.
Thornleigh
5.3 Ystyriai'r Comisiwn fod y ffin bresennol rhwng Cymunedau Abenbury a Pharc Caia yn Thornleigh yn afreolaidd, am ei fod yn rhannu Thornleigh o'r anheddiad cyffiniol yn Willow Court a bod gan y ddwy ardal hyn fuddiannau'n gyffredin. Ystyriwyd bod Thornleigh hefyd yn ymddangos yn barhad o ardal anheddiad yn rhan ogledd-ddwyreiniol Parc Caia. Cytunwyd y dylid ail-alinio'r ffin i gynnwys Thornleigh yng nghymuned Parc Caia. Nodwyd, fodd bynnag, bod y ffin ddiwygiedig a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Parc Caia yn cynnwys darn o dir gwag ger Thornleigh nad oedd wedi'i gynnwys yn ardal anheddiad y CDU ar gyfer Parc Caia. Ystyriwyd felly y dylai'r tir hwn barhau'n rhan o Gymuned Abenbury. Cytunwyd y dylid ail-alinio'r ffin i ddilyn llinell ardal anheddiad y CDU ar gyfer Parc Caia, a fyddai'n cynnwys Thornleigh ym Mharc Caia ond a fyddai'n gadael y darn o dir gwag i'r de-ddwyrain yng Nghymuned Abenbury.
Ystâd Fairways
5.4 Ystyriai'r Comisiwn yr ymddangosai bod gan Ystâd Fairways fuddiannau'n gyffredin ag anheddiad Tref Wrecsam, a nododd ei fod yn rhyw bum milltir o bentref Holt. Ymddangosai fod gan yr Ystâd gyswllt ag ardaloedd anheddiad cyffiniol yng Nghymunedau Gwaunyterfyn a Pharc Caia, er y nodwyd bod Cyngor Cymuned Gwaunyterfyn wedi gwrthwynebu trosglwyddo Ward Bieston i'w Cymuned nhw ar y sail bod y ddwy ardal wedi'u rhannu gan ffordd gyswllt ddeuol Llan-y-pwll. Nododd y Comisiwn, fodd bynnag, nad oedd Ffordd Holt a wahanai Gwaunyterfyn oddi wrth y rhan o Ward Bieston a gynhwysai Ystâd Fairways yn ffordd ddeuol, a'i bod yn cynnwys heolydd mynediad i'r ddwy anheddiad ac, felly, nad oedd yn rhwystr mawr i'w cyfuno. Ystyriwyd y byddai'r cynnig i gynnwys Ystâd Fairways yn Ward Cartrefle Parc Caia yn rhoi lefel dderbyniol o gynrychiolaeth. Cytunwyd ail-alinio'r ffin i ddilyn llinell ardal anheddiad Parc Caia a roddir yn y CDU, a fyddai'n cynnwys Ystâd Fairways oddi mewn i Gymuned Parc Caia. Nodwyd nad oedd dau fwthyn i'r de-ddwyrain o Ystâd Fairways wedi'u cynnwys yn ardal anheddiad Parc Caia yn y CDU, a chytunwyd na fyddai'r bythynnod hyn yn cael eu cynnwys yn y trosglwyddo, ac y byddent yn aros yn rhan o Gymuned Holt. Cytunwyd y byddai'r Cynigion Drafft hefyd yn ceisio sylwadau ynglyn â'r cynnig amgen, o ran cynnwys Ystâd Fairways yng Nghymuned Gwaunyterfyn.
Bieston
5.5 Ystyriai'r Comisiwn fod Ward Bieston Cymuned Holt yn rhy fach i ffurfio cymuned hyfyw ar ei phen ei hun.
Coedpoeth, Brymbo a'r Mwynglawdd
5.6 Nododd y Comisiwn fod Cyngor Cymuned Coedpoeth wedi cyflwyno cynigion diwygiedig mewn ymateb i'r gwrthwynebiad i'w cynigion gwreiddiol gan drigolion Y Mwynglawdd a Bwlchgwyn. Fodd bynnag, roedd y Cyngor o'r farn bod rhinwedd o hyd i'w gynnig gwreiddiol i ymgorffori Cymuned Y Mwynglawdd ynghyd â phentref Bwlchgwyn yng Nghymuned Coedpoeth. Nododd y Comisiwn gynnig gwreiddiol y Cyngor a'i ddadl bod yr holl ardaloedd wedi'u cysylltu gan yr A525 ac yn defnyddio gwasanaethau cymunedol a ddarperir gan Goedpoeth. Roedd y Comisiwn o'r farn, fodd bynnag, y byddai gweithredu'r cynnig yn achosi newidiadau i gymunedau cymdogol y byddai angen ymdrin â nhw, ac y byddai hyn yn golygu newid cymunedau nad oedd wedi'u nodi yn y Cyfarwyddiadau Arolygu. Ystyriwyd bod rhinwedd i gynigion diwygiedig y Cyngor, ac roedd yr ardal honno o'r Mwynglawdd yr awgrymwyd ei throsglwyddo i Goedpoeth yn ymddangos fel petai'n barhad o ardal anheddiad Coedpoeth. Nodwyd, fodd bynnag, bod ardal anheddiad CDU Wrecsam ar gyfer Coedpoeth yn cynnwys ardaloedd cyffiniol o'r Mwynglawdd nad oeddent wedi'u cynnwys yng nghynnig y Cyngor. Cytunwyd y byddai'r Cynigion Drafft yn argymell ail-alinio'r ffin i drosglwyddo ardal Y Mwynglawdd i Goedpoeth, ond y dylid diwygio'r ffin a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Coedpoeth i ddilyn llinell ardal anheddiad y CDU. Cytunwyd rhoi ystyriaeth i gynnwys yr ystâd ddiwydiannol yng Nghoedpoeth hefyd.
Gwersyllt
5.7 Ystyriodd y Comisiwn yr awgrymiad y gellid cyfuno aneddiadau Rhosrobin, Y Pandy a Bradley yng Nghymuned Gwersyllt i ffurfio cymuned wahanol. Er mai Rhosrobin a'r Pandy oedd yr unig aneddiadau yn Ward De Gwersyllt, nodwyd nad anheddiad Bradley oedd yr unig anheddiad yn Ward Dwyrain Gwersyllt. Golygai hyn na allai ffurfio cymuned newydd fod yn broses syml o gyfuno'r ddwy ward hyn. Cytunwyd y byddai'r cynnig yn cael ei gynnwys yn adroddiad y Cynigion Drafft mewn ymgais i ddenu mwy o sylwadau a chefnogaeth.
Gresffordd, Llai, Gwersyllt a Rhos-ddu
5.8 Ystyriai'r Comisiwn fod y cynnig gan Gyngor Cymuned Gresffordd yn rhesymol am ei fod yn dilyn llinell ffordd ddeuol yr A483 a'i fod yn gyson â'r CDU. Cytunwyd y dylid ail-alinio ffin Cymuned Gresffordd i ddilyn ffordd ddeuol yr A483, gyda'r ardaloedd i'r gorllewin yn cael eu trosglwyddo i Gymuned Llai. Ystyriwyd y gellid ail-alinio'r ffin rhwng Cymunedau Llai a Gwersyllt i ddilyn Ffordd Llai Newydd. Dylid cynnwys yr ardal ddiwydiannol y tu hwnt i'r ffordd ddeuol, a oedd yng Ngresffordd gynt, yn Nhref Wrecsam fel rhan o Ros-ddu. Dylid estyn Cymuned Rhos-ddu y tu hwnt i'r ffordd ddeuol i'r rheilffordd a thu hwnt iddi i gynnwys ystadau diwydiannol Y Pandy a Rhos-ddu, fel y nodir yn y CDU. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn llunio map o'r cynnig hwn i Aelodau ei gymeradwyo cyn ei gynnwys yn adroddiad y Cynigion Drafft.
Llansantffraid Glyn Ceiriog, Glyntraean a Cheiriog Ucha
5.9 Ystyriodd y Comisiwn nad oedd digon o gefnogaeth i'r cynnig gan Gyngor Cymuned Glyn Ceiriog i drosglwyddo Hafod y Garreg a Fferm Y Pant i'w Cymuned o Geiriog Ucha a Glyntraean yn ôl eu trefn. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn cynnig y newidiadau hyn yn adroddiad y Cynigion Drafft.
Glyntraean a'r Waun
5.10 Ystyriodd y Comisiwn nad oedd fawr o rinwedd i'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Glyntraean a'r Waun, a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Glyntraean. Nodwyd hefyd nad oedd Cymuned Y Waun wedi'i chynnwys yng Nghyfarwyddiadau'r Arolwg. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn cynnig y newidiadau hyn yn adroddiad y Cynigion Drafft.
Sesswick a Marchwiail
5.11 Nododd y Comisiwn y ddau gynnig a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Sesswick. Ystyriwyd bod rhinwedd i'r cynnig cyntaf y dylid ail-alinio'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail i ddilyn llinell Bedwell Brook i'r A528 ac yna dilyn llinell yr A528 i'r de tan iddi ailymuno â'r ffin sy'n bodoli eisoes, am ei fod yn dilyn nodweddion a ddiffinnir yn eglur. Cytunwyd cyflwyno'r cynnig hwn yn Adroddiad y Cynigion Drafft. Ni ystyriwyd bod yr ail gynnig i ail-alinio'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail i ddilyn yr heol fynediad ddeheuol arfaethedig i Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, rhwng Cross Lanes a Five Fords, yn ddichonadwy am na fyddai'r heol fynediad yn cael ei chwblhau yn y dyfodol rhagweladwy. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn cynnig y newidiadau hyn yn adroddiad y Cynigion Drafft.
Is-y-coed a Holt
5.12 Nododd y Comisiwn bod cynnig Cyngor Cymuned Is-y-coed i drosglwyddo Fferm Oatlands o Holt i Is-y-coed yn ymddangos yn rhesymol. Hyd yn hyn, fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi darparu map i'r Comisiwn i ddangos faint o dir sy'n berchen i'r fferm ac, felly, ni fu'n bosibl awgrymu ffin arall. Cytunwyd y byddai'r cynnig yn cael ei gynnwys yn adroddiad y Cynigion Drafft, yn amodol ar gael mwy o wybodaeth gan Gyngor Cymuned Is-y-coed.
Brymbo a Broughton
5.13 Nododd y Comisiwn nad oedd y cynigion a gyflwynwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan Gyngor Cymuned Brymbo, am newidiadau i'r ffin rhwng eu Cymuned nhw a Chymuned Broughton, wedi cael eu cyflwyno i'r Comisiwn yng nghynrychiolaeth wreiddiol Cyngor Cymuned Brymbo. Fodd bynnag, nodwyd bod y cynigion hyn yn ymddangos yn gyson ag ardaloedd anheddiad y CDU ar gyfer Brymbo a Broughton.
5.14 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn llunio adroddiad y Cynigion Drafft yn unol â'r llinellau a gytunwyd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn.
6. UNRHYW FATER ARALL
6.1 Ystyriai'r Cadeirydd y dylai'r llythyr drafft oddi wrth y Comisiwn i'r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus gynnwys cyfeiriad at swyddogaethau'r comisiynau a sut y dylid eu gwasanaethu. Ni wnaeth y drafft ychwaith ymdrin â'r gwahaniaethau rhwng aelodaeth o'r comisiynau llywodraeth leol a seneddol, nac egluro bod y ddau gomisiwn yn gyrff gwahanol gyda chylchoedd gwaith gwahanol ac y dylent barhau ar wahân ac eithrio o bosibl aelod 'cyswllt' cyffredin. Roedd angen iddo hefyd dynnu sylw at y gofynion gwahanol ar gyfer y comisiynau yn Lloegr, yr oedd y gwaith arolygu yn waith parhaus iddynt ac, felly, yn gadael dim lle i blethu'r arolygon seneddol a llywodraeth leol, yn wahanol i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle'r oedd natur gylchol yr arolygon yn golygu bod hyn yn ymarferol. Cytunwyd ailddrafftio'r llythyr er mwyn ymgorffori'r pwyntiau a godwyd.
6.2 Adroddwyd bod seminar ar rôl y cynghorydd heddiw yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd gan CRG Research Cyf, ar 10 Tachwedd 2006. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn mynychu'r seminar hwn.
6.3 Nododd y Comisiwn fod yr Ysgrifennydd wedi cael gwahoddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol fynychu gweithdy ar fioamrywiaeth ar 4 Tachwedd 2006.
7. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
7.1 Cadarnhawyd mai 8 Tachwedd 2006 fyddai dyddiad y cyfarfod nesaf.
4/4/2007
