COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
27 MEDI 2006 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough
1. DATGANIAD BUDDIANNAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.
2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD 27 GORFFENNAF 2006
2.1 Cytunwyd ar y rhain yn amodol ar fân ddiwygiadau.
3. MATERION YN CODI
3.1 Materion Merlin
3.1.1 Adroddwyd bod Merlin heb anfon peiriannydd o hyd i swyddfeydd y Comisiwn i wneud y gwaith ail-weiro a oedd yn dal heb ei wneud yn y brif swyddfa. Codwyd mater y gwaith a oedd heb ei wneud yn y cyfarfod â'r Gweinidog Llywodraeth Leol a wnaeth gais am i'r is-adran noddi sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo modd. Adroddwyd bod Merlin yn edrych ar y posibilrwydd o roi cytundeb lefel gwasanaeth gwahanol ar waith gyda'r Comisiwn.
3.2 Meddalwedd Cyfrifo
3.2.1 Cadarnhawyd bod Merlin wedi gosod y meddalwedd cyfrifo ar weinydd y Comisiwn erbyn hyn.
3.3 Penodi Comisiynwyr
3.3.1 Mae'r Cynulliad wedi cadarnhau y cynhelir cyfweliadau ffurfiol ar 9 Hydref 2006. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n diweddaru ffurflenni asesu'r Comisiwn cyn gynted ag y bo modd.
3.4 Cyfarwyddyd i Arolygon Cymunedol
3.4.1 Roedd yr Ysgrifenyddiaeth wedi cysylltu ag Is-adran Polisi Llywodraeth Leol (yr Is-adran Noddi) y Cynulliad ac wedi cytuno ar restr wirio gwybodaeth i'w defnyddio gan yr Is-adran Noddi wrth lunio cyfarwyddiadau i'r Comisiwn yn y dyfodol.
3.4.2 Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth wybod i'r Comisiynwyr y derbyniwyd Cyfarwyddiadau oddi wrth y Cynulliad ar gyfer arolygon cymunedol Rhondda Cynon Taf (RhCT) ac Ynys Môn. Roedd Cyfarwyddyd RhCT yn gywir ac roedd y Comisiwn yn aros am wybodaeth gefndir gan yr Is-adran Noddi cyn cychwyn ar yr arolwg. Roedd Cyfarwyddyd Ynys Môn yn anghywir ac roedd y Comisiwn wedi rhoi gwybod i'r is-adran noddi am y camgymeriadau ac roedd erbyn hyn yn disgwyl am fersiwn ddiwygiedig. Cafwyd y broblem hon am nad oedd y Comisiwn o hyd yn cael copïau o ddogfennau cefndir yr arolwg yr oedd yr awdurdodau lleol yn eu rhoi i'r Cynulliad wrth wneud cais am Gyfarwyddiadau ac, felly, nid oedd modd gwirio'r cyfarwyddiadau drafft yn llawn. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn siarad â'r Is-adran Noddi i drafod y weithdrefn a ddefnyddid wrth lunio Cyfarwyddiadau a gwneud cais am ddarparu i'r Comisiwn gopïau o'r holl bapurau cefndir y mae'r awdurdodau lleol yn eu hanfon at y Cynulliad.
3.5 Cyfarfod Ysgrifenyddion Rhyng-Gomisiwn
3.5.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd wybod bod cyfarfod i'w gynnal i drafod statws y comisiynau ffiniau llywodraeth leol a seneddol yn y dyfodol. Roedd hwn i'w gynnal yng Nghaerdydd ar 5 Hydref 2006. Cytunwyd y byddai CFfLlLG yn cynnal y cyfarfod yn Nhy Caradog ac y byddai'r Ysgrifennydd yn cynrychioli'r Comisiwn yn y cyfarfod.
3.6 CLlLC
3.6.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr CLlLC i ddilyn y materion a godwyd yn ystod cyfarfod y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd â CLlLC a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf. Ni chafwyd ateb hyd yn hyn.
3.6.2 Rhoddwyd gwybod i'r Comisiynwyr bod gan wefan CLlLC fanylion erbyn hyn ynghylch archebu lle yn ei Chynhadledd Flynyddol, sydd i'w chynnal ar 26 a 27 Hydref 06. Cytunwyd y byddai Mr Roberts yn cynrychioli'r Comisiwn yn y gynhadledd ac y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn gwneud y trefniadau perthnasol.
4. ADEILADU GWASANAETHAU CWSMERIAID GWELL
4.1.1 Ystyriai'r Comisiwn fod y rhan fwyaf o'r egwyddorion craidd a gynigiwyd yn y papur ymgynghori eisoes wrth graidd arferion y Comisiwn, ac eithrio mynediad at wasanaethau mewn ieithoedd lleiafrifol ethnig neu'r Arwyddiaith Brydeinig. Ystyriai'r Comisiwn y byddai angen mabwysiadu gweithio mewn partneriaeth â'r Cynulliad o ran cael mynediad at adnoddau i gyflenwi gwybodaeth mewn ieithoedd lleiafrifol ethnig neu'r Arwyddiaith Brydeinig. Cytunwyd y byddai ymateb y Comisiwn i'r ymgynghoriad yn amlygu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ac y byddai'r mater yn cael ei gynnwys ar agenda cyfarfod cysylltu nesaf yr is-adran noddi.
5. RHAGOLWG CYLLIDEB 2007/2008
5.1 Nododd y Comisiwn ragolwg cyllideb 2007-08. Adroddwyd bod yr is-adran noddi wedi rhoi gwybod i'r Comisiwn ei fod yn debygol na fyddai lefel y cyllid ar gyfer 2007-08 yn ddim uwch nag y bu ar gyfer 2006-07. Ystyriwyd y byddai hyn yn annigonol ar gyfer gwaith arolygu arfaethedig y Comisiwn. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn ysgrifennu at y Cynulliad i roi gwybod iddo am ei ofynion cyllideb amcangyfrifedig ar gyfer 2007-08 ac i roi gwybod iddo y byddai unrhyw gyllideb lai yn debygol o amharu ar amserlen y Comisiwn ar gyfer gwaith arolygu.
5.2 Roedd Gweinidog Llywodraeth Leol y Cynulliad wedi cyfeirio at y ffaith nad yw cylch arolygu 10 mlynedd y Comisiwn yn cyd-fynd yn hawdd â chynlluniau cyllideb 3 blynedd y Cynulliad ac felly, y byddai'n ddefnyddiol yn y dyfodol petai'r Comisiwn yn rhoi rhagolygon rhagamcanedig o'i gyllideb i'r Cynulliad i gynorthwyo â cheisiadau cyllideb 3 blynedd y Cynulliad.
6. YMGYNGHORI: TUAG AT E - GYMRU
6.1 Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn ymateb i'r ymgynghoriad, gan fynegi ei gefnogaeth i'r egwyddorion y tu ôl i'r fenter ond gan amlygu'r angen i weithredu gwasanaethau a gofynion TG mewn da bryd, gan mai profiad y Comisiwn oedd mai yn y maes hwn yr oedd problemau'n ymddangos. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn llunio ymateb priodol.
7. AROLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL A THREFNIADAU ETHOLIADAU CYMUNEDOL CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT
7.1 Derbyniodd y Comisiwn yr adroddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac roedd yn fodlon y dilynwyd y gweithdrefnau a nodwyd o dan Adran 60 y Ddeddf ac roedd yn cytuno â chasgliad y Cyngor nad oedd unrhyw newidiadau yn ofynnol. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn derbyn Adroddiad Terfynol y Cyngor ac y byddai adroddiad drafft i'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei lunio i'w ystyried yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn.
8. FFURF CFfLlLC A CFfG YN Y DYFODOL
8.1 Roedd y Comisiwn o'r farn y byddai'n ofynnol sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol a'r Comisiwn yn ymwneud yn llawn ag unrhyw ymgynghoriad o ran trefniadau amgen posibl. Byddai'n ddefnyddiol edrych ar fodelau sy'n bodoli eisoes ar gyfer Cymru/Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ynghyd â chynigion amgen arfaethedig fel cyd-gomisiynau, wrth ystyried modelau posibl ar gyfer trefniadau strwythurol yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i atgyfnerthu barn y Comisiwn y byddai'n dymuno cael ei gynnwys yn llawn mewn unrhyw ymgynghoriad.
9. CYFARFOD BLYNYDDOL AGORED
9.1 Nododd y Comisiwn yr agenda diwygiedig, a drafodwyd. Nodwyd bod 28 o bobl wedi derbyn y gwahoddiad i fynychu a bod y CBA hefyd wedi cael ei hysbysebu yn e-fwletin misol yr Is-adran Noddi.
10. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
10.1 Trefnwyd dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf ar gyfer dydd Mercher 11 Hydref 2006 a dydd Mercher 8 Tachwedd 2006.
10.1 Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau i lythyr gael ei dderbyn gan Gadeirydd Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn diolch i'r Comisiwn am gyflwyno tystiolaeth yn yr ymchwiliad yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Dywedodd yr Ysgrifennydd y gallai fod ar yr Aelodau eisiau ystyried yn awr y posibiliadau ar gyfer ffurf y comisiynau llywodraeth leol a seneddol i Gymru. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn trafod y mater hwn â'r is-adran noddi ac y câi papur ei gynnwys yn agenda cyfarfod mis Medi.
4/4/2007
