COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
27 GORFFENNAF 2006 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr
1. DATGANIAD BUDDIANNAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.
2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD 30 MEHEFIN 2006
2.1 Cytunwyd â'r rhain ar yr amod y gwnaed mân newidiadau.
3. MATERION YN CODI
3.1 Materion Merlin
3.1.1 Adroddwyd nad oedd Merlin hyd yn hyn wedi anfon peiriannydd i swyddfeydd y Comisiwn i wneud y gwaith ailweirio a oedd yn dal heb ei wneud yn y brif swyddfa. Mynegodd y Comisiwn ei ofid ynghylch yr amser a gymerai i Merlin roi ar waith y tasgau y gofynnwyd amdanynt gan y Comisiwn. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn llunio llythyr ffurfiol oddi wrth y Cadeirydd i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y mater hwn.
3.2 Meddalwedd Cyfrifo
3.2.1 Y gred oedd, fel ag a adroddwyd i'r Pwyllgor Archwilio, bod Merlin wrthi yn mewnosod y meddalwedd cyfrifo ar weinydd y Comisiwn.
3.3 Datganiadau Rheoli a Memorandwm Ariannol (DRhMA)
3.3.1 Rhoddodd Mr. Lewis wybod na fu unrhyw ddatblygiad ers cyfarfod diwethaf y Comisiwn a'u bod yn dal i ddisgwyl am ffurf ddrafft y DRhMA.
3.4 Penodi Comisiynwyr
3.4.1 Nodwyd bod cael asesiadau cyfredol ar gyfer y Dirprwy Gadeirydd a'r Aelod yn ofynnol o hyd. Adroddodd yr Ysgrifennydd iddo ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol am ffurflenni asesu gwag. Dywedasai'r Cynulliad wrtho eu bod yn disgwyl i'r cyfweliadau gael eu cynnal ar 9 Hydref 2006.
3.5 Cyfarwyddyd i Arolygon Cymunedol
3.5.1 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â'r is-adran Noddi i lunio ffurflen yn amlinellu pa wybodaeth yr oedd ar y Comisiwn ei hangen er mwyn sicrhau bod unrhyw gyfarwyddiadau a gâi eu llunio, yn gywir.
3.6 Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach
3.6.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd wrth y cyfarfod fod cyngor cyfreithiol wedi'i geisio ar yr ateb drafft i Gyngor Cymuned Dyffryn Clydach. Cynhwyswyd y cyngor cyfreithiol yn yr ateb, a gafodd ei anfon wedyn.
4. AILWAMPIO TŶ CARADOG
4.1 Nododd y Comisiwn y sefyllfa o ran y telerau prydlesu diwygiedig i ddeiliaid Tŷ Caradog a'r newid yn y cyfrifoldebau am wneud gwaith adnewyddu ar y rhannau bychain y mae'r deiliad yn eu defnyddio. Cytunwyd y byddai'r gwaith o adnewyddu swyddfeydd y Comisiwn yn cael ei ohirio, gan yr edrychai'n debyg yn awr y byddai'r landlord yn ymgymryd â hyn yn 2007-08. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn holi i weld a fyddai'r gwaith adnewyddu yn cynnwys gosod hysbysfyrddau. Os nad oedd, byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn prynu hysbysfyrddau ar gyfer yr ystafell gynadledda.
5. ADRODDIAD CYLLID - CHWARTER CYNTAF 2005-06
5.1 Derbyniodd y Comisiwn yr adroddiad am chwarter cyntaf 2005-06 a'r tanwariant a amcangyfrifwyd ar y cyllid o ganlyniad i'r newid yn y gofynion o ran yr adnewyddu. Byddai'r sefyllfa yn cael ei monitro ac edrychid ar unrhyw gyfle i drosglwyddo cyllid yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwedd y trydydd chwarter pan fyddai darlun cliriach o'r gofynion o ran gwariant.
6. CYFARFOD BLYNYDDOL AGORED
6.1 Nodwyd i Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Mark Kerr, a Phrif Weithredwr Un Llais i Gymru, Simon White, ill dau gadarnhau y byddent ar gael i fynychu'r cyfarfod agored blynyddol ac i wneud cyflwyniadau. Roedd Swyddogion Ymchwil Polisi Llywodraeth Leol Y Cynulliad Cenedlaethol hefyd wedi cadarnhau y gallent wneud cyflwyniad. Anfonasid y gwahoddiadau a hyd yn hyn roedd tua 30 wedi derbyn.
7. CYFARFODYDD BLYNYDDOL CLlLC AC UN LLAIS I GYMRU
7.1 Adroddwyd bod manylion cyfarfod blynyddol Un Llais i Gymru wedi cyrraedd erbyn hyn; roedd i'w gynnal yn Llandrindod ddydd Sadwrn 14 Hydref 2006. Cytunwyd y byddai Mr Roberts yn mynychu ar ran y Comisiwn.
7.2 Nid oedd manylion cyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi'u rhyddhau eto. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn parhau i gysylltu â'r Gymdeithas ac yn cael y wybodaeth cyn gynted ag y byddai ar gael.
8. GWERTHUSO AROLYGON ETHOLIADOL YN LLOEGR
.1 Esboniodd yr Ysgrifennydd fod y ddogfen hon yn cynnwys canlyniad ymgynghoriad y Comisiwn Etholiadol ar y ddeddfwriaeth a'r prosesau sy'n rhan o gynnal adolygiadau etholiadol yn Lloegr. Nodwyd yr adroddiad gan y Comisiwn.
9. YMGYNGHORIAD: TUAG AT E-GYMRU
9.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd i'r ymgynghoriad hwn gael ei gychwyn gan Y Cynulliad Cenedlaethol i geisio barn ynghylch materion allweddol y mae a wnelont â'r defnydd ar TGCh yng Nghymru. Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno sylwadau oedd 31 Hydref 2006. Cytunwyd y byddai'r Aelodau yn ystyried y mater hwn ac yn penderfynu yng nghyfarfod mis Medi ar unrhyw ymateb yr hoffent ei roi.
10. UNRHYW FATER ARALL
10.1 Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau i lythyr gael ei dderbyn gan Gadeirydd Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn diolch i'r Comisiwn am gyflwyno tystiolaeth yn yr ymchwiliad yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Dywedodd yr Ysgrifennydd y gallai fod ar yr Aelodau eisiau ystyried yn awr y posibiliadau ar gyfer ffurf y comisiynau llywodraeth leol a seneddol i Gymru. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn trafod y mater hwn â'r is-adran noddi ac y câi papur ei gynnwys yn agenda cyfarfod mis Medi.
10.2 Adroddwyd bod y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd wedi cynnal cyfarfod â Phrif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod materion ynghylch cymunedau yng Nghymru a'r gwaith arolygu arfaethedig. Roeddent wedi cyflwyno manylion y seddau cyngor cymuned na chafodd eu hymladd o etholiadau 2004 i'r Gymdeithas a hefyd wedi addo rhoi iddo'r wybodaeth am y sefyllfa gyfredol o ran sut oedd awdurdodau lleol yn dod yn eu Blaenau â mynd i'r afael ag arolygon cymunedol posibl yn eu hardaloedd. Buasai'r ymateb yn gadarnhaol a chytunodd y Prif Weithredwr i dynnu sylw at bwysigrwydd arolygon cymunedol yn ei lythyr cyffredinol a oedd ar fin ei ysgrifennu at Brif Weithredwyr awdurdodau lleol.
10.3 Rhoddodd yr Ysgrifennydd wybod i ohebiaeth gael ei derbyn oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn holi ynghylch llinell y ffin rhwng Caerffili a Blaenau Gwent yn ardal Ystâd Ddiwydiannol Tafarnaubach. Pan arolygodd y Comisiwn y ffin yn yr ardal hon yn wreiddiol y bwriad oedd i'r ffin newydd redeg ar hyd canol y ffordd i'r de i'r ystâd ddiwydiannol. O ymchwilio mwy, fodd bynnag, gwelwyd bod y ffin fel y'i dangosir ar y map a gynhwyswyd yng Ngorchymyn Y Cynulliad Cenedlaethol i ddod â'r cynigion i rym, yn dangos y ffin yn dilyn ochr ddeheuol y ffordd, gyda'r ford ei hun o'r herwydd yn disgyn oddi mewn i Flaenau Gwent. Ystyriai'r Comisiwn fod yn rhaid cymryd mai Gorchymyn Y Cynulliad Cenedlaethol oedd yr un swyddogol ac felly rhaid oedd i linell y ffin ddilyn yr hyn a ddangoswyd ar fap y Gorchymyn. Cytunwyd yr anfonid ateb i'r ymholiad i'r perwyl hwnnw ac y dylid hefyd ei gwneud yn glir os y byddai i hyn greu trafferthion naill ai i Gyngor Blaenau Gwent neu i Gyngor Caerffili, y byddai croeso iddynt gysylltu â'r Comisiwn i ofyn am i'r sefyllfa gael ei harolygu.
11. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
11.1 Gosodwyd dyddiadau ar gyfer y cyfarfodydd nesaf fel a ganlyn: Dydd Mercher 27 Medi 2006, Dydd Mercher 11 Hydref 2006 a Dydd Mercher 8 Tachwedd 2006.
4/4/2007
