Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

30 MEHEFIN 2006 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr. J E Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mr J Palmer (Pennaeth Is-adran Polisi Llywodraeth Leol)

Croesawodd y Cadeirydd Mr Palmer i'r cyfarfod.

1. DATGANIAD BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.

2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD 27 EBRILL 2006

2.1 Cytunwyd ar y rhain yn amodol ar fân ddiwygiadau.

3. MATERION YN CODI

3.1 Materion Merlin

3.1.1 Adroddwyd bod Merlin wedi anfon peiriannydd i swyddfeydd y Comisiwn i asesu'r gwaith ailwifrio yn y brif swyddfa a oedd heb ei gwblhau. Disgwyliwyd y byddai Merlin yn gwneud y gwaith yn fuan.

3.2 Meddalwedd Cyfrifo

3.2.1 Hysbysodd yr Ysgrifennydd na fu unrhyw gynnydd ynglyn â gosod y meddalwedd cyfrifo ar weinydd y Comisiwn gan Merlin. Roedd hyn er gwaethaf nifer o ymdrechion gan yr Ysgrifenyddiaeth i gael gwybodaeth oddi wrth Merlin am gynnydd. Dywedodd Mr Palmer y byddai ef yn cysylltu â Merlin ar ran y Comisiwn pe byddai'n cael gwybodaeth am y cefndir i'r sefyllfa. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn rhoi'r wybodaeth i Mr Palmer am y sefyllfa.

3.3 Datganiadau Rheoli a Memorandwm Ariannol (DRhMA)

3.3.1 Dywedodd Mr. Lewis fod drafft y Comisiwn o'r DRhMA gyda Swyddfa Cydymffurfiaeth y Cynulliad o hyd. Codwyd y mater yng nghyfarfod cyswllt chwarterol yr Ysgrifenyddiaeth gyda'r isadran noddi, a oedd wedi addo anfon fersiwn ddiwygiedig o'r DRhMA cyn gynted ag y byddai ar gael. Credwyd mai'r prif reswm am yr oedi ynglyn â'r DRhMA oedd fod y Cynulliad am gael DRhMA safonol ar gyfer pob CCNC ac felly roeddent wedi cael anawsterau gyda rhai o'r newidiadau roedd y Comisiwn wedi gofyn amdanynt. Roedd un mater hefyd heb ei ddatrys ynglyn ag a fyddai'n briodol i'r Comisiwn arddangos logo'r Cynulliad ar ddogfennau swyddogol.

3.4 Penodi Comisiynwyr

3.4.1 Nodwyd bod angen am asesiadau cyfoes ar gyfer y Dirprwy Gadeirydd ac Aelod o hyd. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn rhoi fersiynau blaenorol o'r asesiadau i'r Cadeirydd.

3.5 Staffio

3.5.1 Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd fod aelod ychwanegol rhan-amser o'r tîm cymorth wedi cael ei secondio i'r Comisiwn o'r Cynulliad.

4. AROLYGON CYMUNEDOL

Arolygon dan Gyfarwyddyd

4.1.1 Nododd y Comisiwn yr amserlen dros dro ar gyfer arolygon cymunedol. Adroddwyd bod yr Ysgrifenyddiaeth yn parhau i aros am gytundeb terfynol ar gyfer cyfarwyddyd diwygiedig ar gyfer Wrecsam. Fodd bynnag, disgwyliwyd y byddai hyn yn cyrraedd yn fuan ac yna gallai'r arolwg gychwyn.

4.1.2 Adroddwyd bod cyfarwyddiadau yn parhau i gael ei disgwyl ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Roedd angen egluro cyfarwyddiadau ar gyfer Ynys Môn gan fod y Cyngor wedi methu â nodi'r cymunedau i'w harolygu. Roedd y Comisiwn wedi bod yn rhoi cyngor i Gonwy, ond nid yw'r Cyngor eto wedi penderfynu ar ba gymunedau maen nhw am eu harolygu.

4.1.3 Gofynnodd y Comisiwn a oedd system ar waith i sicrhau y byddai cyfarwyddiadau ar gyfer arolygon cymunedol a gyhoeddir gan y Cynulliad yn y dyfodol yn gywir. Dywedodd yr Ysgrifennydd fod yr Ysgrifenyddiaeth a'r Cynulliad wedi dysgu gwersi wrth ymdrin â'r cyfarwyddiadau ar gyfer Wrecsam ac roedd ef o'r farn y byddai unrhyw gyfarwyddiadau yn y dyfodol yn gywir.

4.1.4 Mynegodd y Comisiwn bryder fod proses y Cynulliad i gyhoeddi cyfarwyddiadau yn ymddangos yn araf. O ystyried y cyfyngiadau ar y Comisiwn o ran amser i orffen arolygon cymunedol, byddai angen cyflymu'r broses os oedd modd gan y byddai'r sefyllfa'n debygol o fod yn fater brys erbyn 2007. Ystyriwyd mai'r hyn oedd wrth wraidd y mater oedd nad oedd awdurdodau lleol yn rhoi gwybodaeth glir am yr ardaloedd roeddynt am eu harolygu, a hefyd bod proses gyfreithiol y Cynulliad ar gyfer paratoi'r cyfarwyddiadau yn cymryd llawer o amser.

4.1.5 Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd arolygon cymunedol yn eu cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Gorffennaf.

Arolwg o Ganlyniadau Etholiadau Cynghorau Cymunedol 2004

4.2.1 Ystyriodd y Comisiwn y wybodaeth a gasglwyd am yr etholiadau cynghorau cymunedol. Nodwyd na fu pleidlais mewn 77% o'r seddau tra bod 12% o'r seddau'n wag, a oedd yn awgrymu nad oedd y cynghorau cymunedol yn briodol i anghenion eu cymunedau. Ystyriwyd y gallai'r canlyniadau ddangos nad oedd awdurdodau lleol yn cynnal arolygon o drefniadau etholiadol eu cymunedau.

4.2.2 Rhoddodd y Comisiwn ystyriaeth i ba gamau y byddai'n briodol iddynt eu cymryd er mwyn tynnu sylw awdurdodau lleol at bwysigrwydd arolygon cymunedol. Nid oedd canllawiau'r Comisiwn a gyhoeddwyd ym 1976 yn ddigonol a rhaid eu hystyried ar y cyd ag ardal yr oedd y cyngor cymunedol yn gyfrifol amdani. Un rheswm am hyn oedd, o ystyried swyddogaeth cyngor cymunedol yn y broses gynllunio, byddai llai o waith i gyngor mewn ardaloedd tenau eu poblogaeth. Nodwyd bod gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol system ar waith eisoes i ddosbarthu cymunedau yn ôl naill ai cymunedau trefol neu wledig. Roedd y Comisiwn o'r farn y byddai diweddaru'r arweiniad i awdurdodau lleol yn ddymunol ond y byddai angen ymgynghori, ac felly byddai'n rhaid aros hyd nes yr arolwg trefniadau etholiadol prif awdurdodau.

4.2.3 Ystyriodd y Comisiwn y byddai'n ddefnyddiol dechrau ymarfer i ddiweddaru'r arweiniad, a nodwyd y gallai gwaith y Cynulliad yn y maes hwn a chanlyniad adroddiad Aberystwyth olygu y byddai newidiadau'n angenrheidiol. Roedd y Cynulliad newydd ddechrau ei ymchwil a disgwylir y byddent yn adrodd ar ddiwedd mis Tachwedd neu ddechrau fis Rhagfyr a chyhoeddi datganiad polisi ym mis Ionawr.

4.2.4 Ystyriodd y Comisiwn mai'r unig beth y gallent wneud ar hyn o bryd oedd atgoffa awdurdodau lleol o'u dyletswydd i arolygu trefniadau etholiadol cynghorau cymunedol ac wrth wneud hynny ystyried natur y gymuned dan sylw. Roedd dewis hefyd i gynnwys cyngor a luniwyd gan y Gymdeithas Cynghorau Lleol Genedlaethol a'r gwaith a wnaed gan Gyngor Sir Powys.

5. CYFRINACHEDD A CHYNRYCHIOLAETHAU

5.1 Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn mabwysiadu'r paragraff rhybudd a awgrymwyd a'i gynnwys yn y llythyron arolygu ac ar y wefan.

6. CYFARFOD BLYNYDDOL AGORED

6.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd fod llety wedi'i drefnu yn y Trallwng. Nid oedd rhestr gyflawn o siaradwyr wedi'i chadarnhau eto, er bod gwahoddiadau wedi'u hanfon at Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys a swyddogion ymchwil polisi Llywodraeth Leol y Cynulliad.

7. ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GYNLLUN YR IAITH GYMRAEG

7.1 Nododd y Comisiwn Adroddiad drafft Cynllun yr Iaith Gymraeg. Cytunwyd y dylid ychwanegu at baragraff 3.5 yr adroddiad fod y wefan wedi'i huwchraddio.

8. LLYTHYR ODDI WRTH GYNGOR CYMUNEDOL DYFFRYN CLYDACH

8.1 Cyflwynodd yr Ysgrifennydd ymateb drafft i lythyr oddi wrth Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach gerbron y cyfarfod. Ystyriodd y Comisiwn er bod rhai sylwadau'n anghywir, roeddent yn ymwneud gan amlaf â materion nad oeddent yn effeithio ar benderfyniad y Comisiwn. Roedd yn arfer gan y Comisiwn hefyd i wirio honiadau a wneir mewn sylwadau ar faterion a fyddai'n dylanwadu ar benderfyniad y Comisiwn. Derbyniwyd yr ateb drafft yn amodol ar wneud rhai newidiadau. Cytunwyd y dylid cael cyngor cyfreithiol ynglyn â'r ateb cyn ei anfon.

9. ADRODDIAD ARIANNOL - BLWYDDYN 2005-06

9.1 Nododd y Comisiwn Adroddiad Blynyddol 2005-06 a oedd yn cynnwys tanwariant am y flwyddyn o £11,117.

10. COMISIWN FFINIAU I GYMRU

10.1 Ystyriodd y Comisiwn fod y drefn bresennol ar gyfer y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru i ddarparu ysgrifenyddiaeth i'r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi bod yn fanteisiol i'r ddau gorff, yn enwedig gan nad oedd baich gwaith y naill gorff na'r llall wedi gwrthdaro. Fodd bynnag, roedd angen sicrhau bod gwaith y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn cael blaenoriaeth. Roedd y Comisiwn o'r farn y dylai'r drefn hon barhau ac nid oeddent yn cytuno â throsglwyddo swyddogaethau'r Comisiwn Ffiniau i Gymru i'r Comisiwn Etholiadol. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn cyflwyno achos ynglyn â hyn i ymchwiliad cyhoeddus y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yng Nghaerdydd ar 6 Gorffennaf 2006.

10.2 Adroddwyd bod Steve Halsall wedi mynychu cyfarfod i ysgrifenyddion comisiynau ffiniau a drefnwyd gan yr Athro Butler a'r Athro McLean. Bu'r cyfarfod yn ddiddorol ac fe'i mynychwyd hefyd gan academyddion, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r pleidiau gwleidyddol.

11. UNRHYW FATER ARALL

11.1 Hysbysodd Mr Palmer y cyfarfod y byddai'r mis nesaf a gweddill 2006 yn gyfnod prysur ac arwyddocaol i Is-adran Polisi Llywodraeth Leol y Cynulliad. Dyma fyddai'r prif ddigwyddiadau:

11.2 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn sicrhau y byddai'n cael agendâu cyfarfodydd blynyddol agored Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru erbyn cyfarfod nesaf y Comisiwn.

11.3 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn ceisio cael copïau o Adroddiadau Beecham a Lyons.

11.4 Adroddwyd bod gan Un Llais Cymru Brif Weithredwr newydd dros dro sef Mr Simon White. Cytunwyd estyn gwahoddiad iddo i Gyfarfod Blynyddol Agored y Comisiwn.

12. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

12.1 Trefnwyd dyddiad dros dro y cyfarfod nesaf ar gyfer 27 Gorffennaf 2006.

16/11/2006