COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
27 EBRILL 2006 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr. J E Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr
1. DATGANIAD BUDDIANNAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.
2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD 7 CHWEFROR 2006
2.1 Cytunwyd ar y rhain.
3. MATERION YN CODI
3.1 Materion yn ymwneud â Merlin
3.1.1 Roedd rhai mân faterion mewn perthynas â gwifrio yn y brif swyddfa heb eu cwblhau o hyd. Roedd trafodaethau â Merlin ynglyn â'r materion hyn yn parhau.
3.2 Meddalwedd Cyfrifo
3.2.1 Nid oedd Merlin wedi datrys gosod y meddalwedd cyfrifo ar weinydd y Comisiwn. Er y nodwyd fod y meddalwedd cyfrifo yn gweithio ac y gellid cadw data ar y gweinydd, cytunwyd i barhau mynd ar drywydd Merlin i weld a fyddai'n bosibl gosod y rhaglen gyfan ar y gweinydd.
3.3 Datganiadau Rheoli a Memorandwm Ariannol (DRhMA)
3.3.1 Adroddwyd bod y DRhMA gyda Swyddfa Gydymffurfiaeth y Cynulliad o hyd yn aros am gyngor cyfreithiol.
3.4 Penodi Comisiynwyr
3.4.1 Nodwyd fod angen am asesiadau cyfoes ar gyfer y Dirprwy Gadeirydd ac Aelod o hyd.
3.5 Cynllun Gweithredol 2006-07
3.5.1 Cytunwyd y byddai'r Cynllun Gweithredol diwygiedig yn cael ei ddosbarthu i Aelodau.
4. AROLYGON CYMUNEDOL
4.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi anfon llythyr i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gofyn am gyfarfod i drafod yr arolygon cymunedol. Derbyniwyd llythyr cydnabyddiaeth ond ni chytunwyd ar ddyddiad i gynnal y cyfarfod.
4.2 Amlinellodd yr Ysgrifennydd y sefyllfa ddiweddaraf ynglyn ag arolygon cymunedol:
- Roedd Rhondda Cynon Taf wedi nodi amryw anghysondeb a byddent yn gofyn i'r Cynulliad roi cyfarwyddiadau i'r Comisiwn yn fuan;
- Roedd Sir Ddinbych yn mynd i gynnal arolwg cymunedol heb gymorth o'r Rhyl. Fodd bynnag, roedd yr Ysgrifenyddiaeth wedi canfod fod yr arolwg hwn yn arolwg o drefniadau etholiadol cymunedol ac nid yn arolwg o'r ffin;
- Roedd Conwy wrthi'n gwneud cais i'r Cynulliad roi cyfarwyddiadau i'r Comisiwn;
- Roedd Gwynedd yn ystyried rhai materion lleol ond ni chafwyd arwydd o unrhyw beth mwy sylweddol oddi wrthynt;
- Roedd Sir Benfro yn parhau i roi ystyriaeth i'w gofynion posibl;
- Roedd Tor-faen wedi nodi amryw anghysondeb ac yn ystyried sut i barhau yn hyn o beth;
- Roedd Powys wedi cwblhau cam cychwynnol eu harolygon;
- Roedd Ynys Môn wedi ysgrifennu i'r Cynulliad i'w hysbysu eu bod am gynnal arolwg cymunedol;
- Roedd Caerffili wedi nodi amryw anghysondeb ac yn ystyried sut i barhau yn hyn o beth; yn ogystal bu newidiadau yn y gorffennol i gymunedau yn ardal y Cyngor ac ni roddwyd gwybodaeth amdanynt i'r Comisiwn. Roedd manylion y newidiadau hyn yn cael eu rhoi i'r Comisiwn gan y Cyngor; a
- Drafftiwyd a chyhoeddwyd cyfarwyddyd i Wrecsam gan y Cynulliad Cenedlaethol.
4.3 Adroddwyd bod y Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i'r Comisiwn ar gyfer Wrecsam yn anghyflawn gan nad oedd yn enwi'r cymunedau a oedd yn ffinio â'r rheiny a oedd yn cael eu harolygu. Yn dilyn cyngor cyfreithiol, daeth yr Ysgrifenyddiaeth i'r casgliad fod y cyfarwyddiadau'n annigonol ar gyfer cwmpas bwriadedig yr arolwg. Roedd trafodaethau'n parhau ar hyn o bryd rhwng yr Ysgrifenyddiaeth, y Cynulliad Cenedlaethol a Chyngor Wrecsam.
5. COFNODION CYFARFOD RHWNG COMISIYNAU
5.1 Nododd y Comisiwn gofnodion y cyfarfod blynyddol rhwng comisiynau a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2006. Adroddwyd bod y cyfarfod wedi bod yn ddefnyddiol o ran cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith a chynnydd y gwahanol gomisiynau ffiniau seneddol a llywodraeth leol yn y DU.
6. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM AELODAU STAFF
6.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd y byddai Liza Brough yn dechrau yn ei swydd fel Rheolwr Caffael ar 2 Mai 2006. Yn ogystal, mae'n bosibl y cafwyd ymgeisydd ar gyfer y swydd cefnogaeth tîm ychwanegol. Nododd y Comisiwn y datblygiadau hyn.
7. COMISIWN FFINIAU CYMRU
7.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd y cynhaliwyd cyfarfod yng Nghaeredin rhwng ysgrifenyddion y comisiynau ffiniau seneddol ar 20 Ebrill 2006. Byddai angen i'r Adran Materion Cyfansoddiadol benodi Dirprwy Gadeirydd ac Aelodau i Gomisiwn Ffiniau Cymru ac anfonwyd llythyr mewn perthynas â'r sefyllfa hon at y Cadeirydd.
7.2 Gwahoddwyd Ysgrifenyddion y comisiynau ffiniau seneddol i gyfarfod gan Dr Butler a Dr Lean er mwyn trafod Ailddosbarthu a'r Comisiwn Etholiadol. Mae'r cyfarfod i'w gynnal yn Rhydychen ar 10 Mai 2006 a bydd Steve Halsall yn mynychu'r cyfarfod ar ran Comisiwn Ffiniau Cymru.
8. GWARIANT ARIAN PAROD CYMORTH GRANT
8.1 Nododd y Comisiwn y sefyllfa a bod ariannu Cyrff Cyhoeddus Anadrannol ar sail arian parod yn unol â chanllawiau Trysorlys EM. Cytunwyd i fabwysiadu polisi o gael cymorth grant ar sail arian parod yn y dyfodol.
9. YMGYNGHORI AR UNO BWRDD YR IAITH GYMRAEG Â LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU
9.1 Nododd y Comisiwn yr adroddiad.
10. UNRHYW FATER ARALL
10.1 Cododd yr Ysgrifennydd y mater o geisiadau posibl am wybodaeth yn ymwneud ag arolygon o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Trafodwyd y mater hwn a chytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn ymchwilio i bolisi ac arferion sefydliadau eraill ar gyfer delio â cheisiadau o'r fath am wybodaeth, ac yna yn adrodd yn ôl i'r Comisiwn.
10.2 Rhoddodd y Comisiwn ystyriaeth i ble yng Nghymru y byddent yn cynnal eu Cyfarfod Blynyddol Agored nesaf. Cytunwyd y byddai'r Trallwng yn lleoliad addas ar gyfer ei gynnal ac y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn chwilio am fan cyfarfod addas yn yr ardal. Pennwyd 10 ac 11 Hydref 2006 fel dyddiadau dros dro ar gyfer cynnal y Cyfarfod Blynyddol Agored.
11. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
11.1 Trefnwyd dyddiad y cyfarfod nesaf ar gyfer dydd Iau 29 Mehefin 2006.
16/11/2006
