Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

30 TACHWEDD 2006 YN NHŶ CARADOG, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr. J E Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr

1. DATGAN BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.

2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 10 HYDREF 2005

2.1 Cytunwyd ar y rhain yn amodol ar fân ddiwygiadau ac ailddrafftio paragraff 7.4.

3. MATERION YN CODI

3.1 Materion Merlin

3.1.1 Adroddwyd bod y mân faterion o ran rhwydwaith yn parhau er gwaethaf anfon nifer o nodiadau atgoffa i Merlin. Fodd bynnag, ymatebodd Merlin yn ddiweddar a nodi y byddent yn cyflawni'r gwaith gofynnol yn fuan.

3.2 Cynghorau Cymuned

3.2.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd iddo ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i'w hatgoffa iddynt fwriadu codi'r mater o arolygon cymunedol yn eu cyfarfod chwarterol gyda Gweinidog Llywodraeth Leol y Cynulliad. Fodd bynnag, ni chafwyd ymateb hyd yma.

3.3 Meddalwedd Cyfrifo

3.3.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd bod Merlin ar hyn o bryd yn y broses o osod y feddalwedd cyfrifo.

3.4 Datganiad Rheoli a Memorandwm Ariannol (DRhMA)

3.4.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd iddo drafod y newidiadau a awgrymwyd i'r DRhMA gyda'r adran noddi a'i fod yn y broses o roi drafft terfynol at ei gilydd ar hyn o bryd a fyddai'n cael ei gyflwyno i ymgynghorydd cyfreithiol y Comisiwn er mwyn iddo gynnig sylwadau arno. Ar ôl hynny, byddai'r adran noddi'n trefnu cyfarfod rhyngddynt hwythau, y Comisiwn a Swyddfa Gydymffurfiaeth y Cynulliad i gwblhau'r DRhMA.

4. CYFARFOD Y PWYLLGOR LLYWODRAETH LEOL

4.1 Ystyriwyd y papur briffio ar gyfer y cyfarfod.

4.2 Cytunwyd y dylid drafftio llythyr i'r Gweinidog Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r arolwg etholiadol sydd ar ddod. Dylai'r llythyr nodi, er mwyn i'r Comisiwn gwblhau'r arolwg mewn pryd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2012, y byddai angen cwblhau'r holl gynigion terfynol erbyn y gwanwyn 2011 a fyddai, yn ei dro, yn gofyn bod y Cynulliad yn cyhoeddi cyfarwyddiadau yn syth ar ôl etholiadau 2007. Byddai'n ddymunol hefyd tynnu sylw at bwysigrwydd cael ffiniau'r cymunedau'n iawn cyn dechrau'r arolwg. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn drafftio'r llythyr ac yn ei anfon ymlaen at y Comisiynwyr i'w gymeradwyo drwy'r e-bost.

5. ADRODDIAD AR GYFARFODYDD BLYNYDDOL CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU AC UN LLAIS I GYMRU

5.1 Gosododd Mr Roberts bapur gerbron y cyfarfod a oedd yn crynhoi'r prif faterion a godwyd yng nghyfarfodydd blynyddol CLlLC ac Un Llais i Gymru (ULlG). Y prif bwnc a drafodwyd yng nghyfarfod CLlLC oedd eu Maniffesto ar gyfer Llywodraeth Leol a oedd newydd ei gyhoeddi. Canolbwyntiodd cyfarfod ULlG yn bennaf ar gynllunio trefol. Diolchodd y Comisiwn i Mr Roberts am fynychu ar ran y Comisiwn.

6. DIWEDDARIAD O RAN STAFFIO

6.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd bod cyfweliadau ar gyfer swydd Rheolwr Cyllid wedi'u cynnal a bod swydd wedi'i chynnig i'r ymgeisydd llwyddiannus ac wedi'i derbyn. Disgwylid i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar swydd Rheolwr Cyllid ar 1 Ionawr 2006.

6.2 Adroddodd yr Ysgrifennydd fod Swyddog Prynu'r Comisiwn wedi bod yn llwyddiannus gyda chais am swydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac y byddai hi'n gadael y Comisiwn i ddechrau ar ei swydd newydd ar 22 Rhagfyr 2005. Byddai'r Ysgrifenyddiaeth wrthi'n chwilio am rywun i gymryd ei lle yn yr wythnosau nesaf.

7. CYNLLUN GWEITHREDOL 2006-07

7.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd er bod Cynllun Gweithredol y Comisiwn ar gyfer 2006-07 wedi'i ddrafftio, bod yna rai materion a oedd yn gofyn sylw o hyd. Roedd y Comisiwn yn parhau i aros am gadarnhad o'r gyllideb ac roedd yn parhau i aros i'r wefan ddiwygiedig gael ei chyhoeddi gan Merlin.

7.2 Cytunwyd y byddai'r Cynllun Gweithredol wedi'i ddiweddaru yn cael ei ddosbarthu i'r Comisiynwyr unwaith eto cyn creu'r fersiwn derfynol.

8. AROLYGON CYMUNEDOL

8.1 Nododd y Comisiwn y sefyllfa bresennol:

9. YSTADEGAU'R WEFAN

9.1 Nododd y Comisiwn yr adroddiad.

10. GWYLIAU STAFF - NADOLIG 2005 AC YN YSTOD 2006

10.1 Nododd a chytunodd y Comisiwn ar y trefniadau a awgrymwyd.

11. UNRHYW FATER ARALL

11.1 Nid oedd unrhyw fater arall.

12. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

12.1 Trefnwyd dyddiad y cyfarfod nesaf ar gyfer dydd Mawrth 7 Chwefror 2006.

8/6/2006