Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

10 HYDREF 2005 YNG NGWESTY'R BELLE VUE ROYAL, ABERYSTWYTH

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr. J E Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough, Mrs Catherine Thomas

1. DATGAN BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.

2. COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 MEDI 2005

2.1 Cytunwyd a mabwysiadwyd y rhain.

3. MATERION YN CODI

3.1 Materion Merlin

3.1.1 Adroddwyd bod rhai materion rhwydweithio bach i'w datrys o hyd mewn perthynas â'r cyswllt uwchraddedig.

3.2 Cynghorau Cymuned

3.2.1 Yn dilyn y cyfarfod â'r Gweinidog lle codwyd mater y Cynghorau Cymuned, cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn cysylltu ag CLlLC i gadarnhau y byddent yn cynnwys y mater hwn ar yr agenda ar gyfer eu cyfarfod chwarterol â'r Gweinidog.

3.3 Meddalwedd Cyfrifo

3.3.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd fod meddalwedd SAGE wedi'i harchebu oddi wrth Merlin ond nid oedd wedi cyrraedd eto.

3.4 Adnewyddu

3.4.1 Cadarnhaodd y Cadeirydd ei bod hi wedi cael y tri dyfynbris ar gyfer ailgwyro'r byrddau cynadledda. Ystyriodd y Comisiwn yng ngoleuni'r cyfyngiadau presennol ar y gyllideb, na fyddai'n ddoeth i ailgwyro'r byrddau ar hyn o bryd.

3.5 Arolwg o Gymunedau Bracla a Choety Uchaf

3.5.1 Hysbysodd yr ysgrifennydd y cyfarfod fod yr adroddiad cynigion terfynol yn cael ei ystyried gan y Gweinidog ar hyn o bryd.

3.6 Datganiad Rheoli a Memorandwm Ariannol

3.6.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod yn aros i'r adran noddi gadarnhau dyddiad addas am gyfarfod i drafod y newidiadau a awgrymwyd i'r datganiad rheoli

3.7 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Un Llais i Gymru (ULlG)

3.7.1 Cadarnhaodd Mr Roberts iddo fynychu cyfarfod blynyddol CLlLC ac y byddai'n mynychu cyfarfod blynyddol ULlG ddiwedd y mis hefyd. Cytunwyd y byddai Mr Roberts yn adrodd yn ôl i'r Comisiwn ar y digwyddiadau hyn yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn.

4. AROLWG O'R FFIN RHWNG CYMUNEDAU BLAENHONDDAN A DYFFRYN CLYDACH

4.1 Ystyriodd y Comisiwn newidiadau i'r llythyr i breswylwyr a rhai mân ddiwygiadau i'r adroddiad cynigion drafft. Cytunwyd y byddai'r llythyr yn cynnwys paragraff ychwanegol yn amlinellu camau nesaf y broses adolygu. Cytunwyd hefyd y byddai'r ffurflen gwestiynau'n cynnwys enw'r preswylydd ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r preswylydd lofnodi.

4.2 Nodwyd bod gan ward De Bryn-Coch Cymuned Blaenhonddan nifer anghymesur o gynghorwyr cymuned. Cytunwyd y byddai paragraff ychwanegol yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad yn dweud y byddai'r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau mewn perthynas â threfniadau etholiadol y Gymuned.

5. TREFNIADAU'R CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

5.1 Nododd y Comisiwn y trefniadau ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

6. ADRODDIAD CYLLID - AIL CHWARTER 05/06

6.1 Nododd y Comisiwn y sefyllfa am yr ail chwarter a'r tanwariant cyffredinol a amcangyfrifir. Adroddwyd bod rhai categorïau o'r gyllideb wedi'u gorwario a byddai'n ofynnol trosglwyddo cyllid iddynt.

6.2 Nodwyd bod gorwariant wedi'i amcangyfrif yn y gyllideb gyfalaf, yn sgil cost y cabinet cyswllt a ddarperir gan Merlin. Y rheswm am hyn oedd ar adeg gosod y gyllideb, nid oedd yn hysbys a fyddai'r eitem hon yn cael ei phrynu neu ei phrydlesu. Nodwyd hefyd y byddai angen cael awdurdod gan yr isadran noddi i drosglwyddo'r cyllid angenrheidiol i'r gyllideb gyfalaf.

7. UNRHYW FATER ARALL

7.1 Atgoffodd yr Ysgrifennydd yr aelodau fod disgwyl i'r Comisiwn gyflwyno eu cynllun gweithredol ar gyfer 2006/07 erbyn diwedd mis Tachwedd 2005. Yn dilyn y cyfarfod diweddar â'r Gweinidog, cydnabuwyd y byddai'n anodd paratoi'r cynllun nes iddynt gael mwy o wybodaeth oddi wrth yr Adran Noddi. Felly, byddai paratoi'r cynllun yn cael ei ohirio nes bod y wybodaeth angenrheidiol ar gael.

7.2 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn anfon llythyrau dilynol at Brif Weithredwyr yr awdurdodau hynny a fynegodd ddiddordeb mewn cynnal arolygon Cymunedol i geisio cadarnhad o'r statws presennol.

7.3 Ystyriodd y Comisiwn y byddai'n ddefnyddiol ailsefydlu'r arfer o gynnal cyfarfodydd blynyddol gyda phennaeth yr isadran noddi. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn ysgrifennu at bennaeth yr isadran noddi i drefnu cyfarfod.

7.4 Adroddwyd bod un o asedau'r Comisiwn, sef cyfrifiadur maint llaw a ffrâm, wedi'u dwyn o swyddfa'r Comisiwn. Adroddwyd y lladrad i'r heddlu a gyhoeddodd rif trosedd ar gyfer y digwyddiad. Cytunodd yr Ysgrifennydd i gysylltu â'r Heddlu a'r rheolwr ystadau mewn perthynas â gwella diogelwch y swyddfa.

8. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

8.1 Nodwyd bod dyddiad dros dro o 30 Tachwedd wedi'i awgrymu i'r Comisiwn gyflwyno'u hadroddiad blynyddol i Bwyllgor Llywodraeth Leol y Cynulliad. Cytunwyd petai'r dyddiad hwn yn cael ei gadarnhau, y byddai cyfarfod nesaf y Comisiwn hefyd yn cael ei gynnal ar y dyddiad hwnnw.

8/6/2006