Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

8 MEDI 2005 YN NHŶ CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr. J E Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs Liza Brough

1. DATGANIAD O DDIDDORDEB

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw ddiddordeb newydd

2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 21 MEHEFIN 2005

2.1 Cytunwyd ar y rhain yn amodol ar fân ddiwygiadau.

3. MATERION YN CODI

3.1 Materion Merlin

3.1.1 Adroddwyd bod y cyswllt rhwydwaith rhwng y Comisiwn a'r Cynlluniad wedi'i ddiweddaru o'r diwedd a'i fod bellach ar waith. Fodd bynnag, roedd rhai materion rhwydweithio bach yn parhau.

3.2 Cynghorau Cymuned

3.2.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd wybod i'r Comisiynwyr y bu'r cyfarfod ag CLlLC yn ddefnyddiol. Mae CLlLC yn rhagweithiol wrth weithio gyda'r Cynulliad ac maent yn hapus â'r arolygon Cymunedol arfaethedig. Bydd CLlLC yn codi'r mater gyda'r Cynulliad yn eu cyfarfod chwarterol, a gynhelir ym mis Hydref.

3.3 Meddalwedd Cyfrifo

3.3.1 Dangosodd arddangosiad o feddalwedd cyfrifo SAGE, a ddarparwyd gan y Cynulliad, ei bod yn bodloni gofynion y Comisiwn. Felly, archebwyd y feddalwedd newydd.

3.4 Adnewyddu

3.4.1 Mae cam gwaith trydanol yr adnewyddu wedi'i gwblhau ac mae'r dodrefn newydd wedi'u danfon yn brydlon i gwblhau'r gwaith y gellir ei gyflawni o fewn cyllideb eleni. Cytunwyd y byddai'r gost o roi wyneb newydd i'r byrddau cynadledda yn cael ei hymchwilio.

3.5 Arolwg o Gymunedau Bracla a Choety Uchaf

3.5.1 Nodwyd i'r Adroddiad Terfynol gael ei gyhoeddi ar 18 Awst 2005.

4. CYFARFOD AGORED BLYNYDDOL

4.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd ddrafft o'i chyflwyniad a manylion y trefniadau cadw ty yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i'r Cadeirydd. Cytunwyd ar y trefniadau teithio ar gyfer y cyfarfod.

5. CYFARFOD Â'R GWEINIDOG - MATERION I'W TRAFOD

5.1 Cytunwyd mai'r prif fater i'w drafod fyddai cyllid. Byddai angen ceisio sicrwydd y byddai digon o gyllid ar gael i alluogi'r Comisiwn i gyflwyno'r rhaglen o arolygon a gynlluniwyd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

5.2 Barnwyd y byddai angen peri i'r Gweinidog fod yn ymwybodol hefyd o bwysigrwydd y gwaith sydd i'w gynnal, mewn cydweithrediad â'r prif gynghorau, i adolygu ffiniau cymunedau gan fod hyn yn cael effaith ar yr arolygon etholiadol. Cytunwyd y dylid pwysleisio pwysigrwydd cael cyfarwyddiadau amserol.

5.3 Cytunwyd ar ôl rhai mân ddiwygiadau ac ychwanegiadau, y byddai rhagamcaniadau cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2005 i 2008 yn cael eu hanfon at y Gweinidog cyn y cyfarfod ar 5 Hydref 2005.

5.4 Cytunwyd hefyd y byddai'r Cadeirydd yn llunio llythyr cyflwyno i'r Gweinidog, ac yn ei gylchredeg cyn ei ddosbarthu.

6. GWNEUD Y DEFNYDD GORAU O'N HADNODDAU - STRATEGAETH LlCC

6.1 Nodwyd adroddiad y strategaeth a derbyniwyd adroddiad yr Ysgrifennydd ar y cynilion a wnaed hyd yma. Yn ogystal, ystyriwyd bod yr arian hwnnw wedi'i gynilo yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy leihau lefelau staffio. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn ysgrifennu at yr adran noddi gan amlinellu'r cynilion hyn.

7. RHEOLAETH GORFFORAETHOL MEWN ADRANNAU LLYWODRAETH GANOLOG

7.1 Nodwyd y cod sydd newydd ei gyhoeddi. Ystyriwyd y dylid adolygu'r cwestiwn o benodi aelod annibynnol ar gyfer y Pwyllgor Archwilio yn gyson.

8. UNRHYW FATER ARALL

8.1 Adroddwyd bod Adroddiad Blynyddol 04/05 wedi'i anfon i'r adran noddi gan iddo gael ei gyflwyno i'r Cynulliad fel y gofynnwyd gan y Datganiad Rheoli. Fodd bynnag, ni ddisgwylid y byddai'r Cynulliad yn gweld yr adroddiad tan 19 Medi pan fyddent yn dychwelyd o egwyl yr haf. Mae'r sefyllfa hon wedi codi oherwydd i'r Adroddiad Blynyddol gael ei lunio ar wahân i'r cyfrifon blynyddol am y tro cyntaf. Gosododd Swyddfa Archwilio Cymru y cyfrifon blynyddol gerbron y Cynulliad yn gynharach yn y flwyddyn ond oherwydd i'r Datganiad Rheoli nodi y dylai'r Adroddiad Blynyddol gael ei gyflwyno i'r Cynulliad, roedd yn rhaid i hyn ddigwydd cyn cyhoeddi'r adroddiad. Cytunwyd bod yr Ysgrifennydd yn cysylltu â'r adran noddi gyda'r bwriad o wneud diwygiadau priodol i'r Datganiad Rheoli.

8.2 Cytunwyd y byddai Mr Roberts yn mynychu cyfarfodydd cyffredinol blynyddol CLlLC ac Un Llais i Gymru.

9. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

9.1 Bydd y Comisiwn yn cyfarfod â'r Gweinidog dros Lywodraeth Leol ddydd Mercher 5 Hydref 2005 am 09:30am.

9.2 Dyddiad y cyfarfod nesaf yw dydd Llun 10 Hydref 2005 am 6pm yng Ngwesty'r Belle Vue, Aberystwyth.

1/6/2006