COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
CYFARFOD A GYNHALIWYD 26 GORFFENNAF 2005 YN NHŶ CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr. J E Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr
1. DATGANIAD O DDIDDORDEB
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw ddiddordeb newydd
2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 21 MEHEFIN 2005
2.1 Cytunwyd ar y rhain.
3. MATERION YN CODI
3.1 Materion MERLIN
3.1.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd bod bwriad i wella cyswllt data'r Comisiwn ar ddiwedd mis Gorffennaf ond nad oedd unrhyw waith wedi'i wneud hyd yn hyn. Roedd yr Ysgrifenyddiaeth i fod i gwrdd â staff MERLIN drannoeth i drafod materion ynglyn â'r gwaith adnewyddu trydanol, a dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai'n cymryd y cyfle i godi mater y cyswllt data yn y cyfarfod hwnnw.
3.2 Cynghorau Cymunedol
3.2.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd y byddai'n cwrdd â Chyfarwyddwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 29 Gorffennaf i drafod yr adolygiadau cymunedol posibl a materion eraill.
3.3 Meddalwedd Cyfrifeg
3.3.1 Adroddwyd bod arddangosiad o feddalwedd cyfrifeg Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i ganslo oherwydd nad oedd y feddalwedd yr oeddent yn ei defnyddio yn briodol ar gyfer gofynion y Comisiwn. Fodd bynnag, sefydlwyd bod y Cynulliad Cenedlaethol yn defnyddio meddalwedd cyfrifeg a fyddai yn gweddu i ofynion y Comisiwn ac roedd arddangosiad wedi'i drefnu gyda nhw ar gyfer dechrau mis Awst.
3.4 Adnewyddu
3.4.1 Roedd y gwaith adnewyddu'n mynd rhagddo ac roedd disgwyl y byddai cam 1 wedi'i gwblhau erbyn dechrau mis Awst. Roedd disgwyl i'r dodrefn newydd gyrraedd bryd hynny ac yna byddai gwaith yn mynd yn ei flaen ar gam 2 yr adnewyddu.
3.5 Cyfarfod Agored Blynyddol
3.5.1 Cynghorodd yr Ysgrifennydd y deëllir, o'r cyfarfodydd diweddar a gynhaliwyd rhwng yr Ysgrifenyddiaeth ac awdurdodau lleol, bod Cyngor Sir Powys eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith adolygu yn ei gymunedau. Felly, roedd ef wedi gwahodd y Swyddog Gwasanaethau Etholiadol, Melvyn Humphries, i roi cyflwyniad ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Agored Blynyddol. Dywedodd Mr Humphries y byddai'n fodlon rhoi'r cyflwyniad ar yr amod bod y Prif Weithredwr yn cytuno.
3.6 Adolygu Cymunedau Bracla a Choety Uchaf
3.6.1 Adroddwyd, yn sgil y tarfu a achoswyd gan y gwaith adnewyddu, y byddai angen oedi rhag cyhoeddi a dosbarthu adroddiad y Cynigion Terfynol tan ganol mis Awst.
3.7 Cyfarfod â Gweinidog Llywodraeth Leol y Cynulliad
3.7.1 Roedd y dyddiad dydd Mercher 5 Hydref 2005 wedi'i osod ar gyfer y cyfarfod, am 9.30 a.m.
3.8 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais i Gymru
3.8.1 Hysbyswyd y comisiynwyr y bydd Un Llais i Gymru yn cynnal ei gyfarfod cyffredinol blynyddol ddydd Sadwrn 22 Hydref 2005 yn Llanfair ym Muallt. Cytunwyd y byddai Mr Roberts yn mynychu ar ran y Comisiwn.
3.9 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
3.9.1 Hysbyswyd y comisiynwyr y bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnal ei Chynhadledd Flynyddol ddydd Llun 3 Hydref 2005 yn Abertawe. Cytunwyd y byddai naill ai Mr Davies neu Mr Roberts yn mynychu ar ran y Comisiwn.
4. TREFNIADAU AR GYFER ADOLYGU ANGHYSONDERAU FFINIAU
4.1 Nododd y Comisiwn adroddiad y cyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng yr Ysgrifenyddiaeth ac awdurdodau lleol. Ar y cyfan, bu'r cyfarfodydd yn galonogol ac roedd swyddogion cynghorau wedi nodi'r amserlen ac wedi deall bod gofyn dechrau'r ymarfer cyn gynted ag y bod modd. Roedd Sir Ddinbych eisoes wedi ysgrifennu'n ffurfiol at y Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â'r mater ac roedd yn bwriadu gwneud hynny eto wedi iddynt nodi'r meysydd penodol yr oeddent yn dymuno'u hadolygu. Roedd Wrecsam yn bwriadu ysgrifennu at y Cynulliad Cenedlaethol yn yr hydref wedi iddynt nodi meysydd penodol i'w hadolygu. Roedd Caerffili ac Ynys Môn wedi llunio ffiniau eu wardiau cymunedol ac wedi cytuno i roi'r data i'r Comisiwn. Roedd disgwyl y byddai cyfarfod â Sir Fynwy'n cael ei gynnal ym mis Hydref. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn anfon llythyrau atgoffa i'r awdurdodau lleol hynny nad oeddent wedi ymateb i'r llythyr cais gwreiddiol.
4.2 Roedd y Comisiwn o'r farn y dylai fod cyn lleied o oediad â phosibl rhwng y ceisiadau am gymorth gan awdurdodau lleol a chyhoeddi cyfarwyddiadau gan y Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, nodont y byddai rhaid cael cyfnod ymgynghori ar gyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol cyn y gellid eu dosbarthu. Ystyriwyd y byddai angen i'r Comisiwn godi'r mater hwn yn ei gyfarfod gyda'r Gweinidog er mwyn gweld beth y gellid ei wneud i leihau'r amser a gymerir i ddosbarthu'r cyfarwyddiadau. Cytunwyd, wedi i'r agenda ar gyfer y cyfarfod gael ei gwblhau y byddai'r Ysgrifennydd yn cysylltu â'r adran noddi i adael iddi wybod bod y Comisiwn yn bwriadu codi'r mater hwn.
4.3 Cytunwyd y byddai copïau o'r cyfarwyddiadau ar gyfer yr adolygiad diwethaf o drefniadau etholiadol awdurdodau lleol yn cael eu hanfon i Gomisiynwyr.
4.4 Cytunwyd y byddai unrhyw bapurau sy'n gysylltiedig â'r cyfarfod a gynhaliwyd â Chyngor Sir Powys yn cael eu hanfon i'r Comisiynwyr.
5. ADRODDIAD MONITRO'R GYLLIDEB AR GYFER CHWARTER CYNTAF 2005/06
5.1 Adroddwyd bod tanwariant cyffredinol ar gyfer chwarter cyntaf 2005-06. Er y bu gorwariant yn rhai o gategorïau'r gyllideb, amcangyfrifwyd y byddai'r rhain yn dychwelyd i danwariant dros y misoedd sydd i ddod. Nododd y Comisiwn yr adroddiad.
6. ADOLYGIAD O'R FFIN RHWNG BLAENHONDDAN A DYFFRYN CLYDACH
6.1 Ystyriodd y Comisiwn y sylwadau a gafwyd ar gyfer cyfnod cychwynnol yr adolygiad. Adroddwyd bod yr Ysgrifenyddiaeth wedi mynd ar ymweliad safle arall i'r ardal a'i bod yn ymddangos bod y rhwystrau ar y ffordd mewn sawl man ar yr ystâd yn rhannu ardal Brookfield / Heol Taillwyd oddi wrth weddill Blaenhonddan. Yn ogystal, ymddengys bod adeiladu eiddo newydd yn ardal y ffin a awgrymwyd, wedi'i gwblhau.
6.2 Ystyriwyd y byddai angen i'r Comisiwn egluro nad oedd goblygiadau ariannol o reidrwydd yn ffactor wrth bennu materion. Cytunwyd y byddai Mr Davies yn rhoi paragraff yn dweud hynny i'w gynnwys yn adroddiad y Cynigion Drafft. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot i ofyn am wybodaeth ynglyn â nifer yr etholwyr ym mhob un o'r cymunedau, eu wardiau a'r ardal a gâi ei hadolygu.
6.3 Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn mabwysiadu'r ffin arfaethedig fel ei gynigion drafft.
6.4 Roedd rhai o'r sylwadau a gafwyd yn gofyn i'r Comisiwn gynnal refferendwm yn yr ardal a oedd yn cael ei heffeithio. Roedd y Comisiwn o'r farn na fyddai refferendwm yn addas ond y byddai'n bosibl ehangu'r broses ymgynghori drwy gynnwys holl drigolion yr ardal adolygu ar y rhestr ddosbarthu ar gyfer yr adroddiad ar y cynigion drafft. Cytunwyd y byddai'r adroddiad ar y cynigion drafft yn cael ei ddosbarthu i'r holl etholwyr yn yr ardal gynigion, ynghyd â ffurflen yn holi a oedd y trigolyn yn cytuno â chynigion y Comisiwn ai peidio ac am unrhyw sylwadau ychwanegol.
6.5 Cytunwyd y byddai'r adroddiad ar y cynigion drafft yn cynnwys paragraff yn egluro na fyddai'r Comisiwn yn rhwym i farn y mwyafrif o ran y ffurflenni wedi'u cwblhau a ddychwelid ond y byddai'n parhau i wneud penderfyniadau ar sail llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
6.6 Cytunwyd y byddai'r adroddiad ar y cynigion drafft yn cynnwys yr holl sylwadau cychwynnol a gafwyd, gan gynnwys y rheiny a gafwyd ar gyfer yr adolygiad gwreiddiol, a derfynwyd yn gynnar.
6.7 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn gwirio data mapio newydd a gafwyd gan yr Arolwg Ordnans ar gyfer y wybodaeth fwyaf cyfoes am dai newydd yn yr ardal adolygu. Byddai angen mynd ar ymweliad pellach i'r safle i weld y ffin arfaethedig cyn lluni adroddiad ar y cynigion drafft. Byddai drafft cyntaf adroddiad y cynigion drafft yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Hydref.
7. UNRHYW FATER ARALL
7.1 Nododd y Comisiwn newidiadau i amserlen yr adolygiadau.
7.2 Cafwyd llythyr gan y Gweinidog yn derbyn cynigion terfynol y Comisiwn ar gyfer adolygiad ffin Cilgerran.
7.3 Hysbysodd yr Ysgrifennydd y Comisiynwyr y byddai Comisiwn Ffiniau Lloegr yn Llundain yn cynnal y cyfarfod rhyng-gomisiwn nesaf yn ystod mis Mawrth 2006.
7.4 Cytunwyd y byddai trefniadau'n cael eu gwneud i'r Comisiwn gael ei roi ar y rhestr bostio ar gyfer cylchlythyr chwarterol Cymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru, a allai gael ei ddosbarthu wedyn i'r Aelodau.
8. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
8.1 Trefnwyd dyddiad y cyfarfod nesaf, sef dydd Iau 8 Medi 2005 am 10.30 a.m.
13/10/2005
