COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
CYFARFOD A GYNHALIWYD 21 MEHEFIN 2005 YN NHY CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Mr J E Davies (Dirprwy Gadeirydd).
1. DATGANIAD O DDIDDORDEBAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw ddiddordebau newydd.
2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 16 MAI 2005
2.1 Cytunwyd ar y rhain.
3. MATERION SY'N CODI
3.1 Materion MERLIN
3.1.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd y bu mwy o ohebiaeth oddi wrth yr adran nawdd, ynghyd ag ymateb oddi wrth MERLIN, ynglyn ag uwchraddio cyswllt data'r Comisiwn. Roedd MERLIN wedi dweud bod yr oedi wedi'i achosi gan broblemau â landlord Ty Caradog, ond bod y problemau hyn bellach wedi'u datrys ac y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau yn eithaf buan.
3.1.2 Adroddwyd bod MERLIN wedi datrys y problemau technegol a fu'n atal diweddaru gwefan y Comisiwn.
3.2 Cynghorwyr Cymunedol
3.2.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi cael barn yr adran nawdd ynglyn ag adolygiad o gyngor y Comisiwn, roddwyd yn 1976 ar nifer y cynghorwyr cymunedol. Bu ymateb yr adran nawdd yn gadarnhaol.
3.3 Cyllid - llofnodwyr sieciau
3.3.1 Adroddwyd bod yr adran nawdd o'r farn nad oedd hi'n amhriodol i Aelodau'r Comisiwn fod yn llofnodwyr sieciau, o ystyried pa mor fach yw'r Comisiwn.
3.4 Cynghorau Cymunedol
3.4.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi cael ymatebion oddi wrth Un Llais i Gymru (ULlC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLILC) ynglyn â'r posibilrwydd o gynnal cyfarfod i drafod materion yn ymwneud â chynghorau cymunedol. Dywedodd Un Llais i Gymru nad oeddent yn gallu mynychu cyfarfod ar hyn o bryd o ganlyniad i bwysau gwaith ond eu bod yn fodlon cyfranogi drwy ohebiaeth ysgrifenedig. Cytunodd CLILC i gael cyfarfod â'r Ysgrifennydd ac mae hwn wedi'i drefnu ar gyfer mis Gorffennaf.
3.4.2 Ystyriai'r Comisiwn y byddai'n ddefnyddiol sicrhau oddi wrth yr awdurdodau lleol lefelau cyfredol cynrychioliad a chyfrifoldeb cynghorau cymunedol yn eu hardaloedd. Yna, byddai'n bosibl datblygu strategaeth gyda chymorth ULlC, CLILC a'r cynghorau cymunedol.
3.5 Meddalwedd Cyfrifo
3.5.1 Cynghorwyd y Comisiwn y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfod â Swyddfa Archwilio Cymru am arddangosiad o'r meddalwedd cyfrifo.
3.6 Ailwampio
3.6.1 Adroddodd yr Ysgrifenyddiaeth bod disgwyl i'r ailwampio ddechrau ddiwedd y mis ac y gwnaed trefniadau ar gyfer cael gwared â hen ddodrefn y Comisiwn.
3.7 Cyfarfod Agored Blynyddol
3.7.1 Cysylltwyd â'r adran nawdd ynghylch y posibilrwydd y gallent roi cyflwyniad ar yr adolygiadau etholiadau sydd ar ddod yn y CAB, ond roeddent wedi nodi na fyddent mewn sefyllfa i wneud hynny tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, pan fyddai'n rhy hwyr ar gyfer yr agenda.
3.7.2 Cytunodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru y byddai aelod o'u staff yn rhoi cyflwyniad ar fapio. Byddai Prif Weithredwr Ceredigion, Mr Owen Watkin, hefyd ar gael i wneud cyflwyniad.
3.8 Cyllid
3.8.1 Adroddwyd bod yr adran nawdd wedi nodi y gallai ariannu ychwanegol fod ar gael ar gyfer y Comisiwn ar gyfer 2006/07. Roeddent hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ad-dalu'r Comisiwn am y gwariant BCW a hawliodd y Cynulliad yn ei ôl oddi wrth ODPM.
4. ADOLYGIAD O'R FFIN RHWNG CYMUNEDAU BRACLA A COITY UWCH - DRAFFT O ADRODDIAD Y CYNIGION TERFYNOL
4.1 Cymeradwyodd y Comisiwn yr adroddiad yn amodol ar fân ddiwygiadau. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno'r adroddiad diwygiedig i gynghorwr cyfreithiol y Comisiwn.
5. CYHOEDDI COFNODION Y PWYLLGOR ARCHWILIO
5.1 Ystyriodd y Comisiwn y dylid cyhoeddi cofnodion y Pwyllgor Archwilio yn amodol ar wahardd unrhyw gynnwys cyfrinachol. Cytunwyd na fyddai'r Comisiwn yn cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd blaenorol y pwyllgor Archwilio ond y byddai'n dechrau'r arfer gyda chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2005.
6. CYNLLUN CYHOEDDIADAU DIWYGIEDIG
6.1 Cymeradwyodd y Comisiwn y cynllun yn amodol ar fân ddiwygiadau.
7. DIWEDDARIAD AR Y TREFNIADAU AR GYFER ADOLYGIADAU O ANGHYSONDEBAU O RAN FFINIAU
7.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi ysgrifennu at Brif Weithredwyr awdurdodau lleol yng Nghymru i ofyn iddynt a oeddent yn ymwybodol o unrhyw faterion a oedd yn aros heb eu datrys o ran eu cymunedau a wardiau cymunedol, yr oedd angen mynd i'r afael â nhw cyn i'r Comisiwn ddechrau ar eu hadolygiad o drefniadau etholiadol, sydd ar ddod. Cynigodd hefyd gymorth y Comisiwn mewn unrhyw adolygiadau y gallai bod arnynt eisiau ymgymryd â hwy.
7.2 Cafwyd ymatebion oddi wrth nifer o awdurdodau lleol, a chynhaliwyd cyfarfod â Phrif Weithredwr Rhondda Cynon Taf a groesawodd gynnig y Comisiwn o gymorth. Gwahoddwyd yr Ysgrifennydd hefyd i gyfarfod â swyddogion nifer o awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, a threfnwyd y cyfarfodydd hyn ar gyfer yr wythnos sy'n dod. Ystyriwyd mai'r ffordd orau ymlaen fyddai i'r awdurdodau lleol adolygu sefyllfa eu holl gymunedau a nodi unrhyw anghysondebau. Yna gallent roi gwybod i'r Comisiwn, gan restru'r anghysondebau hyn a gofyn am gymorth wrth gynnal yr adolygiadau. Cai'r manylion hyn eu hanfon ymlaen at yr adran nawdd gyda chais am gyfarwyddyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol i gynorthwyo wrth gynnal yr adolygiadau.
7.3 Pe bai awdurdodau lleol yn dymuno cynnal adolygiadau o'u cymunedau, ystyriwyd y gellid awgrymu iddynt eu bod yn archwilio trefniadau etholiadol y gymuned ar yr un pryd. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn adrodd ar ganlyniad y cyfarfodydd ag awdurdodau lleol gogledd Cymru yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn.
8. UNRHYW FUSNES ARALL
8.1 Derbyniodd Cadeirydd y Comisiwn lythyr oddi wrth y Gweinidog dros Lywodraeth Leol yn gwahodd y Comisiwn i drafod yr adolygiad etholiadol sydd ar ddod yn y cyfarfod cysylltu blynyddol nesaf. Nid oedd unrhyw ddyddiad wedi'i bennu ar gyfer y cyfarfod cysylltu, ond gofynnwyd i'r Ysgrifennydd wneud y trefniadau angenrheidiol.
8.2 Cadarnhaodd yr adran nawdd y dylai adolygiad pum-mlyneddol nesaf y Comisiwn gael ei gynnal, toc, ond nad oedd unrhyw ddyddiad wedi'i bennu eto.
8.3 Nododd y Commission fod disgwyl i'r Un Llais Cymru gynnal eu cyfarfod cyffredinol blynyddol cyn hir, ac ystyrid y dylai'r Comisiwn gael ei gynrychioli. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cael manylion y cyfarfod ar gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn.
9. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
9.1 Pennwyd dyddiad y cyfarfod nesaf ar 26 Gorffennaf 2005 am 10.30 a.m.
13/10/2005
