Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD 16 MAI 2005 YN NHY CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Mr J E Davies (Dirprwy Gadeirydd).

1. DATGANIAD O DDIDDORDEBAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw ddiddordebau newydd.

2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 20 EBRILL 2005

2.1 Cytunwyd ar y rhain yn amodol ar fân ddiwygiadau.

3. MATERION SY'N CODI

3.1 Materion MERLIN

3.1.1 Adroddwyd nad oedd MERLIN eto wedi dechrau uwchraddio cyswllt data'r Comisiwn.

3.1.2 Nid oedd yn bosibl diweddaru gwefan y Comisiwn yn uniongyrchol o hyd, oherwydd problemau technegol nad oedd MERLIN eto wedi'u datrys. Mae ateb dros dro wedi'i roi yn ei le, lle caiff y diweddariadau eu hanfon at dîm MERLIN er mwyn iddyn nhw eu cymhwyso.

3.1.3 Mynegodd y Comisiwn bryder nad oedd y camau angenrheidiol i ddatrys y ddau fater hyn wedi'u cymryd o hyd. Cytunwyd y byddai Mr Lewis yn ceisio barn yr adran nawdd ynghylch a fyddai llythyr oddi wrth y Cadeirydd i Weinidog Llywodraeth Leol y Cynulliad yn mynegi pryder y Comisiwn yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn, sy'n aros heb eu datrys.

3.2 Cynghorwyr Cymunedol

3.2.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd y byddai ef yn cyfarfod â swyddogion yr adran nawdd cyn hir ac y byddai'n codi mater y gofyniad i adolygu cyngor y Comisiwn, roddwyd yn 1976 ar niferoedd Cynghorwyr Cymunedol.

3.3 Cyllid - llofnodwyr sieciau

3.3.1 Roedd yr Ysgrifenyddiaeth wedi gwirio Memorandwm Ariannol y Comisiwn ac nid oeddent wedi dod o hyd i unrhyw beth a nodai na ddylai Aelodau'r Comisiwn fod yn llofnodwyr sieciau. Ystyriai'r Comisiwn ei bod yn ddymunol cael Aelodau fel llofnodwyr sieciau ychwanegol, o ystyried maint bach yr Ysgrifenyddiaeth. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn ceisio cael eglurhad oddi wrth y Cynulliad am y mater hwn.

3.4 Cynghorau Cymunedol

3.4.1 Adroddwyd bod yr Ysgrifenyddiaeth bellach wedi ysgrifennu at Un Llais i Gymru a Chymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru ynglyn â'r posibilrwydd o gynnal cyfarfod i drafod materion yn ymwneud â chynghorau cymunedol.

3.4.2 Roedd yr Ysgrifennydd wedi ysgrifennu at Brif Weithredwyr y 22 prif awdurdod ynglyn ag adolygiadau cymunedol. Roedd pedwar awdurdod wedi ymateb hyd yn hyn, tri yn cydnabod derbyn yr ohebiaeth tra gofynnodd Rhondda Cynon Taf am gyfarfod â'r Ysgrifenyddiaeth i drafod y mater.

3.5 Meddalwedd Cyfrifo

3.5.1 Roedd yr Ysgrifenyddiaeth wedi cysylltu â chyflenwr meddalwedd i geisio cyngor ar addasrwydd y meddalwedd cyfrifo.

4. COD YMARFER DIWYGIEDIG AR FYNEDIAD Y CYHOEDD I WYBODAETH

4.1 Cymeradwyodd y Comisiwn y cod diwygiedig yn amodol ar gynnwys manylion arfer y Comisiwn o beidio â chyhoeddi cofnodion cyfarfodydd sy'n cynnwys gwybodaeth wedi'i heithrio ac yn amodol ar benderfyniad ynghylch cyhoeddi cofnodion y pwyllgor archwilio.

5. CYHOEDDI COFNODION Y PWYLLGOR ARCHWILIO

5.1 Yn sgil absenoldeb Mr Davies, cytunwyd y byddai'r eitem hon yn cael ei gohirio tan gyfarfod nesaf y Comisiwn.

6. AILWAMPIO - ADRODDIAD LLAFAR

6.1 Cynghorodd yr Ysgrifennydd bod Dalkia bellach wedi anfon y gwahoddiadau i dendro ar gyfer y gwaith ailwampio. Pennwyd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r tendrau ar 23 Mai 2005 a byddai Dalkia yn cyfarfod â'r Ysgrifenyddiaeth ar ôl y dyddiad hwnnw i drafod y tendrau a dderbynnir. Disgwylid y byddai'r gwaith yn dechrau ddiwedd mis Mehefin 2005.

7. CYFARFOD AGORED BLYNYDDOL

7.1 Ystyriodd y Comisiwn eitemau posibl ar gyfer agenda'r cyfarfod hwn. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn cynhyrchu cyflwyniad drafft ar fater nifer y cynghorwyr cymunedol.

7.2 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn cysylltu â'r adran nawdd ynglyn â'r posibilrwydd y gallent wneud cyflwyniad ar gyfarwyddiadau posibl ar gyfer yr adolygiad o drefniadau etholiadol sydd ar ddod.

7.3 Yn ogystal, byddai'r Ysgrifennydd yn cysylltu ag Un Llais Cymru a'r CLILC i ofyn a fyddai arnynt eisiau cyfrannu eitemau ar gyfer yr agenda a chysylltu â Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion i ofyn a fyddai'n fodlon gwneud cyflwyniad yn y CAB.

8. ADRODDIAD ARIANNOL - GWARIANT DIWEDD Y FLWYDDYN 2004/05

8.1 Adroddwyd mai tanwariant y Comisiwn ar gyfer 2004/05 oedd £62,000. Bwriad gwreiddiol y Comisiwn oedd defnyddio'r gwarged hwn i dalu am beth o'r gwaith ailwampio. Fodd bynnag, nid oedd y Cynulliad wedi rhoi caniatâd i'r cronfeydd hyn gael eu trosglwyddo i flwyddyn ariannol 2005/06.

9. ADRODDIAD BLYNYDDOL 2004/05 - DRAFFT CYNTAF

9.1 Cymeradwyodd y Commission yr adroddiad blynyddol yn amodol ar fân ddiwygiadau. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn gwirio a ddylid cyfeirio at adran nawdd y Comisiwn yn yr adroddiad fel 'Y Cynulliad Cenedlaethol' neu 'Llywodraeth Cynulliad Cymru'.

10. UNRHYW FUSNES ARALL

10. Adroddwyd bod Rheoli Yng Ngwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn codi ffi yn dechrau o £2,000 y flwyddyn yn daliadwy gan y cyrff unigol a ddymunai gymryd rhan yn eu rhaglenni. Cytunwyd, fodd bynnag, y byddai'r gost yn cael ei hepgor ar gyfer y Comisiwn, ond y byddai ffioedd cyrsiau unigol yn berthnasol o hyd.

11. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

11. Pennwyd dyddiad y cyfarfod nesaf ar 21 Mehefin 2005 am 10.00 a.m. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn holi Swyddfa Archwilio Cymru a byddent yn fodlon cyflwyno'r cyfrifon blynyddol mewn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar yr un dyddiad.

13/10/2005