Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD 20 EBRILL 2005 YN NHY CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr

1. DATGANIAD O DDIDDORDEBAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw ddiddordebau newydd.

2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 17 MAWRTH 2005

2.1 Cytunwyd ar y rhain yn amodol ar fân ddiwygiadau.

3. MATERION SY'N CODI

3.1 Materion Merlin

3.1.1 Adroddwyd bod MERLIN wedi cael caniatâd oddi wrth landlord Ty Caradog i fwrw ymlaen â diweddaru'r cyswllt data. Byddai MERLIN yn cysylltu â BT i ofyn iddynt wneud y gwaith mewn da bryd.

3.1.2 Nid oedd yn bosibl i'r Ysgrifenyddiaeth ddiweddaru gwefan y Comisiwn yn llawn o hyd, ac ni wyddys pa bryd y byddai'r mater hwn yn cael ei ddatrys. Roedd yn bosibl i'r Cynulliad ddiweddaru gwefan y Comisiwn mewn argyfwng.

3.2 Adolygiad Cymunedol Bracla

3.2.1 Adroddwyd bod y Cynigion Drafft ar gyfer Adolygiad Cymunedol Bracla wedi'u cyhoeddi ar 8 Ebrill 2005. Pennwyd y dyddiad cau ar gyfer cynrychioliadau yn 10 Mehefin 2005.

3.3 Cynghorwyr Cymunedol

3.3.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd y rhoddwyd gwybod i adran nawdd y Comisiwn am yr angen i adolygu cyngor y Comisiwn o 1976 ar niferoedd cynghorwyr cymunedol, ond ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfod i drafod y mater hyd yn hyn.

3.4 Cyfarfod Agored Blynyddol

3.4.1 Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru bellach wedi'i llogi fel lleoliad CAB 2005. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu llety ac ystafell gyfarfod yng Ngwesty'r Bellevue yn Aberystwyth.

4. ADOLYGIAD O'R FFIN RHWNG SIR BENFRO A CHEREDIGION YN ARDAL CILGERRAN - DRAFFT O'R ADRODDIAD TERFYNOL

4.1 Cymeradwyodd y Comisiwn yr adroddiad yn amodol ar fân ddiwygiadau. Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai ar ôl yr etholiad cyffredinol.

5. YR ADRODDIAD BLYNYDDOL AR Y CYNLLUN IAITH GYMRAEG

5.1 Cymeradwyodd y Comisiwn yr adroddiad. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ofyn ynghylch argaeledd y bathodynnau a ddefnyddir i nodi siaradwyr Cymraeg mewn cyfarfodydd a chynadleddau.

6. AILWAMPIO - ADRODDIAD LLAFAR

6.1 Adroddwyd bod yr Ysgrifenyddiaeth wedi cynnal mwy o gyfarfodydd â Dalkia er mwyn cytuno ar amserlen ar gyfer rhannu'r gwaith ailwampio dros flynyddoedd ariannol 2005/06 a 2006/07. Fel rhan o'r broses, roedd MERLIN wedi adolygu ceblau a ffitiadau trydanol presennol y Comisiwn ac wedi argymell rhai newidiadau a bod socedi trydan ychwanegol yn cael eu hymgorffori i raglen ailwampio Dalkia. Disgwylid y byddai Dalkia yn barod i wahodd contractwyr i dendro am y gwaith erbyn diwedd mis Ebrill 2005.

7. UNRHYW FUSNES ARALL

7.1 Cyhoeddi'r Cofnodion

7.1.1 Nododd y Comisiwn nad oedd hi'n arfer ar hyn o bryd i gyhoedd cofnodion y Pwyllgor Archwilio. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn gwirio'r gofyniad am ddatgelu cofnodion y Pwyllgor Archwilio ac adrodd yn ôl i'r Comisiwn.

7.2 Rhyddid Gwybodaeth

7.2.1 Adroddwyd bod y Cynulliad wedi newid eu polisi ar Ryddid Gwybodaeth yn sylweddol ac y dylid newid polisi'r Comisiwn yn unol â hynny. Cytunwyd y byddai polisi Rhyddid Gwybodaeth y Comisiwn yn cael ei ailddrafftio ar sail polisi'r Cynulliad.

7.3 Llofnodi Sieciau

7.3.1 Codwyd y cwestiwn o darddiad y trefniadau ynghylch llofnodwyr sieciau yn y Pwyllgor Archwilio. Cytunwyd i ymchwilio i'r mater a chael adroddiad amdano yn y cyfarfod nesaf.

7.4 Un Llais i Gymru

7.4.1 Yn dilyn y cyfarfod cynharach yn y diwrnod â Phwyllgor Llywodraeth Leol Cynulliad Cymru, cytunwyd i gysylltu â'r sefydliad.

7.5 Meddalwedd Cyfrifo

7.5.1 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gael meddalwedd cyfrifo ac adrodd yn ôl i'r Comisiwn ar y manteision a'r anfanteision posibl.

8. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

8.1 Pennwyd y dyddiadau ar gyfer y cyfarfodydd nesaf ar gyfer 16 Mai 2005 a 26 Gorffennaf 2005.

29/9/2005