COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
CYFARFOD A GYNHALIWYD 17 MAWRTH 2005 YN NHY CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr
1. DATGANIAD O DDIDDORDEBAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw ddiddordebau newydd. Llongyfarchwyd y Dirprwy Gadeirydd gan y Comisiwn ar ei ailbenodiad fel cyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru.
2. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD AR 24 CHWEFROR 2005
2.1 Cytunwyd ar y rhain yn amodol ar fân ddiwygiadau.
3. MATERION SY'N CODI
3.1 Materion Merlin
3.1.1 Adroddwyd nad oedd y mater o gysylltedd wedi'i ddatrys. Roedd Merlin wedi arolygu cysylltiad y Comisiwn ac wedi nodi bod arnynt angen caniatâd y landlord i wneud y gwaith angenrheidiol ar gyfer yr uwchraddio.
3.1.2. Adroddwyd y rhoddwyd gwybod i NAO bod y Comisiwn bellach wedi cael caniatâd y Cynulliad i ddileu'r taliadau a godwyd gan Siemens y bu anghydfod yn eu cylch o ran prydlesu offer TG ar gyfer 2003/04. Disgwylid y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu Llythyr Rheolaeth ar gyfer archwiliad 2004/05.
3.2 Adolygiad Cymunedol Bracla
3.2.1 Adroddwyd bod yr Adroddiad Cynigion Drafft wedi'i gyfieithu a'i wirio. Fodd bynnag, nid oedd disgwyl y byddai'n bosibl cyhoeddi'r adroddiad cyn diwedd mis Mawrth o ganlyniad i wyliau'r Pasg. Cytunwyd y dylid argraffu a chyhoeddi'r adroddiad cyn gynted ag sy'n bosibl.
3.3 Cynghorwyr Cymunedol
3.3.1 Adroddwyd bod yr Ysgrifennydd wedi codi'r mater o adolygu cyngor 1976 ar gymarebau gynghorwyr cymunedol / etholwyr gydag Adran LGM2. Nodwyd nad oedd adroddiad Aberystwyth yn cyfeirio o gwbl at gymhareb yr etholwyr i gynghorwyr cymunedol yng Nghymru. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn codi'r mater yn eu cyfarfod â'u hadran nawdd.
4. ADOLYGIAD O'R FFIN RHWNG SIR BENFRO A CHEREDIGION YN ARDAL CILGERRAN
4.1 Ystyriodd y Comisiwn y cynrychioliadau a gafwyd mewn ymateb i'r cynigion drafft. Nodwyd bod Cyngor Cymuned Cilgerran wedi cytuno'n anfodlon â chynnig y Comisiwn na fyddai'r ffin bresennol yn newid, a bod yr holl gynrychioliadau eraill, ac eithrio un, wedi cefnogi peidio â'i newid. Cytunwyd y dylai'r Cynigion Terfynol gadarnhau penderfyniad y Comisiwn y dylid cadw'r ffin bresennol, ac y dylid cyflwyno drafft o adroddiad y Cynigion Terfynol i'r cyfarfod ym mis Ebrill.
5. CYFARWYDDIADAU I ADOLYGU'R FFIN RHWNG CYMUNEDAU BLAENHONDDAN A DYFFRYN CLYDACH - AMSERLEN
5.1 Ystyriodd y Comisiwn yr amserlen arfaethedig ar gyfer yr adolygiad. Ystyriwyd y byddai'n bosibl i'r adolygiad ddechrau fis yn gynt na'r dyddiad a gynigwyd ym mis Mehefin 2005. Cytunwyd y byddai'r adolygiad yn dechrau ym mis Mai 2005.
6. CYFARFOD AGORED BLYNYDDOL
6.1 Ystyriodd y Comisiwn y papur sy'n rhoi'r dewis o leoliadau yn Aberystwyth a Machynlleth. Ymddengys mai'r dewisiadau gorau oedd Celtica ym Machynlleth neu Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cytunwyd mai Llyfrgell Genedlaethol Cymru fyddai'r lleoliad mwyaf addas am y gwyddys bod ganddi gyfleusterau parcio da. Ystyriodd y Comisiwn y byddai'n ddymunol darparu bwffe ar gyfer y cynrychiolwyr, am y byddai'n rhoi'r cyfle iddynt rannu syniadau yn ystod y toriad am ginio. Cytunwyd y dylid, dros dro, archebu bwffe ar gyfer 30 o bobl, ac y gallai'r nifer hon gael ei hadolygu yn nes at y CAB.
6.2 Byddai angen llogi ystafell ar gyfer cynnal cyfarfod y Comisiwn y noson cyn y CAB. Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.
6.3 Pennwyd dyddiad dros dro ar gyfer y CAB, o ddydd Mawrth 11 Hydref 2005.
7. AILWAMPIO - ADRODDIAD LLAFAR
7.1 Adroddodd Mr Lewis bod yr amserlen ar gyfer ailwampio wedi'i newid yn sylweddol yn sgil gohebiaeth ddiweddar oddi wrth Adran LGM.
8. UNRHYW FUSNES ARALL
8.1 Selio Dogfennau
8.1.1 Adroddodd Mr Lewis y ceisiwyd cyngor oddi wrth gynghorwyr cyfreithiol y Comisiwn o ran defnydd sêl y Comisiwn ar ddogfennau ac adroddiadau swyddogol. Y cyngor a gafwyd oedd nad oedd angen sêl, a'r unig ofyniad statudol ar gyfer cyflwyniadau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol yw bod Aelodau yn eu llofnodi. Nododd y Comisiwn y cyngor hwn.
8.2 Gwefan
8.2.1 Adroddwyd bod Steve Halsall yn ddiweddar wedi mynychu seminar a drefnwyd gan y Cynulliad ar ddylunio gwefannau. Un o'r materion a godwyd yn y seminar oedd cydymffurfio â chanllawiau'r llywodraeth ar hygyrchedd y wefan. Mae gwefan y Comisiwn bellach yn cael ei hail-ddylunio i gydymffurfio â'r canllawiau ond byddai hyn yn cynnwys gwaith sylweddol, gan gymryd 3 mis, o bosibl, i'w gwblhau. Byddai gwefan bresennol y Comisiwn yn parhau i redeg o hyd wrth i'r gwaith hwn gael ei wneud. Nododd y Comisiwn y datblygiad hwn.
8.2.2 Adroddwyd bod Archwiliad Mewnol wedi nodi bod gwefan y Comisiwn ond yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd y Comisiwn hyd at fis Ionawr 2004. Eglurodd Mr Halsall bod cofnodion cyfarfodydd dilynol wedi'u cofnodi ar y wefan, ond iddynt gael eu colli pan dorrodd gweinyddwr y Cynulliad i lawr, a'u bod wedi'u hadfer i gyflwr llawer cynt. Yn ogystal â hyn, ceir anawsterau technegol presennol sy'n atal y wefan rhag cael ei diweddaru. Nododd y Comisiwn y mater hwn.
8.3 Cyfrifon Blynyddol
8.3.1 Sylwodd yr Ysgrifennydd bod CCNCau eraill yn cyhoeddi crynodeb o'u cyfrifon yn unig ac yn darparu set gyflawn o gyfrifon ar gais. Bu'n arfer gan y Comisiwn erioed i gyhoeddi cyfrifon llawn yn eu hadroddiad blynyddol ac ar eu gwefan. Fodd bynnag, efallai y bydd modd lleihau'r gost o gynhyrchu'r adroddiad blynyddol drwy fabwysiadu'r arfer o gynnwys crynodeb yn hytrach na chyfrifon llawn. Nodwyd y byddai'n rhaid cyflwyno set gyflawn o gyfrifon at ddibenion archwilio o hyd. Ystyriodd y Comisiwn y byddai'n ddefnyddiol gwirio gofynion y Memorandwm Ariannol a chanfod a fyddai gan yr adran nawdd unrhyw wrthwynebiadau.
8.4 Cyfrifo Adnodd
8.4.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod ef a'r Swyddog Ariannu wedi cyfarfod â Mr Laurie Pavelin, Pennaeth Atebolrwydd Ariannol, i drafod y cynnig gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol bod y Comisiwn yn ystyried mabwysiadu cyfrifo yn seiliedig ar adnoddau. Roedd Mr Pavelin wedi casglu bod y Comisiwn yn gorff rhy fach i gyfiawnhau cyflwyno cyfrifon llawn yn seiliedig ar adnoddau, ond y gallai fod yn ddefnyddiol i fabwysiadu ymagwedd symlach. Byddai ei staff yn rhoi cymorth i gyflawni hyn. Cododd Mr Pavelin hefyd y mater o ffioedd archwilio'r Comisiwn. Cytunwyd y dylid codi'r mater o ffioedd archwilio mewnol ac allanol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio ac y byddai'r Ysgrifennydd yn ysgrifennu at yr adran nawdd.
9. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
9.1 Pennwyd y dyddiadau ar gyfer y cyfarfodydd nesaf ar 20 Ebrill 2005 ac 16 Mai 2005.
29/9/2005
