COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
CYFARFOD A GYNHALIWYD 24 CHWEFROR 2005 YN NHY CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr
1. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD 6 RHAGFYR 2004
1.1 Cytunwyd ar y rhain gyda mân newidiadau.
2. MATERION YN CODI
2.1 Materion Merlin
2.1.1 Adroddwyd bod y cwestiwn o gysylltedd heb ei ddatrys. Roedd Merlin yn edrych i'r posibilrwydd o gyswllt wedi'i uwchraddio a rennir rhwng y Comisiwn a Rheoli yng Ngwasanaethau Cyhoeddus Cymru y mae eu swyddfeydd ar bedwerydd llawr Ty Caradog.
2.1.2. Adroddwyd bod Adran LGM wedi awdurdodi'r Comisiwn i ddileu'r ffioedd dadleuol a godwyd gan Siemens mewn perthynas â phrydlesu offer TG ar gyfer 2003/04. Gellid dweud wrth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol am y datblygiad bellach a thynnu'r ffioedd dadleuol oddi ar gyfrifon blynyddol y Comisiwn.
2.2 Arolwg Cymunedol Blaenhonddan
2.2.1 Adroddwyd na chafwyd unrhyw ymateb pellach oddi wrth y Cynulliad mewn perthynas â'r cyfarwyddiadau i adolygu ffin y gymuned ym Mlaenhonddan, Castell-nedd Port Talbot. Cytunwyd na allai'r Comisiwn gymryd unrhyw gamau pellach.
2.3 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2005
2.3.1 Adroddwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn llunio papur ar Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2005 y Comisiwn ar gyfer cyfarfod mis Mawrth y Comisiwn.
2.4 Recriwtio
2.4.1 Nodwyd bod yr Ysgrifenyddiaeth wedi penodi olynydd i'r Swyddog Caffael. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ar ei secondiad gyda'r Comisiwn ar 7 Mawrth 2005.
3. AROLWG CYMUNEDOL BRACLA
3.1 Niferoedd y Cynghorwyr
3.1.1 Nodwyd bod yr arweiniad a luniwyd gan y Comisiwn ym 1976 ar niferoedd yr etholwyr fesul cynghorydd cymuned yn caniatáu ar gyfer mwy o gynghorwyr nag a ddyrennir ar hyn o bryd. Felly, roedd lle i godi nifer y cynghorwyr cymuned. Fodd bynnag, ystyriwyd hwyrach fod arweiniad 1976 y Comisiwn yn hen, yn enwedig yng ngoleuni'r cynigion diweddar a oedd yn effeithio ar weithrediad cynghorau cymuned. Cytunwyd felly i adael nifer y cynghorwyr cymuned a ddyrennir yn yr adroddiad fel ag y mae.
3.1.2. Ystyriodd y Comisiwn y dylid adolygu'r arweiniad ar niferoedd yr etholwyr fesul cynghorydd cymuned. Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn cysylltu ag adran gymunedau LGM ac yn gofyn am unrhyw gyngor sydd ganddynt o ganlyniad i adroddiad Aberystwyth.
3.2 Adroddiad Drafft
3.2.1 Cytunwyd i symud ymlaen i gyhoeddi'r Adroddiad Cynigion Drafft.
4. ARWEINIAD AR DDYLETSWYDDAU STATUDOL YR AWDURDODAU PERTHNASOL I YSTYRIED DIBENION Y PARCIAU CENEDLAETHOL AC AHNE
4.1 Nododd y Comisiwn gyngor Cyfreithiwr y Trysorlys ar y mater hwn.
5. CYFARFOD RHWNG COMISIYNAU YN BELFAST
5.1 Adroddwyd bod Mr Davies, Mr Roberts a Mr Lewis wedi mynychu'r cyfarfod Rhwng Comisiynau yn Belfast a oedd yn ddiddorol ac yn addysgiadol iawn.
5.2 Nodwyd y byddai cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal rhwng ysgrifenyddiaethau'r comisiynau ffiniau seneddol i drafod trosglwyddo swyddogaethau i'r Comisiwn Etholiadol.
6. ADRODDIAD CYLLIDEB - TRYDYDD CHWARTER 2004/05
6.1 Nododd y Comisiwn y sefyllfa ar ddiwedd trydydd chwarter 2004/05 a ddangosodd danwariant cyffredinol o £64,384. Fodd bynnag, nodwyd hefyd y byddai ymrwymiadau ar gyfer gwariant yn chwarter olaf 2004/05, yr ymdrinnir â nhw o dan eitem 7 yr agenda, yn cael effaith fawr ar gyllideb 2004/05.
7. ADRODDIAD CYLLID - AMCANGYFRIF GWARIANT (GAN GYNNWYS ADNEWYDDU) AR GYFER Y FLWYDDYN YN DOD I BEN 2004/05
7.1 Adroddwyd bod yr Ysgrifenyddiaeth wedi gwneud cynnydd wrth symud ymlaen i adnewyddu'r swyddfeydd. Gwnaed ymrwymiadau i ailaddurno a phrynu dodrefn newydd ar amcangyfrif cost o £28,000 a £15,200 yn y drefn honno. Fodd bynnag, nodwyd costau ychwanegol pellach ar ôl cyfarfod diweddar gyda Dalkia - £30,000 ar gyfer ailweirio ac ailosod yr holl oleuadau yn swyddfeydd y Comisiwn a £4,200 mewn perthynas â ffioedd y contractwr ar gyfer rheoli'r adnewyddu. Nid oedd y swm sy'n ymwneud ag ailweirio ac ailosod y goleuadau wedi'i gynnwys yn yr amcangyfrif cost cynharach y cafodd y Comisiwn oddi wrth y contractwr, ond yn hytrach wedi'i nodi fel opsiwn. Daeth yn amlwg y byddai'n beth doeth gwneud y gwaith hwn ar hyn o bryd gan i'r Ysgrifenyddiaeth gael ei chynghori gan y contractwr nad oedd gwaith weirio presennol y goleuadau a thrydan yn bodloni'r manylebau trydanol cyfredol. Yn ogystal, penderfynwyd y byddai angen gwneud y gwaith hwn cyn i'r ailaddurno ddechrau a chyn gosod y dodrefn newydd. Byddai'r costau hyn, ynghyd â'r £15,200 ar gyfer mapio digidol y ffiniau wardiau cymunedol yn arwain at y Comisiwn yn gorwario ei gyllideb 2004/05 o ryw £11,000. Roedd yr Ysgrifenyddiaeth wedi ysgrifennu i LGM2 i roi gwybod iddynt am amcangyfrif y gorwariant hwn ac i ofyn am gyllid ychawnegol i dalu'r gost o adnewyddu ond ni chafwyd unrhyw ymateb hyd yma.
7.2 Nodwyd bod yr Ysgrifenyddiaeth wedi cysylltu â'r contractwyr ar gyfer yr adnewyddu a'r dodrefn ar gyngor y Cynulliad a gynghorodd hefyd fod y Comisiwn yn symud ymlaen â'r adnewyddu.
8. UNRHYW FATER ARALL
8.1 Nodwyd i Bwyllgor Llywodraeth Leol y Cynulliad gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth mewn perthynas â chyfarfod â'r Comisiynwyr. Trefnwyd amser amodol ar gyfer bore 20 Ebrill 2005 ond nid yw wedi'i gadarnhau. Gan na fyddai Adroddiad Blynyddol 2004/05 ar gael ar y dyddiad hwnnw, cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn llunio brîff arbennig. Byddai drafft o'r brîff hwn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Comisiwn ar 17 Mawrth 2005.
8.2 Nodwyd bod ailbenodi Comisiynwyr bellach wedi'i gadarnhau ac wedi dechrau.
9. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
24/8/2005
