Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD 6 RHAGFYR 2004 YN NHŶ CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Clive Chapman 

1. COFNODION CYFARFOD Y COMISIWN A GYNHALIWYD 9 TACHWEDD 2004

1.1 Cytunwyd ar y rhain.

2. MATERION YN CODI

2.1 MATERION MERLIN

2.1.1 Nodwyd y byddai cynrychiolydd Merlin yn cyfarfod â swyddogion yn fuan i drafod materion cysylltedd heb eu datrys.

2.1.2. Yn ogystal, nodwyd eu bod yn parhau i aros am wybodaeth mewn perthynas â hen anfonebau gan MERLIN.

2.2 GORCHMYNION AROLYGON TERFYNOL

2.2.1 Cytunwyd y byddir, yn y dyfodol, yn anfon hysbysiadau o orchmynion a wneir mewn perthynas ag arolygon y Comisiwn at y Comisiynwyr cyn cyfarfodydd, yn ôl fel y byddai'r Ysgrifennydd yn dod yn ymwybodol ohonynt.

2.3 CYFARFOD Â'R GWEINIDOG

2.3.1 Y bore yma, cyfarfu'r Comisiynwyr â Gweinidog y Cynulliad dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

2.3.2 Adroddwyd nad oedd cynlluniau ar hyn o bryd i adolygu nifer y Prif Awdurdodau yng Nghymru.

2.3.3. Adroddwyd y byddai'r Gweinidog yn ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru ar gynnwys unrhyw gyfeiriadau newydd y gallai ddymuno eu cyhoeddi mewn perthynas â'r arolygon hynny cyn y gyfres nesaf o arolygon o drefniadau etholiadol y Prif Awdurdodau.

2.3.4. Nodwyd y byddai ymdrechion yn cael eu gwneud i ymateb i gais y Comisiwn am gyfarwyddiadau i Adolygu'r Ffin Gymunedol ym Mlaenhonddan, Castell-nedd Port Talbot erbyn pen-blwydd cyntaf y cais cychwynnol.

2.3.5 Awgrymwyd gan y Gweinidog ei bod hi'n debygol y byddai arian ar gael i gwblhau prosiect Mapio Ffiniau Wardiau Cymunedol y Comisiwn.

2.3.6 Nodwyd y byddai'r Gweinidog yn ceisio cyngor ar ystwytho'r weithdrefn ar gyfer prosesu ceisiadau oddi wrth y Comisiwn am gyfarwyddiadau mewn perthynas ag Arolygon Cymunedol.

2.3.7 Nodwyd y byddai'r Gweinidog yn pwyso am fwy o gydweithredu trawsffiniol rhwng awdurdodau mewn perthynas â darparu gwasanaethau.

3. AROLWG CYMUNEDOL BRACLA

3.1 Cynrychiolaethau

3.1.1 Nodwyd bod cais wedi dod i law oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnwys datblygiad arfaethedig "Parc Derwen" ger Litchard yn arolwg y Comisiwn o ran o'r ffin rhwng cymunedau Bracla a Choety Uchaf.

3.1.2. Nodwyd bod cyngor cyfreithiol a gafwyd yn nodi bod datblygiad "Parc Derwen" yn sefyll y tu allan i'r ardal a ddynodwyd gan y Cyfarwyddiadau a roddodd y Cynulliad ac felly ni ellid ei ystyried yn rhan o'r arolwg hwn.

3.1.3 Nodwyd ei bod hi'n anffodus bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi codi datblygiad "Parc Derwen" ar ôl i'r Gweinidog ymgynghori â'r Cyngor ynghylch y Cyfarwyddiadau.

3.2 Adroddiad Drafft

3.2.1 Er eu bod yn gyffredinol fodlon ar yr adroddiad, nodwyd nad oedd ffigurau nifer yr etholwyr wedi'u cynnwys ar gyfer yr ardaloedd i'w hystyried yn yr arolwg Cymunedol.

3.2.2. Nodwyd i'r Comisiwn ofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y ffigurau, ond ni chafwyd ymateb hyd yma.

3.2.3 Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eto yn gofyn am y ffigurau.

3.2.4 Petai ffigurau'n dod i law, cytunwyd y byddai paragraff diwygiedig yn cael ei ddosbarthu dros yr e-bost i'w glirio, ac ar ôl ei gymeradwyo, byddai'r Comisiwn yn mynd ymlaen i gyhoeddi cynigion drafft..

4. CYFARFOD CYFFREDINOL AGORED BLYNYDDOL 2005 - LLEOLIAD

4.1 Cytunwyd y dylid chwilio am leoliad yn ardal Aberystwyth/Machynlleth ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Agored Blynyddol 2005.

4.2 Cytunwyd y dylid chwilio am leoliad yn ardal Dinas Abertawe ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Agored Blynyddol 2006.

5. YMGYRCH LLEIHAU GWASTRAFF YN Y SECTOR CYHOEDDUS YNG NGHYMRU

5.1 Nodwyd cynllun presennol y Cynulliad ar leihau gwastraff.

5.2 Nodwyd bod y Comisiwn eisoes yn bodloni nifer o uchelgeisiau'r ymgyrch.

6. ADOLYGU'R TREFNIADAU BANCIO

6.1 Nodwyd bod bwrdd tendrau wedi'i gynnal mewn perthynas â threfniadau bancio'r Comisiwn.

6.2 Nodwyd mai canfyddiadau'r bwrdd oedd argymell bod y Comisiwn yn cadw gwasanaethau ei ddarparwr gwasanaethau bancio presennol.

6.3 Cytunwyd i dderbyn argymhelliad y bwrdd tendrau.

7. GWEFAN

7.1 Rhoddodd Steve Halsall gyflwyniad i'r Comisiynwyr o'r gwaith sydd ar y gweill i ddiweddaru golwg a hygyrchedd gwefan y Comisiwn.

7.2 Cytunwyd y dylai'r gwaith ar y safle barhau yn y cyfeiriad a gyflwynwyd gan Mr Halsall a diolchwyd iddo am ei waith ar y prosiect hwn.

8. CYNLLUN GWEITHREDOL - 2005/06

8.1 Cytunwyd y dylid cyflwyno Cynllun Gweithredol y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn eu cais, ar ôl gwneud mân ddiwygiadau.

9. CYFARFOD RHWNG COMISIYNAU

9.1 Nodwyd y cafwyd newid yn y dyddiadau ar gyfer y cyfarfod rhwng comisiynau, a fydd bellach yn cael ei gynnal ar 17 a 18 Ionawr 2005 yn Belfast.

10. DIWEDDARIAD RHYDDID GWYBODAETH

10.1 Nodwyd papur ar sefyllfa ddiweddaraf y gofynion Rhyddid Gwybodaeth, a nodwyd y goblygiadau ar gyfer y Comisiwn.

11. UNRHYW FATER ARALL

11.1 Strategaeth Leoli LlCC

11.1.1 Nodwyd sefyllfa bresennol strategaeth leoli Llywodraeth Cynulliad Cymru.

11.1.2 Nodwyd ei bod yn ymddangos nad oes gan y strategaeth unrhyw oblygiadau uniongyrchol ar gyfer y Comisiwn ar hyn o bryd.

11.2 Newidiadau i'r Ysgrifenyddiaeth

11.2.1 Nodwyd y byddai Mr Clive Chapman yn ymadael ag ysgrifenyddiaeth y Comisiwn i ddychwelyd i'r Cynulliad ar ôl Nadolig 2004.

11.2.2. Dymunai'r Comisiynwyr gofnodi eu diolchiadau i Mr Chapman am ei gefnogaeth a'r cymorth a roddodd iddynt yn ystod ei amser yn y Comisiwn.

11.2.3 Er bod y Comisiwn yn chwilio am rywun i gymryd lle Mr Chapman, nodwyd ei bod hi'n debygol y byddai goblygiadau o ran gwahanu'r dyletswyddau mewn perthynas â phrynu a chael nwyddau a gwasanaethau.

11.2.4. Cytunwyd y byddai cymorth Adran LGM2, Adran noddi'r Comisiwn, yn cael ei geisio yn ystod y cyfnod pontio hwn, y gobeithid y byddai'n fyr.

11.2.5 Nodwyd bod hysbyseb mewn perthynas â swydd Mr Chapman wedi ei osod o fewn y Cynulliad fel cyfle am secondiad.

11.3 Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

11.3.1 Nodwyd mewn cyfarfod diweddar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, fod y Gweinidog wedi adrodd ei bod hi wedi mynychu ac wedi annerch Cyfarfod Cyffredinol Agored Blynyddol y Comisiwn, a'i bod yn dymuno achub ar y cyfle i ddiolch i'r Comisiwn am ei waith.

11.4 Cynhadledd Llywodraethu Cymru

11.4.1 Mynychodd y Comisiynydd Dennis Roberts Gynhadledd "Llywodraethu Cymru : Deall Perthnasoedd Allweddol" a gynhaliwyd 18 Tachwedd 2004 yng Nghaerdydd, a rhoddodd yr adroddiad canlynol: "Roedd hi'n gynhadledd ddiddorol ac eithaf addysgiadol. Y prif siom oedd nad ymddangosodd dau o'r siaradwyr. Y siaradwyr hyn oedd Elizabeth Raikes o ELWa a Lyn Llewelyn o Un Llais Cymru. Y siom i mi oedd nad oedd y drafodaeth am Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad mor gynhwysfawr ag y gallai wedi bod.

Roedd y siaradwyr eraill o'r radd flaenaf ac yn cynnwys:- John Osmond Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig Chris Freeguard Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Dinas Casnewydd Laura McAllister Aelod o Gomisiwn Richard Gweler isod rai eitemau o'r cyflwyniadau a oedd yn ddiddorol. John Osmond Rhoddwyd arolwg cynhwysfawr o waith Comisiwn [Richard] a'i gasgliadau. Esboniwyd ymateb y Blaid Lafur, gan gynnwys diffinio grymoedd Harri VIII ac Adran 13.2+. Dywedodd hefyd, o dan yr amodau mwyaf ffafriol, yn y trefniant presennol, doedd Llafur ond yn gallu cael hanner y seddau yn y Cynulliad yn eu hetholiad diwethaf. Roedd hi'n debygol yn yr etholiad nesaf felly, y byddai'n bosibl mai Llafur fyddai'r brif blaid ond gyda lleiafrif o'r seddau yn unig, a'i bod yn bosibl y byddai'r pleidiau eraill yn ffurfio clymblaid i gadw Llafur rhag cael pwer. Chris Freeguard Ar ôl cael profiad o Lywodraeth Leol yng Nghymru ac yn Lloegr, nododd fod y berthynas yn hollol wahanol yn y ddwy wlad, a bod yr ymagwedd partneriaeth gydweithredol yng Nghymru yn well o lawer ar gyfer datblygu gwasanaethau lleol. Trafododd hyfywedd y 22 Awdurdod presennol, a phwysleisiodd yr angen i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau yn y dyfodol agos drwy ystwytho gwasanaethau cymorth a gweithio'n agosach â gwasanaethau lleol eraill.

Yn ogystal, gwelodd y canlynol fel datblygiadau i'r dyfodol agos

  1. gosod lefel sylfaenol o wasanaethau ar gyfer awdurdodau,
  2. rôl arweinyddiaeth leol,
  3. a sut gallai'r Awdurdodau Lleol ail-rymuso democratiaeth leol.

Laura McAllister Disgrifiodd y cefndir i Gomisiwn Richard, sut roedd yn gweithio a'i brif gasgliadau. Gan fod llawer o newidiadau cyfansoddiadol yn cael eu gwneud ar hap, roedd hi'n braf cael y cyfle i gasglu tystiolaeth am y sefyllfa bresennol a mapio ffordd bosibl ymlaen. Roedd yn adroddiad unfrydol (safbwynt un aelod wedi ei amodi mewn adroddiad wedi'i atodi) ac roedd hi o'r farn mai newid graddol ydoedd ac nid ymagwedd newydd radical. Y weledigaeth oedd os oes gennych gynulliad, rhowch iddo'r arfau, yna esboniodd y symud o gynulliad i senedd a phwysigrwydd archwilio yn y broses. Pwysleisiodd fod angen yr aelodau ychwanegol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau, yn enwedig archwilio, yn briodol. Nid oedd dyddiad ar yr adroddiad ac os oes problemau o ran ei weithredu ar hyn o bryd, roedd hi'n hyderus y byddid yn ailedrych ar ei argymhellion dros y blynyddoedd i ddod."

12. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

12.1 Rhoddir gwybod am ddyddiad y cyfarfod nesaf yn nes ymlaen.

23/8/2005