Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD 9 TACHWEDD 2004 YNG NGWESTY'R CASTELL MALGWYN, ABERTEIFI

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr

1. Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf

1.1 Cytunwyd ar y rhain dros dro yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau diweddarach.

2. Materion yn Codi

2.1 Materion Technoleg Gwybodaeth

2.1.1 Adroddodd Mr Halsall, o ran uwchraddio'r cyswllt rhwng Ty Caradog a'r Cynulliad, roedd MERLIN bellach yn fwy awyddus i symud ymlaen am y byddai Rheoli yng Ngwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn defnyddio'r swyddfeydd a adawodd y Comisiwn Richard yn ddiweddar. Roedd MERLIN yn bwriadu darparu'r cyswllt ar gyfer Rheoli yng Ngwasanaethau Cyhoeddus Cymru trwy'r blwch cysylltu yn stordy'r Comisiwn. Nid oedd yn hysbys pryd oedd MERLIN yn bwriadu cyflawni'r gwaith angenrheidiol.

2.1.2 Nodwyd y byddai Mr Roberts yn mynychu cwrs hyfforddiant cyllid yn Sunningdale ar 28 Chwefror 2005.

2.1.3 Adroddodd yr Ysgrifennydd fod Carwyn Jones AC yn chwilio am gyrff cyhoeddus i lofnodi'r cynllun lleihau gwastraff ar gyfer gwaredu gwastraff yn effeithiol. Fodd bynnag, gan fod y Comisiwn yn gorff mor fach, ystyriwyd y byddai'n anodd gwneud arbedion sylweddol. class="bodybold">Cytunwyd y dylid cynnwys y mater hwn ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf a rhoi ystyriaeth bellach iddo bryd hynny.

3. Arolwg Cilgerran - Adroddiad Cynigion Drafft

3.1 Adroddodd yr Ysgrifennydd fod y diwygiadau a gynigiwyd yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, ynghyd â'r diwygiadau a awgrymwyd gan yr ymgynghorydd cyfreithiol bellach wedi'u hymgorffori. Nodwyd bod angen cynnwys cyfeiriad at ymgynghoriad y Comisiwn â'r byrddau iechyd lleol yn y paragraff priodol. Cynigiwyd diwygiadau amrywiol pellach gan y Comisiwn a chytunwyd arnynt.

3.2 Cytunwyd ailgyflwyno drafft diwygiedig yn ymgorffori'r diwygiadau hyn i'r ymgynghorydd cyfreithiol ac yna, yn amodol ar unrhyw sylwadau pellach sydd ganddynt, i'w hanfon i'w cyfieithu a'u hargraffu.

4. Llythyr oddi wrth Sue Essex AC am Adroddiad a Chynigion Cwmllynfell

4.1 Nododd y Comisiwn yr ymateb drafft diwygiedig a oedd yn ymgorffori awgrymiadau a wnaed gan yr ymgynghorydd cyfreithiol. Ystyriwyd y dylid rhoi mwy o bwyslais ar nifer o bwyntiau a wnaed yn yr ymateb:

  1. bod y cynnig wedi'i wneud o ganlyniad i gynrychiolaeth Cyngor Cymuned Cwmllynfell;
  2. mai diben y cyfarfod cyhoeddus oedd esbonio natur yr arolwg i'r trigolion lleol a cheisio eu barn;
  3. nad oedd unrhyw beth wedi'i gyflwyno i'r Comisiwn i nodi bod Cyngor Cymuned Cwmllynfell wedi newid ei farn mewn perthynas â'i gynnig gwreiddiol;
  4. bod y Comisiwn yn ystyried y byddai, fwy na thebyg, o fantais gadarnhaol i ddarpariaeth gwasanaethau addysg yn ardal yr arolwg gael ei gweinyddu gan un awdurdod lleol;
  5. bod y Comisiwn yn ymwybodol bod nifer o'r gwrthwynebiadau i'r cynigion wedi codi o ganlyniad i'r cwestiwn o ddarparu gwasanaethau addysg; ac
  6. mewn perthynas â'r cyfeiriad yn llythyr Ms Essex at y Comisiwn yn cyflwyno'u Hadroddiad a'u Cynigion yn agos at ddiwedd tymor y llywodraeth leol, dylid gwneud yn glir, bod y Comisiwn fel corff annibynnol yn gallu cyflwyno cynigion i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg.

4.2 Cytunwyd y byddai testun diwygiedig yr ymateb drafft yn cael ei ddosbarthu dros yr e-bost i Aelodau ei gymeradwyo ac yna ei ailgyflwyno i'r ymgynghorydd cyfreithiol.

5. Cyfarfod â'r Gweinidog ar 6 Rhagfyr

5.1 Ystyriodd y Comisiwn y rhestr o destunau a awgrymwyd i'w trafod a luniwyd gan Mr Roberts. Nodwyd na fyddai hanner awr y Comisiwn gyda'r Gweinidog yn caniatáu trafod yr holl bwyntiau ac felly dylid eu blaenoriaethu fel a ganlyn:

  1. pryd fyddai'r arolwg nesaf o brif ardaloedd yn dechrau;
  2. y posibilrwydd o sefydlu gweithdrefn newydd i alluogi'r Comisiwn i ymgymryd ag arolygon cymunedol;
  3. adroddiad 'Aberystwyth' o gynghorau tref a chymuned; iv) ariannu prosiect mapio ffiniau wardiau cymunedol y Comisiwn;
  4. ymateb y Comisiwn i'r Gweinidog mewn perthynas â fformat yr adroddiadau; a
  5. y sefyllfa bresennol mewn perthynas ag adroddiad Cwm-twrch ac arolwg Blaenhonddan.

5.2 Cytunwyd y byddai'r Ysgrifennydd yn drafftio nodyn briffio sy'n cynnwys y pwyntiau hyn ac yn ei ddosbarthu i'r Comisiwn cyn y cyfarfod.

6. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf - 6 Rhagfyr 2004

6.1 Cytunwyd y byddai'r Comisiwn yn cynnal cyfarfod cyn-cyfarfod am 9.30 a.m. Trefnwyd i'r cyfarfod â'r Gweinidog ddechrau am 11.00 a.m a fyddai'n caniatáu dechrau cyfarfod y Pwyllgor Archwilio am 12.00 p.m.

23/8/2005