Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD 6 HYDREF 2004 YN NHŶ CARADOG, PLAS SAN ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr      

1. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

1.1 Cytunwyd ar y rhain.

2. Materion yn Codi

2.1 Materion Technoleg Gwybodaeth

2.1.1 Nodwyd bod prisiau yn parhau i gael eu disgwyl gan MERLIN/ICT am uwchraddio'r cyswllt data cyflym iawn rhwng Ty Caradog a'r Cynulliad.

2.1.2 Nodwyd bod y Comisiwn yn dal i aros am wybodaeth gan Siemens Business Services ynghylch anfonebau.

2.1.3 Nodwyd bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi anfon ateb at yr Ysgrifennydd gan egluro eu bod yn ymchwilio i'r sefyllfa ynghylch anfonebau Siemens ac y ceid ateb llawn gan y Comisiwn unwaith y byddai'r ymchwiliadau hynny wedi'u cwblhau.

2.2 Adolygiad o ran o'r ffin rhwng cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

2.2.1 Nodwyd bod llythyrau cychwynnol wedi'u hanfon ynghylch yr adolygiad hwn.

2.3 Hyfforddiant Cyfrifeg i Gomisiynwyr

2.3.1 Nodwyd nad oedd cyrsiau wedi'u nodi eto.

3. Adolygiad Cilgerran - Adroddiad Cynigion Drafft

3.1 Cynigiodd y Comisiynwyr ddiwygiadau amrywiol i'r drafft a osodwyd o'u blaenau.

3.2 Cytunwyd bod drafft diwygiedig yn cynnwys y cynhigion hyn yn cael ei gytuno trwy gyfrwng e-bost, gyda'r Ysgrifennydd yn cydlynu'r atebion, a bod y drafft diwygiedig yn cael ei gyflwyno unwaith eto i ymgynghorydd cyfreithiol y Comisiwn.

4. Trefniadau ar gyfer y Cyfarfod Agored Cyffredinol Blynyddol

4.1 Nododd y cyfarfod y trefniadau ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Comisiwn a oedd i'w gynnal ar y diwrnod canlynol.

4.2 Cytunwyd y cyfeirir at y Cyfarfod Blynyddol o dan ei deitl llawn, sef "Cyfarfod Agored Cyffredinol Blynyddol" ar bob gohebiaeth a dogfennaeth yn y dyfodol.

5. Adroddiad Cyllidol - Ail Chwarter 2004/05

5.1 Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad.

6. Cynllun Gweithredol Drafft 2005/06

6.1 Trafodwyd y cynllun.

6.2 Cytunwyd i wneud rhai mân ddiwygiadau cyn i'r cynllun gael ei dderbyn a'i gyflwyno i'r Cynulliad.

7. Polisi Chwythu'r Chwiban

7.1 Nododd y cyfarfod, bapur yn argymell bod staff y Comisiwn yn cael mynediad at drefn gwyno fel rhan o'r adolygiad o bolisi "Chwythu'r Chwiban" y Comisiwn.

7.2 Cytunwyd er bod y diwygiadau i'r Datganiad Rheolaeth a'r Memorandwm Ariannol yn parhau heb fod wedi'u cwblhau, y dylai'r Comisiwn fabwysiadu polisi cwynion Llywodraeth Cynulliad Cymru fel trefn dros dro hyd oni ddatryswyd materion yn ymwneud â dirprwyo pwer.

8. Unrhyw Fater Arall

8.1 Ymgyrch Lleihau Gwastraff yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

8.1.1 Dosbarthwyd copïau o bapur Lleihau Gwastraff Llywodraeth Cynulliad Cymru.

8.1.2 Cytunwyd i drafod ymateb y Comisiwn i'r papur yn ei gyfarfod nesaf.

8.2 Polisi Gofalwyr

8.2.1 Dywedwyd bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi papur yn ddiweddar ynghylch "Polisi Gofalwyr".

8.2.2 Nodwyd nad oedd unrhyw oblygiadau yn y papur hwn i'r Comisiwn ar hyn o bryd.

9. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

9.1 Câi dyddiad y cyfarfod nesaf ei benderfynu unwaith y cadarnhawyd y trefniadau ar gyfer cyfarfod â'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

17/1/2005