COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
CYFARFOD A GYNHALIWYD 8 MEDI 2004 YN NHŶ CARADOG, PLAS SAN ANDREAS, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr
1. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 28 Mai 2004
1.1 Yn dilyn diwygiadau a gynigiwyd, cytunwyd ar y rhain.
2. Materion yn Codi
2.1 Adolygiad o ran o'r Ffin rhwng Cymunedau Blaenhonddan a Dyffryn Clydach ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
2.1.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn parhau i ddisgwyl cyfarwyddyd gan y Cynulliad ynghylch yr adolygiad hwn.
2.2 Hyfforddiant Cyfrifeg i Gomisiynwyr
2.2.1 Mae hyn yn parhau o dan sylw.
3. Adolygiad Cilgerran
3.1 Gwnaeth y cyfarfod archwilio a nodi'r sylwadau a dderbyniwyd ynghyd â'r adroddiad llafar am yr ymweliad â'r safle, yr wythnos flaenorol.
3.2 Nodwyd nad oedd yr un faint o gefnogaeth leol frwd i'r cynhigion ag a gafwyd yn Llandudoch yn ystod yr adolygiad yno.
3.3 Cytunwyd nad oedd digon o dystiolaeth ar hyn o bryd ar sail llywodraeth leol effeithiol a hwylus i gefnogi newid i'r ffin yn yr ardal hon. Yn ogystal cytunwyd nad oedd y ffiniau a gynigir gan Gyngor Cymuned Cilgerran (a gefnogwyd gan Gyngor Sir Penfro) yn dilyn nodweddion amlwg mewn mannau penodol ac felly, byddai angen addasu'r ffin er mwyn iddi gael ei hystyried yn addas fel ffin sirol yn yr ardal hon.
3.4 Nodwyd, fodd bynnag, bod y ffin sirol newydd awgrymedig gyda mân ddiwygiadau yn addas, pe bai digon o dystiolaeth i gefnogi bod y Comisiwn yn cynnal adolygiad o'r ffin yn yr ardal honno.
3.5 Cytunwyd i lunio cynigion drafft yn datgan barn y Comisiwn sef nad oes sail ddigonol na chefnogaeth i newid y ffin yn unol â'r hyn a geisiwyd.
4. Gwarchodaeth T. G.
4.1 Nodwyd y papur a gyflwynwyd a chytunwyd y dylid ei weithredu.
5. Diddordeb Aelodau
5.1 Nodwyd y dylai Aelodau'r Comisiwn gyflwyno unrhyw newidiadau i gofrestr diddordeb aelodau.
6. Ystadegau am y Wefan
6.1 Nodwyd bod safle'r Comisiwn www.cflll-cymru.gov.uk wedi bod yn brysur iawn yn ystod y chwarter yr adroddwyd yn ei gylch.
7. Cyfarwyddyd y Cynulliad - Bracla a Choety Uchaf
7.1 Nodwyd y cafwyd Cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch cais i gynnal adolygiad cymunedol rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf.
7.2 Cytunwyd y byddid yn anfon y llythyrau cychwynnol yn ymwneud â'r adolygiad cymunedol cyn Cyfarfod Agored Cyffredinol Blynyddol y Comisiwn.
8. Diwygio'r CCNC
8.1 Nodwyd yr adroddiad a gylchredwyd.
9. Adnewyddu Adeiladau - diweddariad ar lafar
9.1 Nodwyd bod Is-adran Adnoddau Dynol (Cyfleusterau) Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar ran y Comisiwn, yn archebu'r gwaith ailaddurno ar gyfer Swyddfeydd y Comisiwn.
9.2 Nodwyd bod contractiwr, trwy gytundeb â Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi dechrau paratoi cynigion ar gyfer adnewyddu swyddfeydd y Comisiwn.
10. Unrhyw Fater Arall
10.1 Cysylltiad y Gweinyddwr â'r Cynulliad
10.1.1 Nodwyd bod oedi o hyd gyda darparu cyswllt data cyflym iawn rhwng y Cynulliad a Swyddfeydd y Comisiwn.
10.1.2 Nodwyd mai'r rheswm am yr oedi presennol oedd fod y Comisiwn yn aros am gostau oddi wrth MERLIN/ICT ynglyn ag uwchraddio'r cyswllt data presennol.
10.2 Anfonebau Siemens
10.2.1 Nodwyd na chafwyd dadansoddiad manwl o anfonebau blaenorol Siemens, fel y gofynnwyd amdanynt, yn dilyn ymweliad diweddar Swyddfa Archwilio Genedlaethol (Cymru).
10.2.2 Cytunwyd pe na cheid ymateb yn fuan iawn, y dylid ystyried anfon llythyr at y Gweinidog.
10.3 Rheoli Risg
10.3.1 Nodwyd bod adolygiad wedi'i gynnal o Gofrestr Risg y Comisiwn.
10.3.2 Nodwyd hefyd yr adroddir am ganfyddiadau'r adolygiad i Bwyllgor Archwilio nesaf y Comisiwn.
11. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
11.1 Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Swyddfeydd y Comisiwn am 2pm ddydd Mercher 6 Hydref 2004.
17/1/2005
