COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
CYFARFOD A GYNHALIWYD DDYDD GWENER 28 MAI 2004 YN NHŶ CARADOG, PLAS SAN ANDREAS, CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, MrClive Chapman, Mr Dave Carr
1. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd 1 Mawrth 2004
1.1 Cytunwyd ar y rhain.
2. Materion yn Codi
2.1 Adolygiad o ran o'r Ffin rhwng Cymunedau Blaenhonddan a Dyffryn Clydach ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
2.1.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn parhau i ddisgwyl cyfarwyddyd gan y Cynulliad ynghylch yr adolygiad hwn.
2.2 Adolygiad o Ran o'r Ffin Rhwng Cymunedau Bracla A Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
2.2.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn parhau i ddisgwyl cyfarwyddyd gan y Cynulliad ynghylch yr adolygiad hwn.
2.3 Cael Gwared ar Offer TG sy'n weddill i anghenion
2.3.1 Nodwyd bod caniatâd wedi'i gael gan Swyddfa Gydymffurfiaeth y Cynulliad i gael gwared ar yr offer. Datganodd aelodau'r cyfarfod eu diolchgarwch i Mr Roberts am hwyluso cael gwared ar yr offer.
3. Adnewyddu Adeiladau (diweddariad llafar)
3.1 Ceisiwyd cael cyngor gan isadran noddi'r Comisiwn ynghylch y posibilrwydd o allu defnyddio un o gontractau yn ôl y gofyn y Cynulliad. Parhau i ddisgwyl am ateb i'r cais hwn oedd y Comisiwn.
3.2 Nodwyd y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn dechrau paratoi manyleb o ran y gofynion ar gyfer yr adnewyddu.
4. Adolygiad Cwmllynfell - Sylwadau Pellach
4.1. Cais am Adolygiad - Gwauncaegurwen
4.1.1 Nodwyd bod llythyr wedi'i dderbyn wrth Mrs Winfield o blaid Ryddfrydol Cymru yn gwneud cais am i'r Comisiwn adolygu ardal Gwauncaegurwen mewn perthynas â chanfyddiadau cynigion y Comisiwn am Gwmllynfell a Chwm-twrch. + 4.1.2 Cytunwyd i ohirio unrhyw benderfyniad neu ymgynghoriad mewn perthynas â'r cais hwn hyd oni wyddys beth fydd canlyniadau ystyriaethau'r Cynulliad ynghylch cynigion y Comisiwn am y ffin rhwng Siroedd Caerfyrddin a Phowys a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ardal Cymuned Cwmllynfell.
4.2 CBS Castell-nedd Port Talbot - ni chyhoeddwyd y sylwadau
4.2.1 Cafwyd llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn datgan nad oedd sylw a oeddynt wedi'i anfon i'r Comisiwn ynghylch 'Cwmllynfell' wedi cael ei gyhoeddi yng nghynigion terfynol y Comisiwn.
4.2.2 Nodwyd fod ateb wedi'i anfon at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymddiheuro am yr esgeulustra, ond yn esbonio bod y llythyr o dan sylw wedi cael ei ystyried gan y Comisiwn, ond na chafodd ei gynnwys yn yr adroddiad trwy ddamwain. Er i'r camgymeriad gael ei nodi, derbyniwyd bod y dystiolaeth a ddarparwyd yn ddigon sylweddol i effeithio ar ystyriaethau a chynigion terfynol y Comisiwn.
4.3. Cyngor Cymuned Cwmllynfell - y ffigurau anghywir ynghylch cynghorwyr
4.3.1 Roedd Clerc Cyngor Cymuned Cwmllynfell wedi ysgrifennu i gwyno am fod y ffigur anghywir ynghylch nifer y Cynghorwyr Cymunedol ar gyfer eu Cyngor wedi'i nodi yn y Cynigion Terfynol.
4.3.2 Nodwyd bod ateb wedi'i anfon at Glerc Cyngor Cymuned Cwmllynfell yn esbonio bod y ffigurau a ymddangosodd yn y Cynigion Terfynol wedi'u rhoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Felly cyhoeddodd y Comisiwn y wybodaeth gan dybio eu bod wedi dod o ffynhonnell ddibynadwy.
4.4. Mr Page - Rhiwfawr
4.4.1 Ysgrifennodd Mr Page at y Comisiwn ynglyn ag adolygiad a wardio Rhiwfawr a Chwmllynfell gan nodi pam y dylent gael eu trin yn unedau ar wahân. Gan fod y cynigion eisoes wedi cael eu cyflwyno i'r Cynulliad, anfonwyd y llythyr i'r Cynulliad er mwyn iddo i'w ystyried.
4.5. Y Cynghorydd Llewellyn - effaith gronnol y cynigion
4.5.1 Roedd y Cynghorydd Llewellyn wedi sgrifennu at y Comisiwn gan dynnu sylw at y posibilrwydd pe bai'r Cynulliad yn mabwysiadu'r cynigion ynghylch Cwmllynfell, yna fe fyddai nifer bach o dai yn Rhiwfawr yn aros yng Nghastell-nedd Port Talbot a byddent yn hygyrch i Gastell-nedd Port Talbot ond trwy Bowys neu Sir Gaerfyrddin.
4.5.2 Cytunwyd y byddai hyn, pe derbynnid cynigion y Comisiwn, yn amgylchiad anffodus, a chytunwyd y dylid aros am ddoethineb y Cynulliad ynglyn â'r mater hwn.
5. Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2003-04
5.1 Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn mireinio cynnwys ei rhagair i'r Adroddiad.
5.2 Nodwyd bod y Comisiwn wedi'i wneud yn glir yn ei ddogfennaeth ei fod yn fwy na pharod i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.
5.3 Nodwyd bod Memorandwm cytundeb i ganiatáu i'r Ysgrifenyddiaeth gael ei rhannu â Chomisiwn Ffiniau (Seneddol) i Gymru wedi cael ei lofnodi gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyn Adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a'r Rhanbarthau, a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Comisiwn Ffiniau Cymru/Comisiwn Ffiniau Lloegr. Cytunwyd y dylid diwygio'r Adroddiad Blynyddol i adlewyrchu hyn.
5.4 Cytunwyd hefyd y dylid cynnwys cyfraniad system "OSIRIS" y Cynulliad at effeithlonrwydd y Comisiwn yn yr adroddiad.
6. Adroddiad blynyddol ar Gynllun yr Iaith Gymraeg
6.1 Yn amodol ar fân ddiwygiadau, cytunwyd i fabwysiadu'r adroddiad ar Gynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn.
7. Adroddiad Ariannol - Diwedd y Flwyddyn 2003/04
7.1 Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad ariannol.
8. Unrhyw Fater Arall
8.1 Cyfarfod Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
8.1.1 Nodwyd bod y Cadeirydd wedi mynychu cyfarfod diweddaraf Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus y Cynulliad.
8.1.2 Nodwyd ni ofynnwyd am sylwadau'r Cadeirydd er mai ffiniau oedd y testun. Nodwyd hefyd na chydnabuwyd presenoldeb y Cadeirydd yn y Pwyllgor.
8.1.3 Nodwyd gyda gofid, bod swyddogion yn y Cynulliad wedi teimlo bod angen anfon ymddiheuriad i'r Cadeirydd oherwydd na chydnabuwyd ei phresenoldeb yn y Pwyllgor gan ei aelodau.
8.1.4 Cytunwyd bod y Comisiwn yn adolygu cyflwyniad ei adroddiad blynyddol a chyfrifon i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.
8.2 Arolygiad Gwasanaethau Cyhoeddus
8.2.1Nodwyd bod Ann Jones AC wedi ysgrifennu at y Comisiwn i'w wahodd i gyfrannu tuag at broses o Arolygiadau Gwasanaethau Cyhoeddus yn Awdurdodau Lleol Cymru.
8.2.2 Cytunwyd nad oedd y manylion a nodwyd ar gyfer yr arolygiad, o fewn cylch gorchwyl y Comisiwn ac y dylid gwrthod y cynnig.
8.3 Hyfforddiant Cyfrifeg
8.3.1 Cytunwyd i ymchwilio i ddarpariaeth hyfforddiant Cyfrifo gan y Llywodraeth ar gyfer Comisiynwyr er mwyn eu cynorthwyo i ddeall y Cyfrifon Blynyddol.
8.4 Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
8.4.1 Nodwyd y byddai Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2004 yn cael ei chynnal ddydd Gwener 10 Medi er na chafwyd gwybodaeth ynglyn â'r man cyfarfod na'r agenda hyd yn hyn.
8.4.2 Cytunwyd pan fyddai'r man cyfarfod a'r agenda wedi'u trefnu, yna byddai'r Comisiwn yn penderfynu pa gynrychiolaeth a fyddai'n anfon i'r gynhadledd, os o gwbl.
9. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
9.1 Cynhelir y cyfarfod llawn nesaf naill ai ar 9 neu 10 Medi 2004 gan ddibynnu ar y trefniadau ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2004.
9.2 Nodwyd bod Pwyllgor Archwilio wedi'i drefnu ar gyfer 17 Gorffennaf 2004, ac felly y gellid ymdrin ag unrhyw faterion brys ar y cyd â'r cyfarfod hwnnw.
17/1/2005
