Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD DDYDD LLUN 1 MAWRTH 2004 YN NHŶ CARADOG, PLAS SAN ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Clive Chapman

1. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2004

1.1 Yn amodol ar fân ddiwygiadau, cytunwyd ar y cofnodion.

2. Materion yn Codi

2.1 Adolygiad o ran o'r Ffin rhwng Cymunedau Blaenhonddan a Dyffryn Clydach ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

2.1.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn parhau i ddisgwyl cyfarwyddyd gan y Cynulliad ynghylch yr adolygiad hwn.

2.2 Adolygiad o Ran o'r Ffin Rhwng Cymunedau Bracla A Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

2.2.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn parhau i ddisgwyl cyfarwyddyd gan y Cynulliad ynghylch yr adolygiad hwn.

2.3 Cael Gwared ar Offer TG dros ben

2.3.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn parhau i ddisgwyl caniatâd gan Swyddfa Gydymffurfiaeth y Cynulliad i gael gwared ar yr offer.

3. Cynllun Gweithredu 2004/05

3.1 Nodwyd bod y cynllun yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn i'w gymeradwyo cyn iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol i Is-adran Noddi y Comisiwn, yn y Cynulliad.

3.2 Cytunwyd y dylai'r cynllun gyfeirio at ddau gais am adolygiadau a wrthodwyd ar sail cyfranoldeb.

3.3 Nodwyd yn y Cynllun bod swydd wag yn y Comisiwn, a phenderfynwyd mynd i'r afael a'r sefyllfa fel mater o frys.

4. Prif ffrydio'r Gymraeg

4.1 Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i lunio i'w ddarllen a'i weithredu gan Gyrff Cyhoeddus Gweithredol a Noddir gan y Cynulliad.

4.2 Nodwyd mai er gwybodaeth yn unig y darparwyd yr adroddiad ar yr adeg hon.

4.3 Nodwyd y dylid ymgorffori strategaeth ar gyfer prif ffrydio'r Gymraeg yng nghynllun gweithredu 2005-2006.

5. Adnewyddu Adeiladau

5.1 Nodwyd o dan delerau'r cytundeb prydles rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gyda'r Swyddfa Gymreig gynt) a landlordiaid yr adeiladau sy'n swyddfeydd i'r Comisiwn, y dylid eu hailaddurno bob pum mlynedd.

5.2 Nodwyd bod y gwaith o ailaddurno'r adeiladau sy'n swyddfeydd i'r Comisiwn yn hwyr yn ôl yr amserlen hon.

5.3 Nodwyd hefyd nad oedd y dodrefn a ddefnyddid gan staff y Comisiwn bellach yn cydymffurfio â safonau diwydiant ynghylch eu defnyddio ar gyfer Technoleg Gwybodaeth.

5.4 Cytunwyd i gael prisiau ar gyfer ailaddurno ac adnewyddu a llunio amserlen briodol yn sgil trafod y mater gydag asiantau'r landlordiaid a'r Cynulliad.

5.5 Cytunwyd y dylai'r gwaith gael ei wneud yn ystod blwyddyn ariannol 2004-2005.

6. Polisi Corfforaethol ynghylch Rheoli Cofnodion

6.1 Nodwyd bod y Comisiwn wedi drafftio cynllun o'r blaen i'w gymeradwyo, a oedd yn seiliedig ar gynllun gwreiddiol a gyflwynwyd gan Gynulliad Cymru.

6.2 Nodwyd hefyd bod cynllun byrrach diwygiedig wedi cael ei gynhyrchu'n ddiweddar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a bod polisi'r Comisiwn wedi'i ailddrafftio er mwyn dilyn arweiniad ei Adran Noddi.

6.3 Cytunwyd i fonitro datblygiadau'r system "MERLIN" newydd er mwyn asesu a allai system newydd y Cynulliad ar gyfer rheoli cofnodion gael ei haddasu i'w defnyddio gan y Comisiwn. Yr amserlen ar gyfer gweithredu'r system newydd gan y Cynulliad oedd yn y 12 - 18 mis nesaf.

7. Unrhyw Fater Arall

7.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.

8. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

8.1 Cynhelir y cyfarfod nesaf yn swyddfa'r Comisiwn ddydd Gwener 28 Mai.

17/1/2005