Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD DDYDD IAU 22 IONAWR 2004 YN NHŶ CARADOG, PLAS SAN ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Clive Chapman, Mr Dave Carr

1. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2003

1.1 Yn amodol ar fân ddiwygiadau, cytunwyd ar y rhain.

2. Materion yn Codi

2.1 Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

3. Adolygiad o'r Ffiniau rhwng Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ardal Cwmllynfell - Drafft Terfynol yr Adroddiad

3.1 Cytunwyd bod y Comisiwn yn fodlon cyflwyno ei argymhellion i'r ymgynghorwyr cyfreithiol ar gyfer sylwadau yn dilyn newidiadau a argymhellwyd i ddrafft terfynol yr adroddiad.

3.2 Os na cheir unrhyw sylwadau gan yr ymgynghorwyr cyfreithiol, gobeithir y gellir cyhoeddi'r Adroddiad Terfynol erbyn diwedd mis Mawrth 2004.

4. Adolygiad o ran o'r Ffin rhwng Cymunedau Blaenhonddan a Dyffryn Clydach ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot - llythyr i'r Cynulliad (er gwybodaeth)

4.1 Nodwyd bod y Cynulliad yn disgwyl cyngor cyfreithiol cyn ymateb i gais y Comisiwn am gyfeiriadau o ran yr adolygiad arfaethedig hwn.

5. Astudiaeth Ymchwil i Rôl, Swyddogaethau a Photensial Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru yn y dyfodol

5.1 Nododd y Comisiwn, gyda siom, nad ymgynghorwyd ag ef am y ddogfen, yn y cyfnod drafft na'r cyfnod terfynol. Roedd yr adroddiad wedi cyfeirio at y Comisiwn ac roedd yn cynnwys rhai gwallau sylfaenol wrth gyfeirio at swyddogaethau'r Comisiwn.

5.2 Cytunwyd i ymateb i'r llythyr a gan fynegi siom y Comisiwn at gael ei hepgor o'r ymarfer yn flaenorol, ac amlygu'r meysydd hynny lle roedd yn fwyaf defnyddiol i'r Comisiwn wneud sylw

6. Amserlen Adolygiadau

6.1 Cytunwyd i addasu'r amserlen i rai o'r adolygiadau arfaethedig i ystyried safle cynhaliol y Cynulliad wrth iddo ddisgwyl cyngor cyfreithiol o ran yr adolygiadau cymunedol arfaethedig ym Mwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.

7. Arolwg Gwefannau Bwrdd yr Iaith Gymraeg

7.1 Croesawodd y Comisiwn yr arolwg gwefannau, a chytunodd i ymateb i'r Bwrdd, gan nodi cynllun i weithredu'r argymhellion a gafwyd. Cytunodd Mr Davies a Mr Roberts i wirio defnydd yr iaith Gymraeg ar dudalennau cyffredinol y wefan

8. Offer TG dros ben

8.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn dal i gadw eitemau o offer TG yr ystyriwyd eu bod yn ddarfodedig.

8.2 Nodwyd bod sefydliad elusennol ym Mhorthmadog yn derbyn pob math o offer TG i'w hadnewyddu ar gyfer eu defnyddio gan y difreintiedig.

8.3 Cytunwyd y dylid ceisio caniatâd gan y Cynulliad i gael gwared ar y TG dros ben yn y modd hwn.

9. Adroddiad Cyllideb - 3ydd Chwarter 2003/04

9.1 Cytunwyd i dderbyn adroddiad y 3ydd chwarter.

10. Gwariant Amcanol

10.1 Nodwyd y dyfarnwyd dyraniad cyllid gan adran nawdd y Comisiwn i'r Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2004-2005.

10.2 Nodwyd hefyd bod gwariant amcanol y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol honno £17,000 yn is na'r hyn a ddyrannwyd.

10.3 Cytunwyd i'r Comisiwn dderbyn y dyraniad o'r adran nawdd, gan sicrhau y byddai'n rhaid cyflenwi'r gwariant amcanol ar gyfer 2005-2006 i'r Cynulliad gyda'r Cynllun Gweithredol, i sicrhau dyraniad mwy perthnasol i'r Comisiwn ar gyfer y cyfnod hwnnw.

11. Unrhyw Faterion Eraill

11.1 Adroddiad Ymarferion Tendro

11.1.1 Nodwyd bod ymarferion tendro ar gyfer darparu gwasanaethau Argraffu a Chyfreithiol wedi eu cwblhau a bod ymarfer wedi dechrau i ddarparu peiriant llungopïo, a bod tendr ar gyfer y Gwasanaethau Cyfrifeg ar fin dechrau.

11.1.2 Cytunwyd y câi profion ar gyfer y tendr Iaith Gymraeg sydd ar droed eu darparu gan Mr Davies a Mr Roberts.

11.1.3 Cydnabuwyd, o ran yr ymarfer tendro Iaith Gymraeg, na ellir cyflwyno dogfennau penodol sydd eisoes wedi eu cyfieithu I'w defnyddio ar gyfer y prawf cyfieithu gan y byddai deiliaid presennol y contract yn cyflwyno cais ar gyfer y gwasanaeth. Cytunwyd, gan y byddai cryn dipyn o'r ddogfennaeth yn cael ei chyhoeddi'n ddwyieithog, y byddai gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfieithu gweddill y ddogfennaeth sydd yn Saesneg yn unig yn barod ar gyfer yr ymarfer nesaf.

11.2 Archwilio

11.2.1 Nodwyd y cafwyd y cytundeb lefel gwasanaeth (CLG) gan Wasanaeth Archwilio Mewnol (GAM) Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafwyd hefyd gopi o'u strategaeth archwilio ar gyfer y Comisiwn.

11.2.2 Nodwyd bod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cymeradwyo CLG y GAM, a fyddai yn ei le o 1 Ebrill 2004 ymlaen.

11.3 Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

11.3.1 Nodwyd bod Gweinidog y Cynulliad dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dweud wrth Bwyllgor y Cynulliad dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus y dylid amserlennu'r Comisiwn yn ei raglen ddrafft, i drefnu cyfarfod rhwng y ddau gorff.

12. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

12.1 Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer dydd Llun 1 Mawrth.

7/6/2004