Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD DDYDD IAU 27 TACHWEDD 2003 YN NHŶ CARADOG, PLAS SAN ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Clive Chapman, Mr Dave Carr

1. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd 7 Hydref 2003

1.1 Cytunwyd ar y rhain

2. Materion yn Codi

2.1 Safle ar gais Cyfeiriadau o ran yr Adolygiad Arfaethedig rhwng Rhan o'r Ffin rhwng Bracla a Choety Uwch ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

2.1.1 Nodwyd yr hysbyswyd y Comisiynwyr, mewn cyfarfod rhwng y Comisiynwyr a'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, bod gwaith papur ynglyn â chais y Comisiwn gyda Chyfreithwyr y Cynulliad ar hyn o bryd.

2.2 Adolygiad o Ran o'r Ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Cilgerran

2.2.1 Cytunwyd y caiff y safle presennol o ran yr Adolygiad hwn, gan gynnwys yr amserlen, ei archwilio yn y cyfarfod nesaf.

3. Adolygiad o'r Ffiniau rhwng Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ardal Cwmllynfell - Drafft yr Adroddiad Terfynol

3.1 Yn dilyn sylwadau a wnaed gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a thrafodaeth ddilynol ynglyn â fformat adroddiadau'r Comisiwn, cytunwyd i ailddrafftio'r adroddiad hwn gan ddefnyddio'r fformat diwygiedig, gan roi mwy o ddibyniaeth ar atodiadau i gynnal y wybodaeth gefnogol a chanolbwyntio ar yr asesu a'r penderfyniadau ym mhrif gorff yr adroddiad.

3.2 Cytunwyd ymhellach y dylid ailysgrifennu adroddiad terfynol yr adroddiad uchod yn y fformat diwygiedig, ac y dylai'r Asesiad roi mwy o bwyslais ar yr agweddau hynny, o wasanaethau lywodraeth leol gyfleus ac effeithiol, a ddylanwadodd ar y Comisiwn o ran eu hargymhellion ar gyfer newid.

3.3 Dylai'r Comisiwn adolygu priodoldeb ei argymhellion ar gyfer newid yn y cyfarfod nesaf.

4. Adroddiad Cyllideb - Ail Chwarter 2003/04

4.1 Nodwyd yr adroddiad.

5. Adolygiad o ran o'r Ffin rhwng Cymunedau Blaenhonddan a Dyffryn Clydach ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

5.1 Cytunwyd i geisio cyfeiriadau gan Weinidog y Cynulliad dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus am y mater hwn.

6. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru: Pwerau ac Awdurdod

6.1 Cytunwyd y dylai'r Comisiynwyr gyflwyno eu barnau i Ysgrifennydd y Comisiwn, a fydd yn coladu ac yn cyflwyno'r barnau hynny ar eu rhan

7. Addewid Cyflogwyr am Sgiliau Sylfaenol

7.1 Cytunwyd i fabwysiadu a chefnogi safle'r Cynulliad ar y mater hwn

8. Unrhyw Faterion Eraill

8.1 Cyfarfod â'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

8.1.1 Adroddodd y Cadeirydd bod cyfarfod y Comisiynwyr â'r Gweinidog wedi bod yn hynod ddefnyddiol, gan egluro'r safle presennol ar adroddiadau a gyflwynwyd gan y Comisiwn, a'r papur ymgynghori cyfredol a gyhoeddwyd yn ddiweddar am swyddogaethau a gwella Cynghorau Tref a Chymuned.

8.2 Cyfarfod Cadeiryddion Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad gyda Phrif Weinidog Cymru

8.2.1 Adroddodd y Cadeirydd am y prif bynciau o ddiddordeb i'r Comisiwn a godwyd yn y cyfarfod, gan gynnwys cyfrifoldebau ariannol, yr Agenda Strategol "Cymru: Gwlad Well" a gyhoeddwyd yn ddiweddar a'r Fenter Caffael Lleol.

8.3 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Comisiwn 2004

8.3.1 Nodwyd bod y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno y byddai'r Comisiwn yn ei gwahodd i siarad yn y cyfarfod, fel y byddai'r dyddiad sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael ei nodi yn ei dyddiadur.

8.3.2 Cytunwyd y bydd Cyfarfod Blynyddol 2004 yn cael ei gynnal ar fore dydd Iau 7 Hydref 2004 ac yn digwydd yng Ngwesty'r Parc Treftadaeth, Trehafod yn y Rhondda. Cytunwyd y bydd lluniaeth, gan gynnwys bwffe, yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod. Ceisir siaradwyr gwadd, yn ogystal â'r Gweinidog, yn agosach at adeg y cyfarfod.

9. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

9.1 Cytunwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 22 Ionawr 2004.

7/6/2004