COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
CYFARFOD A GYNHALIWYD DDYDD MAWRTH 7fed HYDREF, 2003 YNG NGWESTY BEAUFORT PARK, YR WYDDGRUG, SIR Y FFLINT
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Dave Carr, Mrs C Thomas
1. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 3ydd Medi, 2003
1.1 Cymeradwywyd y rhain yn amodol ar fân newidiadau.
2. Materion yn Codi
2.1 Y Newyddion Diweddaraf ar Dechnoleg Gwybodaeth
2.1.1 Nodwyd nad oedd problem y gwasanaethydd wedi'i ddatrys o hyd.
2.1.2 Cafwyd ar ddeall na allai Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud dim i ddatrys y broblem, gan fod y mater yn cael ei ystyried gan landlord Tŷ Caradog ar hyn o bryd.
2.1.3 Cytunwyd nad oedd unrhyw beth pellach y gellid ei wneud heblaw am aros am gymeradwyaeth y landlord.
2.2 Cerdyn Credyd Corfforaethol
2.2.1 Nodwyd bod y Comisiwn wedi derbyn dau Gerdyn Caffael y Llywodraeth ac y câi Cyfarwyddiadau desg eu llunio i egluro sut i ddefnyddio'r cardiau.
2.3 Arolwg o Ran o'r Ffin Rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
2.3.1 Nodwyd bod y Cynulliad wedi penderfynu cyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal arolwg o gymunedau Bracla a Choety Uchaf.
2.3.2 Cafwyd ar ddeall bod y Gweinidog wedi anfon llythyrau y diwrnod hwnnw at y cynghorau perthnasol i ymgynghori â hwy ar y cyfarwyddiadau drafft.
2.4 Tendro am Wasanaethau Cyfreithiol
2.4.1 Nodwyd bod hyn wedi'i gyflawni.
2.5 Arolwg o'r Ffiniau rhwng Sir Gaerfyrddin, Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwmllynfell
2.5.1 Nodwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot wedi cyflwyno sylw newydd a fyddai'n cael ei drafod o dan Eitem 4 ar yr agenda.
2.6 Arolwg o'r Ffiniau rhwng Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan ym Mwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot
2.6.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn dal i aros am gyfarwyddiadau gan y Cynulliad.
2.7 Cais i Gynnal Arolwg o'r Ffiniau rhwng Ceredigion a Sir Benfro yng Nghymunedau Llandudoch a Chilgerran
2.7.1 Ym marn y Comisiwn ni ddylai'r arolwg hwn ddechrau tan ar ôl yr etholiadau Llywodraeth Leol nesaf.
2.7.2 Cytunwyd y dylai'r arolwg ddechrau yn ystod haf 2004 ac y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn paratoi amserlen arfaethedig erbyn cyfarfod nesaf y Comisiwn.
2.8 Cyfarfod â'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
2.8.1 Nodwyd y byddai'r cyfarfod hwn yn cael ei gynnal ar 27ain Tachwedd, 2003 am 9.00 am.
2.9 Cyflwyniad i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
2.9.1 Nodwyd bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi penderfynu peidio â chynnal cyfarfod gyda'r Comisiwn eleni oherwydd ei amserlen brysur.
2.9.2 Fodd bynnag, nodwyd hefyd y dylai aelodau'r Pwyllgor fod yn ymwybodol eisoes o gynnwys Adroddiad Blynyddol y Comisiwn 2002/3 gan fod copi wedi'i anfon at bob Aelod o'r Cynulliad ac at bob Aelod Seneddol.
2.10 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2004
2.10.1 Nodwyd ei bod yn debygol y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.
3. Arolwg o'r ffin rhwng Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach yn Sir Powys - Adroddiad ar Gynigion
3.1 Cytunodd y Comisiwn i dderbyn y drafft o'r Cynigion Terfynol ar gyfer yr arolwg o'r ffin rhwng cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach.
4. Arolwg o'r ffiniau rhwng Sir Gaerfyrddin, Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwmllynfell - sylw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot
4.1 Cytunwyd i dderbyn sylw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot a dderbyniwyd gan y Comisiwn ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori.
4.2 Cynhaliwyd trafodaeth fanwl ar gynnwys sylw yr Awdurdod, ond ar ôl ystyriaeth briodol cytunwyd i gadarnhau penderfyniad blaenorol y Comisiwn i fabwysiadu'r cynigion a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Cwmllynfell fel sylw ffurfiol.
4.3 Cytunwyd y byddai adroddiad ar y Cynigion Terfynol yn cael ei baratoi er mwyn ei gymeradwyo yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn.
5. Unrhyw Fater Arall
5.1 Cyfarfod Prif Weithredwyr cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad gyda'r Prif Weinidog ar 21ain Tachwedd, 2003
5.1.1 Cafwyd ar ddeall y dylai staff yr Ysgrifenyddiaeth roi gwybod am unrhyw eitemau i'w cynnwys ar yr Agenda.
5.1.2 Mynegwyd pryder y dylid dosbarthu papurau'r cyfarfod mewn da bryd. Fodd bynnag, yn dilyn derbyn llythyr gan yr Ysgrifennydd ynglŷn â dosbarthu'r Agendâu yn hwyr, nodwyd bod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi addo y byddai papurau'n cael eu dosbarthu cyn gynted â phosib yn y dyfodol.
5.2 Swyddfeydd Rhanbarthol
5.2.1 Nodwyd ymrwymiad y Cynulliad i symud swyddfeydd allan o Gaerdydd.
5.2.2 Cafwyd ar ddeall nad oedd yn rhaid i'r Comisiwn fod wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
5.2.3 Fodd bynnag, cytunwyd na fyddai symud yn ymarferol. Byddai symud i un o swyddfeydd rhanbarthol y Cynulliad yn peryglu annibyniaeth y Comisiwn. Byddai'r ffaith bod prydles Tŷ Caradog yn parhau yn peri problem hefyd.
5.3 Penodi Adam Peat yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
5.3.1 Nodwyd bod Mr Peat yn symud o'i swydd fel Cyfarwyddwr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant y Cynulliad i'r swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sydd newydd ei chreu.
5.3.2 Cytunwyd y dylai'r Comisiwn anfon llythyr yn llongyfarch Mr Peat.
6. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
6.1 Caiff cyfarfod nesaf y Comisiwn ei gynnal yn Nhŷ Caradog ar 27ain Tachwedd, 2003 am 10.30am.
19/3/2003
