Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD DDYDD MERCHER 3ydd MEDI 2003 YN NHŶ CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Clive Chapman, Mr Dave Carr

1. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 20fed Mehefin 2003

Cymeradwywyd y rhain

2. Materion yn codi

2.1 Y Newyddion Diweddaraf am Dechnoleg Gwybodaeth

2.1.1 Nodwyd nad oedd problem y gwasanaethydd wedi'i ddatrys o hyd. Nid oedd hyn wedi amharu ar waith y Comisiwn hwn yn ormodol oherwydd nifer isel y mapiau y mae angen eu cynhyrchu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, amharwyd ar waith y Comisiwn Ffiniau i Gymru o ganlyniad i'r trosglwyddiad araf o ddata o'r gwasanaethydd i'r argraffyddion priodol.

2.1.2 Cafwyd ar ddeall mai'r rheswm am yr oedi presennol oedd bod y Cynulliad yn aros am ganiatâd oddi wrth berchennog Tŷ Caradog.

2.1.3 Cytunwyd y dylid ystyried y posibilrwydd o ysgrifennu llythyr ar y cyd oddi wrth Gadeiryddion y ddau Gomisiwn i'r rhai dan sylw wrth i'r oedi o ran trosglwyddo'r gwasanaethydd barhau.

2.2 Cerdyn Credyd Corfforaethol

2.2.1 Nodwyd bod y cais am Gerdyn Caffael y Llywodraeth wedi'i wneud, a'n bod yn awr yn aros i'r cerdyn gyrraedd.

2.3 Arolwg o Ran o'r Ffin Rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

2.3.1 Nodwyd bod y Comisiwn yn dal i aros am benderfyniad ynglyn â ph'un a fyddai'n derbyn cyfarwyddyd yn gofyn iddo gynnal yr arolwg yn ardal Cymunedau Bracla a Choety Uchaf.

2.3.2 Cytunwyd bod rhai materion penodol wedi'u codi gan y cais am arolwg Bracla/Coety Uchaf, a chytunwyd hefyd bod angen system fwy syml i benderfynu pryd y gallai'r Comisiwn gynnal arolwg pan fydd Sir yn nodi nad oes ganddi'r adnoddau i wneud hynny.

2.3.3 Cytunwyd y dylid codi'r materion hyn gyda'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus pan fydd y Comisiynwyr yn cwrdd â hi yn hwyrach y flwyddyn hon.

2.4 Tendr ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol

2.4.1 Nodwyd bod y Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi dilysu'r contract ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaeth cyfreithiol.

3. Arolwg o'r Ffiniau rhwng Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot yn ardal Cwmllynfell - Y Diweddaraf am y Cyfarfod

3.1 O ganlyniad i'r ymateb a gafwyd oddi wrth drigolion yr ardal, cytunwyd y bu'r gwaith o ysgrifennu at bob berchennog ty yn ardal yr arolwg yn llwyddiant.

3.2 Oherwydd hyn, ac yn amodol ar beidio â derbyn unrhyw resymau cadarn oddi wrth y Cyngor, cytunwyd y dylid parhau i ddrafftio'r adroddiad terfynol, gan gynnwys trosglwyddo'r eiddo.

4. Arolwg o'r Ffiniau rhwng Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan ym Mwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot

4.1 Ar ôl derbyn cyngor, cytunwyd y dylid ceisio cyfarwyddyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn parhau gyda'r arolwg hwn.

5. Cais i gynnal Arolwg o'r Ffiniau rhwng Ceredigion a Sir Benfro yng Nghymunedau Llandudoch a Chilgerran

5.1 Nodwyd bod yr ymgynghoriad gyda'r awdurdodau priodol o ran yr arolwg arfaethedig wedi'I gwblhau.

5.2 Cytunwyd y dylid cynnwys yr arolwg arfaethedig yn rhaglen y Comisiwn ar ôl ystyried yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan yr Awdurdodau ac argymhellion y Comisiwn yn ei gynigion terfynol ar gyfer yr arolwg o'r ffin rhwng Sir Geredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch.

6. Llythyr oddi wrth Eirwen E Thomas yn gwneud cais am arolwg o'r Rhanbarthau Etholiadol ym Mhentref Llanedi, Pontarddulais

6.1 Nodwyd y llythyr. Cytunwyd y dylid anfon y llythyr ymlaen at Gyngor Sir Caerfyrddin i weithredu arno.

7. Adroddiad Cyllideb - Chwarter 1af 2003/04

7.1 Nodwyd yr adroddiad.

8. Unrhyw Fater Arall

8.1 Cyfarfod â'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

8.1.1 Nodwyd bod y cyfarfod blynyddol gyda'r Gweinidog yn agosáu.

8.1.2 Cytunwyd y dylai'r materion i'w codi gynnwys y broses o ddarparu cyfarwyddyd ar gyfer arolygon cymunedol a barn y Gweinidog ar ddyfodol Llywodraeth Leol ac unrhyw gamau yr hoffai Ms Essex eu cymryd dros y flwyddyn nesaf.

8.1.3 Cytunwyd y dylid gwneud cais am gynnal y cyfarfod ar ddyddiad yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Comisiwn.

8.2 Cyflwyniad i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

8.2.1 Nodwyd y byddai'r cyflwyniad blynyddol i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei drefnu yn fuan.

8.3 Tendro ar gyfer Mapio Digidol

8.3.1 Nodwyd bod y Comisiwn wedi cynnal ymarfer tendro yn ddiweddar ar gyfer gwasanaethau mapio digidol o ran digideiddio ffiniau wardiau cymunedol yn ardaloedd Arolwg Cwmllynfell sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

8.3.2 Nodwyd bod yr ymarfer wedi bod yn ddefnyddiol wrth bennu'r costau o ran digideiddio ffiniau wardiau cymunedol cyn yr ymarfer Cymru gyfan arfaethedig.

8.3.3 Nodwyd bod y cytundeb wedi'i ddyfarnu i Global Mapping Systems Ltd y tro hwn.

8.4 Cyfarfod Blynyddol

8.4.1 Nodwyd y trefniadau ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Comisiwn sydd ar droed.

8.4.2 O ran cyfarfod blynyddol 2004, cytunwyd y dylid trefnu cyfarfodydd ar raddfa lai ac mewn lleoliad llai, oni fydd cynnydd annisgwyl yn llwyth gwaith y Comisiwn yn ystod y flwyddyn sy'n dod.

9. Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

9.1 Trefnwyd i gynnal cyfarfod nesaf y Comisiwn yn y Beaufort Park Hotel, Yr Wyddgrug ar 7fed Hydref cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn dechrau am 6pm.

19/3/2004