Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD DDYDD GWENER 20fed MEHEFIN 2003 YN NHŶ CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Clive Chapman, Mr Dave Carr

1. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 21 Mai 2003

1.1 Cytunwyd ar y rhain.

2. Materion yn codi

2.1 Hyfforddiant i Gomisiynwyr

2.1.1. Ni dderbyniwyd gwybodaeth o hyd ar Gynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol i Gymru. Nodwyd bod gwybodaeth a manylion archebu ar gyfer y Gynhadledd i'w cyhoeddi ganol mis Gorffennaf 2003.

2.1.2 Hefyd nodwyd bod y Comisiwn wedi'i osod ar restr lythyru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran y Gynhadledd.

2.2 Y wybodaeth ddiweddaraf ar Dechnoleg Gwybodaeth

2.2.1 Er bod bron pob un o'r materion mewn cysylltiad â gosod y dechnoleg swyddfa newydd wedi'u ddatrys, nodwyd mai'r un mater oedd yn dal heb ei ddatrys oedd cyflymder y cyswllt rhwng y Comisiwn a'i wasanaethydd penodedig yn adeiadau'r Cynulliad ym Mharc Cathays.

2.2.2 Gobeithiwyd y byddai'r broblem gysylltu hon wed'i datrys drwy osod y gwasanaethydd yn Nhy Caradog oherwydd y gallai'r peiriannau gyfathrebu'n uniongyrchol â'r gwasanaethydd heb orfod defnyddio'r cyswllt "cyflymdra uchel", er y nodwyd bod disgwyl i'r Cynulliad weithredu o hyd.

2.2.3 Gan fod y gohirio ar fynd i'r afael â'r mater cysylltu nid yn unig yn effeithio ar waith y Comisiwn, ond hefyd ar y Comiswn Ffiniau i Gymru, nodwyd y dylid dod â'r gohiriadau i sylw Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn hwnnw, pe bai yntau'n dymuno dilyn y mater gyda'r Ysgrifennydd Parhaol.

2.3 Cerdyn Credyd Corfforaethol

2.3.1 Argymhellodd Swyddfa'r Archwilydd Cenedlaethol yn flaenorol dylai'r Comisiwn gael cerdyn credyd corfforaethol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem cyfrifyddol gyda thocynnau teithio ar y rheilffordd. 

2.3.2 Nodwyd er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith o gael y cerdyn mwyaf priodol, bod yr Ysgrifennydd wedi gofyn am gyngor gan Bennaeth Adran Atebolrwydd Ariannol y Cynulliad.

2.3.3 Nodwyd nad yw'r cyngor hwnnw, hyd yma, wedi'i dderbyn.

3. Arolwg o'r Ffiniau rhwng Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ardal Cwmllynfell - Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Cyfarfod

3.1 Teimlodd y Cadeirydd fod cyfarfod y noson gynt wedi bod yn llwyddiant ac edrychai ymlaen at dderbyn cynrychioliadau o ran yr arolwg.

3.2 Nodwyd y gallai'r defnydd o feicroffon symudol brofi'n fuddiol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol fel bod y siaradwyr i gyd yn hyglyw i bawb sy'n bresennol.

4. Arolwg o Ran o'r Ffin Rhwng Cymunedau Bracla a Choity Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

4.1 Nodwyd bod cyngor cyfreithiol wedi dangos nad oedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu i'r Comisiwn gynnal yr arolwg arfaethedig heb gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu heb i'r Awdurdod Unedol yn gyntaf gynnal arolwg a hysbysu'r Comisiwn o'i gasgliadau.

4.2 Cytunwyd y dylid hysbysu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o'r cyngor ac y dylai'r Comisiwn gynghori'r Cyngor, lle gofynnir amdano, ar sut i barhau â'r Arolwg.

5. Arolwg o'r Ffiniau rhwng Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

5.1 Nodwyd bod cyngor wedi'i geisio gan y Comisiwn o ran y posibilrwydd o gynnal arolwg cymunedol yn ardal Castell-nedd Port Talbot er mwyn rhannu cymuned pum ward yn ddwy gymuned lai.

5.2 Nodwyd hefyd mai dim ond dwy gymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cwrdd â'r maen prawf hwn a Dyffryn Clydach yw un ohonynt.

5.3 Cytunwyd bod angen esboniad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynglyn â hunaniaeth y Gymuned sydd wrth wraidd eu cais diweddaraf cyn mynd rhagddo â'r arolwg cyfredol.

6. Cais am Arolwg o'r Ffiniau rhwng Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Llandudoch a Chilgerran

6.1 Derbyniwyd cais ar ran Cyngor Cymuned Cilgerran yn gofyn i'r Comisiwn ystyried cynnal arolwg o'r ffin rhwng siroedd Cerdigion a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Cilgerran a Llandudoch.

6.2 Wedi ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd, cytunwyd bod arolwg o'r ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro yn yr ardal a nodwyd yn cael ei gynnwys yn rhaglen y Comisiwn wedi ymgynghori â'r awdurdodau lleol.

6.3 Nodwyd bod arolwg yn yr ardal hon wedi'i hawgrymu yng nghynigion terfynol y Comisiwn ar gyfer y Ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2001.

7. Adroddiad Blynyddol Drafft 2003-2003

7.1 Yn dilyn mân addasiadau drafftio, cytunwyd i dderbyn y drafft o adroddiad blynyddol 2003.

8. Unrhyw Fater Arall

8.1 Cyfarfod Blynyddol 2003

8.1.1 Nodwyd yn amodol ar ymrwymiadau cyfarfod llawn, fod Sue Essex AC, y Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i annerch y Cyfarfod Blynyddol.

8.1.2. Cytunwyd y dylai'r cyfarfod blynyddol gael ei drefnu i ddechrau yn gynharach nag a wnaeth yn y gorffennol i ganiatâu amser i Mrs Essex ddychwelyd i Gaerdydd, os bydd gofyn iddi wneud hynny.

8.2 Ymarfer Tendro ar gyfer darparu Gwasanaethau Cyfreithiol

8.2.1 Nodwyd ar ôl derbyn tendrau gan chwe chorff i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol i'r Comisiwn, bod bwrdd tendro o blith yr Ysgrifenyddiaeth wedi cwrdd ac wedi gwneud argymhelliad.

8.2.1 Derbyniodd y cyfarfod adroddiad y bwrdd tendro, a chytunwyd y dylid derbyn argymhelliad y bwrdd tendro ac y dylid penodi Cyfreithiwr y Trysorlys i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol i'r Comisiwn.

8.2.2 Nodwyd gan mai hwn oedd yr ymarferiad tendro"ar y cyd" cyntaf rhwng y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru a'r Comisiwn Ffiniau i Gymru bod yn rhaid i'r corff arall gadarnhau'r penderfyniad.

9. Dyddiadau'r Cyfarfodydd Nesaf

9.1 I'w trefnu ar y 3ydd neu'r 4ydd o Fedi yn ystod Cynhadledd y Gymdeithas Llywodraeth Leol i Gymru yng Nghaerdydd.

9.2 Cyfarfod yn yr Wyddgrug ar y 7fed Hydref cyn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.

4/12/2003