COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
CYFARFOD A GYNHALIWYD AR DDYDD MAWRTH 8fed EBRILL 2003 YN ARENA RYNGWLADOL CAERDYDD
Yn bresennol:
Y Comisiwn
Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)
Ysgrifenyddiaeth
Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Clive Chapman, Mr Dave Carr
1. Arolwg o’r Ffiniau rhwng Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot yn ardal Cwmllynfell – Llythyr a dderbyniwyd oddi wrth un o drigolion Fferm Brynmorgan Isaf, Cwmtwrch.
1.1 Dywedodd yr Ysgrifennydd bod y Comisiwn wedi derbyn llythyr oddi wrth un o drigolion Cwmtwrch Uchaf yn gofyn i ystyriaeth gael ei rhoi i adolygu’r ffin ger ei thŷ. Dywedodd mai hi ar hyn o bryd oedd yr unig un o drigolion Cwmtwrch Uchaf yr oedd ei heiddo o fewn Castell-nedd Port Talbot. Ystyriai fod hyn yn ei hynysu oddi wrth ei chymdogion ac yn golygu ei bod yn derbyn gwasanaethau gwael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
1.2 Ystyriodd y Comisiwn bod rheswm da dros ymgorffori cais y trigolyn fel rhan naill o’u harolwg ar Gwmtwrch neu Gwmllynfell. Gan fod yr ardal oedd yn ymwneud â’r cais wedi’i lleoli rhwng y ddwy brif ardal dan sylw adolygir, gallai gael ei chynnwys yn y naill neu’r llall. Fodd bynnag, dywedodd Mr Halsall gan fod yr arolwg o Gwmtwrch wedi ei gwblhau erbyn hyn, a’i fod ar hyn o bryd wrthi’n cael ei gyfieithu a’i argraffu, byddai’n fwy rhesymegol cynnwys yr ardal newydd yn arolwg Cwmllynfell a oedd yn mynd rhagddo o hyd. Cytunwyd y byddai’r ardal a nodwyd yng nghais y trigolyn yn cael ei chynnwys fel rhan o arolwg Cwmllynfell.
2. Unrhyw Fater Arall.
2.1 Nid oedd unrhyw fater arall.
