Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

CYFARFOD A GYNHALIWYD AM 10.30 am AR DDYDD LLUN 17eg MAWRTH 2003 YN NHŶ CARADOG, PLAS SANT ANDREAS, CAERDYDD

Yn bresennol:

Y Comisiwn

Mrs Susan Smith (Cadeirydd), Mr John Davies (Dirprwy Gadeirydd), Mr Dennis Roberts (Aelod)

Ysgrifenyddiaeth

Mr Edward Lewis (Ysgrifennydd), Mr Steve Halsall, Mr Clive Chapman, Mr Dave Carr

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mr. Frank Cuthbert MLlL2 (Eitem 1 ar yr Agenda yn unig)

1. Cyflwyniad Mr. Frank Cuthbert Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol

1.1 Rhoddodd Mr Cuthbert gyflwyniad byr a derbyniodd gwestiynau am strwythurau llywodraeth leol o ran fformatau priod gynghorau a chabinet o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru.

1.2 Hefyd derbyniodd Mr Cuthbert gwestiynau am faterion cymunedol a chynghorau cymuned, er iddo gynghori’r cyfarfod y byddai’n fwy buddiol i’r Comisiwn pe bai yn gwahodd Dr Ian Thomas o Dîm Strategaethau Cymunedol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w briffio ar y materion hyn. Cytunwyd ar hyn.

1.3 Diolchodd y cyfarfod i Mr. Cuthbert am ei gyflwyniad.

2. Cofnodion cyfarfodydd y Comisiwn a gynhaliwyd ar 31ain Ionawr 2003

2.1 Cytunwyd ar y rhain.

3. Materion yn codi

3.1 Gosod cyfrifiaduron

3.1.1 Nodwyd bod gohebiaeth wedi digwydd rhwng y Comisiwn a’r Ysgrifennydd Parhaol a Mr Bryan Mitchell o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran yr oedi a ddigwyddodd wrth gwblhau camau terfynol y gwaith o osod cyfrifiaduron a meddalwedd.

3.2.1 Nodwyd bod yr oedi wrth ddatrys problemau gan y contractwyr TG yn effeithio ar waith y Comisiwn Ffiniau Seneddol i Gymru.

3.2.2 Nodwyd bod yr offer a’r meddalwedd newydd i fod yn eu lle erbyn 21ain Mawrth 2003.

4. Arolwg o’r Ffiniau rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwmtwrch – Adroddiad Cynigion Terfynol

4.1 Nodwyd na allai sefydlu ffin newydd a fyddai’n gosod Ystad Ddiwydiannol Gurnos yn Sir Powys ac nid yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot effeithio mewn unrhyw ffordd ar berchnogaeth yr ystad ddiwydiannol.

4.2 Cadarnhawyd nad oedd gan y Comisiwn bwerau i newid perchnogaeth y tir.

4.3 Cytunwyd y dylai’r Cynigion Terfynol gael eu cyflwyno cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ar ôl Etholiadau’r Cynulliad.

5. Arolwg o’r Ffiniau rhwng Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ardal Cwmllynfell – Ymgynghoriad Pellach

5.1 Cyflwynwyd y costau amrywiol y gwahanol ddulliau o ymgynghori i’r cyfarfod.

5.2 Wedi ystyried, cytunwyd y dylai’r Comisiwn ysgrifennu at yr holl etholwyr y gallai’r cynigion effeithio arnynt, yn eu hysbysu am gynigion y Comisiwn, ac yn eu gwahodd i gyfarfod cyhoeddus er mwyn i’r Comisiynwyr allu egluro’r cynigion a’r dewisiadau oedd ar gael.

5.3 Cytunwyd y dylid cynnwys ffurflen bleidleisio/sylwadau ac amlen ragdaledig gyda’r llythyr.

5.4 Cadarnhawyd na ddylid cynnal unrhyw ymarfer o’r fath tan ar ôl Etholiadau’r Cynulliad.

6. Gofynion Hyfforddi’r Comisiwn

6.1 Ystyriodd y Comisiwn amrywiol eitemau a ddarparwyd o ran seminarau i gynorthwyo wrth hysbysu’r Comisiynwyr am faterion cyfredol o fewn llywodraeth leol.

6.2 Ar ôl ystyried, cytunwyd y dylai o leiaf un Comisiynydd fynychu Cynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Medi 2003, gan mai dyma yn ôl pob tebyg, fyddai’r fforwm mwyaf priodol a pherthnasol i’w fynychu.

7. Arolwg Cyngor Sir Powys o’r ffin rhwng cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach (Ward Llanhamlach)

7.1 Nododd y Comisiwn yr adroddiad a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Powys mewn perthynas â’r ffin rhwng cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach.

7.2 Cytunwydy dylid cynnwys Arolwg Cymunedol mewn perthynas â chasgliadau’r adroddiad hwn yn rhaglen waith y Comisiwn.

8. Cyllid – Gwariant Amcangyfrifedig ar gyfer 2002/03

8.1Adroddiad yn rhoi amcangyfrif o’r gwariant terfynol ar gyfer blwyddyn 2002/2003.

8.2 Nodwyd bod yr arian a ddyrannwyd ar gyfer 2003/2004 yr un peth â 2002/2003 sef cronfa weithredol o £354,000.

9. Unrhyw Fater Arall

9.1 Cyfarfod Rhyng-Gomisiwn

9.1.1 Nodwyd hefyd bod y papurau ar gyfer y cyfarfod wrthi’n cael eu cwblhau a chadarnhawyd mai’r lleoliad fyddai Ystafell y Bwrdd 2 yn Arena Ryngwladol Caerdydd.

9.1.2 Nodwyd hefyd y byddai cinio croeso ar y noson cyn y digwyddiad yng Ngwesty Jury’s Caerdydd lle y byddai’r rhan fwyaf o’r cynadleddwyr yn aros.

9.2 Cyfarfod rhwng Prif Weinidog y Cynulliad a Chadeiryddion Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad

9.2.1 Nodwyd mai dim ond y diwrnod cynt y cyhoeddwyd yr agenda ar gyfer y cyfarfod rhwng y Prif Weinidog a Chadeiryddion Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad. Cytunwyd y dylid codi’r pryder am yr oedi wrth gyhoeddi’r agenda gyda Swyddfa’r Prif Weinidog.

9.2.2 Y materion a godwyd yn y cyfarfod gyda’r Prif Weinidog i’w trafod oedd:

9.2.3 O ran yr ymarfer brandio, nodwyd body Cadeirydd wedi hysbysu’r cyfarfod gyda’r Prif Weinidog y byddai’n amhriodol i’r Comisiwn gael ei “frandio” gan ei fod yn gorff annibynnol, ac y dylai fod yn amlwg mai dyna ydoedd.

9.3 Penodaid Dros Dro

9.3.1 Nodwyd bod y Cadeirydd wedi ei phenodi dros dro fel Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru am gyfnod o 6 mis.

9.4 Gwasanaethau Cyfreithiol

9.4.1 Nodwydyn dilyn cyngor gan y Cynulliad, y byddai’r Comisiwn, yn rhoi proses dendro ar waith yn fuan ar gyfer ei wasanaethau cyfreithiol.

9.5 Data Ffiniau Wardiau Cymuned

9.5.1 Nodwydnad oedd unrhyw gronfa ganolog o ddata electronig am ffiniau wardiau cymuned. Byddai’r data hwn yn angenrheidiol ar gyfer unrhyw arolwg o drefniadau etholiadol awdurdodau lleol yng Nghymru yn y dyfodol.

9.5.2 Nodwyd bod y Comisiwn wedi gofyn am gyngor gan y Cynulliad a ddywedodd mai’r sefydliad a oedd yn y sefyllfa orau i gasglu a chadw’r data oedd y Comisiwn ei hun.

9.5.3 Nodwydy byddai angen arian ychwanegol ar y Comisiwn i goladu data drwy gyfrwng contract ymgynghorol. Nododd y Cynulliad y byddai angen i’r Comisiwn gyflwyno achos busnes iddo cyn y gellid ystyried arian ar gyfer ymgynghori.

9.5.4 Cytunwyd y dylid ysgrifennu at Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn canfod faint o’r data electronig hwn sy’n bodoli eisoes er mwyn cyfrifo i ba raddau y byddai angen i unrhyw ymgynghoriaeth ymchwilio i ganfod y data hwn.

9.5.5 Cytunwydwrth gasglu data, y dylid ceisio cytundeb gan yr Awdurdodau Lleol i gael eu cydweithrediad wrth ddiweddaru’r data yn rheolaidd.

9.6 Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol

9.6.1 Cytunwydy byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar 21ain Mai 2003 (gan ddechrau am 10.30 am) a 20fed Mehefin 2003 (gan ddechrau am 10 am gyda’r Pwyllgor Archwilio i’w ddilyn gan y prif gyfarfod).

9.6.2 Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 7fed Ebrill 2003 gan ddechrau am 2 pm yn swyddfeydd y Comisiwn.

26/9/2003