Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD
  2. CRYNODEB GWEITHREDOL
  3. CWMPAS A NOD YR AROLWG
  4. CYNIGION DRAFFT
  5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
  6. ASESIAD
  7. CYNIGION
  8. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
  9. CYDNABYDDIAETH
  10. Y CAMAU NESAF

Brian Gibbons AC

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o Ffiniau Cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam fel y cyfarwyddwyd gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei Chyfarwyddyd i ni, dyddiedig 30 Mehefin 2006 ( Atodiad A).

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Cynigiwn:

3. CWMPAS A NOD YR AROLWG 

3.1 Diben yr arolwg yw ystyried a ddylai'r Comisiwn, er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gynnig newidiadau i'r ffiniau cymunedol presennol. Cynhelir yr arolwg o dan ddarpariaethau Adran 56(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf).

Gweithdrefn

3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi canllawiau gweithdrefnol, y mae'n rhaid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw, ar 7 Gorffennaf 2006, ysgrifennom at Gynghorau Cymuned Abenbury, Acton, Bangor Is-y-Coed, Brychdwn, Brymbo, Parc Caia, Ceiriog Ucha, Coedpoeth, Esclusham, Glyntraean, Gresffordd, Gwersyllt, Holt, Is-y-coed, Llansantffraid Glyn Ceiriog, Marchwiail, Y Mwynglawdd, Offa, Rhos-ddu, Yr Orsedd, Sesswick a Willington Worthenbury, Aelod Seneddol yr etholaeth leol, Aelodau Cynulliad yr ardal a phartïon eraill a chanddynt ddiddordeb, i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i geisio eu barn ragarweiniol. Cyn cychwyn yr arolwg, derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam nifer o awgrymiadau ar gyfer newidiadau i ffiniau cymunedol. Amgaewyd rhestr o'r rhain gyda'r llythyr gwreiddiol hwn (Atodiad B). Hefyd, cyhoeddom ein bwriad i gynnal arolwg mewn papurau lleol yn yr ardal, a gofynnom i'r Cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus. Hysbyswyd cychwyn yr arolwg a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cynrychiolaethau (8 Medi 2006) ar wefannau'r Comisiwn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel ei gilydd.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Mewn ymateb i'n gwahoddiad cychwynnol, derbyniom gynrychiolaethau oddi wrth Gynghorau Cymuned Abenbury, Acton, Brychdwn, Brymbo, Parc Caia, Ceiriog Ucha, Coedpoeth, Esclusham, Glyntraean, Gresffordd, Gwersyllt, Holt, Is-y-coed, Llansantffraid Glyn Ceiriog, Y Mwynglawdd, Offa, Yr Orsedd, Sesswick a Willington Worthenbury, Cymdeithas Trigolion Bwlch Gwyn, y Cynghorydd Morris, (Adran Etholiadol Holt), y Cynghorydd Penny (Ward Bieston, Cyngor Cymuned Holt), y Cynghorydd Squires (Cyngor Cymuned Abenbury), 95 o lythyrau oddi wrth drigolion lleol, deiseb â 722 o lofnodion a deiseb â 202 o lofnodion. Yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 2 Mawrth 2006, ystyriom y materion a godwyd yn y cynrychiolaethau.

4.2 Awgrymwyd newidiadau i ffiniau cymunedol yn yr ardaloedd canlynol: Abenbury, Acton, Parc Caia a Holt; Coedpoeth, Brymbo a'r Mwynglawdd; Brymbo a Brychdwn, Gresffordd, Llai a Gwersyllt; Llansantffraid Glyn Ceiriog a Glyntraean; Llansantffraid Glyn Ceiriog a Cheiriog Ucha; Glyntraean a'r Waun; Sesswick a Marchwiail.

4.3 Nodom fod nifer o'r cynrychiolaethau sy'n awgrymu newidiadau i'r ffiniau cymunedol yn cyfeirio at y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Atodiad D). Mae'r CDU yn diffinio nifer o ardaloedd aneddiadau sy'n gweithredu'n ardaloedd cyfyngu at ddibenion datblygu tai cyflogaeth a gwasanaethau cymunedol yn y dyfodol. Ystyriom y gallai fod i'r CDU oblygiadau sylweddol i'r cymunedau yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac y dylem ystyried y goblygiadau hyn yn ofalus wrth bennu ffiniau cymunedol.

Abenbury, Acton, Parc Caia a Holt

4.4 Awgrymodd Cyngor Cymuned Parc Caia drosglwyddo tair ardal o gymunedau cyffiniol i Barc Caia. Y tair ardal yw: Llwyn Onn lle mae'r ffin bresennol rhwng Parc Caia ac Abenbury yn rhannu'r ystâd; Thornleigh; ac ystâd Fairways.

Llwyn Onn

4.5 Awgrymodd Cyngor Cymuned Parc Caia drosglwyddo'r rhan honno o ystâd Llwyn Onn sy'n rhan o Gymuned Abenbury ar hyn o bryd i Gymuned Parc Caia. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Abenbury wrthgynnig a fyddai'n cymryd rhan o Barc Caia i mewn i Abenbury.

4.6 Tynnodd Cyngor Cymuned Parc Caia sylw at y ffaith bod CDU Wrecsam yn cynnwys ystâd gyfan Llwyn Onn oddi mewn i ardal anheddiad Tref Wrecsam. Roeddent o'r farn bod yr ardal hon ar wahân i anheddiad gwledig Abenbury a bod cyfleusterau cymunedol gerllaw ym Mharc Caia. Roeddent hefyd o'r farn bod trigolion yr ardal yn defnyddio gwasanaethau yn Wrecsam.

4.7 Roedd Cyngor Cymuned Abenbury ac eraill o'r farn bod y trefniadau presennol yn gweithio'n dda o ran darparu gwasanaethau a bodlonrwydd y trigolion. Roeddent o'r farn y byddai colli trigolion Llwyn Onn (a Thornleigh) yn lleihau nifer yr etholwyr yn Abenbury yn sylweddol ac yn bwrw amheuaeth ar hyfywedd y gymuned. Gan fod cyfran treth gymunedol y dreth gyngor yn uwch ym Mharc Caia nag yn Abenbury, mynegwyd pryderon hefyd y byddai'n rhaid i drigolion yr ardal dan arolwg dalu treth gyngor ar gyfradd uwch pe câi ei throsglwyddo. Roedd nifer o drigolion Abenbury (yn arbennig o Lwyn Onn) yn gwrthwynebu trosglwyddo eu hardal i Barc Caia.

4.8 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriom fod y ffin bresennol rhwng Cymunedau Abenbury a Pharc Caia yn Llwyn Onn yn amlwg yn afreolaidd am ei fod yn rhannu Ystâd Llwyn Onn. Roeddem o'r farn y dylai Llwyn Onn yn gyfan fod naill ai yng Nghymuned Abenbury neu Gymuned Parc Caia, gan nad oedd yn ymddangos bod unrhyw gysylltiadau lleol â'r Gymuned gyffiniol arall, sef Marchwiail. Nid oeddem o'r farn bod gwrthgynnig Cyngor Cymuned Abenbury yn briodol, gan y byddai'n cynnwys trosglwyddo nifer o eiddo sydd â chysylltiadau â Chymuned Parc Caia.

4.9 Yn ein hadroddiad, nodom y gwrthwynebiad cryf gan drigolion i'r trosglwyddiad i Barc Caia ac, yn arbennig, eu pryderon ynglyn â'r gwahaniaeth yn y dreth gymunedol, a'r effaith ar brisiau tai ac yswiriant. O ran y dreth gymunedol, nodom fod gwahaniaeth o £36.54 rhwng Abenbury a Pharc Caia ar gyfer eiddo Band D yn 2005/06. Mynegasom ein barn nad yw amgylchiadau'r dreth gymunedol bresennol, o reidrwydd, yr un ag yn y dyfodol, gan y bydd effaith y dreth gymunedol ar y trethdalwr unigol yn dibynnu ar lefel gwariant net y Cyngor Cymuned ac amgylchiadau personol yr unigolyn, ac y gall y rhain amrywio o flwyddyn i flwyddyn. O ran yr amrywiadau yn y dreth gymunedol o ganlyniad i'n cynigion, cadarnhaom mai ein hymagwedd gyffredinol at ystyried pa gynigion i'w gwneud er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yw mai ychydig o bwys y dylid ei roi, fel arfer, ar newidiadau ôl-ddilynol yn nhreth gyngor unigolion ac, yn sicr, na ddylent fod yn benderfynyddion. Mewn perthynas â phrisiau tai, roeddem o'r farn mai bach iawn fyddai effaith y newid arfaethedig gan fod rhan o ystâd Llwyn Onn yng Nghymuned Parc Caia eisoes, ac nad oedd gennym unrhyw dystiolaeth yr effeithiwyd yn andwyol ar brisiau tai yn yr ardal hon. Yn yr un modd, roeddem o'r farn na fyddai hyn yn effeithio ar y sefyllfa o ran yswiriant, gan ein bod yn cael ar ddeall mai'r cod post sy'n penderfynu hyn fel arfer. Beth bynnag, yn yr un modd â chyda lefel y dreth gyngor, roeddem o'r farn mai ychydig iawn o bwys y dylai'r Comisiwn ei roi ar y ffactorau unigol hyn wrth ystyried buddiannau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.10 Roeddem o'r farn bod teilyngdod yng nghynnig Cyngor Cymuned Parc Caia ar gyfer Llwyn Onn am ei fod yn cyfuno ystâd Llwyn Onn yn un gymuned. Roeddem o'r farn bod gan yr ardal dan sylw fwy o gymuned fuddiant â Chymuned Tref Wrecsam nag â Chymuned Abenbury, sy'n fwy gwledig ei natur. Nodom hefyd fod y ffin arfaethedig yn sicrhau y cynhwysir anheddiad Tref Wrecsam a ddiffinnir yn y CDU oddi mewn i Gymuned Tref Wrecsam yn yr ardal hon. Yn ein hadroddiad ar Gynigion Drafft, daethom i'r casgliad, felly, y byddai'r newid a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Parc Caia i drosglwyddo ystâd gyfan Llwyn Onn i Ward Whitegate Cymuned Parc Caia yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Thornleigh

4.11 Ystyriom awgrym Cyngor Cymuned Parc Caia i drosglwyddo'r ardal a adwaenir fel Thornleigh o Gymuned Abenbury i Gymuned Parc Caia. Yn yr un modd â chydag ardal Llwyn Onn, tynnodd Cyngor Cymuned Parc Caia sylw at y ffaith bod CDU Wrecsam yn cynnwys ardal Thornleigh yn ardal anheddiad Tref Wrecsam. Roeddent o'r farn bod yr ardal hon hefyd yn ardal ar wahân i anheddiad gwledig Abenbury a bod trigolion yr ardal yn defnyddio gwasanaethau yn Wrecsam. Roeddent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod eiddo cyffiniol yn Heol Cefn a Lôn Bryn Estyn yn rhan o Gymuned Parc Caia.

4.12 Cyflwynodd Cyngor Cymuned Abenbury wrthgynnig i drosglwyddo ardal Willow Court o Barc Caia i Abenbury yn ogystal â chadw ardal Thornleigh. Roedd Cyngor Cymuned Abenbury ac eraill yn gwrthwynebu'r cynnig i drosglwyddo ardal Thornleigh i Barc Caia am eu bod o'r farn bod y trigolion yn fodlon ar y trefniadau presennol.

4.13 Roeddem o'r farn fod y ffin bresennol rhwng Cymunedau Abenbury a Pharc Caia yn ardal datblygiad Thornleigh yn afreolaidd am ei fod yn rhannu Thornleigh oddi wrth yr anheddiad cyffiniol yn Willow Court, ac roeddem o'r farn bod gan y ddwy ardal hyn gymuned fuddiant gyffredin. Roeddem hefyd o'r farn fod Thornleigh yn barhad o ardal yr anheddiad yn rhan ogledd-orllewinol Parc Caia. Ein casgliad, felly, oedd y byddai newid y ffin i gynnwys Thornleigh yn Ward Cartrefle Cymuned Parc Caia yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.14 Nodom fod cynnig Cyngor Cymuned Parc Caia ar gyfer Thornleigh yn cynnwys darn o dir heb ei ddatblygu i'r de a'r dwyrain nad oedd wedi'i gynnwys yn ardal anheddiad Tref Wrecsam a ddangosir ar fap y CDU. Gan nad ymddangosai i ni fod unrhyw gysylltiad rhwng y darn hwn o dir a datblygiad Thornleigh, ac i fod yn gyson â'r CDU, cynigiom fod yr ardal hon o dir yn parhau'n rhan o Gymuned Abenbury.

Fairways

4.15 Awgrymodd Cyngor Cymuned Parc Caia drosglwyddo Ystâd Fairways o Ward Bieston Cymuned Holt i Ward Cartrefle Cymuned Parc Caia. Unwaith yn rhagor, tynnodd Cyngor Cymuned Parc Caia sylw at y ffaith y cynhwyswyd yr ardal hon yn ardal anheddiad Tref Wrecsam yn y CDU. Roeddent o'r farn bod trigolion yr ardal yn cael mynediad at wasanaethau yn Wrecsam ac nad oes gan yr ardal unrhyw gysylltiad â phentref Holt sydd bum milltir i ffwrdd.

4.16 Cyflwynodd y Cynghorydd Morris (Adran Etholiadol Holt, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) wrthgynnig a gymerai ardal o Barc Caia i mewn i Holt. Roedd y Cynghorydd Morris o'r farn bod gan drigolion ystâd Fairways, yn gymdeithasol ac yn economaidd, fwy o affinedd â Holt nag â Pharc Caia. Roedd o'r farn bod trigolion yr ardal yn cefnogi ac yn defnyddio cyfleusterau yn Holt ac nad oeddent yn defnyddio cyfleusterau ym Mharc Caia. Roedd o'r farn bod Cyngor Cymuned Holt wedi meithrin cysylltiadau da â'r ystâd. Ysgrifennodd nifer o drigolion ystâd Fairways i wrthwynebu cynigion i drosglwyddo'r ardal i Barc Caia. Ychwanegodd un o'r trigolion hyn os oeddent i gael eu trosglwyddo o Gymuned Holt y byddai'n well ganddynt drosglwyddo i Gymuned Acton yn hytrach na Pharc Caia.

4.17 Mynegodd y Cynghorydd Penny (Ward Bieston, Cyngor Cymuned Holt) a thri o drigolion y farn y dylai Ward Bieston naill ai ddod yn rhan o gymuned arall (heblaw am Holt) neu ffurfio cymuned ynddo ei hun. Mynegwyd y farn nad oedd trigolion Bieston yn cael eu gwasanaethu'n dda gan Gyngor Cymuned Holt a'u bod yn defnyddio'r cyfleusterau yn Borras (rhan o Gymuned Acton) neu Gresffordd. O ran yr awgrym bod Ward Bieston yn ffurfio ei chymuned ei hun, nid oeddem yn fodlon bod digon o gefnogaeth i'r cynnig hwn ac roeddem o'r farn bod ystâd Fairways yn dra gwahanol o ran cymeriad i weddill Ward Bieston. Nid oeddem o'r farn, felly, y byddai ffurfio Cymuned Bieston ar wahân, o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.18 Nodom fod Cyngor Cymuned Acton ac un o'r trigolion lleol yn gwrthwynebu trosglwyddo ardal Ward Bieston i Gymuned Acton. Roedd y Cyngor Cymuned o'r farn bod ffordd gyswllt ddeuol Llan-y-pwll yn gwahanu ward Bieston oddi wrth eu hardal hwy.

4.19 Roedd yn ymddangos i ni bod gan ddatblygiad Fairways affinedd ag ardal y ddau anheddiad cyffiniol yng Nghymunedau Acton a Pharc Caia. Sylwasom nad oedd Heol Holt (A534), sy'n gwahanu Acton oddi wrth y rhan honno o Ward Bieston sy'n cynnwys ystâd Fairways, yn ffordd ddeuol a bod ffyrdd mynediad i'r ddau anheddiad yn ymuno â'r ffordd hon ac, felly, nad oedd yn rhwystr mawr i gysylltiadau rhwng y ddwy ardal.

4.20 Roeddem o'r farn bod ystâd Fairways yn rhan o ardal Tref Wrecsam ac fel y cyfryw y dylai gael ei chynnwys yn un o'r Cymunedau yn Nhref Wrecsam. Nodom gynnig Cyngor Cymuned Parc Caia i drosglwyddo ystâd Fairways o Ward Bieston yng Nghymuned Holt i Ward Cartrefle yng Nghymuned Parc Caia, ac roeddem o'r farn y byddai'r newid yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Fodd bynnag, roeddem o'r farn y gallai fod gan ystâd Fairways gymuned fuddiant yr un mor gryf â Ward Rhosnesni yng Nghymuned Acton. Roeddem o'r farn pe bai trosglwyddo ystâd Fairways i Waunyterfyn yn cael ei ystyried yn ddewis, y byddai'n briodol wedyn ystyried estyn y llinell derfyn ar hyd Lôn Bryn Estyn er mwyn trosglwyddo ystâd Old Gardens o Gymuned Parc Caia i Gymuned Acton. Croesawom gynrychiolaethau ar y cynnig amgen hwn.

4.21 Nodom fod cynnig Cyngor Cymuned Parc Caia ar gyfer ardal Fairways yn cynnwys Bythynnod Bryn Estyn nad ydynt wedi'u cynnwys yn ardal anheddiad Tref Wrecsam fel y'i ddiffinnir yn ei CDU. Nodom mai'r unig lwybr mynediad at y bythynnod hyn oedd trwy Barc Caia ac ar hyd Lôn Bryn Estyn. Roeddem o'r farn bod gan y bythynnod hyn gysylltiadau cryfach ag ardal Tref Wrecsam na'r rheiny â Chymuned Holt ac, felly, y dylid eu cynnwys yn y trosglwyddiad.

4.22 Roedd i'n cynigion ar gyfer ffiniau Cymunedau Abenbury, Parc Caia a Holt oblygiadau o ran maint ac felly, efallai, hyfywedd Cyngor Cymuned Abenbury ac, i raddau llai, Cyngor Cymuned Holt. Yn ôl ein cynigion drafft, byddai gan Gyngor Cymuned Abenbury 274 o etholwyr. Nodom, fodd bynnag, y byddai hyn o hyd yn fwy na Chymuned wledig Ceiriog Ucha, sydd â 236 o etholwyr. Gan nad oedd gennym unrhyw dystiolaeth ar y pryd na fyddai Cymuned arfaethedig Abenbury yn hyfyw, ni chynigiom unrhyw argymhellion ar gyfer newid pellach. Roeddem o'r farn pe bai hyfywedd Cymuned Abenbury yn dod dan amheuaeth rywbryd yn y dyfodol, efallai yr ystyrir ei chyfuno ag un o'r cymunedau cyffiniol fel Holt, Is-y-coed neu Sesswick. Yn unol â'n cynigion drafft, byddai gan Ward Bieston yng Nghymuned Holt 67 o etholwyr (1,097 o etholwyr sydd yn Ward Holt). Ein safbwynt ni oedd er y byddai Cymuned Holt yn parhau'n hyfyw, bod amheuon gennym ynglyn â dymunoldeb cadw trefniadau wardio presennol y gymuned. Ystyrir y mater hwn gennym yn adran 6 ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, lle ystyriom effeithiau ôl-ddilynol ein newidiadau arfaethedig ar y trefniadau etholiadol ar gyfer cynghorau cymuned a'r prif awdurdod, a fyddai'n deillio o'r newidiadau a gynigid gennym.

Coedpoeth, Brymbo a'r Mwynglawdd

4.23 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Coedpoeth at Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn cychwyn yr arolwg gan awgrymu cyfuno Cymunedau Coedpoeth, Y Mwynglawdd a phentref Bwlch Gwyn (o Gymuned Brymbo) i greu un Cyngor Cymuned. Mewn ymateb i'n llythyrau gwreiddiol, derbyniom ohebiaeth oddi wrth Gynghorau Cymuned Y Mwynglawdd a Brymbo, Cymdeithas Trigolion Bwlch Gwyn (gan gynnwys deiseb â 202 o lofnodion) a 48 o drigolion a oedd oll yn gwrthwynebu'r newid a awgrymid.

4.24 Derbyniom ohebiaeth bellach oddi wrth Gyngor Cymuned Coedpoeth i roi gwybod i ni ei fod wedi cyflwyno cynnig diwygiedig i ni o ganlyniad i'r cyfarfodydd cyhoeddus ym Mwlch Gwyn a'r Mwynglawdd. Roedd y cynnig hwn yn awgrymu newid y ffin rhwng Coedpoeth a'r Mwynglawdd er mwyn trosglwyddo rhan o'r Mwynglawdd i Goed-poeth. Roedd y Cyngor o'r farn bod hon yn ffin resymegol wrth ystyried lleoliad eiddo â'u pellter oddi wrth weddill Y Mwynglawdd. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith bod gan ystâd Bryn Hyfryd gyfeiriad post Coedpoeth a bod y trigolion wedi mynegi eu cefnogaeth i'r cais hwn.

4.25 Ystyriom gynnig gwreiddiol Cyngor Cymuned Coedpoeth a nodom y gwrthwynebiad i'r cynnig. Daethom i'r casgliad nad oedd y cynnig yn rhoi unrhyw fanteision dangosadwy i'r ardal o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Gan hynny, aethom ymlaen i ystyried cynnig diwygiedig Coedpoeth i newid y ffin rhwng Cymunedau Coedpoeth a'r Mwynglawdd.

4.26 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriom fod yr ardal yr awgrymid ei throsglwyddo i Goed-poeth yn ymddangos, o dystiolaeth ymweliad â'r safle, yn gyffiniol â Chymuned Coedpoeth a bod yr ardal wedi'i chynnwys yn ardal anheddiad Coedpoeth fel y'i diffinnir yn CDU Wrecsam. Gan hynny, roeddem o'r farn y byddai'r newid a awgrymwyd o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus a chynigasom yn unol â hynny.

4.27 Nodom fod ardal anheddiad CDU Wrecsam ar gyfer Coedpoeth yn cynnwys rhannau ychwanegol o'r Mwynglawdd, nad oeddent wedi'u cynnwys yng nghynnig Coedpoeth. Roedd y rhain yn cynnwys peth eiddo mewn ardal i'r de o'r diwygiad a awgrymwyd a'r ardal ddiwydiannol i'r gogledd o'r newid a awgrymwyd. Roeddem o'r farn bod yr ardal i'r de o'r diwygiadau a awgrymwyd wedi'i chysylltu'n agos â Chymuned Coedpoeth a nodasom y ceid mynediad at yr eiddo drwy Goed-poeth ac nid trwy'r Mwynglawdd. Roeddem o'r farn, felly, y dylid cynnwys yr ardal ychwanegol hon yng Nghymuned Coedpoeth. Mewn perthynas â'r ardal ddiwydiannol, gan mai bach iawn, neu ddim, oedd effaith yr ardal hon ar ddarparu gwasanaethau cymunedol, roeddem o'r farn y dylid trosglwyddo'r ardal hon i Gymuned Coedpoeth hefyd. Nodom y byddai i'r newid hwn y fantais o gael cysondeb rhwng ffiniau aneddiadau'r CDU a'r ffiniau cymunedol yn yr ardal hon.

Brymbo a Brychdwn

4.28 Yn ei ohebiaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn cychwyn yr arolwg, awgrymodd Cyngor Cymuned Brymbo ddod ag ochr Brychdwn i Heol Brychdwn, Heol Caint a Heol Cefn yn y Lodge, Heol Green, Heol y Frenhines, Heol Holland a Halcog, oddi mewn i ardal Cymuned Brymbo. Nodom fod y cynigion hyn yn ôl pob golwg yn gyson ag ardaloedd anheddiad y CDU ar gyfer Brymbo a Brychdwn. Fodd bynnag, roedd Cyngor Cymuned Brychdwn yn gwrthwynebu'r newid am ei fod o'r farn bod gan yr ardaloedd dan sylw affinedd agos â Chymuned Brychdwn.

4.29 Ar ôl ymweld â'r ardal, roeddem o'r farn bod rhinwedd i gynnig Cyngor Cymuned Brymbo gan ei bod yn ymddangos bod cymuned fuddiant rhwng yr ardal dan sylw a Chymuned Brymbo. Roeddem hefyd o'r farn y byddai gan y newid y fantais o gael cysondeb rhwng ffiniau aneddiadau'r CDU a'r ffiniau cymunedol. O'r herwydd, yn ein hadroddiad ar gynigion drafft, cynigiom newid y ffin rhwng Cymunedau Brymbo a Brychdwn.

Gwersyllt, Gresffordd a Rhos-ddu

4.30 Mynegodd tri o drigolion ardal Rhosrobin Gwersyllt y farn bod eu hardal yn bell oddi wrth y cyfleusterau cymunedol ym mhentref Gwersyllt ac awgrymu ffurfio cymuned newydd i gynnwys Hen Rosrobin/Rhosrobin Newydd a'r Pandy (awgrymodd un o'r trigolion hefyd gynnwys pentref Bradley). Nid oedd yn eglur i ni o'r cynrychiolaethau ymhle y gellid tynnu'r ffin i greu'r gymuned newydd a awgrymid. Nodom y rhennir Cymuned Gwersyllt yn bedair ward; Gogledd, Dwyrain, Gorllewin a De. Mae pentrefi Hen Rosrobin a Rhosrobin Newydd a'r Pandy yn y ward Ddeheuol, ac mae pentref Bradley yn y ward Ddwyreiniol. Mae'r ddwy ward hyn yn cynnwys ardaloedd o dai a oedd yn ymddangos i ni eu bod wedi'u cysylltu'n agos â phentref Gwersyllt. O'r wybodaeth a roddwyd i ni ar y pryd, nid oedd modd i ni argymell y newid a awgrymid, am fod y manteision o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn aneglur. Croesawom sylwadau pellach ynglyn â'r newid arfaethedig hwn.

4.31 Yn ein Cynigion Drafft, nodom fod CDU Wrecsam yn diffinio bod ardal anheddiad Gwersyllt yn cynnwys rhannau o bedair Ward Cymuned Gwersyllt. Diffinnir ardaloedd anheddiad gwahanol ar gyfer Bradley a Hen Rosrobin/Rhosrobin Newydd. Fodd bynnag, mae Ystâd Ddiwydiannol Y Pandy ac Ystâd Ddiwydiannol Rhos-ddu, sydd ill dwy'n rhan o Ward Ddeheuol Cymuned Gwersyllt, wedi'u cynnwys yn ardal anheddiad Tref Wrecsam. Er mwyn sicrhau y cynhwysir ardal anheddiad Tref Wrecsam mewn Cymunedau sy'n gysylltiedig â Thref Wrecsam, cynigiasom fod ardal Ystâd Ddiwydiannol Y Pandy yn cael ei chynnwys yn ward Pentre'r Ardd Cymuned Rhos-ddu. Yn ogystal, cynigiasom gynnwys ardal Ystâd Ddiwydiannol Rhos-ddu a'r tai cyffiniol yn ward Stansty Cymuned Rhos-ddu, gyda'r ffin rhwng y ddwy ward yn cael ei hestyn tua'r gogledd i ddilyn llwybr Clawdd Wat.

4.32 Gan y gorweddai sawl ardal yng Ngresffordd yr ochr draw i'r A483 i brif ran y Gymuned, roedd Cyngor Cymuned Gresffordd o'r farn y dylid newid ffiniau Gresffordd, Gwersyllt, Llai a Rhos-ddu i gymryd i ystyriaeth ffin 'naturiol' newydd ffordd osgoi Wrecsam a chylchfan yr A483. Diffinnir y ffin bresennol rhwng Gresffordd a Llai i ddilyn llwybr Afon Alun. Fodd bynnag, nodom ei fod yn ymddangos bod llwybr yr afon wedi cael ei newid wrth adeiladu ffordd ddeuol yr A483 (P) ac, felly, nad yw'r ffin yn dilyn llwybr yr afon mewn dau le mwyach. Rydym o'r farn y byddai'r A483 (P) yn ffin eglurach a mwy adnabyddadwy rhwng Cymunedau Gresffordd a Llai nag Afon Alun. Fodd bynnag, gan nad yw Cymuned Llai wedi'i chynnwys yng Nghyfarwyddiadau'r Adolygiad (Atodiad A), nodom na fu modd i ni, yn yr arolwg hwn, wneud unrhyw argymhellion o ran newidiadau i ffin Cymuned Llai. Felly, cymeradwyom y newid hwn a awgrymwyd, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, er mwyn iddo ystyried cynnal ei arolwg ei hun o dan Adran 55(2) y Ddeddf.

4.33 Yn rhan ddeheuol ffin Gresffordd/Llai, nodom fod CDU Wrecsam yn cynnwys rhan o Gresffordd sy'n cynnwys ardal ddiwydiannol rhwng y rheilffordd a'r A483 (P) oddi mewn i anheddiad Tref Wrecsam. Er mwyn sicrhau y cynhwysir ardal anheddiad Tref Wrecsam mewn Cymunedau sy'n gysylltiedig â Thref Wrecsam, cynigiasom gynnwys yr ardal hon yn ward Pentre'r Ardd Cymuned Rhos-ddu.

Llansantffraid Glyn Ceiriog, Glyntraean a Cheiriog Ucha

4.34 Awgrymodd Cyngor Cymuned Glyn Ceiriog ddau newid bach i'w ffin hwythau, y naill i drosglwyddo Hafod y Garreg o Gymuned Ceiriog Ucha a'r llall i drosglwyddo Fferm Y Pant o Gymuned Glyntraean. Nid oedd Cyngor Cymuned Ceiriog Uchaf yn gwrthwynebu trosglwyddo Hafod y Garreg i Gymuned Llansantffraid Glyn Ceiriog, ond roedd Cyngor Cymuned Glyntraean yn gwrthwynebu'r cynnig i drosglwyddo Fferm Y Pant o Glyntraean i Gymuned Llansantffraid Glyn Ceiriog am ei fod o'r farn ei fod yn gorwedd oddi mewn i ffin naturiol ei gymuned.

4.35 Roeddem yn cael ar ddeall fod Hafod y Garreg a Fferm Y Pant yn ffermydd arunig wedi'u hamgylchynu gan fesur helaeth o dir. Nid oedd yn eglur i ni lle y dylid tynnu'r ffin arfaethedig o amgylch y ffermydd hyn. O'r wybodaeth a roddwyd, ni fu modd i ni asesu pa fanteision a fyddai'n deillio o'r newidiadau a awgrymid o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly, ni chynigiasom unrhyw argymhellion ar y pryd, a chroesawu cynrychiolaethau pellach ynglyn â'r awgrymiadau hyn.

4.36 Er y diffiniwyd enw'r gymuned drwy Orchymyn yn Ceiriog Ucha, nodom fod y Cyngor Cymuned yn defnyddio'r enw Ceiriog Uchaf. Ein barn ni oedd bod y ffurf Uchaf yn briodol. Felly, cymeradwyom y newid arfaethedig hwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n gallu gwneud y fath newid o dan Adran 76 y Ddeddf.

Glyntraean a'r Waun

4.37 Yn ei gynrychiolaeth, awgrymodd Cyngor Cymuned Glyntraean newid i'r ffin rhwng Cymuned Glyntraean a'r Waun. Nid oeddem o'r farn bod y newid arfaethedig yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn ogystal, gan nad oedd Cymuned Y Waun wedi'i chynnwys yng Nghyfarwyddiadau'r Arolwg ( Atodiad A), nodom nad oedd modd i ni wneud unrhyw argymhellion o ran newidiadau i ffin Cymuned Y Waun yn yr arolwg hwn.

Marchwiail a Sesswick

4.38 Cynigiodd Cyngor Cymuned Sesswick ddau awgrym ar gyfer newid y ffin rhwng Marchwiail (Ward Deiniol) a Sesswick. Roedd yr awgrym cyntaf yn ardal Bedwell Brook ac roedd a wnelo â rhan a oedd yn cynnwys un eiddo. Roedd yr ail awgrym yn dilyn llinell y ffordd fynediad ddeheuol arfaethedig i'r ystâd ddiwydiannol. Nodom yn ein hadroddiad fod llwybr y ffordd hon i'w benderfynu o hyd ac nad oedd wedi cael ei mapio. Nodom na chafwyd unrhyw ohebiaeth yn ystod cyfnod cychwynnol yr arolwg oddi wrth Gyngor Cymuned Marchwiail nac unrhyw blaid arall a chanddi ddiddordeb.

4.39 O ran y newid yn ardal Bedwell Brook, roeddem o'r farn bod teilyngdod i'r newid arfaethedig am fod y ffin a awgrymid yn dilyn nodweddion diffiniedig eglur ac yn ymddangos ei bod yn ffin fwy priodol na'r un bresennol yn yr ardal hon. Felly, yn amodol, gwnaethom argymell y newid hwn i'r ffin a chroesawu unrhyw gynrychiolaethau pellach mewn perthynas â'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail.

4.40 O ran y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Sesswick a Marchwiail i ddilyn llinell y ffordd fynediad ddeheuol arfaethedig i'r ystâd ddiwydiannol, teimlem nad oedd modd i ni gynnig unrhyw argymhellion ar y pryd. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi rhoi gwybod i ni y rhoddodd ei Fwrdd Gweithredol awdurdod i gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y ffordd newydd ar 5 Gorffennaf 2005, ond cawsom ar ddeall nad yw'r cais wedi'i gyflwyno hyd yn hyn. Yn ystod y cyfarfod, mabwysiadodd y Bwrdd Gweithredol lwybr ffafriol, ond bydd y gwelliant arfaethedig yn amodol ar amrywiol weithdrefnau statudol gan gynnwys y posibilrwydd o gynnal ymchwiliad cyhoeddus. Efallai y bydd y gweithdrefnau hyn yn arwain at addasu neu hyd yn oed roi'r gorau i'r cynllun. Roeddem o'r farn mai'r camau mwyaf priodol fyddai i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam barhau i fonitro datblygiad y cynllun ac adolygu'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail pan a phryd y bydd union gynllun y ffordd yn hysbys.

Holt ac Is-y-coed

4.41 Awgrymodd Cyngor Cymuned Is-y-coed y dylai Fferm Oatlands, Coed Ridley gael ei chynnwys yn gyfan gwbl yn ardal Cymuned Is-y-coed yn hytrach nag yng Nghymuned Holt. Gan fod y ffin bresennol yn yr ardal hon yn ymddangos yn afreolaidd, roeddem o'r farn bod rhinwedd i'r awgrym. Felly, yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, cynigiasom newid i'r ffin rhwng Cymunedau Is-y-coed a Holt.

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i'n hadroddiad ar y Cynigion Drafft, derbyniasom gynrychiolaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cynghorau Cymuned Abenbury, Acton, Brychdwn, Parc Caia, Gwersyllt, Holt, Y Mwynglawdd a Sesswick, Martyn Jones AS, Lesley Griffiths AC, Janet Ryder AC, Karen Sinclair AC, Y Cynghorydd Morris (Adran Etholiadol Holt), Y Cynghorydd Price (Adran Etholiadol Y Mwynglawdd), Y Cynghorydd Wilkinson (Adran Etholiadol Bryn Cefn), Y Cynghorydd Nelmes (Adran Etholiadol Y Mwynglawdd), 104 o drigolion Llwyn Onn, 7 o drigolion Fairways (yn ogystal â deiseb gan 94 o drigolion) a 41 o drigolion Y Mwynglawdd (a trigolion o ardal arall a chanddo fuddiant yn Y Mwynglawdd yn ogystal â deiseb o 288 o drigolion Y Mwynglawdd). Gellir gweld crynodeb o'r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad C.

5.2 Yn ei gynrychiolaeth, roedd Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd o'r farn y dylid diystyru ein cynnig drafft o ran y ffin rhwng Y Mwynglawdd a Choed-poeth oherwydd diffyg canfyddedig yn ein gweithdrefnau. Roedd a wnelo hyn â'r ffaith i gynrychiolaeth Cyngor Cymuned Coedpoeth, a oedd yn awgrymu adolygu ei gynnig cychwynnol (a ystyrir yn 4.24 uchod), gael ei derbyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau cychwynnol i ni.

5.3 Mewn ymateb i hyn, rhoddasom wybod i Gyngor Cymuned Y Mwynglawdd y nodir ein rhwymedigaethau statudol o ran y weithdrefn i'w dilyn yn ei arolygon yn adran 60 Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd. I grynhoi, rhaid ymgynghori â phobl sydd â diddordeb yng nghynnwys yr arolwg, a sicrhau y rhoddir gwybod i unrhyw un sydd â diddordeb am unrhyw gynigion drafft. Nid yw'r Ddeddf yn nodi'n fanwl pa ddulliau na pha amserlen y dylem eu defnyddio i gynnal yr ymgynghoriad hwn, ond sylwn mai prif egwyddor adran 60 yw rhoi cyfle i bawb y gall fod ganddynt ddiddordeb yn yr arolwg, gyflwyno eu barn drwy ymgynghoriad. Rydym wedi datblygu'r gofynion statudol sylfaenol ynglyn â'r weithdrefn yn ein Nodiadau Arweiniol cyhoeddedig. Bwriedir i'r arweiniad hwn fod yn hyblyg, ac er mwyn sicrhau bod gennym gymaint â phosibl o'r wybodaeth sydd ar gael yn ein meddiant wrth gynnal ein gorchwyl byddwn, er enghraifft, yn ystyried cynrychiolaethau a gyflwynir nad ydynt yn bodloni'r terfyn amser, cyhyd ag y bo'r bobl sydd â diddordeb yn cael cyfle i ddatgan eu barn bob tro, ac wrth gwrs y bydd cyfle i ni eu hystyried yn llawn. Yn yr achos a godwyd gan Gyngor Cymuned Y Mwynglawdd, roeddem o'r farn i'r amcan hwnnw gael ei fodloni a bod y weithdrefn wedi'i gweithredu'n deg: hynny yw, o ganlyniad i'r cynigion drafft, a gefnogwyd gan resymeg lawn, a gynhwysir yn Adroddiad y Cynigion Drafft, roedd Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd a phartïon a chanddynt ddiddordeb wedi cael cyfle i ystyried y cynigion a chyflwyno eu barn yn llawn. 

6. ASESIAD

Abenbury a Pharc Caia

6.1 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, cynigiasom ddwy ardal i'w trosglwyddo o Gymuned Abenbury i Gymuned Parc Caia. Y ddwy ardal hyn yw ystâd ranedig Llwyn Onn ac ystâd Thornleigh.

Llwyn Onn

6.2 Ar ôl ystyried yr holl gynrychiolaethau a dderbyniwyd mewn ymateb i'n Cynigion Drafft, rydym yn parhau o'r farn nad yw'r sefyllfa bresennol, lle rhennir ystâd Llwyn Onn gan y ffin rhwng Cymunedau Abenbury a Pharc Caia, yn fuddiol o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. O'r herwydd, rydym yn parhau o'r farn y dylid cynnwys ystâd Llwyn Onn yn ei chyfanrwydd oddi mewn i ardal un Gymuned am ei bod yn ystâd gydlynol, a adeiladwyd fel uned naturiol. Felly, rydym wedi ystyried yr awgrymiadau amgen ar gyfer datrys yr anghysondeb hwn, naill ai drwy newid y ffin er mwyn cynnwys ystâd Llwyn Onn gyfan yng Nghymuned Parc Caia neu newid y ffin i gynnwys ystâd Llwyn Onn gyfan ac eiddo eraill i'r de o Heol Abenbury yng Nghymuned Abenbury.

6.3 Mewn ymateb i'n cynnig o ran Llwyn Onn, nodom i un o drigolion Abenbury Fields, yng Nghymuned Parc Caia, ysgrifennu i gefnogi awgrym Cyngor Cymuned Abenbury i dynnu'r ffin ar hyd Heol Abenbury i gyfuno Abenbury Fields ac ystâd Llwyn Onn gyfan yng Nghymuned Abenbury. Fel y nodwyd yn 4.8 uchod, nid oeddem o'r farn bod yr awgrym hwn yn briodol wrth ystyried ein Cynigion Drafft, am y byddai'n cynnwys trosglwyddo sawl eiddo a chanddynt gysylltiadau â Chymuned Parc Caia. Bu'r ardal rhwng de Heol Abenbury ac Afon Clywedog yn rhan o Gymuned Parc Caia ers ffurfio'r Gymuned honno gan Orchymyn (Cymunedau) Wrecsam Maelor 1985. Cyn 1985, roedd yr ardal yn rhan o Gymuned Wrecsam. O'r herwydd, rydym o'r farn am fod gan yr ardal hon gysylltiadau hirsefydlog ag ardaloedd Tref Wrecsam a Pharc Caia, y dylai barhau yn rhan o Gymuned Parc Caia ac na ddylid ei chynnwys yng Nghymuned Abenbury.

6.4 Nodom o'r ymatebion a gawsom gan drigolion y rhan honno o Lwyn Onn sy'n rhan o Abenbury, fod pob un yn gwrthwynebu'r cynnig i symud eu hardal i Gymuned Parc Caia. Nodom, fodd bynnag, na roddwyd unrhyw resymau am y gwrthwynebiad hwn i ychwanegu at y rheiny a fynegwyd yn flaenorol fel rhan o'r cynrychiolaethau cychwynnol a gyflwynwyd i ni ac a ystyriwyd yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft. O'r cynrychiolaethau, ymddengys fod mwyafrif helaeth o drigolion y rhan honno o Lwyn Onn sy'n rhan o Abenbury yn dymuno aros yn Abenbury. Byddai'r awgrym amgen a wnaed gan Gyngor Cymuned Abenbury, ac a ystyriwyd yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, yn bodloni dymuniadau'r trigolion hyn. Fodd bynnag, byddai'r awgrym hwn, i gynnwys ystâd Llwyn Onn yn gyfan ac eiddo eraill i'r de o Heol Abenbury, yng Nghymuned Abenbury, yn golygu trosglwyddo nifer o eiddo sydd eisoes yn rhan o Gymuned Parc Caea ac a chanddynt gysylltiadau â'r Gymuned honno, ac sy'n rhan o anheddiad Tref Wrecsam fel y'i diffinnir yn y CDU. Am y rhesymau hyn, nid ydym o'r farn bod yr awgrym amgen a wnaed gan Gyngor Cymuned Abenbury o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

6.5 Roedd y cynrychiolaethau a wnaed gan Gyngor Cymuned Abenbury ac eraill yn cwestiynu'r cyfeiriad, yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, at Abenbury fel cymuned wledig. Nid dyma oedd ein bwriad. Ym mharagraff 4.9 ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, wrth gymharu Abenbury â Pharc Caia, cyfeiriwn at y ffaith fod Abenbury yn 'fwy gwledig ei natur'. Rydym o'r farn bod y gymhariaeth hon yn gywir, ac er nad yw'r pwynt hwn yn rhywbeth sy'n penderfynu, fe'i heglurir yn dda gan y mapiau yn Atodiadau E ac F.

6.6 Yn ei ymateb i'n Cynigion Drafft, ailadroddodd Cyngor Cymuned Abenbury ei bryderon o ran effaith y newidiadau arfaethedig ar hyfywedd ei gymuned. Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodom nad oedd gennym unrhyw dystiolaeth ar y pryd na fyddai Cymuned arfaethedig Abenbury yn un hyfyw. Awgrymasom, petai'r fath dystiolaeth yn dod i law, y gellid ystyried cyfuno Cymuned Abenbury ag un o'r cymunedau cyffiniol. Dewis arall yw y gellid grwpio Abenbury â chymuned neu gymunedau cyfagos o dan gyngor cymuned cyffredin (Adran 29 y Ddeddf).

6.7 Nid ydym o'r farn bod y cynrychiolaethau pellach a dderbyniwyd gennym wedi rhoi digon o dystiolaeth i ni gwestiynu hyfywedd Cymuned arfaethedig Abenbury. Yn wir, nodom mai datblygiad cymharol ddiweddar yw Llwyn Onn a bod Cyngor Cymuned Abenbury yn bodoli lawer blwyddyn cyn hyn â nifer lai o etholwyr (325 ym 1979, 350 ym 1996).

6.8 Nodom i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn ei gynrychiolaeth, gefnogi'r newid a gynigiwyd yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft.

6.9 Rydym yn parhau o'r farn bod yr anghysondeb lle rhennir ystâd Llwyn Onn rhwng dwy ardal gymuned, yn niweidiol i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn yr ardal. Rydym o'r farn bod y ffin a gynigiwyd gennym, sy'n cynnwys ystâd Llwyn Onn gyfan yn Ward Whitegate Cymuned Parc Caia, ac a ddangosir ar y map yn Atodiad E, wedi'i diffinio'n eglur. Rydym o'r farn bod y fath newid o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac, o'r herwydd, yn ei argymell.

Thornleigh

6.10 Yn ei gynrychiolaeth, gofynnodd Y Cynghorydd Morris i ni ystyried Cynllun Datblygu Lleol newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â Thornleigh. Roedd o'r farn ei fod yn ymddangos bod y Cynllun yn awgrymu y byddai maint yr ystâd yn cynyddu, gan arwain at anomaledd yn y dyfodol o ran y ffin. Cawn ar ddeall gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y bydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd, ar y cynharaf, yn cychwyn yn 2010. Rydym yn fodlon y bydd y ffin o amgylch ystâd Thornleigh, fel y'i cynigir yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, yn cynnwys yr holl ddatblygiad tai yn yr ardal hon am y dyfodol rhagweladwy. Felly, cynigiwn newid y ffin rhwng Cymunedau Abenbury a Pharc Caia fel y dangosir ar y map yn Atodiad F am y rhesymau a roddir yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ac a nodir ym Mharagraffau 4.11 i 4.14 yn yr Adroddiad hwn.

Acton, Parc Caia a Holt

6.11 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriom gynnig i drosglwyddo ystâd Fairways o Ward Bieston Cymuned Holt i Ward Cartrefle Cymuned Parc Caia a hefyd cynnig i drosglwyddo ystâd Fairways, o Gymuned Holt, a hefyd ystâd Old Gardens, o Gymuned Parc Caia, i Ward Rhosnesni Cymuned Acton. Croesawom gynrychiolaethau ynglyn â'r cynigion amgen hyn.

6.12 Mewn ymateb i'n Cynigion Drafft, nodom i Gyngor Cymuned Acton ailadrodd ei sylwadau cychwynnol bod ffiniau presennol Cymuned Acton wedi'u diffinio'n eglur iawn ac y byddai trosglwyddo ystâd Fairways i Ward Rhosnesni Cymuned Acton yn golygu y byddai Ward Rhosnesni yn rhy fawr. Mae Cyngor Cymuned Parc Caia yn parhau o'r farn y byddai'n well cynnwys ystâd Fairways yn eu hardal hwy. Mae Cyngor Cymuned Holt yn parhau i wrthwynebu trosglwyddo ystâd Fairways o'u hardal hwy ac, yn arbennig, roedd o'r farn nad oedd unrhyw dystiolaeth bod gan drigolion Fairways unrhyw affinedd â'r gwasanaethau ym Mharc Caia na'u bod yn eu defnyddio. Roedd Y Cynghorydd Morris o'r farn, o ystyried y gwrthwynebiad gan drigolion, y dylai'r ardal barhau yn rhan o Holt. Fodd bynnag, roedd o'r farn bod gan Fairways fwy o affinedd â Chymuned Acton nag â Chymuned Parc Caia.

6.13 Nodom hefyd y cynrychiolaethau gan drigolion Fairways sy'n cefnogi symud i Waunyterfyn yn hytrach nag i Barc Caia. Maent wedi cynnig nifer o resymau dros deimlo affinedd â Ward Rhosnesni Cymuned Acton.

6.14 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriom fod ystâd Fairways yn rhan o ardal Tref Wrecsam, ac yn hyn o beth y dylid ei chynnwys yn un o Gymunedau Tref Wrecsam. Nodom y cynrychiolaethau a gyflwynwyd mewn ymateb i'n Cynigion Drafft ac rydym o'r farn, er na chynigiwyd unrhyw bwyntiau ychwanegol sylweddol i wrthwynebu'r cynnig, y cynigiwyd llawer o wybodaeth ychwanegol i gefnogi'r cysylltiadau cymunedol rhwng Fairways a Chymuned Acton. Rydym yn parhau o'r farn y dylid cynnwys ystâd Fairways yn naill ai ardal Cymuned Acton neu ardal Cymuned Parc Caia. O'r cynrychiolaethau a dderbyniwyd gennym, rydym o'r farn bod gan drigolion Fairways gysylltiadau cymunedol llawer cryfach â Ward Rhosnesni Cymuned Acton nag â Ward Cartrefle Cymuned Parc Caia. Rydym o'r farn bod ystâd Old Gardens a'r ardal gyffiniol, sy'n rhan o Ward Cartrefle Cymuned Parc Caia ar hyn o bryd, yn ffurfio ardal gydlynol ynghyd ag ystâd Fairways. O'r herwydd, rydym o'r farn y dylid trosglwyddo ystâd Old Gardens, sy'n ffinio â Fairways, o Gymuned Parc Caia i Gymuned Acton.

6.15 Rydym o'r farn y byddai newid ffiniau Cymunedau Acton, Parc Caia a Holt, fel y dangosir ar y map yn Atodiad F, o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly dyma yw ein cynnig.

6.16 Nodwn y pryderon a fynegwyd o ran effaith y newid arfaethedig ar lefelau'r gynrychiolaeth ar gyfer Cyngor Cymuned Acton a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ill dau. Er ein bod o'r farn bod hon yn ystyriaeth bwysig, mae'n un a ystyriwn o ganlyniad i newid i ffin gymunedol yn hytrach nag yn ffactor sy'n penderfynu wrth ystyried y fath newid. Caiff yr ystyriaethau hyn, o ran y newid i'r ffiniau rhwng Cymunedau Acton, Parc Caia a Holt, eu hystyried ym mharagraffau 8.3, 8.4, 8.5, 8.6, 8.7, 8.8, 8.23, 8.26, ac 8.29 isod.

Coedpoeth a'r Mwynglawdd

6.17 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriom newid i'r ffin a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Coedpoeth a chynigiom newid i'r ffin rhwng Cymunedau Coedpoeth a'r Mwynglawdd. Mewn ymateb i'n cynigion drafft, nodom i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gefnogi'r newid arfaethedig, ond i Gyngor Cymuned Y Mwynglawdd a nifer o bartïon eraill a chanddynt ddiddordeb a thrigolion, wrthwynebu'r cynnig. Wrth ystyried ein cynigion drafft, roedd yn ymddangos i ni fod yr ardaloedd o dai ar y naill ochr i ffordd yr A525 yng ngogledd Cymuned Coedpoeth yn gyffiniol ag anheddiad Coedpoeth. O'r cynrychiolaethau a dderbyniwyd gennym mewn ymateb i'n cynigion drafft, nodom gryfder y teimladau sy'n mynegi affinedd trigolion yr ardal â Chymuned Y Mwynglawdd. Soniodd un o'r trigolion am y 'llinell derfyn gymdeithasol bendant sy'n gwahanu'r cymunedau'. Nodom hefyd agosrwydd yr ardal dan sylw i bentref Y Mwynglawdd a'r ffaith ei fod wedi'i chysylltu â'r pentref gan lain barhaus bron o eiddo ar hyd ochr ddeheuol Heol Neuadd Y Mwynglawdd (B5426).

6.18 O ystyried y gymuned fuddiant a rennir gan drigolion Y Mwynglawdd a diffyg unrhyw dystiolaeth gefnogol ychwanegol, rydym o'r farn erbyn hyn na fyddai'r newid arfaethedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Rydym hefyd o'r farn y dylai'r Ystâd Ddiwydiannol i'r gogledd o'r ardal breswyl barhau yn rhan o Gymuned Y Mwynglawdd. Fodd bynnag, rydym yn parhau o'r farn y dylid trosglwyddo'r ardal yn rhan ddeheuol y newid arfaethedig (ger The Smelt), a ystyriwyd yn 4.27 uchod, i Gymuned Coedpoeth.

6.19 Cynigiwn newid y ffin rhwng Cymuned Coedpoeth a Chymuned Y Mwynglawdd fel y dangosir ar y map yn Atodiad G. Rydym o'r farn y bydd y newid hwn o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Brymbo a Brychdwn

6.20 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriom y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Brymbo a Brychdwn a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Brymbo. Roeddem o'r farn bod teilyngdod i'r newid arfaethedig, am ei fod yn ymddangos i ni fod cymuned fuddiant rhwng ardaloedd sy'n rhan o Gymuned Brychdwn ar hyn o bryd a Chymuned Brymbo. Mewn ymateb i'n hadroddiad ar y Cynigion Drafft, derbyniasom wrthwynebiadau i'r cynnig gan Gyngor Cymuned Brychdwn, Martyn Jones AS a'r Cynghorydd Wilkinson, pob un ohonynt yn amau'r gymuned fuddiant ganfyddedig rhwng ardaloedd a gynhwysir yn y cynnig a Chymuned Brymbo.

6.21 Yn ei chynrychiolaeth, nodom fod Y Cynghorydd Wilkinson yn cytuno y gallai bod achos dros ail-alinio'r ffin am ei bod o'r farn bod y ffin bresennol ar hyd Heol Green a Heol Holland yn ddryslyd. Awgrymodd Y Cynghorydd Wilkinson ffin amgen a fyddai'n golygu y byddai ardaloedd y mae hi o'r farn bod ganddynt gysylltiadau cymunedol cryf â Brychdwn yn parhau yn y Gymuned honno. O ran ardal Lodge, nodom ei bod hi o'r farn y dylid newid y ffin i sicrhau bod y ddwy ochr i'r ffordd yn yr un gymuned, a bod gan yr ardal gysylltiadau cymunedol cryfach â Brychdwn.

6.22 Rydym wedi ystyried yn ofalus y cynrychiolaethau y cyfeirir atynt uchod, yn ogystal â'r newid amgen i'r ffin a awgrymir gan Y Cynghorydd Wilkinson, ac rydym o'r farn bod teilyngdod i'r awgrym. Erbyn hyn, o'r wybodaeth a roddwyd i ni, rydym o'r farn bod gan ardal Parc Brynmally/Heol yr Orsaf gysylltiadau cymunedol â Brychdwn yn hytrach nag â Brymbo, ac o'r herwydd, y dylent barhau yn rhan o ardal Cymuned Brychdwn. Ein barn o hyd yw bod gan yr ardal sy'n cynnwys Heol y Frenhines, Heol Green, Heol Holland a Halcog gymuned fuddiant â Brymbo a llwybrau mynediad drwy Brymbo. Nodom hefyd y farn a fynegwyd o ran ardal Lodge ac rydym wedi ystyried safle Lodge mewn perthynas â Brymbo a Brychdwn. Erbyn hyn, rydym o'r farn bod gan Lodge hefyd gysylltiadau cymunedol â Brychdwn yn hytrach nag â Brymbo, ac y dylai felly barhau yn rhan o ardal Cymuned Brychdwn.

6.23 Rydym o'r farn y byddai newid y ffin rhwng Cymunedau Brymbo a Brychdwn o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly, cynigiwn y newidiadau i'r ffin a ddangosir ar y map yn Atodiad H.

Gwersyllt, Gresffordd a Rhos-ddu

6.24 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodom beth oedd maint anheddiad Tref Wrecsam yn y CDU a chynnig cynnwys rhan o Gymuned bresennol Gwersyllt yng Nghymuned Rhos-ddu. Fodd bynnag, nodom gwrthwynebiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Cyngor Cymuned Gwersyllt i'n cynigion drafft ar gyfer yr ardal. O ystyried y gwrthwynebiad hwn a diffyg unrhyw gynrychiolaeth i gefnogi'r cynnig, penderfynasom beidio â dilyn ein cynnig cynharach i newid y ffin rhwng Cymunedau Gwersyllt a Rhos-ddu.

6.25 Fodd bynnag, nodom fod rhan o'r ardal y cynigiom ei throsglwyddo o Gymuned Gresffordd i Gymuned Rhos-ddu, yn cynnwys ardaloedd diwydiannol nad oedd modd cael mynediad iddynt trwy Gymuned Gresffordd. Roedd y diffyg mynediad hwn yn bwynt amlwg iawn o blaid trosglwyddo'r ddwy ardal ddiwydiannol i ardaloedd cymunedol y ceid mynediad ohonynt. I oresgyn y gwendid hwn, ein cynllun gwreiddiol oedd trosglwyddo'r ddwy ardal i Gymuned Rhos-ddu gydag ardal sylweddol o Gymuned Gwersyllt (fel ag yr ystyriwyd yn 4.31 a 4.33 uchod). Erbyn hyn, am y rhesymau a roddir yn 6.24 uchod, rydym wedi penderfynu peidio â newid y ffin rhwng Cymunedau Gwersyllt a Rhos-ddu ac, am y ceir mynediad i'r ddwy ardal ddiwydiannol hyn trwy Gymuned Gwersyllt, rydym o'r farn y byddai o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynnwys yr ardaloedd hyn yng Nghymuned Gwersyllt. Felly, cynigiwn newid y ffin rhwng Cymuned Gresffordd a Chymuned Gwersyllt, fel a ddangosir ar y map yn Atodiad I.

6.26 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodom y cynnig gan Gyngor Cymuned Gresffordd i newid ei ffin â Chymuned Llai i ddilyn llinell yr A483 (P). Gwnaethom esbonio am nad oedd Cymuned Llai wedi'i chynnwys yng Nghyfarwyddiadau'r Arolwg (Atodiad A), nad oedd modd i ni gynnig unrhyw argymhellion o ran newid ffin Cymuned Llai yn ystod yr arolwg hwn. Felly, cymeradwywn y newid hwn a awgrymwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ystyried cynnal ei arolwg ei hun o dan Adran 55(2) y Ddeddf.

Llansantffraid Glyn Ceiriog, Glyntraean a Cheiriog Ucha

6.27 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriom awgrym Cyngor Cymuned Glyn Ceiriog ar gyfer dau newid bach i'w ffin, un i drosglwyddo Hafod y Garreg o Gymuned Ceiriog Ucha ac un i drosglwyddo Fferm Y Pant o Gymuned Glyntraean. O'r wybodaeth a ddarparwyd bryd hynny, nid oedd modd i ni gynnig argymhellion, a chroesawom gynrychiolaethau pellach mewn perthynas â'r awgrymiadau hyn. Mewn ymateb i'n hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ni dderbyniasom unrhyw sylwadau o ran y newidiadau hyn a awgrymwyd. Felly, nid ydym yn gwneud unrhyw gynigion o ran ffiniau cymunedau Llansantffraid Glyn Ceiriog, Glyntraean a Cheiriog Ucha.

Marchwiail a Sesswick

6.28 Nodom y gefnogaeth barhaus i'r cynnig hwn gan Gyngor Cymuned Sesswick ac na fu unrhyw gynrychiolaethau eraill ynglyn â'n newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Sesswick a Marchwiail. O'r herwydd, rydym yn parhau o'r farn bod ein newid arfaethedig i'r ffin yn dilyn nodweddion a ddiffinnir yn amlwg a'i bod yn ffin fwy priodol na'r un bresennol yn yr ardal hon. Felly, cynigiwn newid i'r ffin rhwng Cymunedau Marchwiail a Sesswick fel a ddangosir ar y map yn Atodiad J.

6.29 O ran y newid i'r ffin a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Sesswick i ddilyn llwybr y ffordd fynediad ddeheuol arfaethedig i'r ystâd ddiwydiannol, rydym yn parhau o'r farn nad dyma'r adeg briodol i ystyried y newid hwn. Rydym o'r farn mai'r cam mwyaf priodol fyddai i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam barhau i fonitro datblygiad y cynllun ffordd ac i arolygu'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail pan a phryd y bydd union gynllun y ffordd yn hysbys.

Holt ac Is-y-coed

6.30 Nodom nad oedd yr un o'r cynrychiolaethau a dderbyniwyd mewn ymateb i'n Cynigion Drafft yn cyfeirio at y cynnig penodol hwn. Am na chodwyd unrhyw ystyriaethau a fyddai'n gwrthgymeradwyo'r newid arfaethedig, rydym yn parhau o'r farn y byddai'r cynnig er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac felly yn cynnig y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Holt ac Is-y-coed fel a ddangosir ar y map yn Atodiad K.

7. CYNIGION

7.1 Wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, cynigiwn y dylid adlinio ffiniau Cymunedau Acton, Abenbury, Parc Caia, Holt, Coedpoeth, Y Mwynglawdd, Brymbo, Brychdwn, Gwersyllt, Gresffordd, Sesswick a Marchwiail yn yr ardal dan arolygiad i ddilyn y ffiniau a ddangosir mewn gwyrdd ar y mapiau yn Atodiadau E, F, G, H, I, J, a K.

7.2 Gellir gweld mapiau manwl ar raddfa fwy sy'n dangos y ffiniau newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.

8. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL

8.1 Wrth ystyried y newidiadau amrywiol i'r ffiniau cymunedol, roedd hefyd yn ofynnol i ni gymryd i ystyriaeth yr effeithiau ar y trefniadau etholiadol i gynghorau cymuned a'r prif awdurdod, a fyddai'n deillio o'r newidiadau hyn. Mae'r adran hon o'n hadroddiad yn manylu ar ein cynigion ar gyfer newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Trefniadau Etholiadol Cynghorau Cymuned

8.2 Nid yw Cymuned Abenbury wedi'i wardio ac, ar hyn o bryd, mae ganddi 479 o etholwyr a gynrychiolir gan 8 cynghorydd. O dan ein cynigion, bydd yr etholwyr yn gostwng i 274. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Abenbury, nodom y byddai'n ofynnol gostwng nifer y cynghorwyr i 5. Fodd bynnag, yn ein Guide to Representation on Community Councils, a gyhoeddwyd ym 1976, awgrymom y dylid cael isafswm o 7 cynghorydd i gynrychioli cyngor cymuned. Cynigiwn felly i Gyngor Cymuned Abenbury gael ei gynrychioli gan 7 cynghorydd.

8.3 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, mae Cymuned Acton wedi'i rhannu'n wardiau cymunedol Acton Ganol, Parc Acton, Parc Borras, Acton Fechan, Maesydre a Rhosnesni. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

E/C*

Acton

Acton Ganol

1,003

2

 501

 

Parc Acton

1,257

2

 628

 

Parc Borras

2,078

3

 693
  Acton Fechan

1,846

3

615
  Maesydre

1,206

3

402

 

Rhosnesni

2,223

2

1,111 

 

 

9,613

15

 641

* Nifer yr Etholwyr am bob Cynghorydd

8.4 O dan y trefniadau etholiadol presennol, nodom fod gan ward bresennol Rhosnesni lefel anghymesur o gynrychiolaeth o'i chymharu â wardiau eraill. O dan ein cynigion, bydd nifer yr etholwyr yn ward Rhosnesni yn cynyddu o 667 i 2,890. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hon sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Acton, cynigiwn y trefniadau etholiadol a ddangosir yn y tabl canlynol ar gyfer yr ardal.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

E/C*

Acton

Acton Ganol

1,003

2

 501

 

Parc Acton

1,257

2

 628

 

Parc Borras

2,078

3

 693
  Acton Fechan

1,846

3

615
  Maesydre

1,206

2

603

 

Rhosnesni

2,890

4

722 

 

 

10,280

16

 642

8.5 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, mae Cymuned Parc Caia wedi'i rhannu'n wardiau cymunedol Cartrefle, Queensway, Smithfield, Whitegate a Wynnstay. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

E/C*

Parc Caia

Cartrefle

1,564

3

 521

 

Queensway

1,396

3

 465

 

Smithfield

1,595

3

 532
 

Whitegate

2,324

3

775

 

Wynnstay

1,206

3

 402

 

 

8,085

15

539 

8.6 O dan ein cynigion, bydd nifer yr etholwyr yn ward Cartrefle yn gostwng o 7 i 1,557 a bydd nifer yr etholwyr yn ward Whitegate yn cynyddu o 169 i 2,493 o etholwyr. Er mwyn cael rhywfaint o gysondeb yn lefel y gynrychiolaeth ar draws y wardiau, cynigiwn y dylai'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Parc Caia fod fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

E/C*

Caia Park

Cartrefle

1,557

3

 519

 

Queensway

1,396

2

 698

 

Smithfield

1,595

3

 532
 

Whitegate

2,493

4

623

 

Wynnstay

1,206

2

 603

 

 

8,247

14

589 

8.7 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, rhennir Cymuned Holt yn wardiau cymunedol Bieston a Holt. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

E/C*

Holt

Bieston

691

2

345

 

Holt

1,097

9

122

 

 

1,788

11

162

8.8 Yn ôl ein cynigion ar gyfer Cymuned Holt, bydd nifer yr etholwyr yn ward Bieston yn gostwng o 624 i 67 a bydd nifer yr etholwyr yn ward Holt yn gostwng o 2 i 1,095. Fel y nodom yn 4.23 uchod, mae gennym amheuon ynglyn â dymunoldeb cadw trefniadau wardio presennol y gymuned. O ran nifer yr etholwyr, ward Bieston fyddai'r ward gymunedol leiaf ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Wrth ystyried a ddylid rhannu cymuned yn wardiau, mae Atodlen 11 (4) Deddf 1972 yn nodi "bod rhaid rhoi ystyriaeth i'r cwestiynau - (a) a yw nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol y gymuned yn gyfryw ag i wneud etholiad unigol ar gyfer cynghorwyr plwyf neu gymuned yn anymarferol neu'n anghyfleus; a (b) a yw'n ddymunol y dylai unrhyw ran neu rannau o'r plwyf neu'r gymuned gael eu cynrychioli ar wahân ar y cyngor plwyf neu'r cyngor cymuned." Mewn perthynas â Chymuned ddiwygiedig Holt, rydym o'r farn na fyddai'n anymarferol nac yn anghyfleus cael un etholiad ar gyfer cynghorwyr cymuned, ac nid ydym o'r farn y byddai'n ddymunol i weddill ward Holt gael ei chynrychioli ar wahân ar y cyngor cymuned. Cynigiwn, felly, beidio â wardio Cymuned ddiwygiedig Holt, a fydd yn cynnwys 1,162 o etholwyr, a gostwng nifer y cynghorwyr o 11 i 10.

8.9 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau, rhennir Cymuned Coedpoeth yn wardiau cymunedol y Gogledd a'r De. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

E/C*

Coedpoeth

Gogledd

2,406

10

241

 

De

1,057

4

264

 

 

3,463

14

247

8.10 O dan ein cynigion ar gyfer cymuned Coedpoeth, bydd nifer yr etholwyr yn ward y De yn cynyddu o 5 i 1,062. Rydym o'r farn nad yw'r newid bach hwn yn nifer yr etholwyr yn teilyngu newid nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r ward hon, ac felly ni chynigiwn unrhyw newidiadau i'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Coedpoeth.

8.11 Nid yw Cymuned Y Mwynglawdd wedi'i wardio ac, ar hyn o bryd, mae ganddi 1,240 o etholwyr a gynrychiolir gan 12 cynghorydd. O dan ein cynigion, bydd yr etholwyr yn gostwng i 1,235. Rydym o'r farn nad yw'r newid bach hwn yn nifer yr etholwyr yn teilyngu newid nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r gymuned hon.

8.12 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau, rhennir Cymuned Brymbo yn wardiau cymunedol Brymbo, Bwlch Gwyn, a'r Fron. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

E/C*

Brymbo

Brymbo

1,369

8

171
  Bwlchgwyn

641

3

214

 

Vron

654

3

218

 

 

2,664

14

190

8.13 Yn ôl ein cynigion ar gyfer cymuned Brymbo, bydd ward Brymbo yn cynyddu o 83 o etholwyr i 1,452. Er gwaethaf y newid hwn yn nifer yr etholwyr, rydym o'r farn bod lefel bresennol y gynrychiolaeth yn parhau'n briodol ar gyfer ward Brymbo.

8.14 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau, rhennir Cymuned Brychdwn yn wardiau cymunedol Bryn Cefn, Bryn-teg, Gwenfro a Brychdwn Newydd. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.