Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

CYNIGION TERFYNOL

Atodiad C

Crynodeb o'r Cynrychiolaethau a Gafwyd mewn Ymateb i'r Cynigion Drafft

CYFFREDINOL

Nododd Isobel Garner, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, nad yw'r Bwrdd Gweithredol yn gwrthwynebu cynigion presennol y Comisiwn ar gyfer ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, ac eithrio'r rheiny sy'n gysylltiedig â'r newidiadau arfaethedig i Gymuned Gwersyllt. Barn y Bwrdd oedd na ddylid dilyn y cynigion hynny.

ABENBURY A PHARC CAIA

Mynegodd Cyngor Cymuned Abenbury bryderon ynglyn â'r newidiadau arfaethedig i'r ffin, gan gyflwyno'r pwyntiau canlynol:

Cytunodd Cyngor Cymuned Parc Caia â'r cynnig i gynnwys Ystâd Llwyn Onn a Thornleigh yng Nghymuned Parc Caia am fod y ddau yn perthyn yn agos ac y byddai'r newid i'r ffin yn arwain at lywodraeth leol well, effeithiol a chyfleus

Roedd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Mr M Morris (Holt) yn gwrthwynebu trosglwyddo Parc Llwyn Onn o Gymuned Abenbury i Gymuned Parc Caia am y rhesymau canlynol:

Roedd un o drigolion Abenbury Fields yn gwrthwynebu'r cynnig i gynnwys ystâd Llwyn Onn yn gyfan yng Nghymuned Parc Caia. Tynnodd sylw at y ffaith bod 29 o drigolion Llwyn Onn wedi gwrthwynebu'r cynnig ac nad oedd unrhyw un wedi'i gefnogi. Roedd o'r farn nad oedd modd dosbarthu Abenbury yn gyfan gwbl wledig am ei fod yn cynnwys Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam. Nid oedd gan Llwyn Onn unrhyw affinedd o gwbl â Pharc Caia am nad oedd hi'n defnyddio unrhyw un o'i gyfleusterau, a'r unig reswm y byddai Cyngor Cymuned Parc Caia yn dymuno newid y ffiniau fyddai i gynyddu ei refeniw. Mewn perthynas â honiad Cyngor Cymuned Parc Caia bod trigolion yr ardal yn cael mynediad at wasanaethau yn Wrecsam, roedd hi o'r farn na ddylai hyn effeithio ar ffiniau cymunedau unigol am fod y gwasanaethau yn Wrecsam ar gael i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol. Roedd hi'n bryderus hefyd petai Cyngor Cymuned Parc Caia yn cynyddu o ran ei faint na fyddai'n gallu gwasanaethu'r holl drigolion yn ddigonol.

Roedd hi o'r farn y dylai'r Comisiwn ailystyried y cynnig i adlinio'r ffin rhwng Parc Caia ac Abenbury ar hyd Heol Abenbury, a fyddai'n rhoi Abenbury Fields ac Ystâd Llwyn Onn yng Nghymuned Abenbury.

Llythyr Pro Forma - Cyf: Llwyn Onn, Wrecsam (Newid Ffin)

'Fel un o drigolion Parc Llwyn Onn, Wrecsam, hoffwn leisio fy ngwrthwynebiad i'r newid arfaethedig i'r ffin, a hoffwn aros oddi mewn i ffin Abenbury.' -

Llofnodwyd gan 103 o bobl.

ACTON, PARC CAIA A HOLT

Ailadroddodd Cyngor Cymuned Acton ei sylwadau gwreiddiol, sef:

Roedd Cyngor Cymuned Holt yn gwrthwynebu'r cynnig i drosglwyddo Ystâd Fairways o gymuned Holt i gymuned Parc Caia. Roedd y Cyngor o'r farn bod y Comisiwn Ffiniau wedi mynd yn erbyn dymuniadau y rhan fwyaf o'r trigolion sy'n byw yn Ystâd Fairways, am fod llawer wedi mynegi dymuniad i aros yn rhan o gymuned Holt. Nododd y Cyngor nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod trigolion Fairways yn defnyddio gwasanaethau ym Mharc Caia na bod ganddynt unrhyw affinedd â'r gymuned honno.

Roedd Cyngor Cymuned Parc Caia o'r farn, am fod Ystâd Fairways gryn bellter o bentref Holt ac yn rhan o ardal Tref Wrecsam, y dylid ei drosglwyddo o Holt i naill ai Acton neu Barc Caia. Roeddent o'r farn y byddai'n well cynnwys Ystâd Fairways ym Mharc Caia gan ddefnyddio heol yr A534 Wrecsam/Holt yn ffin naturiol am fod yr heol hon eisoes yn ffin rhwng Parc Caia a Acton, ac y byddai gwyro'r ffin ar hyd Heol Bryn Estyn o bosibl yn arwain at ddryswch ac yn creu ffin afresymegol.

Roedd Lesley Griffiths AC o'r farn y dylid trosglwyddo Ystâd Fairways i Gymuned Acton yn hytrach na Chymuned Parc Caia. Roedd ganddi bryderon ynglyn â'r effaith ar y cyllid statws difreintiedig a roddid i Barc Caia petai Ystâd Fairways yn cael ei chynnwys yn ward Cartrefle.

Roedd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Mr M Morris (Holt) yn gwrthwynebu trosglwyddo Ystâd Fairways o Gymuned Holt i Gymuned Parc Caia. Roedd o'r farn y dylai Ystâd Fairways barhau yn rhan o Holt o ystyried gwrthwynebiad y trigolion i'r trosglwyddo. Roedd o'r farn hefyd petai angen newid y ffin, fod gan Fairways fwy o affinedd â Chymuned Acton nag â Chymuned Parc Caia am fod y trigolion yn defnyddio cyfleusterau yn ardal Acton. Sefydlwyd cysylltiad eisoes rhwng Fairways a Acton am fod croesfan reoledig i gerddwyr ar yr A534 o Fairways i Waunyterfyn; fodd bynnag nid oedd o'r farn bod hyn yn ddigonol i warantu arolygu'r ffin a symud Fairways o Holt.

Roedd un o drigolion Fairways yn cefnogi'r cynnig i drosglwyddo Ystâd Fairways i Gymuned Acton am ei fod yn ystyried ei fod yn fwy hyfyw yn ddaearyddol ac yn economaidd. Roedd trigolion Fairways eisoes yn defnyddio'r cyfleusterau yn ardal Acton/ Borras/Golborn yn helaeth ac roedd affinedd gwirioneddol rhwng trigolion Fairways a Acton.

Nododd un o drigolion Fairways er y byddai'n well ganddo barhau yn rhan o Gymuned Holt, y gallai weld rhesymeg y newid arfaethedig i'r ffin a fyddai'n ymgorffori Fairways yng Nacton, am fod cysylltiadau cryf rhwng ardal Acton-Rhosnesni. Nododd nad oedd erioed wedi cael rheswm i ddefnyddio'r gwasanaethau cymunedol yn ardal Parc Caia yn y blynyddoedd lawer y bu'n byw yn Fairways.

Roedd un o drigolion Fairways yn cefnogi'r awgrym i gynnwys Ystâd Fairways yn ward Rhosnesni yng Nacton am ei bod o'r farn bod gan Fairways gymuned fuddiant lawer mwy â Acton nag â Pharc Caia. Nododd fod cyfleusterau fel siopau, ysgolion, meddygfeydd, tafarndai, parciau ac Eglwys Sant Ioan sy'n gwasanaethu Ystâd Fairways oll wedi'u lleoli yn ward Rhosnesni yng Nacton tra bod yr orsaf bleidleisio i drigolion Fairways wedi'i lleoli yn Ysgol Gynradd Parc Borras. Cyfeiriodd at y ffaith bod croesfan pelican ar Heol Holt rhwng Fairways a Rhosnesni yng Nacton ond nad oedd y fath gyfleuster yn bodoli ar Heol Cefn rhwng Fairways a Chartrefle ym Mharc Caia.

Roedd hi'n cydnabod y pryderon a leisiwyd gan Gyngor Cymuned Acton y gallai cynnwys Ystâd Fairways yn Ward Rhosnesni wneud y Ward yn rhy fawr i'r cynrychiolwyr ar y cyngor. Fodd bynnag, roedd hi o'r farn y byddai cynyddu nifer y cynrychiolwyr ar gyfer Rhosnesni o ddau i dri yn gwella'r broblem. Roedd hi'n cwestiynu a oedd rhai Cynghorwyr Cymuned a oedd hefyd yn Aelodau o'r Cyngor Bwrdeistref Sirol, yn edrych ar faint etholaeth Bwrdeistref Sirol Rhosnesni, yr oedd ei ffiniau yn cyd-ffinio â ffin ward Rhosnesni yng Nghymuned Acton. Roedd hi o'r farn y dylai ystyriaethau ynghylch cynrychiolaeth y Fwrdeistref Sirol gael eu pennu pan fydd arolwg etholiadol Sirol yn cael ei gynnal, ac na ddylid ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu ym mha gymuned y dylid cynnwys Fairways.

Roedd un o drigolion Fairways yn cefnogi'r cynnig y dylai Ystâd Fairways ddod yn rhan o gymuned Acton am ei fod yn defnyddio'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau yn Ward Rhosnesni. Cyfeiriodd at y ffaith fod Ystâd Fairways yn rhan o ardal Tref Wrecsam a'i fod yn cael mynediad at wasanaethau yn Nhref Wrecsam yn hytrach nag yn Holt. Roedd yn gwrthwynebu'r cynnig i drosglwyddo Fairways i Barc Caia am ei fod o'r farn nad oedd gan yr ystâd unrhyw gysylltiadau â Chymuned Parc Caia naill ai'n gymdeithasol nac yn economaidd, ac nad oedd trigolion yr ystâd yn defnyddio'r cyfleusterau yno.

Roedd un o drigolion Wrecsam yn siomedig i weld, er gwaethaf y gwrthwynebiad, y parheid i gynnig adlinio'r ffiniau rhwng cymunedau Parc Caia a Holt.

Roedd dau o drigolion Fairways yn gwrthwynebu'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Holt a Pharc Caia. Dywedasant fod y trigolion yn defnyddio cyfleusterau ym Mharc Borras, Acton ac weithiau yn Holt ond nad oeddent yn defnyddio unrhyw rai o gyfleusterau Parc Caia.

Derbyniwyd deiseb oddi wrth drigolion Ystâd Fairways, ger Heol Holt, Wrecsam a lofnodwyd gan 94 o drigolion, yn datgan y canlynol:

'Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn yn barchus i'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru argymell i Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru y dylid ymgorffori Ystâd Fairways yn ward Rhosnesni Cymuned Acton yn hytrach nag yn ward Cartrefle Cymuned Parc Caia. Y rheswm am y cais hwn yw bod gan Ystâd Fairways fwy o gymuned fuddiant â Acton nag â Pharc Caia. Deuir i'r casgliad hwn am fod y mwyafrif helaeth o gyfleusterau'r gymuned leol a ddefnyddir gan drigolion Ystâd Fairways wedi'u lleoli yn ward Rhosnesni Cymuned Acton. Mae'r rhain yn cynnwys:

COEDPOETH A'R MWYNGLAWDD

Roedd Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r cynnig i uno'r Mwynglawdd â Chymuned Coedpoeth am y rhesymau canlynol:

Hefyd, cyflwynodd y Cyngor ddeiseb:

DEISEB TRIGOLION Y MWYNGLAWDD YN ERBYN CYNNIG DRAFFT Y COMISIWN FFINIAU I ADLINIO FFIN COEDPOETH FEL AG YN ATODIAD N I GYNNWYS RHAN O'R MWYNGLAWDD -

RYDYM NI, Y SAWL SYDD WEDI LLOFNODI ISOD, YN CEFNOGI GWRTHWYNEBIAD CYNGOR CYMUNED Y MWYNGLAWDD I'R CYNNIG UCHOD YN ATODIAD N

288 llofnod

Roedd Janet Ryder, AC ar gyfer Gogledd Cymru, yn gwrthwynebu'r newidiadau i'r ffin rhwng Coedpoeth, Bwlchgwyn a'r Mwynglawdd. Gofynnodd Ms Ryder i'r Comisiwn Ffiniau ystyried y gwrthwynebiad i'r cynnig a godwyd gan Gyngor Cymuned Y Mwynglawdd a gwrthod y newidiadau i'r ffin.

Nododd Karen Sinclair, AC De Clwyd fod trigolion lleol wedi codi sawl gwrthwynebiad o ran y cynnig i adlinio'r ffin rhwng cymunedau Coedpoeth a'r Mwynglawdd, ac roedd y rhain yn cynnwys;

Roedd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol, D Price (Y Mwynglawdd), yn gwrthwynebu'r cynnig i drosglwyddo rhan o'r Mwynglawdd i Gymuned Coedpoeth. Roedd o'r farn petai'r Mwynglawdd yn colli mwy na 300 o drigolion i Goed-poeth, y byddai'n anodd iddo gadw lefel bresennol y gwasanaethau heb gynyddu ei braesept yn sylweddol. Yn ogystal, byddai trigolion a fyddai'n trosglwyddo i Goed-poeth yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu praesept heb unrhyw fantais amlwg. Cynhaliwyd tri chyfarfod cyhoeddus lle bu'r trigolion yn unfrydol wrth wrthod y cynigion cychwynnol a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Coedpoeth. Wedi hynny, cyflwynodd Coedpoeth gynigion diwygiedig ond ni roddwyd cyfle i drigolion Y Mwynglawdd ymateb i'r rhain cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Comisiwn ar ôl y dyddiad cau. Roedd o'r farn, am fod Cyngor Coedpoeth wedi cyflwyno ei gynigion diwygiedig ar ôl y dyddiad cau, y dylid tynnu'r cynnig, ynghyd ag argymhellion y Comisiwn, yn eu holau. Roedd o'r farn hefyd y byddai'r newidiadau a gynigiwyd yn gwaethygu'r anghysondeb rhwng maint Y Mwynglawdd a chynghorau cymuned cyffiniol Coedpoeth a Brymbo, a fyddai'n cynyddu'n sylweddol, lle byddai'r Mwynglawdd yn cael ei leihau i bwynt lle byddai ei hyfywedd dan amheuaeth.

Roedd Y Cynghorydd Cymuned Mr Graham Nelmes (Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd) yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i'r ffiniau rhwng Coedpoeth a'r Mwynglawdd a gofynnodd i'r Comisiwn ystyried y pwyntiau canlynol:

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i'r ffin rhwng Coedpoeth a'r Mwynglawdd. Roeddent o'r farn y byddai unrhyw newid o'r fath yn arwain at y ffaith y byddai'n rhaid i drigolion a fyddai'n parhau yn rhan o Gyngor Cymuned Y Mwynglawdd dalu cynnydd sylweddol mewn praesept Cymunedol i gynnal y gwasanaeth yr oedd Cyngor Y Mwynglawdd yn ei ddarparu ar hyn o bryd.

Meddai un o drigolion Caer (Cyn Lywydd Cymdeithas Cynghorau Cymuned Sir Wrecsam), bod Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd yn cael ei rhedeg fel model i'r holl gynghorau eraill yn Wrecsam, ac y byddai'n annheg pe bai'r trigolion yn cael eu heffeithio'n negyddol gan y newid arfaethedig i'r ffin. Roedd o'r farn y dylai'r Comisiwn ystyried yn ddifrifol farn Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd, yr oedd ef yn ei gefnogi.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu trosglwyddo'r Mwynglawdd i Gyngor Cymuned Coedpoeth. Roeddent yn anghytuno â honiad Cyngor Cymuned Coedpoeth fod gan ystâd Bryn Hyfryd gyfeiriad post yng Nghoed-poeth a bod trigolion Y Mwynglawdd wedi cefnogi'r trosglwyddo. Roeddent yn dweud bod Y Mwynglawdd yn gymuned fach a chanddi gynghorwyr cymuned da a oedd ar gael bob amser pan oedd eu hangen.

Derbyniwyd cynrychiolaeth bellach a nodai eu bod yn ystyried na ddylid defnyddio Cynllun Datblygu Unedol (CDU) Wrecsam i gyfiawnhau'r newidiadau arfaethedig i'r ffin.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu trosglwyddo'r Mwynglawdd i Goed-poeth. Roeddent o'r farn bod Y Mwynglawdd yn gymuned wledig fach a'u bod yn fodlon â'r gwasanaeth a ddarperid gan Gyngor Cymuned Y Mwynglawdd, nad oedd yn gorwario ei gyllideb ac a ymdriniai ag unrhyw broblemau yn gyflym. Roeddent o'r farn y byddai unrhyw newid yn arwain at gynnydd yn y Dâl Cymunedol heb unrhyw fudd i drigolion Y Mwynglawdd. Roeddent hefyd yn anghytuno â honiad Cyngor Cymuned Coedpoeth fod gan ystâd Bryn Hyfryd gyfeiriad post Coedpoeth a bod trigolion Y Mwynglawdd wedi cefnogi'r cynnig hwn. Roeddent hefyd o'r farn na ddylid defnyddio CDU Cyngor Wrecsam i bennu ffiniau cymunedol.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu trosglwyddo'r Mwynglawdd i Gyngor Cymuned Coedpoeth. Anghytunai hi â honiad Cyngor Cymuned Coedpoeth bod y rhan fwyaf o'r trigolion wedi cefnogi ei gynnig. Roedd o'r farn bod cynghorwyr Y Mwynglawdd yn ymroddedig i'w dyletswyddau, eu bod yn gwasanaethu'r gymuned yn dda a'u bod ar gael pan oedd eu hangen.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu newid y ffin rhwng Y Mwynglawdd a Choed-poeth. Anghytunent â honiad Cyngor Cymuned Coedpoeth bod trigolion Y Mwynglawdd wedi mynegi eu bod yn cefnogi'r cynnig. Roeddent o'r farn bod pentrefi Y Mwynglawdd a Choed-poeth yn gwbl wahanol ac y byddai unrhyw newid yn arwain at y ffaith na fyddai Y Mwynglawdd yn cael ei gynrychioli'n deg ar y Cyngor. Roeddent hefyd o'r farn y byddai unrhyw newidiadau o'r fath yn arwain at gynnydd mewn taliadau cymunedol.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu uno Cymuned Y Mwynglawdd â Chymuned Coedpoeth.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Coedpoeth a'r Mwynglawdd. Roedd o'r farn bod Y Mwynglawdd yn gymuned wledig yn bennaf lle'r oedd Coedpoeth yn gymuned drefol, ac er bod ardal o adeiladau parhaus ar hyd priffordd yr A525, roedd llinell derfyn gymdeithasol amlwg iawn yn gwahanu'r cymunedau. Tynnodd sylw at y ffaith hefyd nad oedd unrhyw ffyrdd rhyng-gysylltiol rhwng aneddiadau trigolion Coedpoeth a'r Mwynglawdd. Roedd o'r farn er bod Cynllun Datblygu Unedol (CDU) Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (WCBC) yn cydnabod y byddai'r ardaloedd anheddiad a ddiffinnir gan y CDU yn croesi ffiniau Cymunedol, na ddylai o reidrwydd olygu y gellid adlinio ffin gymunedol heb gydganiatâd yr holl bartïon yr effeithir arnynt.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r newid i'r ffin rhwng Y Mwynglawdd a Choed-poeth. Tynnodd sylw at y ffaith fod y rhan fwyaf o drigolion Y Mwynglawdd wedi pleidleisio yn erbyn y trosglwyddo i Goed-poeth.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gryf ei wrthwynebiad i'r cynigion i gynnwys rhan o'r Mwynglawdd yng Nghoed-poeth. Roedd o'r farn bod Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd bob amser wedi ymdrechu i gael gwerth gorau am arian, lle'r oedd Cyngor Cymuned Coedpoeth wedi gwario arian ar oleuadau stryd, baneri a phafin amhriodol.

Roedd tri o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Y Mwynglawdd a Choed-poeth. Anghytunent â honiadau Cyngor Cymuned Coedpoeth bod gan ystâd Bryn Hyfryd gyfeiriad post Coedpoeth a bod y trigolion wedi mynegi eu cefnogaeth i'w cynnig. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd gan drigolion Y Mwynglawdd unrhyw ddymuniad i ymuno â Choed-poeth, ac am fod y ffin bresennol wedi bod yn ei lle ers cannoedd o flynyddoedd na allent weld unrhyw reswm dros ei newid.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu trosglwyddo rhan o'r Mwynglawdd i Gymuned Coedpoeth. Roedd o'r farn mai ardal wledig oedd Y Mwynglawdd a bod Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd wedi gweithio'n ddiwyd i'w chadw fel hynny, ac yn ymdrin ag unrhyw broblemau yn briodol. Roedd o'r farn na fyddai Cyngor Cymuned Coedpoeth ond yn cymryd rheolaeth ar ardal fwy poblog Y Mwynglawdd i gynhyrchu mwy o refeniw o daliadau cymunedol, a thrwy hynny adael ardal lai poblog Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd â llai o gyllid.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu newid y ffin rhwng Y Mwynglawdd a Choed-poeth. Roedd o'r farn bod Y Mwynglawdd yn gymuned wahanol yn ei rhinwedd ei hun, ac y byddai'r ymdeimlad hwn o gymuned yn cael ei golli petai'r newid arfaethedig i'r ffin yn mynd yn ei flaen. Roedd o'r farn mai'r prif reswm dros gynnig Cyngor Cymuned Coedpoeth oedd cynyddu ei refeniw trwy gynnwys mwy o drigolion yn ardal dreth Coedpoeth.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i'r ffin rhwng Y Mwynglawdd a Choed-poeth. Roeddent oll yn anghytuno â datganiad Cyngor Cymuned Coedpoeth eu bod wedi ymgynghori â holl drigolion yr ardal a'u bod yn bryderus nad oedd y Cyngor wedi cynnig unrhyw esboniad i'r trigolion ynglyn â pham yr oeddent yn dymuno newid y ffin. Roeddent o'r farn bod Y Mwynglawdd yn gymuned hanesyddol a chlos a chanddi gyngor cymuned gweithgar ac effeithlon. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith bod Cyngor Cymuned Coedpoeth wedi cynyddu ei braesept yn ystod y pedair blynedd blaenorol lle'r oedd Y Mwynglawdd wedi cadw ei braesept yn gyson. Roeddent o'r farn bod gan Goed-poeth fwy o gynghorwyr lleol na'r Mwynglawdd ac yn amau a fyddai modd i'r Mwynglawdd ei gynnal ei hun â chyfraniad ariannol llai ar ôl unrhyw leihad mewn maint.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'n gryf y newid arfaethedig i'r ffin rhwng Coedpoeth a'r Mwynglawdd. Roedd o'r farn nad oedd unrhyw reswm i newid y ffin bresennol a sefydlwyd ers cannoedd o flynyddoedd. Roedd o'r farn bod Cyngor Cymuned Coedpoeth wedi llunio'r cynnig er mwyn cynyddu ei incwm neu i dalu dyledion yn dilyn gwariant ar bethau fel goleuadau stryd.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu trosglwyddo rhan o bentref Y Mwynglawdd i Goed-poeth am ei fod o'r farn bod Y Mwynglawdd yn draddodiadol yn bentref ar wahân. Roedd o'r farn bod y newidiadau arfaethedig yn rhan o ymgais cymuned fwy i geisio gorfodi ei dymuniadau ar gymuned lai. Roedd yn anghytuno hefyd â datganiad Cyngor Cymuned Coedpoeth i drigolion Y Mwynglawdd fynegi dymuniad i ymuno â Choed-poeth.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r cynnig i uno'r Mwynglawdd â Choed-poeth.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r cynnig i drosglwyddo rhan o'r Mwynglawdd i Goed-poeth. Tynnodd sylw at y ffaith fod deiseb a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Y Mwynglawdd mewn ymateb i'r cynnig gwreiddiol yn dangos bod mwyafrif helaeth y trigolion yn anghytuno'n gryf â'r trosglwyddo i Goed-poeth. Roedd o'r farn bod Y Mwynglawdd yn hen bentref gwledig â chefndir hanesyddol, tra bod Coedpoeth yn ardal drefol. Byddai'r cynnig i drosglwyddo yn arwain at leihau cynrychiolaeth Y Mwynglawdd ar y cyngor yn sylweddol, ac felly ni fyddai pobl Y Mwynglawdd yn cael eu cynrychioli'n ddigonol. Byddai trigolion Y Mwynglawdd hefyd yn gweld eu taliadau cymunedol yn cynyddu am mai gan Goed-poeth y mae'r dreth gyngor uchaf yn Wrecsam. Roedd yn anghytuno â honiad Cyngor Cymuned Coedpoeth bod gan Ystâd Bryn Hyfryd gyfeiriad post Coedpoeth a thynnodd sylw at y ffaith fod yr holl drigolion wedi gwrthbrofi'r honiad hwn yn ystod eu cyfarfod cyhoeddus. Cydnabu bod rhai o drigolion Y Mwynglawdd yn defnyddio'r siopau a rhai o'r amwynderau yng Nghoed-poeth, ond roedd o'r farn ei bod yr un mor hawdd iddynt deithio i Dref Wrecsam, a fyddai'n golygu y byddai masnach yng Nghoed-poeth yn dioddef.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Y Mwynglawdd a Chymuned Coedpoeth. Roedd o'r farn o ganlyniad i waith caled a syniadau blaengar Cyngor Y Mwynglawdd, bod trigolion Y Mwynglawdd yn gallu mwynhau treth gymunedol gymharol isel. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin yn golygu y ceid cynnydd yn incwm Cyngor Coedpoeth oddi wrth bron i 350 o drigolion ychwanegol ac Ystâd Ddiwydiannol Y Mwynglawdd, ac yn hynny o beth roedd o'r farn bod y rheswm y tu ôl i gynnig Cyngor Cymuned Coedpoeth yn un ariannol.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Y Mwynglawdd a Choed-poeth. Nid oedd o'r farn y dylid ystyried cynnig pellach Cyngor Cymuned Coedpoeth ar ôl cyfarfod y trigolion lle pleidleisiodd mwyafrif y trigolion yn erbyn y cynigion cychwynnol. Roedd o'r farn i ystyriaethau a theimladau trigolion Y Mwynglawdd gael eu hanwybyddu a bod Cyngor Cymuned Coedpoeth yn ceisio sicrhau mwy o refeniw o ganlyniad i'w wariant gormodol.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu uno Cymuned Y Mwynglawdd â Chymuned Coedpoeth.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu estyn Coedpoeth i'r Mwynglawdd. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith i'r trigolion gynnal pleidlais ynglyn â'r cynnig eisoes, a'i wrthod. Roeddent o'r farn nad oedd unrhyw beth i'w ennill o uno'r ddwy gymuned, ar wahân i gynnydd mewn treth gyngor heb fawr o gynnydd mewn cyfleusterau.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'n gryf uno Cymuned Y Mwynglawdd â Chymuned Coedpoeth. Roeddent o'r farn y byddai eu tâl cymunedol yn cynyddu'n sylweddol heb i'r trigolion weld unrhyw fanteision.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu uno Nantlais â Choed-poeth. Roeddent o'r farn y byddai eu treth gyngor yn cynyddu am mai yng Nghoed-poeth oedd y raddfa uchaf o dreth y cyngor yn ardal Wrecsam ac mai Coedpoeth yn unig fyddai ar ei hennill o newid y ffin, ac nid Y Mwynglawdd.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu newid y ffin rhwng Cymunedau Y Mwynglawdd a Choed-poeth.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu i Goed-poeth feddiannu rhan o Gymuned Y Mwynglawdd. Roedd o'r farn y byddai'n well ganddi fod yn rhan o Gyngor Cymuned Y Mwynglawdd am fod ei gyfradd dreth a gwariant yn is ac y rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a rhoi gwybod iddynt ymhle yr oedd eu harian yn cael ei wario. Nododd y bu'r ffiniau presennol yn eu lle ers mwy na chwe chan mlynedd, ac na welai unrhyw reswm i'w newid yn awr.

Roedd dau o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu uno rhan o'r Mwynglawdd â Choed-poeth. Gwnaethant nodi na chynhaliwyd unrhyw drafodaethau i bennu a oedd trigolion Y Mwynglawdd am uno â Choed-poeth, a'u bod o'r farn pe bai'r newidiadau yn cael eu gweithredu y byddai trigolion Y Mwynglawdd ar eu colled. Gwnaethant nodi bod Y Mwynglawdd yn bentref glân, taclus â chymuned glos a oedd yn gofalu amdano'i hun, yn wahanol i Goed-poeth a oedd yn ardal drefol lawer mwy.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Y Mwynglawdd a Choed-poeth. Dywedodd i drigolion Y Mwynglawdd wrthod cynnig cyntaf Cyngor Cymuned Coedpoeth ac nad oeddent wedi cael cyfle i gynnig sylwadau ar yr ail gynnig. Byddai'r newid arfaethedig yn golygu y byddai Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd yn colli 2 gynghorwr, a chan fod y cyngor cymuned yn un bach eisoes, na allai fforddio hyn. Roedd o'r farn bod Cyngor Cymuned Y Mwynglawdd yn gynorthwyol ac yn ymateb i geisiadau a wnaed gan drigolion, ac na ddylid lleihau pentref bach ond gweithgar Y Mwynglawdd o ran ei faint.

Roedd un o drigolion Y Mwynglawdd yn gwrthwynebu'r cynnig i gynnwys rhan o'r Mwynglawdd yng Nghyngor Cymuned Coedpoeth. Roedd o'r farn bod gan Y Mwynglawdd hunaniaeth wahanol ac na fyddai'r cynlluniau ar gyfer y ffin er pennaf les y pentref.

BRYMBO A BRYCHDWN

Cadarnhaodd Cyngor Cymuned Brychdwn ei wrthwynebiad i'r cynigion i newid y ffin bresennol a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Brymbo. Roedd o'r farn bod yr ardaloedd dan sylw yn rhan gynhenid o Brychdwn a bod y trigolion yn defnyddio'r cyfleusterau yn Brychdwn. Lleisiodd y Cyngor hefyd amheuaeth a fodolai cymuned fuddiant rhwng yr ardal y bwriedid ei throsglwyddo a chymuned Brymbo.

Roedd Mr Martyn Jones, AS De Clwyd yn gwrthwynebu'r diwygiad arfaethedig i'r ffiniau rhwng Pentre Brychdwn a Brymbo. Nododd, o ganlyniad i nodweddion topograffig yr ardal - Brychdwn yn codi'n raddol iawn a Brymbo yn codi'n serth - fod trigolion sy'n byw ar hyd ardal Lodge yn perthyn llawer mwy i Brychdwn nag i Brymbo.

Roedd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Shan Wilkinson (Bryn Cefn) ac aelod o Gyngor Cymuned Brychdwn o'r farn y dylid adlinio'r ffin rhwng Brychdwn a Brymbo am fod y ffin bresennol yn ddryslyd ac nad oedd yn dilyn unrhyw nodweddion diffiniedig eglur. Fodd bynnag, roedd Y Cynghorydd Wilkinson yn anghytuno â chynigion drafft y Comisiwn, ac yn dadlau nad oedd cymuned fuddiant rhwng Heol Clayton, Heol yr Orsaf a Pharc Brynmally a Chymuned Brymbo am fod trigolion yr heolydd hyn yn anfon eu plant i Ysgol Pentre Brychdwn ac yn defnyddio'r gwasanaethau ym Mrynteg, nid Brymbo. Roedd y rhiw serth iawn rhwng Pentre Brychdwn a Brymbo yn ffurfio ffin naturiol rhwng y ddau bentref. Byddai'n gwneud mwy o synnwyr trosglwyddo Llys Gwyrth, Heol Green, Heol Holland a Heol y Frenhines o Brychdwn i Brymbo, tra gallai Halcog a'r tai ger y gyffordd rhwng Heol Clayton a Heol Green fynd i'r naill gymuned, er bod ganddynt ychydig mwy o affinedd â Brychdwn. O ran y Lodge, sydd wedi'i rannu ar hyn o bryd rhwng y ddwy gymuned, byddai'n gwneud synnwyr i'r tai ar y ddwy ochr i'r ffordd fod yn yr un Gymuned, ac roedd yn ymddangos mai â Phentre Brychdwn oedd y cysylltiadau cymunedol cryfaf.

GWERSYLLT, GRESFFORDD A RHOS-DDU

Roedd Cyngor Cymuned Gwersyllt yn gwrthwynebu'n gryf y cynnig i drosglwyddo rhan o Rosrobin Newydd a'r Pandy o Wersyllt i Ros-ddu. Roedd y Cyngor o'r farn bod ffin naturiol rhwng y ddwy gymuned eisoes, sef ffordd osgoi'r A483, a bod gan Y Pandy a Rhosrobin Newydd gysylltiadau hanesyddol cryf â Gwersyllt. Roeddent yn datgan bod trigolion yr ardal yr oeddent wedi ymgynghori â hwy ynglyn â'r cynnig yn ei wrthwynebu, a gwnaethant dynnu sylw at y ffaith bod Cyngor Cymuned Rhos-ddu yn gwrthwynebu'r cynnig hefyd. Cefnogai'r Cyngor gynnig y Comisiwn i gynyddu nifer y cynghorwyr cymuned sy'n cynrychioli Ward Orllewinol Cymuned Gwersyllt i bump.

MARCHWIAIL A SESSWICK

Ailadroddodd Cyngor Cymuned Sesswick ei ddau gynnig cychwynnol o ran yr arolwg o Gymunedau Wrecsam, sef:

  1. Y dylid adlinio'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail ym Mryn Afon, i barhau ar hyd llinell Bedwell Brook nes cwrdd â'r A528 ac yno'n dilyn yr A528 tua'r de i gwrdd â'r ffin bresennol. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith bod Bedwell Brook yn nodwedd naturiol amlwg a oedd eisoes yn ffurfio rhan fawr o'r ffin rhwng cymunedau Sesswick a Marchwiail. Roedd yn ymddangos yn rhesymegol parhau â'r ffin ar hyd Bedwell Brook o Fryn Afon. Byddai'r newid arfaethedig yn effeithio ar un eiddo.
  2. Y dylid adlinio'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail i ddilyn llinell y ffordd fynediad gyswllt arfaethedig o gyfeiriad y de rhwng Five Fords a Phont Bedwell Uchaf. Gwnaethant ychwanegu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi rhoi gwybod iddynt y dylai'r ffordd fynediad gyswllt arfaethedig o gyfeiriad y de agor ym mis Mawrth 2010 ac y byddent yn arolygu'r ffin pan fyddai union gynllun yr heol yn hysbys.

28/9/2007