Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

CYNIGION DRAFFT

  1. CYFLWYNIAD
  2. CRYNODEB GWEITHREDOL
  3. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT
  4. ASESIAD
  5. CYNIGION
  6. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
  7. CYDNABYDDIAETH
  8. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
  9. Y CAMAU NESAF

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau cyfnod cyntaf yr arolwg o Ffiniau Cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam fel y cyfarwyddwyd gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei Chyfarwyddyd i ni, dyddiedig 30 Mehefin 2006 ( Atodiad A).

1.2 Diben yr arolwg yw ystyried a ddylai'r Comisiwn, er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gynnig newidiadau i'r ffiniau cymunedol presennol. Cynhelir yr arolwg o dan ddarpariaethau Adran 56(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf).

1.3 Mae Adran 60 o'r Ddeddf yn nodi canllawiau gweithdrefnol, y mae'n rhaid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw, ar 7 Gorffennaf 2006, ysgrifennom at Gynghorau Cymuned Abenbury, Acton, Bangor Is-y-Coed, Brychdwn, Brymbo, Parc Caia, Ceiriog Ucha, Coedpoeth, Esclusham, Glyntraean, Gresffordd, Gwersyllt, Holt, Is-y-coed, Llansantffraid Glyn Ceiriog, Marchwiail, Mwynglawdd, Offa, Rhosddu, Yr Orsedd, Sesswick a Willington Worthenbury, Aelod Seneddol yr etholaeth leol, Aelodau Cynulliad yr ardal a phartïon eraill a chanddynt ddiddordeb i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i geisio eu barn ragarweiniol. Cyn cychwyn yr arolwg, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam nifer o awgrymiadau ar gyfer newidiadau i ffiniau cymunedol. Amgaewyd rhestr o'r rhain gyda'r llythyr gwreiddiol hwn ( Atodiad B). Hefyd, cyhoeddom ein bwriad i gynnal arolwg mewn papurau lleol yn yr ardal, a gofynnom i'r Cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus. Hysbyswyd cychwyn yr arolwg a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cynrychiolaethau (8 Medi 2006) ar wefannau'r Comisiwn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Cynigiwn:

3. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT

3.1 Derbyniom gynrychiolaethau oddi wrth Gynghorau Cymuned Abenbury, Acton, Brychdwn, Brymbo, Parc Caia, Ceiriog Ucha, Coedpoeth, Esclusham, Glyntraean, Gresffordd, Gwersyllt, Holt, Is-y-coed, Llansantffraid Glyn Ceiriog, Mwynglawdd, Offa, Yr Orsedd, Sesswick a Willington Worthenbury, Cymdeithas Trigolion Bwlch Gwyn, y Cynghorydd Morris, (Adran Etholiadol Holt), y Cynghorydd Penny (Ward Bieston, Cyngor Cymuned Holt), y Cynghorydd Squires (Cyngor Cymuned Abenbury), 95 o lythyrau oddi wrth drigolion lleol, deiseb â 722 o lofnodion a deiseb â 202 o lofnodion. Mae manylion am yr holl gynrychiolaethau hyn i'w gweld yn Atodiad C.

4. ASESIAD

4.1 Awgrymwyd newidiadau i ffiniau cymunedol yn yr ardaloedd canlynol: Abenbury, Acton, Parc Caia a Holt; Coedpoeth, Brymbo a Mwynglawdd; Brymbo a Brychdwn, Gresffordd, Llai a Gwersyllt; Llansantffraid Glyn Ceiriog a Glyntraean; Llansantffraid Glyn Ceiriog a Cheiriog Ucha; Glyntraean a'r Waun; Sesswick a Marchwiail.

4.2 Mae nifer o'r cynrychiolaethau sy'n awgrymu newidiadau i'r ffiniau cymunedol yn cyfeirio at y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ( Atodiad D). Mae'r CDU yn diffinio nifer o ardaloedd aneddiadau sy'n gweithredu'n ardaloedd cyfyngu at ddibenion datblygu tai, cyflogaeth a gwasanaethau cymunedol yn y dyfodol. Ystyriwn y gall fod i'r CDU oblygiadau sylweddol i'r cymunedau yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac y dylai'r Comisiwn ystyried y goblygiadau hyn yn ofalus wrth bennu ffiniau cymunedol.

Abenbury, Acton, Parc Caia a Holt

4.3 Mae Cyngor Cymuned Parc Caia wedi awgrymu trosglwyddo tair ardal o gymunedau cyffiniol i Barc Caia. Y tair ardal yw: Llwyn Onn lle mae'r ffin bresennol rhwng Parc Caia ac Abenbury yn rhannu'r ystâd; Thornleigh; ac ystâd Fairways.

Llwyn Onn

4.4 Mae'r map yn Atodiad E yn dangos yr ardal y mae Cyngor Cymuned Parc Caia yn awgrymu ei throsglwyddo o Gymuned Abenbury. Mae Cyngor Cymuned Abenbury wedi cyflwyno gwrthgynnig sy'n cymryd ardal o Barc Caia i mewn i Abenbury. Dangosir hyn yn y map yn Atodiad F.

4.5 Mae Cyngor Cymuned Parc Caia yn tynnu sylw at y ffaith bod CDU Wrecsam yn cynnwys ystâd gyfan Llwyn Onn o fewn ardal anheddiad Tref Wrecsam. Maent o'r farn bod yr ardal hon ar wahân i anheddiad gwledig Abenbury a bod cyfleusterau cymunedol gerllaw ym Mharc Caia. Maent hefyd o'r farn bod trigolion yr ardal yn defnyddio gwasanaethau yn Wrecsam.

4.6 Mae Cyngor Cymuned Abenbury ac eraill o'r farn bod y trefniadau presennol yn gweithio'n dda o ran darparu gwasanaethau a bodlonrwydd y trigolion. Maent o'r farn y byddai colli trigolion Llwyn Onn (a Thornleigh) yn lleihau nifer yr etholwyr yn Abenbury yn sylweddol ac yn bwrw amheuaeth ar hyfywedd y gymuned. Gan fod cyfran treth gymunedol y dreth gyngor yn uwch ym Mharc Caia nag yn Abenbury, mynegwyd pryderon hefyd y byddai'n rhaid i drigolion yr ardal dan arolwg dalu treth gyngor ar gyfradd uwch pe câi ei throsglwyddo. Mae nifer o drigolion Abenbury (yn arbennig o Lwyn Onn) wedi ysgrifennu i wrthwynebu trosglwyddo eu hardal i Barc Caia.

4.7 Ystyriom fod y ffin bresennol rhwng Cymunedau Abenbury a Pharc Caia yn Llwyn Onn yn amlwg yn afreolaidd am ei fod yn rhannu Ystâd Llwyn Onn. Rydym o'r farn y dylai Llwyn Onn gyfan fod naill ai yng Nghymuned Abenbury neu Gymuned Parc Caia, gan nad yw'n ymddangos bod unrhyw gysylltiadau lleol â'r Gymuned gyffiniol arall, sef Marchwiail. Nid ydym o'r farn bod gwrthgynnig Cyngor Cymuned Abenbury yn briodol, gan y byddai'n cynnwys trosglwyddo nifer o eiddo sydd â chysylltiadau â Chymuned Parc Caia.

4.8 Rydym wedi nodi'r gwrthwynebiad cryf gan drigolion i'r trosglwyddiad i Barc Caia ac, yn arbennig, eu pryderon ynglyn â'r gwahaniaeth yn y dreth gymunedol, a'r effaith ar brisiau tai ac yswiriant. O ran y dreth gymunedol, rydym wedi nodi bod gwahaniaeth o £36.54 rhwng Abenbury a Pharc Caia ar gyfer eiddo Band D yn 2005/06. Rydym o'r farn nad yw amgylchiadau'r dreth gymunedol yn 2005/06, o reidrwydd, yr un ag yn y dyfodol, ac y bydd effaith y dreth gymunedol ar y trethdalwr unigol yn dibynnu ar lefel wariant net y Cyngor Cymuned ac amgylchiadau personol yr unigolyn, a gall y rhain amrywio o flwyddyn i flwyddyn. O ran yr amrywiadau yn y dreth gymunedol o ganlyniad i'n cynigion, rydym yn cadarnhau mai ein hymagwedd gyffredinol at ystyried pa gynigion i'w gwneud er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yw mai ychydig o bwys y dylid ei roi, fel arfer, ar newidiadau ôl-ddilynol yn nhreth gyngor unigolion ac, yn sicr, na ddylent fod yn benderfynyddion. Mewn perthynas â phrisiau tai, rydym o'r farn mai bach iawn fydd effaith y newid arfaethedig gan fod rhan o ystâd Llwyn Onn yng Nghymuned Parc Caia eisoes, ac nid oes gennym unrhyw dystiolaeth yr effeithiwyd yn andwyol ar brisiau tai yn yr ardal hon. Yn yr un modd, rydym o'r farn na fyddai hyn yn effeithio ar y sefyllfa o ran yswiriant, gan ein bod yn ei chael ar ddeall mai'r cod post sy'n penderfynu hyn fel arfer. Yn yr un modd â lefel y dreth gyngor, rydym ni o'r farn ym mhob achos mai ychydig iawn o bwys y dylai'r Comisiwn ei roi ar y ffactorau unigol hyn wrth ystyried llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.9 Rydym o'r farn bod teilyngdod yng nghynnig Cyngor Cymuned Parc Caia ar gyfer Llwyn Onn am ei fod yn cyfuno ystâd Llwyn Onn yn un gymuned. Rydym o'r farn bod gan yr ardal dan sylw fwy o gymuned fuddiant â Chymuned Tref Wrecsam nac â Chymuned Abenbury, sy'n fwy gwledig ei natur. Rydym hefyd yn nodi bod y ffin arfaethedig yn sicrhau y cynhwysir anheddiad Tref Wrecsam a ddiffinnir yn y CDU o fewn Cymuned Tref Wrecsam yn yr ardal hon. Ein casgliad, felly, yw y byddai'r newid a awgrymir gan Gyngor Cymuned Parc Caia i drosglwyddo ystâd gyfan Llwyn Onn i Ward Whitegate Cymuned Parc Caia yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Thornleigh

4.10 Mae'r map yn Atodiad G yn dangos ardal arall a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Parc Caia i'w throsglwyddo o Gymuned Abenbury. Unwaith yn rhagor, mae Cyngor Cymuned Abenbury wedi cyflwyno gwrthgynnig sy'n trosglwyddo ardal Willow Court o Barc Caia i Abenbury yn ogystal â chadw ardal Thornleigh. Dangosir hyn yn y map yn Atodiad H.

4.11 Yn yr un modd ag ardal Llwyn Onn, mae Cyngor Cymuned Parc Caia yn tynnu sylw at y ffaith bod CDU Wrecsam yn cynnwys ardal Thornleigh o fewn ardal anheddiad Tref Wrecsam. Maent o'r farn bod yr ardal hon hefyd yn ardal wahanol i anheddiad gwledig Abenbury a bod trigolion yr ardal yn defnyddio gwasanaethau yn Wrecsam. Maent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod eiddo cyffiniol yn Heol Cefn a Lôn Bryn Estyn yn rhan o Gymuned Parc Caia.

4.12 Mae Cyngor Cymuned Abenbury ac eraill yn gwrthwynebu'r cynnig i drosglwyddo ardal Thornleigh i Barc Caia. Yn yr un modd â Llwyn Onn, maent o'r farn bod y trigolion yn fodlon ar y trefniadau presennol.

4.13 Rydym o'r farn bod y ffin bresennol rhwng Cymunedau Abenbury a Pharc Caia yn ardal datblygiad Thornleigh yn afreolaidd am ei fod yn rhannu Thornleigh o'r anheddiad cyffiniol yn Willow Court, ac rydym o'r farn bod gan y ddwy ardal hyn gymuned fuddiant gyffredin. Rydym hefyd o'r farn bod Thornleigh yn barhad o ardal yr anheddiad yn rhan ogledd-orllewinol Parc Caia. Ein casgliad, felly, yw y byddai newid y ffin i gynnwys Thornleigh o fewn Ward Cartrefle Cymuned Parc Caia yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.14 Nodom fod cynnig Cyngor Cymuned Parc Caia ar gyfer Thornleigh ( Atodiad G) yn cynnwys ardal o dir heb ei ddatblygu i'r de a'r dwyrain nad yw wedi'i chynnwys o fewn ardal anheddiad Tref Wrecsam a ddangosir ar fap y CDU. Gan nad yw'n ymddangos i ni bod unrhyw gysylltiad rhwng yr ardal hon o dir a datblygiad Thornleigh, ac i fod yn gyson â'r CDU, rydym yn cynnig bod yr ardal hon o dir yn parhau'n rhan o Gymuned Abenbury. Dangosir ein newid arfaethedig i'r ffin yn yr ardal hon ar fapiau Atodiadau K ac L.

Fairways

4.15 Mae'r map yn Atodiad I yn dangos yr ardal y mae Cyngor Cymuned Parc Caia yn awgrymu ei throsglwyddo o Ward Bieston Cymuned Holt i Ward Cartrefle Cymuned Parc Caia. Mae'r Cynghorydd Morris (Adran Etholiadol Holt, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) wedi cyflwyno gwrthgynnig sy'n cymryd ardal o Barc Caia i mewn i Holt. Dangosir hyn ar y map yn Atodiad J.

4.16 Unwaith yn rhagor, mae Cyngor Cymuned Parc Caia yn tynnu sylw at y ffaith y cynhwysir yr ardal hon o fewn ardal anheddiad Tref Wrecsam yn y CDU. Maent o'r farn bod trigolion yr ardal yn cael mynediad at wasanaethau yn Wrecsam ac nad oes gan yr ardal unrhyw gysylltiad â phentref Holt sydd bum milltir i ffwrdd.

4.17 Roedd y Cynghorydd Morris o'r farn bod gan drigolion ystâd Fairways, yn gymdeithasol ac yn economaidd, fwy o affinedd â Holt na Pharc Caia. Roedd o'r farn bod trigolion yr ardal yn cefnogi ac yn defnyddio cyfleusterau yn Holt ac nad oeddent yn defnyddio cyfleusterau ym Mharc Caia. Roedd o'r farn bod Cyngor Cymuned Holt wedi meithrin cysylltiadau da â'r ystâd. Ysgrifennodd nifer o drigolion ystâd Fairways i wrthwynebu cynigion i drosglwyddo'r ardal i Barc Caia. Ychwanegodd un o'r trigolion hyn os oeddent i gael eu trosglwyddo o Gymuned Holt y byddai'n well ganddynt drosglwyddo i Gymuned Acton yn hytrach na Pharc Caia.

4.18 Mae ystâd Fairways yn rhan o Ward Bieston yng Nghymuned Holt. Mynegodd y Cynghorydd Penny (Ward Bieston, Cyngor Cymuned Holt) a thri o drigolion y farn y dylai Ward Bieston naill ai ddod yn rhan o gymuned arall (ar wahân i Holt) neu ffurfio cymuned ynddo ei hun. Mynegwyd y farn nad oedd trigolion Bieston yn cael eu gwasanaethu'n dda gan Gyngor Cymuned Holt a'u bod yn defnyddio'r cyfleusterau yn Borras (rhan o Gymuned Acton) neu Gresffordd. O ran yr awgrym bod Ward Bieston yn ffurfio ei chymuned ei hun, nid ydym yn fodlon bod digon o gefnogaeth i'r cynnig hwn ac rydym o'r farn bod ystâd Fairways yn dra gwahanol o ran cymeriad i weddill Ward Bieston. Nid ydym o'r farn, felly, y byddai ffurfio Cymuned Bieston ar wahân o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.19 Nodom fod Cyngor Cymuned Acton a thrigolyn lleol yn gwrthwynebu trosglwyddo ardal Ward Bieston i Gymuned Acton. Roedd y Cyngor Cymuned o'r farn bod ffordd ddeuol Llan-y-pwll yn gwahanu ward Bieston o'u hardal nhw.

4. 20 Mae'n ymddangos i ni, o'r wybodaeth rydym wedi'i hystyried, bod gan ddatblygiad Fairways affinedd ag ardal y ddau anheddiad cyffiniol yng Nghymunedau Acton a Pharc Caia. Nodom nad oedd Heol Holt (A534), sy'n gwahanu Acton rhag y rhan honno o Ward Bieston sy'n cynnwys ystâd Fairways, yn ffordd ddeuol a bod ffyrdd mynediad i'r ddau anheddiad yn ymuno â'r ffordd hon ac, felly, nid oedd yn rhwystr mawr i gysylltiadau rhwng y ddwy ardal.

4.21 Rydym o'r farn bod ystâd Fairways yn rhan o ardal Tref Wrecsam ac fel y cyfryw y dylai gael ei chynnwys yn un o'r Cymunedau yn Nhref Wrecsam. Nodom gynnig Cyngor Cymuned Parc Caia i drosglwyddo ystâd Fairways o Ward Bieston yng Nghymuned Holt i Ward Cartrefle yng Nghymuned Parc Caia, ac rydym o'r farn y byddai'r newid yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Fodd bynnag, rydym o'r farn y gall fod gan ystâd Fairways gymuned fuddiant yr un mor gryf â Ward Rhosnesni yng Nghymuned Acton. Rydym o'r farn pe bai trosglwyddo ystâd Fairways i Waunyterfyn yn cael ei ystyried yn ddewis, y byddai'n briodol ystyried estyn y llinell derfyn ar hyd Lôn Bryn Estyn er mwyn trosglwyddo ystâd Old Gardens o Gymuned Parc Caia i Gymuned Acton. Byddem yn croesawu cynrychiolaethau ar y cynnig amgen hwn.

4.22 Nodom fod cynnig Cyngor Cymuned Parc Caia ar gyfer ardal Fairways ( Atodiad H) yn cynnwys dau fwthyn a ddangosir ar y map fel Bythynnod Bryn Estyn ac nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn ardal anheddiad Tref Wrecsam fel y'i diffinnir yn ei CDU. Nodom mai'r unig lwybr mynediad at y bythynnod hyn oedd trwy Barc Caia ac ar hyd Lôn Bryn Estyn. Roeddem o'r farn bod gan y bythynnod hyn gysylltiadau cryfach ag ardal Tref Wrecsam na'r rheiny â Chymuned Holt ac, felly, y dylid eu cynnwys yn y trosglwyddiad. Dangosir y newid arfaethedig ar gyfer Fairways ar y map yn Atodiad K, a dangosir y newid amgen i drosglwyddo Fairways ac Old Gardens i Waunyterfyn ar y map yn Atodiad L.

Casgliadau

4.23 Mae i'n cynigion ar gyfer ffiniau Cymunedau Abenbury, Parc Caia a Holt oblygiadau o ran maint ac felly, efallai, hyfywedd Cyngor Cymuned Abenbury ac, i raddau llai, Cyngor Cymuned Holt. Yn unol â'n cynigion, byddai gan Gyngor Cymuned Abenbury 274 o etholwyr. Nodwn, fodd bynnag, y byddai hyn o hyd yn fwy na Chymuned wledig Ceiriog Ucha, sydd â 236 o etholwyr. Gan nad oes gennym unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd na fyddai Cymuned arfaethedig Abenbury yn hyfyw, ni chynigiwn unrhyw argymhellion ar gyfer newid pellach. Os amheuir hyfywedd Cymuned Abenbury rywbryd yn y dyfodol, efallai yr ystyrir ei chyfuno ag un o'r cymunedau cyffiniol fel Holt, Is-y-coed neu Sesswick. Yn unol â'n cynigion, byddai gan Ward Bieston yng Nghymuned Holt 67 o etholwyr (1,097 o etholwyr sydd yn Ward Holt). Ein barn ni yw er y byddai Cymuned Holt, gyda 1,103 o etholwyr wedi hynny, yn parhau'n hyfyw, mae amheuon gennym ynglyn â dymunoldeb cadw trefniadau wardio presennol y gymuned. Ystyrir y mater hwn yn adran 6, lle ystyriwn effeithiau ôl-ddilynol ein newidiadau arfaethedig ar y trefniadau etholiadol ar gyfer cynghorau cymuned a'r prif awdurdod.

Coedpoeth, Brymbo a Mwynglawdd

4.24 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Coedpoeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn cychwyn yr arolwg gan awgrymu cyfuno Cymunedau Coedpoeth, Mwynglawdd a phentref Bwlch Gwyn (o Gymuned Brymbo) i greu un Cyngor Cymuned. Mewn ymateb i'n llythyrau gwreiddiol, derbyniom ohebiaeth oddi wrth Gynghorau Cymuned Mwynglawdd a Brymbo, Cymdeithas Trigolion Bwlch Gwyn (gan gynnwys deiseb â 202 o lofnodion) a 48 o drigolion a oedd oll yn gwrthwynebu'r newid arfaethedig.

4.25 Derbyniom ohebiaeth bellach oddi wrth Gyngor Cymuned Coedpoeth i roi gwybod i ni ei fod wedi cyflwyno cynnig diwygiedig i ni o ganlyniad i'r cyfarfodydd cyhoeddus ym Mwlch Gwyn a Mwynglawdd. Mae'r cynnig hwn yn awgrymu newid y ffin rhwng Coedpoeth a Mwynglawdd er mwyn i'r ardal a dywyllwyd ar y map yn Atodiad M gael ei throsglwyddo o Fwynglawdd i Goed-poeth. Mae'r Cyngor o'r farn bod hon yn ffin resymegol wrth ystyried lleoliad eiddo â'u pellter o weddill Mwynglawdd. Maent yn tynnu sylw at y ffaith bod gan ystâd Bryn Hyfryd gyfeiriad post Coedpoeth a bod trigolion wedi mynegi eu cefnogaeth i'r cais hwn.

4.26 Ystyriom gynnig gwreiddiol Cyngor Cymuned Coedpoeth a nodom y gwrthwynebiad i'r cynnig. Daethom i'r casgliad nad oedd y cynnig yn darparu unrhyw fanteision dangosadwy i'r ardal o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Gan hynny, aethom ymlaen i ystyried cynnig diwygiedig Coedpoeth i newid y ffin rhwng Cymunedau Coedpoeth a Mwynglawdd.

4.27 Ystyriom fod yr ardal yr awgrymir ei throsglwyddo i Goed-poeth yn ymddangos, o dystiolaeth ymweliad â'r safle, yn gyffiniol â Chymuned Coedpoeth a bod yr ardal wedi'i chynnwys yn ardal anheddiad Coedpoeth fel y'i diffinnir yn CDU Wrecsam. Gan hynny, rydym o'r farn y byddai'r newid a awgrymwyd o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac y byddem yn ei gynnig yn unol â hynny.

4.28 Nodom fod ardal anheddiad CDU Wrecsam ar gyfer Coedpoeth yn cynnwys ardaloedd ychwanegol o Fwynglawdd, nad oeddent wedi'u cynnwys yng nghynnig Coedpoeth. Roedd y rhain yn cynnwys peth eiddo mewn ardal i'r de o'r diwygiad a awgrymwyd ac ardal ddiwydiannol i'r gogledd o'r diwygiad a awgrymwyd. Roeddem o'r farn bod yr ardal i'r de o'r diwygiadau a awgrymwyd wedi'i chysylltu'n agos â Chymuned Coedpoeth a nodom y ceid mynediad at yr eiddo drwy Goed-poeth ac nid trwy Mwynglawdd. Rydym o'r farn, felly, y dylid cynnwys yr ardal ychwanegol hon yng Nghymuned Coedpoeth. Mewn perthynas â'r ardal ddiwydiannol, gan mai bach iawn, neu ddim o gwbl, yw effaith yr ardal hon ar y ddarpariaeth gwasanaethau cymunedol, rydym o'r farn y dylid trosglwyddo'r ardal hon i Gymuned Coedpoeth hefyd. Byddai gan y newid hwn fantais cyflawni cysondeb rhwng ffiniau aneddiadau'r CDU a'r ffiniau cymunedol yn yr ardal hon. Dangosir y newid arfaethedig ar y map yn Atodiad N.

Brymbo a Brychdwn

4.29 Yn ei ohebiaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn cychwyn yr adolygiad, awgrymodd Cyngor Cymuned Brymbo ddod ag ochr Brychdwn o Heol Brychdwn, Heol Caint a Heol Cefn yn y Lodge, Heol Green, Heol y Frenhines, Heol Holland a Halcog o fewn ardal Cymuned Brymbo. Nodom fod y cynigion hyn yn ôl pob golwg yn gyson ag ardaloedd anheddiad y CDU ar gyfer Brymbo a Brychdwn.

4.30 Mae Cyngor Cymuned Brychdwn yn gwrthwynebu'r newid am ei fod o'r farn bod gan yr ardaloedd dan sylw affinedd agos â Chymuned Brychdwn, ond mae Cyngor Cymuned Brymbo o'r farn, oherwydd ei agosrwydd daearyddol at Gymuned Brymbo, bod dadl dros ei gynnwys o fewn ffin Brymbo.

4.31 Ar ôl ymweld â'r ardal, rydym o'r farn bod rhinwedd i gynnig Cyngor Cymuned Brymbo gan ei bod yn ymddangos bod cymuned fuddiant rhwng yr ardal dan sylw a Chymuned Brymbo. Rydym hefyd o'r farn y byddai gan y newid fantais cyflawni cysondeb rhwng ffiniau aneddiadau'r CDU a'r ffiniau cymunedol. Felly, cynigiwn y newid i'r ffiniau rhwng Cymunedau Brymbo a Brychdwn a ddangosir ar y map yn Atodiad O.

Gwersyllt, Gresffordd a Rhosddu

4.32 Mynegodd tri thrigolyn yn ardal Rhosrobin Gwersyllt y farn bod eu hardal yn bell o'r cyfleusterau cymunedol ym mhentref Gwersyllt ac awgrymu ffurfio cymuned newydd i gynnwys Hen Rosrobin/Rhosrobin Newydd a Phandy (awgrymodd un trigolyn hefyd gynnwys pentref Bradley).

4.33 Nid yw'n eglur i ni o'r cynrychiolaethau ymhle y gellid tynnu'r ffiniau i greu'r gymuned newydd a awgrymir. Rhennir Cymuned Gwersyllt yn bedair ward; Gogledd, Dwyrain, Gorllewin a De. Mae pentrefi Hen Rosrobin a Rhosrobin Newydd a Phandy yn y ward Ddeheuol, ac mae pentref Bradley yn y ward Ddwyreiniol. Mae'r ddwy ward hyn yn cynnwys ardaloedd o dai sy'n ymddangos i ni wedi'u cysylltu'n agos â phentref Gwersyllt.

4.34 Mae CDU Wrecsam yn diffinio ardal anheddiad Gwersyllt fel cynnwys rhannau o bedair Ward Cymuned Gwersyllt. Diffinnir ardaloedd anheddiad gwahanol ar gyfer Bradley a Hen Rosrobin/Rhosrobin Newydd. Mae Ystâd Ddiwydiannol Pandy ac Ystâd Ddiwydiannol Rhosddu, sydd ill dwy'n rhan o Ward Ddeheuol Cymuned Gwersyllt, wedi'u cynnwys yn ardal anheddiad Tref Wrecsam.

4.35 O'r wybodaeth a roddwyd i ni ar hyn o bryd, ni allwn argymell y newid a awgrymwyd, am fod y manteision o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn aneglur. Byddem yn croesawu sylwadau pellach ynglyn â'r newid arfaethedig hwn.

4.36 Gan y gorweddai sawl ardal yng Ngresffordd yr ochr arall o'r A483 i'r Gymuned, roedd Cyngor Cymuned Gresffordd o'r farn y dylid newid ffiniau Gresffordd, Gwersyllt, Llai a Rhosddu i gymryd i ystyriaeth ffin 'naturiol' newydd ffordd osgoi a chylchfan yr A483 yn Wrecsam.

4.37 Diffinnir y ffin bresennol rhwng Gresffordd a Llai i ddilyn llwybr Afon Alun. Fodd bynnag, nodom ei fod yn ymddangos bod llwybr yr afon wedi cael ei newid wrth adeiladu ffordd ddeuol yr A483 (P) ac, felly, nad yw'r ffin yn dilyn llwybr yr afon mewn dau le mwyach. Rydym o'r farn y byddai'r A483 (P) yn ffin eglurach a mwy adnabyddadwy rhwng Cymunedau Gresffordd a Llai nag Afon Alun. Fodd bynnag, gan nad yw Cymuned Llai wedi'i chynnwys yng Nghyfarwyddiadau'r Adolygiad ( Atodiad A), nodom na allwn, yn yr adolygiad hwn, wneud unrhyw argymhellion o ran newidiadau i ffin Cymuned Llai. Felly, cymeradwywn y newid arfaethedig hwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a all gynnal ei adolygiad ei hun o dan Adran 55(2) y Ddeddf.

4.38 Yn rhan ddeheuol ffin Gresffordd/Llai, nodom fod CDU Wrecsam yn cynnwys ardal ddiwydiannol rhwng y rheilffordd a'r A483 (T) o fewn anheddiad Tref Wrecsam. Nodom hefyd fod Ystadau Diwydiannol Pandy a Rhosddu, sydd ill dwy'n rhan o Ward Ddeheuol Cymuned Gwersyllt, wedi'u cynnwys yn ardal anheddiad Tref Wrecsam. Er mwyn sicrhau y cynhwysir ardal anheddiad Tref Wrecsam mewn Cymunedau sy'n gysylltiedig â Thref Wrecsam, cynigiwn fod yr ardal rhwng y rheilffordd a'r A483 (T) ac Ystâd Ddiwydiannol Pandy yn cael eu cynnwys yn ward Pentre'r Ardd Cymuned Rhosddu. Yn ogystal, cynigiwn gynnwys ardal Ystâd Ddiwydiannol Rhosddu a'r tai cyffiniol yn ward Stansty Cymuned Rhosddu, gyda'r ffin rhwng y ddwy ward yn cael ei hestyn tua'r gogledd i ddilyn llwybr Clawdd Wat. Dangosir y newidiadau hyn ar y mapiau yn Atodiadau P a Q.

Llansantffraid Glyn Ceiriog, Glyntraean a Cheiriog Ucha

4.39 Awgrymodd Cyngor Cymuned Glyn Ceiriog ddau newid bach i'w ffin, y naill i drosglwyddo Hafod y Garreg o Gymuned Ceiriog Ucha a'r llall i drosglwyddo Fferm Pant o Gymuned Glyntraean.

4.40 Nid oedd Cyngor Cymuned Ceiriog Uchaf yn gwrthwynebu trosglwyddo Hafod y Garreg i Gymuned Llansantffraid Glyn Ceiriog, ond roedd Cyngor Cymuned Glyntraean yn gwrthwynebu'r cynnig i drosglwyddo Fferm Pant o Glyntraean i Gymuned Llansantffraid Glyn Ceiriog am ei fod o'r farn ei fod yn gorwedd o fewn ffin naturiol ei gymuned.

4.41 Fel rydym ni'n ei chael hi ar ddeall, mae Hafod y Garreg a Fferm Pant yn ffermydd arunig wedi'u hamgylchynu gan ardaloedd mawr o dir. Nid yw'n eglur o'r wybodaeth a roddwyd i ni lle y dylid tynnu'r ffin arfaethedig o amgylch y ffermydd hyn. O'r wybodaeth a roddwyd i ni hyd yn hyn, ni allwn asesu pa fuddion fyddai'n deillio o'r newidiadau arfaethedig o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly, ni chynigiwn unrhyw argymhellion ar hyn o bryd, a chroesawn unrhyw gynrychiolaethau pellach ynglyn â'r awgrymiadau hyn.

4.42 Er y diffiniwyd enw'r gymuned drwy Orchymyn yn Ceiriog Ucha, nodom fod y Cyngor Cymuned yn defnyddio'r enw Ceiriog Uchaf. Ein barn ni yw bod y ffurf Uchaf yn briodol. Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynigion o ran ffin y gymuned, ac mae y tu allan i'n cylch gwaith i gynnig newid enw'r gymuned fel rhan o'r adolygiad hwn. Felly, cymeradwywn y newid arfaethedig hwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n gallu gwneud y fath newid o dan Adran 76 o'r Ddeddf.

Glyntraean a'r Waun

4.43 Yn eu cynrychiolaeth, awgrymodd Cyngor Cymuned Glyntraean newid i'r ffin rhwng eu Cymuned a'r Waun. Nid oeddem o'r farn bod y newid yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn ogystal, gan nad yw Cymuned Y Waun wedi'i chynnwys yn y Cyfarwyddiadau i'w Harolygu ( Atodiad A), nodom nad oes modd i ni wneud unrhyw argymhellion o ran newidiadau i ffin Cymuned Y Waun yn yr arolwg hwn.

Sesswick a Marchwiail

4.44 Cynigiodd Cyngor Cymuned Sesswick ddau awgrym ar gyfer newid y ffin rhwng Marchwiail (Ward Deiniol) a Sesswick. Mae'r awgrym cyntaf yn ardal Bedwell Brook ac ymddengys ei fod yn cynnwys un eiddo a ddangosir ar y map yn Atodiad R. Mae'r ail awgrym yn dilyn llinell y ffordd fynediad ddeheuol arfaethedig i'r ystâd ddiwydiannol. Gan fod llwybr y ffordd hon eto i'w benderfynu, llinell ledgywir yn unig a ddangosir gan y map a ddarparwyd gan y Cyngor Cymunedol ac, felly, nid yw wedi cael ei mapio. Ni dderbyniwyd gohebiaeth gan Gyngor Cymuned Marchwiail nac unrhyw fuddgyfranogwyr eraill yn ystod rhan gyntaf yr adolygiad.

4.45 O ran y newid yn ardal Bedwell Brook, roeddem o'r farn bod teilyngdod i'r newid arfaethedig am fod y ffin a awgrymwyd yn dilyn nodweddion diffiniedig eglur ac yn ymddangos ei bod yn ffin fwy priodol na'r un bresennol yn yr ardal hon. Felly, dros dro, argymhellwn y newid hwn i'r ffin a chroesawn unrhyw gynrychiolaethau pellach mewn perthynas â'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail.

4.46 O ran y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Sesswick a Marchwiail sydd i ddilyn llinell y ffordd fynediad ddeheuol arfaethedig i'r ystâd ddiwydiannol, teimlwn na allwn gynnig unrhyw argymhellion ar hyn o bryd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi rhoi gwybod i ni y rhoddodd ei Fwrdd Gweithredol awdurdod i gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y ffordd newydd ar 5 Gorffennaf 2005, ond cawn ar ddeall nad yw'r cais wedi'i gyflwyno hyd yn hyn. Yn ystod y cyfarfod, mabwysiadodd y Bwrdd Gweithredol lwybr ffafriol, ond bydd y gwelliant arfaethedig yn ddarostyngedig i amrywiol weithdrefnau statudol gan gynnwys y posibilrwydd o gynnal ymchwiliad cyhoeddus. Efallai y bydd y gweithdrefnau hyn yn arwain at addasu neu hyd yn oed roi'r gorau i'r cynllun. Rydym o'r farn mai'r camau mwyaf priodol fyddai i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam barhau i fonitro cynnydd y cynllun ac adolygu'r ffin rhwng Sesswick a Marchwiail pan a phryd y bydd union gynllun y ffordd yn hysbys.

Is-y-coed a Holt

4.47 Awgrymodd Cyngor Cymuned Is-y-coed y dylai Fferm Oatlands, Coed Ridley gael ei chynnwys yn gyfan gwbl o fewn ardal Cymuned Is-y-coed yn hytrach nag yng Nghymuned Holt. Gan fod y ffin bresennol yn yr ardal hon yn ymddangos yn afreolaidd, roeddem o'r farn bod rhinwedd i'r awgrym. Felly, cynigiwn y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Is-y-coed a Holt a ddangosir ar y map yn Atodiad S.

5. CYNIGION

5.1 Wedi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael i ni yn y cyfnod hwn o'n harolwg, cynigiwn y dylid adlinio ffiniau Cymunedau Abenbury, Parc Caia, Holt, Coedpoeth, Mwynglawdd, Brymbo, Brychdwn, Gwersyllt, Gresffordd, Llai, Rhosddu, Sesswick a Marchwiail yn yr ardal dan arolygiad i ddilyn y ffiniau a ddangosir mewn gwyrdd ar y mapiau yn Atodiadau E, K (neu L), N, O, P, Q, R ac S.

5.2 Gellir gweld mapiau manwl ar raddfa fwy sy'n dangos y ffiniau newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.

5.3 Mae'r adroddiad drafft hwn yn manylu ein cynnig i newid y ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ar y cynigion.

6. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL

6.1 Wrth ystyried y newidiadau amrywiol i'r ffiniau cymunedol, roedd hefyd yn ofynnol i ni gymryd i ystyriaeth yr effeithiau ar y trefniadau etholiadol i gynghorau cymuned a'r prif awdurdod, a fyddai'n deillio o'r newidiadau hyn. Mae'r adran hon o'n hadroddiad yn manylu ar ein cynigion ar gyfer newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol. Byddem yn croesawu sylwadau ar yr agwedd hon ar ein hadroddiad hefyd. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Trefniadau Etholiadol Cynghorau Cymuned

6.2 Nid yw Cymuned Abenbury wedi'i wardio ac, ar hyn o bryd, mae ganddi 479 o etholwyr a gynrychiolir gan 8 cynghorydd. O dan ein cynigion, bydd yr etholaeth yn lleihau i 274. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth ag sy'n bodoli ar hyn o bryd o fewn Cymuned Abenbury, nodom y byddai'n ofynnol lleihau nifer y cynghorwyr i 5. Fodd bynnag, yn ein Guide to Representation on Community Councils, a gyhoeddwyd ym 1976, awgrymom y dylid cael isafswm o 7 cynghorydd i gynrychioli cyngor cymuned. Nodom fod gan Gymuned Ceiriog Ucha ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam 236 o etholwyr a gynrychiolir gan 8 cynghorydd. Gan fod cymuned Ceiriog Ucha yn cynnwys ardal fwy ac yn fwy gwledig nag Abenbury, rydym o'r farn y caiff Cymuned Abenbury ei chynrychioli gan 7 cynghorydd yn dilyn y newidiadau arfaethedig i ffin y gymuned.

6.3 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, mae Cymuned Parc Caia wedi'i rhannu'n wardiau cymunedol Cartrefle, Queensway, Smithfield a Whitegate. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Parc Caia

Cartrefle

1,564

3

 

Queensway

1,396

3

 

Smithfield

1,595

3

 

Whitegate

2,324

3

 

 

6,879

12

6.4 O dan ein cynigion, bydd nifer yr etholwyr yn ward Cartrefle yn cynyddu i 2,224 a bydd nifer yr etholwyr yn ward Whitegate yn cynyddu i 2,493. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hon sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Parc Caia, nodom y byddai angen cynyddu nifer y cynghorwyr gan 1 i 13. Wedi hynny, pe bai nifer y cynghorwyr yn cael eu dyrannu mewn cyfrannedd â nifer yr etholwyr, byddai trefniadau etholiadol Cymuned Parc Caia fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Parc Caia

Cartrefle

2,224

4

 

Queensway

1,396

2

 

Smithfield

1,595

3

 

Whitegate

2,493

4

 

 

7,706

13

6.5 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, rhennir Cymuned Holt yn wardiau cymunedol Bieston a Holt. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Holt

Bieston

691

2

 

Holt

1,097

9

 

 

1,788

11

6.6 O dan ein cynigion ar gyfer Cymuned Holt, bydd nifer yr etholwyr yn ward Bieston yn lleihau i 67 a bydd nifer yr etholwyr yn ward Holt yn lleihau i 1,095. Fel y nodom yn 4.23 uchod, mae gennym amheuon ynglyn â dymunoldeb cadw trefniadau wardio presennol y gymuned. O ran nifer yr etholwyr, ward Bieston fyddai'r ward gymunedol leiaf ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Wrth ystyried a ddylid rhannu cymuned yn wardiau, mae Atodlen 11 (4) o Ddeddf 1972 yn nodi "y rhoddir ystyriaeth i'r cwestiynau - (a) a yw nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol y gymuned yn gyfryw ag i wneud etholiad unigol ar gyfer cynghorwyr plwyf neu gymuned yn anymarferol neu'n anghyfleus; a (b) a yw'n ddymunol y dylai unrhyw ardal neu ardaloedd o'r plwyf neu'r gymuned gael eu cynrychioli ar wahân ar y cyngor plwyf neu'r cyngor cymuned." Mewn perthynas â Chymuned adolygedig Holt, rydym ni o'r farn na fyddai'n anymarferol nac yn anghyfleus cael un etholiad ar gyfer cynghorwyr cymuned, ac nid ydym o'r farn y byddai'n ddymunol i weddill ward Holt gael ei chynrychioli ar wahân ar y cyngor cymuned. Cynigiwn, felly, beidio â wardio Cymuned adolygedig Holt, a fydd yn cynnwys 1,162 o etholwyr, a lleihau nifer y cynghorwyr o 11 i 10.

6.7 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau, rhennir Cymuned Coedpoeth yn wardiau cymunedol y Gogledd a'r De. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Coedpoeth

Gogledd

2,406

10

 

De

1,057

4

 

 

3,463

14

6.8 Mae'r ffin rhwng wardiau Gogledd a De Cymuned Coedpoeth yn dilyn canol y Stryd Fawr (A525). Rydym o'r farn y byddai'n briodol estyn y ffin hon i'r ardal newydd, fel y dangosir ar y map yn Atodiad N. O dan ein cynigion ar gyfer cymuned Coedpoeth, bydd nifer yr etholwyr yn ward y Gogledd yn cynyddu i 2,648 a nifer yr etholwyr yn ward y De yn cynyddu i 1,150. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r honno sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Coedpoeth, cynigiwn gynyddu nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli ward y Gogledd i 11 ac i 5 yn ward y De.

6.9 Nid yw Cymuned Mwynglawdd wedi'i wardio ac, ar hyn o bryd, mae ganddi 1,240 o etholwyr a gynrychiolir gan 12 cynghorydd. O dan ein cynigion, bydd yr etholaeth yn lleihau i 905. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r honno sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Mwynglawdd, cynigiwn leihau nifer y cynghorwyr i 9.

6.10 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau, rhennir Cymuned Brymbo yn wardiau cymunedol Brymbo, Bwlch Gwyn, a'r Fron. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Brymbo

Brymbo

1,369

8

  Bwlchgwyn

641

3

 

Vron

654

3

 

 

2,664

14

6.11 O dan ein cynigion ar gyfer cymuned Brymbo, bydd ward Brymbo yn cynyddu gan 459 o etholwyr i 1,828. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r honno sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Brymbo, cynigiwn gynyddu nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli ward Brymbo i 10.

6.12 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau, rhennir Cymuned Brychdwn yn wardiau cymunedol Bryn Cefn, Bryn-teg, Gwenfro a Brychdwn Newydd. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Brychdwn

Bryn Cefn

1,440

4

  Bryn-teg

1,216

3

  Gwenfro

1,177

5

 

Brychdwn Newydd

1,294

4

 

 

5,127

16

6.13 Yn unol â'n cynigion ar gyfer cymuned Brychdwn, bydd ward Bryn Cefn yn lleihau gan 459 o etholwyr i 981. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r honno sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Brychdwn cynigiwn leihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli ward Bryn Cefn i 3. Rydym wedi nodi'r gwahaniaeth mewn cynrychiolaeth rhwng wardiau Bryn-teg, Gwenfro a Brychdwn Newydd hefyd. Rydym o'r farn bod 4 cynghorydd yr un yn lefel briodol o gynrychiolaeth i wardiau Bryn-teg, Gwenfro a Brychdwn Newydd. Bydd hyn yn rhoi cyfanswm o 15 cynghorwr i gynrychioli Cymuned Brychdwn.

6.14 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau, rhennir Cymuned Gwersyllt yn wardiau cymunedol Dwyrain Gwersyllt, Gogledd Gwersyllt, De Gwersyllt a Gorllewin Gwersyllt. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Gwersyllt

Dwyrain Gwersyllt

1,863

5

  Gogledd Gwersyllt

1,799

5

  De Gwersyllt

1,328

3

 

Gorllewin Gwersyllt

2,193

4

 

 

7,183

17

6.15 O dan ein cynigion ar gyfer Cymuned Gwersyllt, bydd ward De Gwersyllt yn lleihau gan 571 o etholwyr i 757. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r honno sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Gwersyllt, cynigiwn leihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli ward De Gwersyllt i 2. Rydym wedi nodi'r gwahaniaeth mewn cynrychiolaeth rhwng ward Gorllewin Gwersyllt a wardiau Dwyrain Gwersyllt a Gogledd Gwersyllt hefyd. Rydym o'r farn bod 5 cynghorydd yn lefel briodol o gynrychiolaeth i ward Gorllewin Gwersyllt. Bydd hyn yn cadw cyfanswm o 17 cynghorydd i gynrychioli Cymuned Gwersyllt.

6.16 O dan ein cynigion ar gyfer Cymuned Gresffordd, bydd nifer yr etholwyr yn ward Gorllewin Gresffordd yng Nghymuned Gresffordd yn aros yn gyson. Nodom fod y ffin rhwng wardiau Gorllewin a Dwyrain y Gymuned a Gresffordd yn dilyn y B5445, y newidiwyd ei llwybr wrth adeiladu'r gyffordd â'r A483 (P). Felly, cynigiwn newid bach i ffin y ward, fel ei bod yn dilyn llwybr newydd y B5445 i lawr i'r cylchfan i gwrdd â'r ffin gymunedol ddiwygiedig. Nid yw'r newid hwn, a ddangosir ar y map yn Atodiad P, yn golygu trosglwyddo unrhyw etholwyr rhwng y ddwy ward.

6.17 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau, rhennir Cymuned Rhosddu yn wardiau cymunedol Pentre'r Ardd, Grosvenor a Stansty. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Rhosddu

Pentre'r Ardd

1,675

4

  Grosvenor

1,777

4

  Stansty

1,666

4

 

 

5,118

12

6.18 O dan ein cynigion, caiff ardaloedd cyffiniol i wardiau Pentre'r Ardd a Stansty eu trosglwyddo i Gymuned Rhosddu. Ystyriwn, felly, y byddai'n briodol estyn ffin y ward gymunedol i'r ardal newydd fel y dangosir ar y map yn Atodiad O. O dan ein cynigion ar gyfer Cymuned Rhosddu, bydd ward Pentre'r Ardd yn cynyddu gan 413 o etholwyr i 2,088 a bydd ward Stansty yn cynyddu gan 158 o etholwyr i 1,824. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r honno sy'n bodoli ar hyn o bryd o fewn Cymuned Rhosddu cynigiwn gynyddu nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli ward Pentre'r Ardd i 5. Bydd hyn yn rhoi cyfanswm o 13 o gynghorwyr i gynrychioli Cymuned Rhosddu.

6.19 O dan ein cynigion ar gyfer Cymuned Marchwiail, bydd ward Deiniol yn lleihau gan 1 etholwr i 326. Rydym o'r farn nad yw'r newid bach hwn yn nifer yr etholwyr yn teilyngu newid nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r ward hon.

6.20 O dan ein cynigion bydd Cymuned Sesswick yn cynyddu gan 1 etholwr i 471. Rydym o'r farn nad yw'r newid bach hwn yn nifer yr etholwyr yn teilyngu newid nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r gymuned hon.

6.21 O dan ein cynigion bydd Cymuned Is-y-coed yn cynyddu gan 2 etholwr i 293. Rydym o'r farn nad yw'r newid bach hwn yn nifer yr etholwyr yn teilyngu newid nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r gymuned hon.

Trefniadau Etholiadol y Cyngor Bwrdeistref Sirol

6.22 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Brymbo, sy'n cynnwys wardiau Brymbo a'r Fron yng Nghymuned Brymbo, 2,023 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Brymbo a Brychdwn yn arwain at gynnydd yn nifer yr etholwyr i 2,482.

6.23 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Bryn Cefn, sy'n cyd-ffinio â ward Bryn Cefn yng Nghymuned Brychdwn, 1,440 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Brymbo a Brychdwn yn arwain at ostyngiad yn nifer yr etholwyr yn adran etholiadol Bryn Cefn i 981.

6.24 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Cartrefle, sy'n cyd-ffinio â ward Cartrefle yng Nghymuned Parc Caia, 1,564 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r diwygiadau arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Parc Caia a Chymunedau Abenbury a Holt yn arwain at gynnydd yn nifer yr etholwyr yn adran etholiadol Cartrefle i 2,222.

6.25 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Coedpoeth, sy'n cyd-ffinio â Chymuned Coedpoeth, 3,463 o etholwyr a gynrychiolir gan ddau gynghorydd. Byddai'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Coedpoeth a Mwynglawdd yn arwain at gynnydd yn nifer yr etholwyr i 3,798.

6.26 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Pentre'r Ardd, sy'n cyd-ffinio â ward Pentre'r Ardd yng Nghymuned Rhosddu, 1,675 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Rhosddu a Gwersyllt yn arwain at gynnydd yn nifer yr etholwyr i 2,088.

6.27 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Dwyrain a Gorllewin Gresffordd, sy'n cynnwys wardiau Dwyrain a Gorllewin Cymuned Gresffordd, 2,188 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Ni fyddai'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Gresffordd a Rhosddu yn arwain at unrhyw newid yn nifer yr etholwyr.

6.28 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Dwyrain a Gorllewin Gresffordd, sy'n cynnwys wardiau Dwyrain a Gorllewin Cymuned Gresffordd, 2,188 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Ni fyddai'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Gresffordd a Rhosddu yn arwain at unrhyw newid yn nifer yr etholwyr.

6.29 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Holt, sy'n cynnwys Cymunedau Abenbury, Holt ac Is-y-coed, 2,558 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Parc Caia a Chymunedau Abenbury a Holt a'r diwygiad arfaethedig rhwng Cymuned Is-y-coed a Holt yn arwain at ostyngiad yn nifer yr etholwyr i 1,729.

6.30 Mae adran etholiadol Marchwiail yn cynnwys Cymunedau Erbistog, Marchwiail a Sesswick. Ni châi'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Marchwiail a Sesswick unrhyw effaith ar gyfanswm yr etholwyr o fewn adran etholiadol Marchwiail.

6.31 Mae gan adran etholiadol Mwynglawdd, sy'n cynnwys Cymuned Mwynglawdd a ward Bwlch Gwyn yng Nghymuned Brymbo, 1,881 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Coedpoeth a Mwynglawdd yn arwain at ostyngiad yn nifer yr etholwyr i 1,546.

6.32 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Stansty, sy'n cyd-ffinio â ward Stansty yng Nghymuned Rhosddu, 1,666 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r diwygiad arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Rhosddu a Gwersyllt yn arwain at gynnydd yn nifer yr etholwyr i 1,824.

6.33 Ar hyn o bryd, mae gan adran etholiadol Whitegate, sy'n cyd-ffinio â ward Whitegate yng Nghymuned Parc Caia, 2,324 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r diwygiadau arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Parc Caia ac Abenbury yn arwain at gynnydd yn nifer yr etholwyr yn adran etholiadol Whitegate i 2,493.

6.34 Ar gyfer yr holl adrannau etholiadol a nodir uchod, rydym o'r farn nad yw'r newidiadau yn nifer yr etholwyr o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig i ffiniau mor sylweddol fel bod angen cynyddu neu leihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli pob adran etholiadol ar hyn o bryd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn yn arolygu trefniadau etholiadol yr holl brif gynghorau yng Nghymru, a rhagwelwn y byddwn yn derbyn cyfarwyddiadau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel canllaw i ni wrth gynnal yr arolygiad hwnnw. Bryd hynny, byddwn yn edrych yn fanwl ar drefniadau etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn cymryd i ystyriaeth unrhyw newidiadau sy'n codi o'r newidiadau arfaethedig hyn i ffiniau cymunedol.

7. CYDNABYDDIAETH

7.1 Dymunwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'r Cynghorau Cymuned am eu cymorth ac i bob person a chorff a gyflwynodd cynrychiolaethau i ni.

8. YMATEBION I'R AROLWG HWN

8.1 Dylid anfon holl arsylwadau'r adroddiad drafft hwn at:

Yr Ysgrifennydd
Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru
Tŷ Caradog
1-6 Plas St Andrews
Caerdydd
CF10 3BE

erbyn 10 Mai 2007 fan bellaf.

9. Y CAMAU NESAF

9.1 Byddwn yn cyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ffurf adroddiad a chynigion ar ôl i ni ystyried y sylwadau a gawn mewn ymateb i'r adroddiad drafft hwn. Yna, os byddant o'r farn eu bod yn gweddu, cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd rhoi ein hargymhellion ar waith, naill ai gydag addasiadau neu hebddynt.

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

J DAVIES ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Chwefror 2007

5/3/2007