Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

CYNIGION DRAFFT

Atodiad D

CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL CYNGOR BWRDEISTREF SIROL WRECSAM

Cafodd Cynllun Datblygu Unedol (CDU) 1996-2011 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ei fabwysiadu yn Chwefror 2005 ac mae'n cydymffurfio â pholisïau perthnasol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r cynllun 'yn cynnig fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau lleol a chysoni buddiannau datblygu a chadwraeth er mwyn i newidiadau mewn defnydd tir ddigwydd yn mewn modd cydlynus a chyda'r budd mwyaf i gymunedau'.

Mae'r CDU yn gwneud 12 datganiad polisi strategol a'r cyntaf ohonynt yw: 'Caiff datblygiad newydd ar gyfer tai, cyflogaeth a gwasanaethau cymunedol ei gyfeirio at fannau o fewn terfynau anheddiad/ardaloedd cyflogaeth diffiniedig'. Mae'r CDU yn diffinio nifer o'r cyfryw aneddiadau o fewn ardal Wrecsam a dangosir y rhain ar y mapiau sydd ynghlwm wrth y CDU.

Mae ardaloedd aneddiadau a ddiffinnir gan y CDU yn croesi ffiniau cymunedau mewn ardaloedd dan arolwg fel a ganlyn:

Mae copïau o'r CDU ar gael i'w lawrlwytho o wefan y Cyngor yn www.wrexham.gov.uk

5/3/2007