Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

CYNIGION DRAFFT

Atodiad B

Derbyniwyd y newidiadau awgrymedig canlyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn cychwyn yr arolwg:

Brymbo - Awgrymodd Cyngor Cymuned Brymbo y dylai ochr Brychdyn o Ffordd Brychdyn, Ffordd Caint a Ffordd Cefn yn y Lodge, Green Road, Queens Road, Holland Road a Halcock i'w tynnu o dan Cymuned Brymbo.

Parc Caia - Awgrymodd Cyngor Cymuned Parc Caia y dylai datblygiadau Thornleigh a Llwyn Onn a datblygiad newydd Ffordd Holt gael eu cynnwys o fewn ardal Cymuned Parc Caia.

Coedpoeth - Awgrymodd Cyngor Cymuned Coedpoeth y dylai Cymunedau Coedpoeth, Y Mwynglawdd a phentref Bwlchgwyn (o Gymuned Brymbo) gael eu cyfuno i ddod yn un Cyngor Cymuned.

Holt - Awgrymodd un Cynghorydd Cymuned y dylai ardal Ward Bieston yng Nghymuned Holt gael ei chynnwys yn ardaloedd cymunedau naill ai Gwaunyterfyn neu Gresffordd.

Is-y-coed - Awgrymodd Cyngor Cymuned Is-y-coed y dylai Fferm Oatlands, Coed Ridley gael ei chynnwys yn gyfan gwbl o fewn ardal Cymuned Is-y-coed.

Llansantffraid Glyn Ceiriog - Awgrymodd Cyngor Cymuned Glyn Ceiriog ddau newidiad bach i'w ffin, un i drosglwyddo Hafod y Garreg o Gymuned Ceiriog Ucha ac un i drosglwyddo Fferm Pant o Gymuned Glyntraean.

Sesswick - Awgrymodd Cyngor Cymuned Sesswick ddau newidiad bach i'r ffin rhwng Marchwiail a Sesswick. Nid yw'r naill newidiad yn golygu trosglwyddo etholwyr.

5/3/2007