Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O'R FFINIAU AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD
  2. CRYNODEB GWEITHREDOL
  3. CWMPAS A NOD YR AROLWG
  4. CYNIGION DRAFFT
  5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
  6. ASESIAD
  7. CYNIGION
  8. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
  9. CYDNABYDDIAETH
  10. Y CAMAU NESAF

Brian Gibbons AC

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Llywodraeth Cynulliad Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn unol â chyfarwyddyd gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei Chyfarwyddyd i ni, dyddiedig 20 Medi 2006 ( Atodiad A).

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Cynigiwn:

3. CWMPAS A NOD YR AROLWG

3.1 Diben yr arolwg yw ystyried a ddylai'r Comisiwn, er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gynnig newidiadau i'r ffiniau cymunedol presennol. Cynhelir yr arolwg o dan ddarpariaethau Adran 56(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf).

Gweithdrefn

3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn gosod canllawiau gweithdrefnol, y mae'n rhaid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw, ar 4 Ionawr 2007, ysgrifennom at Gynghorau Cymuned Llanhari, Llanharan, Pont-y-clun, Llantrisant, Hirwaun, a Rhigos (nid oes gan gymuned Pen-y-waun gyngor cymuned), Aelod Seneddol yr etholaeth leol, Aelodau Cynulliad yr ardal a phartïon eraill a chanddynt ddiddordeb, i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i geisio eu barn ragarweiniol. Cyn cychwyn yr arolwg, darparodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf nifer o awgrymiadau ar gyfer newidiadau i ffiniau cymunedol. Amgaewyd rhestr o'r rhain gyda'r llythyr cychwynnol hwn ( Atodiad B). Hefyd, cyhoeddom ein bwriad i gynnal arolwg mewn papurau lleol yn yr ardal, a gofynnom i'r Cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus. Rhoddwyd gwybod am gychwyn yr arolwg a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cynrychiolaethau (8 Mawrth 2007) ar wefannau'r Comisiwn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel ei gilydd.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Mewn ymateb i'n gwahoddiad cychwynnol, derbyniom gynrychiolaethau oddi wrth Gyngor Cymuned Llanhari, Cyngor Cymuned Llanharan, Cyngor Cymuned Pont-y-clun, Cyngor Cymuned Llantrisant, Cyngor Cymuned Hirwaun a Chyngor Cymuned Rhigos, ac oddi wrth nifer o drigolion. Yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 23 Awst 2007, fe wnaethom ystyried y materion a godwyd yn y cynrychiolaethau.

4.2 Awgrymwyd newidiadau i ffiniau cymunedol yn yr ardaloedd canlynol: Llanharan, Llanhari, Llantrisant, Pont-y-clun, Hirwaun a Phen-y-waun.

Pont-y-clun / Llanharan / Llantrisant

4.3 Awgrymodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y dylid trosglwyddo Ynysddu (o ward Llanharan, Cymuned Llanharan) a Phant y Dderwen (o ward Tonysguboriau, Cymuned Llantrisant) i ardal Cymuned Pont-y-clun. Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodom yr arolwg a gynhaliwyd gan Gyngor Cymuned Llanharan o bob un o'r 270 o dai yn Ynysddu lle'r oedd 83 % o'r arolygon a ddychwelwyd yn cefnogi symud i Bont-y-clun.

4.4 Fe wnaethom ystyried fod gan ardaloedd Ynysddu a Phant y Dderwen ill dwy fwy o gymuned fuddiant â Phont-y-clun nag â naill ai Llanharan a Llantrisant yn y drefn honno. Penderfynom y dylai'r ffin arfaethedig ddilyn nodweddion daearyddol sydd wedi'u diffinio'n glir. Roeddem o'r farn y byddai'r newidiadau arfaethedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly cynigiom newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanharan, a newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llantrisant.

Llanhari / Pont-y-clun

4.5 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodom awgrym Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y dylid trosglwyddo Clos Brenin o ward Tyle-garw, Cymuned Llanhari i Gymuned Pont-y-clun. Nodom hefyd na dderbyniom unrhyw gynrychiolaethau mewn perthynas â'r awgrym hwn.

4.6 Nodom fod yr unig fynediad i Glos Brenin drwy Gymuned Pont-y-clun a'i bod yn ymddangos bod gan Clos Brenin fwy o gymuned fuddiant â Chymuned Pont-y-clun nag â Chymuned Llanhari. Roeddem o'r farn y byddai'r newidiadau arfaethedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly cynigiom newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanhari.

4.7 Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ystyried hefyd awgrym Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y dylid trosglwyddo Elms Farm a rhan o'r ystâd dai gyffiniol o ward Brynsadler, Cymuned Pont-y-clun, i Gymuned Llanhari. Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal, fe wnaethom ystyried fod gan Elms Farm a'r ystâd dai gyffiniol fwy o gysylltiad â Chymuned Pont-y-clun nag â Chymuned Llanhari. Nodom fod yr ystâd dai wedi'i rhannu rhwng y ddwy Gymuned ac yr ymddengys bod rhai tai'n pontio'r ffin bresennol. Nodom hefyd fod y ffin arfaethedig yn dilyn nodweddion daearyddol sydd wedi'u diffinio'n glir. Roeddem o'r farn y byddai'r newidiadau arfaethedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly cynigiom newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanhari.

4.8 Yn ein hadroddiad, nodom fodd bynnag y byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Llanhari a Phont-y-clun yn ardal Elms Farm yn gadael ardal fechan o dai yng Nghastell-y-mwnws wrth ymyl Cymuned Pont-y-clun. Croesawom farn am briodoldeb ymestyn y ffin arfaethedig i gynnwys yr ardal hon yng Nghymuned Llanhari.

Hirwaun / Pen-y-waun

4.9 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, fe wnaethom ystyried awgrym Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y dylid trosglwyddo Trenant, rhan o Heol Hirwaun, Montana Park a Threwaun o Gymuned Pen-y-waun i Gymuned Hirwaun. Fe wnaethom ystyried hefyd yr awgrym a wnaed gan Gyngor Cymuned Hirwaun i ddychwelyd i'r ffin wreiddiol sef y cwrs dwr naturiol a oedd yn rhannu cymunedau Pen-y-waun a Hirwaun. O'r wybodaeth a roddwyd i ni, nid oedd yn glir lle byddai'r ffin a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Hirwaun yn gorwedd. Nodom fod y ffin bresennol rhwng Pen-y-waun a Hirwaun wedi cael ei phennu gan Orchymyn (Cymunedau) Cwm Cynon 1981. Y gorchymyn hwn a greodd gymunedau Pen-y-waun a Hirwaun. Yn flaenorol, roedd cymunedau Penderyn ac Aberdâr, a rannwyd ar hyd llinell Afon Cynon. Nodom fod nant yn rhedeg wrth ochr ystâd Trenant sef o bosibl y cwrs dwr a nodwyd gan y Cyngor. Fe wnaethom ystyried y gallai'r nant hon gynnig cwrs amgen ar gyfer rhan o'r ffin a awgrymwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Croesawom farn ar y mater hwn.

4.10 Wrth ystyried ein Cynigion Drafft ac yn dilyn ymweliad â'r safle, nodom fod gan yr ardaloedd dan sylw gysylltiad â Hirwaun a Phen-y-waun. Nodom hefyd fod y ffin a awgrymwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dilyn nodweddion daearyddol sydd wedi'u diffinio'n glir. Nodom hefyd bryderon Cyngor Cymuned Hirwaun ynghylch statws Cymunedau yn Gyntaf ardal Pen-y-waun a'r effaith y byddai trosglwyddo tua 200 annedd yn ei chael ar y ddwy gymuned. Yn ôl yr hyn y cawsom ar ddeall, ni fyddai'r newid i'r ffin yn effeithio ar statws Pen-y-waun fel ardal Cymunedau yn Gyntaf. Nid oes gan Gymuned Pen-y-waun gyngor cymuned felly nid oedd pryder am golli praesept yn berthnasol. Byddai'r newid i'r ffin yn golygu y byddai'n rhaid i Gyngor Cymuned Hirwaun ddarparu eu gwasanaethau i ardal fwy o faint ond byddai'r cynnydd yn eu praesept yn gwrthbwyso hyn. Adeg y Cynigion Drafft roeddem o'r farn y byddai'r newid awgrymedig i'r ffin rhwng Cymunedau Pen-y-waun a Hirwaun yn debygol o fod o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly cynigiom newid i'r ffin.

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i'n hadroddiad ar y Cynigion Drafft, cawsom gynrychiolaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cynghorau Cymuned Hirwaun, Llanharan, Llanhari a Phont-y-clun a dau o drigolion. Gellir gweld crynodeb o'r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad C.

6. ASESIAD

Pont-y-clun / Llanharan / Llantrisant

6.1 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, fe wnaethom gynnig newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanharan a newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llantrisant fel yr awgrymodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn wreiddiol. Yn eu hymateb i'n Cynigion Drafft, awgrymodd y Cyngor rai newidiadau i'r cynigion. Roeddent yn ystyried y dylid trosglwyddo ardal ychwanegol fechan sy'n gorwedd i ogledd orllewin Pant y Dderwen ac i orllewin y rheilffordd (fel y dangosir yn Atodiad D, ardal arlliwedig B2) o Lantrisant i Bont-y-clun. Roeddent hefyd o'r farn y dylai'r ardal i'r dwyrain o Bant y Dderwen (yr ardal sy'n cynnwys Ysgol y Pant a nifer o eiddo masnachol) barhau yng Nghymuned Llantrisant. Roeddent hefyd yn awgrymu newid ychwanegol i'r ffin rhwng Cymunedau Llanharan a Llantrisant fel y dangosir yn Atodiad D, ardal arlliwedig C.

6.2 Nodom nad oes neb yn byw yn yr ardal ychwanegol a awgrymwyd i'w throsglwyddo i Bont-y-clun na'r ardal a awgrymwyd y dylai barhau yn Llantrisant. Wrth ystyried ein Cynigion Drafft, roeddem o'r farn bod ardal breswyl Pant y Dderwen yn ymddangos fel petai ganddi fwy o gymuned fuddiant â Phont-y-clun nag â Llantrisant ac roeddem o'r farn y dylai unrhyw newid arfaethedig gynnwys yr ardal hon o fewn Pont-y-clun. Ystyriwn fod y diwygiad awgrymedig gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf yn ymgorffori hanfod ein cynnig gan ofyn am drosglwyddo ardal lai o dir i sicrhau'r un budd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Rydym o'r farn y byddai trosglwyddo Pant y Dderwen ac ardaloedd cyffiniol o Gymuned Llantrisant i Gymuned Pont-y-clun o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Rydym felly'n cynnig y newid i'r ardal (ardaloedd B1 a B2) fel y dangosir ar y map yn Atodiad D.

6.3 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, fe wnaethom gynnig newid i'r ffin rhwng Cymunedau Llanharan a Phont-y-clun i drosglwyddo ardal breswyl Ynysddu (ardal A, Atodiad D) i Bont-y-clun. Rydym wedi nodi bod Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf, Cyngor Cymuned Llanharan, Cyngor Cymuned Pont-y-clun a phreswylydd o Lanharan oll yn cefnogi'r cynnig hwn. Rydym yn parhau o'r farn, felly, y bydd y newid arfaethedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus a chynigiwn y newid i'r ardal (ardal A) fel y dangosir ar y map yn Atodiad D.

6.4 Fe wnaethom ystyried hefyd yr awgrym ychwanegol am ddiwygiad i'r ffin rhwng Cymunedau Llantrisant a Llanharan i drosglwyddo rhai eiddo ar Ffordd Llanelay i Lantrisant o Lanharan (ardal C ar y map yn Atodiad D). Cynaliasom ymweliad safle â'r ardal ac rydym o'r farn ei bod yn ymddangos bod gan yr eiddo dan sylw fwy o gysylltiad â Chymuned Llantrisant nag â'u Cymuned bresennol sef Llanharan. Ystyriwn felly y bydd y newid arfaethedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus a chynigiwn y newid i'r ardal (ardal C) fel y dangosir ar y map yn Atodiad D.

Llanhari / Pont-y-clun

6.5 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, fe wnaethom gynnig dau newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanhari. Cynigiodd y cyntaf o'r newidiadau hyn (fel y dangosir ar y map yn Atodiad E) y dylid trosglwyddo ardal breswyl Clos Brenin o ward Tyle-garw o Gymuned Llanhari i Gymuned Pont-y-clun. Cefnogwyd y cynnig hwn yn y cynrychiolaethau a gafwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Cymuned Pont-y-clun ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau. Rydym felly'n parhau o'r farn y bydd y newid arfaethedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac yn cynnig y newid i'r ardal fel y dangosir ar y map yn Atodiad E.

6.6 Roedd yr ail gynnig a gynigiwyd gennym i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanhari mewn perthynas ag Ystâd Elms Farm sydd ar hyn o bryd yn pontio'r ffin rhwng y ddwy gymuned. Cynigiom newid i'r ffin a fyddai'n cynnwys yr Ystâd gyfan yng Nghymuned Llanhari. Fodd bynnag, nodom pa mor agos oedd y ffin newydd i'r ardal fechan o dai yng Nghastell-y-mwnws. Croesawom farn ar briodoldeb ymestyn y ffin arfaethedig i gynnwys yr ardal hon yng Nghymuned Llanhari. Yn eu hymateb, awgrymodd Rhondda Cynon Taf ymestyn y ffin hon i gynnwys Castell-y-mwnws a Fferm Llwyna fel y'u dangosir ar y map yn Atodiad F. Rydym yn sylwi, fodd bynnag, bod Cyngor Cymuned Pont-y-clun, er ei fod yn croesawu ein cynnig o ran Ystâd Elms Farm, yn gwrthwynebu mwy o ymestyn o ran Castell-y-mwnws. Ymhellach, nodom fod Cyngor Cymuned Pont-y-clun wedi cynnal arolwg o drigolion Castell-y-mwnws ac wedi darganfod bod y rhai a atebodd yn unfryd eu dymuniad eu bod am aros yng Nghymuned Pont-y-clun. Er ein bod yn parhau o'r farn y byddai ein cynnig o ran y ffin yn yr ardal hon o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, nid ydym o'r farn y byddai ffin estynedig arfaethedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnig budd tebyg. Rydym felly'n cynnig y newid i'r ffin rhwng Cymuned Llanhari a Chymuned Pont-y-clun fel y'i dangosir ar y map yn Atodiad G.

Hirwaun / Pen-y-waun

6.7 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, fe wnaethom ystyried y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Pen-y-waun a Hirwaun a awgrymwyd i gychwyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Y pryd hwnnw nodom fod yr ardaloedd dan sylw'n ymddangos bod ganddynt gymuned fuddiant â Hirwaun a Phen-y-waun a bod y newid arfaethedig yn debygol o fod o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly fe wnaethom gynnig newid i'r ffin. Rydym wedi nodi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Cymunedol Hirwaun yn eu hymatebion i'r Cynigion Drafft, ill dau wedi gwrthwynebu'r newid arfaethedig yn gryf ar sail y byddai'n niweidiol i'r gymuned o ran y buddion a ddarperir ar hyn o bryd i'r ardal dan arolwg drwy'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Rydym hefyd wedi nodi na chawsom unrhyw gynrychiolaethau'n cefnogi'r newid arfaethedig.

6.8 Fel y datganwyd yn 4.10 uchod, adeg cyfnod ein Cynigion Drafft, fe wnaethom ystyried na fyddai'r newid i'r ffin yn effeithio ar statws Pen-y-waun fel ardal Cymunedau yn Gyntaf. Rydym wedi trafod y mater hwn gydag Is-adran Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru ac erbyn hyn, deallwn nad yw statws yr ardal arfaethedig i'w throsglwyddo o Ben-y-waun i Hirwaun mor sicr. Caiff ardal Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-waun ei diffinio gan Adran Etholiadol Pen-y-waun sy'n cynnwys Cymuned Pen-y-waun. Byddai newid i ffin Cymuned Pen-y-waun yn arwain at newid canlynol i ffin Adran Etholiadol Pen-y-waun. O ganlyniad i'r newid hwn, byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried p'un a ddylai'r ardal sydd wedi'i throsglwyddo barhau i gadw statws Cymunedau yn Gyntaf. Ni fyddai'r newid awgrymedig felly'n effeithio ar statws Pen-y-waun fel ardal Cymunedau yn Gyntaf ond o ganlyniad mae'n bosibl na fydd yr ardal sy'n cael ei throsglwyddo o Ben-y-waun bellach yn dod o fewn ardal Cymunedau yn Gyntaf.

6.9 Wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, rydym o'r farn na fyddai newid yn y ffin rhwng Cymunedau Pen-y-waun a Hirwaun o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Nid ydym felly'n gwneud unrhyw gynigion ynghylch newid y ffiniau cymunedol yn yr ardal hon.

7. CYNIGION

7.1 Wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, cynigiwn y dylid adlinio Cymunedau Pont-y-clun, Llanharan, Llantrisant a Llanhari yn yr ardal dan arolwg i ddilyn y ffiniau a ddangosir mewn gwyrdd ar y mapiau yn Atodiadau D, E a G.

7.2 Gellir gweld mapiau manwl ar raddfa fwy sy'n dangos y ffiniau newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.

8. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL

8.1 Wrth ystyried y newidiadau amrywiol i'r ffiniau cymunedol, roedd hefyd yn ofynnol i ni ystyried yr effeithiau ar y trefniadau etholiadol i gynghorau cymuned a'r prif awdurdod, a fyddai'n deillio o'r newidiadau hyn. Mae'r adran hon o'n hadroddiad yn manylu ar ein cynigion ar gyfer newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Yn unol ag Atodlen 11 mae'n ofynnol i ni ystyried unrhyw newid o ran nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol sy'n debygol o ddigwydd o fewn y cyfnod pum mlynedd yn uniongyrchol wedi'r ystyriaeth. Rydym wedi ceisio gwybodaeth am y mater hwn oddi wrth y prif gyngor, ond ni chafwyd unrhyw wybodaeth. Fodd bynnag, rydym wedi nodi bod rhai o'r cynrychiolaethau a gafwyd (gan y prif gyngor ac eraill) yn disgrifio'r newidiadau hynny, sydd i'w priodoli er enghraifft i ddatblygiadau tai newydd sy'n debygol, ac rydym wedi ystyried hyn.

Trefniadau Etholiadol Cynghorau Cymuned

8.2 Mae cymuned Pont-y-clun wedi'i rhannu ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadol Cymunedol, yn wardiau cymuned Cefnyrhendy, Groes-faen, Maes-y-felin a Meisgyn. Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C*
Pont-y-clun Cefnyrhendy

2,362

3

787

  Groes-faen 490 1 490
  Maes-y-felin 1,692 4 423
  Meisgyn 547 2 274
  Cyfansym: 5,091 10 509

* Nifer Etholwyr i bob Cynghorydd

8.3 O dan ein cynigion bydd nifer yr etholwyr yn ward Cefnyrhendy yn cynyddu 575 i 2,937 o etholwyr a bydd ward Maes-y-felin yn cynyddu 161 i 1,853 o etholwyr. Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodom er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Pont-y-clun, y byddai angen cynyddu nifer y cynghorwyr gan 1 i 11. Roeddem hefyd wedi ystyried y dylai nifer y cynghorwyr gael ei ddyrannu mewn cyfrannedd â nifer yr etholwyr ac fe wnaethom awgrymu ailddosbarthu cynghorwyr rhwng wardiau Cefnyrhendy a Meisgyn. Yn eu cynrychiolaethau, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Cymuned Pont-y-clun yn cefnogi'r cynnydd yn nifer y cynghorwyr. Felly fe wnaethom gynnig y dylai'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Pont-y-clun fod fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C*
Pont-y-clun Cefnyrhendy

2,937

5

587

  Groes-faen 490 1 490
  Maes-y-felin 1,853 4 463
  Meisgyn 547 1 547
  Cyfansym: 5,827 11 530

8.4 Yn eu cynrychiolaeth bellach, awgrymodd Cyngor Cymuned Pont-y-clun newid i'r ffin rhwng wardiau Cefnyrhendy a Meisgyn i rannu'r datblygiadau preswyl 'hen' a 'newydd' yn yr ardal. Gyda'r newid hwn, fe wnaethant awgrymu y gallai cynghorydd ychwanegol yna gael ei ddyrannu i ward Meisgyn yn hytrach na ward Cefnyrhendy. Rydym o'r farn fodd bynnag na fyddai'n briodol cyflwyno newid o'r fath ar yr adeg hwyr hon o broses yr arolwg. Beth bynnag, rydym o'r farn na fyddai hyn yn golygu newid i'r trefniadau etholiadol Cymunedol sy'n deillio o'r newid arfaethedig i ffin y Gymuned. Ystyriwn fod y newid a gynigir gan Gyngor Cymuned Pont-y-clun yn newid sylweddol yn y trefniadau etholiadol ac felly byddai angen ei adolygu naill ai gan y prif gyngor (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) o dan adran 57(4) y Ddeddf, neu ar gais y Cyngor Cymuned, gan y Comisiwn o dan adran 57(5) y Ddeddf. Ymhellach, rydym yn ystyried bod y trefniadau etholiadol a gynigiwyd gennym yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft yn briodol ar gyfer Cymuned Pont-y-clun, o dan y ffurfwedd wardiau sydd eisoes yn bodoli. Cynigiwn felly mai'r trefniadau y manylir arnynt yn 8.3 uchod yw ein Cynigion Terfynol.

8.5 Mae Cymuned Llanharan ar hyn o bryd wedi'i rhannu, at ddibenion etholiadol Cymunedol, yn wardiau Cymunedau Brynna, Llanharan a Llanilid. Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C*
Llanharan Brynna

1,998

6

333

  Llanharan 2,773 6 462
  Llanilid 698 2 349
  Cyfansym: 5,469 14 391

8.6 O dan ein cynigion bydd nifer yr etholwyr yn ward Llanharan yn gostwng 497 i 2,276 o etholwyr. Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft nodom er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Llanharan, byddai angen gostwng nifer y cynghorwyr gan 1 i 13. Fe wnaethom ystyried hefyd y dylai nifer y cynghorwyr gael eu dyrannu mewn cyfrannedd â nifer yr etholwyr a chynnig y dylai'r gostyngiad yn nifer y cynghorwyr ddigwydd yn ward Brynna. Yn eu cynrychiolaethau, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Cymuned Llanharan yn gwrthwynebu'r gostyngiad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr oherwydd y datblygiadau preswyl arfaethedig yn ward Brynna. Rydym wedi ystyried y cynnydd hwn a ragwelir yn nifer yr etholwyr ac rydym o'r farn na fyddai gostyngiad yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli Cymuned Llanharan yn briodol. Nid ydym felly'n cynnig newid i'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Llanharan:

8.7 Mae Cymuned Llantrisant wedi'i rhannu ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadol Cymunedol, yn wardiau cymunedol Beddau, Tonysguboriau, y Dref a Tyn-y-nant. Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer yr etholwyr a chynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C*
Llantrisant Beddau

3,114

4

779

  Tonysguboriau 2,052 2 1,026
  Y Dref 3,483 4 871
  Tyn-y-nant 2,460 3 820
  Cyfansym: 11,109 13 855

8.8 O dan ein cynigion bydd nifer yr etholwyr yn ward Tonysguboriau yn gostwng 78 i 1,974 o etholwyr. Nodom nad oes angen newid yn nifer y cynghorwyr i gynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hyn sydd eisoes yn bodoli yng Nghymuned Llantrisant. Rydym hefyd o'r farn bod y dyraniad cynghorwyr sydd eisoes yn bodoli ar gyfer pob ward yn parhau mewn cyfrannedd â nifer yr etholwyr. Cynigiwn felly fod y trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Llantrisant yn parhau fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C*
Llantrisant Beddau

3,114

4

779

  Tonysguboriau 1,974 2 984
  Y Dref 3,483 4 871
  Tyn-y-nant 2,460 3 820
  Cyfansym: 11,031 13 848

8.9 Mae Cymuned Llanhari wedi'i rhannu ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadol Cymunedol, yn wardiau cymunedol Llanhari a Thyle-garw. Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer yr etholwyr a chynghorwyr ar gyfer pob ward.

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C*
Llanhari Llanhari

2,008

8

251

  Tyle-garw 540 3 180
  Cyfansym: 2,548 11 232

8.10 O dan ein cynigion bydd nifer yr etholwyr yn ward Tyle-garw yn gostwng 161 i 379 o etholwyr a bydd nifer yr etholwyr yn ward Llanhari yn cynyddu 72 i 2,080 o etholwyr. Nodom nad oes angen unrhyw newid yn nifer y cynghorwyr i gynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hyn sydd eisoes yn bodoli yng Nghymuned Llanhari. Petai nifer y cynghorwyr yn cael eu dyrannu mewn cyfrannedd â nifer yr etholwyr, byddai'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Llanhari fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C*
Llanhari Llanhari

2,080

9

231

  Tyle-garw 379 2 190
  Cyfansym: 2,459 11 224

8.11 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodom yr anghysondeb yn nifer yr etholwyr rhwng wardiau Llanhari a Thyle-garw a lefel uchel y gynrychiolaeth yn y Gymuned a chroesawom unrhyw sylwadau am ddymunoldeb wardio Cymuned Llanhari a gostwng nifer y cynghorwyr. Yn eu cynrychiolaeth, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o'r farn y dylid gostwng nifer y cynghorwyr ac y dylid ystyried dileu wardiau yn y Cyngor Cymuned. Nodom nad oedd Cyngor Cymuned Llanhari a chynrychiolaethau eraill yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch yr awgrym hwn. Ystyriwn nad oes digon o wybodaeth i ddangos y byddai'r newidiadau a gynigiwyd gan Rondda Cynon Taf o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Nid ydym felly'n cynnig unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol Cymuned Llanhari. Mae'n parhau'n agored i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gynnal ei arolwg ei hun o drefniadau etholiadol Cymuned Llanhari.

Trefniadau Etholiadol y Cyngor Bwrdeistref Sirol

8.12 Mae Adran Etholiadol Llanharan yn cynnwys ward Llanharan o Gymuned Llanharan ac ar hyn o bryd mae ganddo 2,773 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llanharan a Phont-y-clun yn arwain at ostyngiad yn nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Llanharan i 2,276.

8.13 Mae Adran Etholiadol Llanhari yn cynnwys Cymuned Llanhari ac ar hyn o bryd mae ganddo 2,548 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llanhari a Phont-y-clun yn arwain at ostyngiad yn nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Llanhari i 2,459.

8.14 Mae Adran Etholiadol Pont-y-clun yn cynnwys Cymuned Pont-y-clun ac ar hyn o bryd mae ganddo 5,091 o etholwyr a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffiniau rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymunedau Llanhari, Llanharan a Llantrisant yn arwain at gynnydd yn nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Pont-y-clun i 5,827.

8.15 Mae Adran Etholiadol Tonysguboriau yn cynnwys ward Tonysguboriau o Gymuned Llantrisant ac ar hyno bryd mae ganddo 2,052 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llantrisant a Phont-y-clun yn arwain at ostyngiad yn nifer yr etholwyr yn Adran Etholaeth Tonysguboriau i 1,974.

8.16 Ar gyfer yr holl adrannau etholiadol a nodir uchod, rydym o'r farn nad yw'r newidiadau yn nifer yr etholwyr o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig i ffiniau mor sylweddol fel bod angen cynyddu neu leihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli pob adran etholiadol ar hyn o bryd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn yn arolygu trefniadau etholiadol yr holl brif gynghorau yng Nghymru, a rhagwelwn y byddwn yn derbyn cyfarwyddiadau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru fel canllaw i ni wrth gynnal yr arolwg hwnnw. Bryd hynny, byddwn yn edrych yn fanwl ar drefniadau etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn ystyried unrhyw newidiadau sy'n codi o'r newidiadau arfaethedig hyn i ffiniau cymunedol.

9. CYDNABYDDIAETH

9.1 Dymunwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'r Cynghorau Cymuned am eu cymorth ac i bob unigolyn a chorff a gyflwynodd cynrychiolaethau i ni.

10. Y CAMAU NESAF

10.1 Ar ôl cwblhau ein hystyriaeth o'r arolwg o Ffiniau Cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chyflwyno ein hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad statudol o dan y Ddeddf.

10.2 Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd nawr yn penderfynu, fel y gwêl orau, p'un ai i'w derbyn neu i orchymyn y Comisiwn i gynnal adolygiad pellach.

10.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau eraill ynghylch y materion yn yr adroddiad hwn at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid eu gwneud cyn gynted ag y bo modd, a heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth
Yr Is-adran Polisi
Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Dirprwy Gadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Chwefror 2008

28/2/2008