AROLWG O'R FFINIAU AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
ADRODDIAD A CHYNIGION
ATODIAD C
Crynodeb o'r Cynrychiolaethau a Gafwyd mewn Ymateb i'r Cynigion Drafft
PONT-Y-CLUN / LLANHARAN / LLANTRISANT
Byddai Cyngor Cymuned Llanharan yn dymuno i ffin Llanharan aros fel y mae ar hyn o bryd, ac eithrio stad Ynysddu a ddylai gael ei throsglwyddo o Lanharan i Bont-y-clun. Daeth y cyngor i'r penderfyniad hwn ar ôl cynnal arolwg o 270 o gartrefi.
Cefnogodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y cynnig y dylid trosglwyddo Ynysddu a Phant y Dderwen i Bont-y-clun o Gymunedau Llanharan a Llantrisant. Fodd bynnag, fe wnaethant gynnig ffin arall a fyddai'n trosglwyddo ardal ychwanegol lai i'r gogledd orllewin o Bant y Dderwen o Lantrisant i Bont-y-clun ond gan adael llawer o'r ardal i'r dwyrain o Bant y Dderwen, gan gynnwys Ysgol y Pant, o fewn ffiniau Llantrisant o hyd. Fe wnaethant gynnig hefyd newid ychwanegol i'r ffin rhwng Llanharan a Llantrisant i drosglwyddo rhai eiddo ar Ffordd Lanelay o Lanharan i Lantrisant. O ran y cynigion am newidiadau i'r trefniadau etholiadol, cytunodd y Cyngor y dylid cynyddu nifer y Cynghorwyr ar gyfer Cyngor Cymuned Pont-y-clun gan 1 i 11. Roeddent yn anghytuno â'r cynnig y dylid gostwng nifer y Cynghorwyr ar gyfer Cyngor Cymuned Llanharan gan 1 i 13 oherwydd datblygiad preswyl arfaethedig yn ward gymuned Brynna. Cytunodd y Cyngor y dylai'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Llantrisant barhau fel yr oeddent.
Cefnogodd Cyngor Cymuned Pont-y-clun y cynigion drafft a wnaed gan y Comisiwn o ran eu cynghorau cymunedau cyfagos. Cytunodd y Cyngor â'r cynnig y dylai cynnydd mewn cynrychiolaeth cynghorwyr ddeillio o'r newid i'r ffin. Roeddent o'r farn, fodd bynnag, gan mai'r unig ddull o gael mynediad i'r datblygiad preswyl newydd (yn Ward Cefnyrhendy) yw drwy Ward Meisgyn, mai yn y Ward hon y dylid gweld cynnydd yn nifer y cynghorwyr yn hytrach nag yn Ward Cefnyrhendy. Mewn cynrychiolaeth bellach, awgrymodd y Cyngor bod angen i'r ffin rhwng Wardiau Cefnyrhendy a Meisgyn y Gymuned adlewyrchu ffin y datblygiadau preswyl hen a newydd. Byddai Ward estynedig Meisgyn yn gorwedd i'r dwyrain o'r ffin, i gynnwys y datblygiad preswyl newydd. Byddai Ward bresennol Cefn yr Hendy yn gorwedd i'r gorllewin o'r ffin.
Ail-gadarnhaodd Cyngor Cymuned Llanharan ei farn wreiddiol y dylai ystâd Ynysddu drosglwyddo o Lanharan i Bont-y-clun. Roedd y cyngor, fodd bynnag, yn gwrthwynebu'r cynnig i ostwng nifer yr aelodau ar gyfer Ward Brynna o 6 i 5 (gyda'r Cyngor yn gostwng o 14 aelod i 13 aelod) ac yn gofyn am i nifer y Cynghorwyr barhau heb ei newid. Ystyriai'r Cyngor y byddai poblogaeth Ward Brynna yn cynyddu'n sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf, gyda chaniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer 136 o dai newydd yn yr ardal. Fe wnaethant gyfeirio hefyd at ddeg safle yn yr ardal a nodwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer datblygiad preswyl posibl yn y dyfodol.
Cefnogodd un o drigolion Llanharan drosglwyddo Ynysddu o Lanharan i Bont-y-clun gan fod y trigolion wedi pleidleisio o blaid yr awgrym.
LLANHARI / PONT-Y-CLUN
Cefnogodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanhari i drosglwyddo Clos Brenin o Ward Tyle-garw, Llanhari i Ward Maes-y-felin, Pont-y-clun. O ran y cynnig i drosglwyddo Elms Farm a'r ystâd dai gyffiniol o Bont-y-clun i Lanhari, cytunodd y Cyngor ar y cynnig ond byddai'n well ganddo petai'r ffin arfaethedig yn cael ei hestyn i gynnwys yr ardal fechan o dai yng Nghastell-y-Mwnws a Fferm Llwyna fel y'u dangosir ar y map yn Atodiad F.
Cefnogodd Cyngor Cymuned Llanhari y cynnig drafft i gynnwys ardal fechan o dai yng Nghastell-y-Mwnws i'w throsglwyddo o Gymuned Pont-y-clun i Gymuned Llanhari.
Cefnogodd Cyngor Cymuned Pont-y-clun y cynnig i ddiwygio'r ffin rhwng Cymunedau Pont-y-clun a Llanhari fel bod y datblygiad preswyl newydd yn Elms Farm wedi'i gynnwys yn llwyr yng Nghymuned Llanhari. Fodd bynnag, gwrthwynebwyd yr awgrym ganddynt y dylai'r anheddiad yng Nghastell-y-Mwnws hefyd gael ei drosglwyddo o'u cymuned i Lanhari. Cynhaliwyd arolwg ganddynt o'r 13 annedd yng Nghastell-y-Mwnws a chawsant 9 ateb, oll yn datgan eu bod yn dymuno aros yng Nghymuned Pont-y-clun.
Ystyriai un o drigolion Llanharan bod trosglwyddo Tyle-garw o Lanhari i Bont-y-clun yn rhesymol ac mai synnwyr cyffredin oedd trosglwyddo Clos Brenin o Lanhari i Bont-y-clun gan fod y trigolion yn defnyddio'r cyfleusterau yng Nghymuned Pont-y-clun. Nododd hefyd y cynnig ynghylch Castell-y-Mwnws ac awgrymodd y dylid rhoi cyfle i'r trigolion bleidleisio ar yr awgrym.
HIRWAUN /PEN-Y-WAUN
Anghytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf â newid ffin arfaethedig y Comisiwn rhwng Hirwaun a Phen-y-waun a'r newid canlynol i'r trefniadau etholiadol presennol. Cefnogodd y Cyngor bryderon Cyngor Cymuned Hirwaun fod "y cynigion yn niweidiol i'r Gymuned ac nid oes unrhyw rinwedd yn perthyn iddynt, gan y byddai trigolion Trenant a Threwaun yn colli rhai o'r manteision a fwynheir ganddynt ar hyn o bryd petai'r newidiadau arfaethedig yn mynd yn eu blaen. Hefyd, y byddai'n amhosibl ariannu lefel y manteision, a'r math o fanteision, a ddarperir ar hyn o bryd o dan y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a phraesept y Cyngor, hyd yn oed wrth ganiatáu am y cynnydd y byddai cartrefi ychwanegol yn ei olygu ym maint y praesept". Ymhellach, cefnogodd y Cyngor bryder Aelodau lleol y gallai gostyngiad yn nifer aelodau Penderyn danseilio cynrychiolaeth Penderyn ar y Cyngor Cymuned ac felly ei rôl a'i dylanwad. Roeddent o'r farn y byddai'r cynnig i ddileu ward y Cyngor Cymuned yn dileu'r sicrwydd y caiff Penderyn ei gynrychioli ar y Cyngor Cymuned gan y gallai aelodau ddod o unrhyw fan yn Hirwaun a Phenderyn. Gan mai Hirwaun yw'r ardal fwyaf o lawer, gellid cael sefyllfa bosibl lle byddai 14 aelod o Hirwaun, gan felly hyrwyddo buddiannau Hirwaun yn hytrach na Phenderyn.
Ystyriodd Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn newidiadau awgrymedig y Comisiwn yng ngoleuni gwybodaeth a gawsant gan y Trefnydd Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer ardaloedd Penywaun a Threnant. Roeddent o'r farn y byddai'r newid arfaethedig yn peri bod trigolion Trenant a Threwaun yn colli rhai o'r manteision a fwynheir ganddynt ar hyn o bryd. Roeddent yn ystyried y byddai'n amhosibl ariannu lefel y manteision, a'r math o fanteision, a ddarperir ar hyn o bryd o dan y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a phraesept y Cyngor, hyd yn oed wrth ganiatáu am y cynnydd y byddai cartrefi ychwanegol yn ei olygu ym maint y praesept. Roeddent o'r farn y byddai'n rhaid iddynt naill ai ostwng y manteision a gaiff yr ardaloedd ar hyn o bryd neu gynyddu'r praesept ar gyfer yr ardal gyfan yn unol â hynny, neu gyfuniad o'r ddau. Roeddent o'r farn bod y cynigion yn niweidiol i'r Gymuned a'i bod yn amhosibl iddynt weld unrhyw rinwedd ynddynt.
